Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
Dogfen HTML

Strategaeth cyfathrebu ac ymgysylltu 2026 - 2030

Mae'r strategaeth hon yn nodi sut y bydd Arolygiaeth Gofal Cymru yn cynnal ac yn gwella ein gwelededd, ein hygyrchedd a'r ffordd rydym yn ymgysylltu â'r bobl a'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, gan gynnwys y rhai sy'n defnyddio gwasanaethau gofal, eu teuluoedd a'r darparwyr sy'n darparu gofal ledled Cymru.

Cyhoeddwyd: 25 Mehefin 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:
Argraffu

Cyflwyniad

Mae'r dirwedd gyfathrebu wedi trawsnewid mewn ffordd nas gwelwyd o'r blaen dros y pum mlynedd diwethaf, gan ail-lunio'r ffordd rydym yn ymgysylltu â phobl yn llwyr.

Yn ystod y cyfnod hwn, gwelwyd cynnydd dramatig o ran datblygiad dulliau cyfathrebu digidol yn gyntaf, daeth deallusrwydd artiffisial i'r amlwg fel adnodd pwerus ar gyfer creu cynnwys a rhoddwyd mwy o bwyslais ar ddulliau cyfathrebu ac ymgysylltu sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac yn cael eu llywio gan wyddor ymddygiad.

Bu pandemig COVID-19 yn gatalydd ar gyfer newid, gan ddangos pwysigrwydd hanfodol cyfathrebu clir a hygyrch a'r angen i addasu'n gyflym i sianeli a fformatau newydd. I sefydliadau fel ein un ni, amlygodd y cyfnod hwn y rôl hanfodol y mae cyrff rheoleiddio yn ei chwarae wrth gynnal ymddiriedaeth y cyhoedd a rhoi sicrwydd yn ystod cyfnodau o argyfwng. Mae disgwyliadau pobl wedi datblygu yn unol â hynny, ac mae galwadau am ddulliau ymgysylltu mwy personol a chynhwysol bellach yn norm yn hytrach nag eithriad.

Mae'r cynnydd mewn camwybodaeth yn golygu bod cyfathrebu dibynadwy ac awdurdodol o ffynonellau credadwy yn bwysicach fyth. Mae'r her hon yn arbennig o berthnasol i gyrff rheoleiddio a goruchwylio, lle mae meithrin a chynnal ymddiriedaeth yn hanfodol i effeithiolrwydd. Mae angen i bobl wybod nid yn unig ein bod ni'n bodoli, ond beth rydym yn ei wneud a sut y gallwn eu helpu. Mae'r newid hwn tuag at fwy o dryloywder ac atebolrwydd yn cyd-fynd â disgwyliadau cynyddol y cyhoedd y dylai sefydliadau adrodd yn agored ar eu canfyddiadau, hyd yn oed pan fydd hyn yn golygu herio arferion neu systemau sefydledig.

Ar yr un pryd, mae'r ffordd y mae cyrff cyhoeddus yn bwrw ati i ymgysylltu â rhanddeiliaid wedi newid yn llwyr. Mae model traddodiadol cyfathrebu unffordd wedi ildio i ddulliau cydgynhyrchu gwirioneddol, lle mae lleisiau a phrofiadau pobl sy'n defnyddio gwasanaethau yn llywio ac yn llunio blaenoriaethau sefydliadol. Mae'r trawsnewidiad hwn yn adlewyrchu cydnabyddiaeth ehangach nad o awdurdod yn unig y daw dylanwad ystyrlon, ond o ddangos dealltwriaeth wirioneddol o'r heriau sy'n wynebu'r rhai rydym yn eu gwasanaethu.

Mae cymhlethdod cynyddol systemau gofal a'r gydnabyddiaeth gynyddol o weithio mewn partneriaeth fel rhywbeth sy'n hanfodol er mwyn gwella canlyniadau hefyd wedi trawsnewid y dirwedd gyfathrebu. Ni all sefydliadau weithredu ar eu pen eu hunain mwyach; mae dylanwad effeithiol yn gofyn am ddulliau cydweithredol sy'n manteisio ar wybodaeth ac arbenigedd cyfunol i ysgogi gwelliannau.

Mae ein strategaeth cyfathrebu ac ymgysylltu newydd yn ymateb i'r newidiadau sylfaenol hyn drwy ein gosod fel llais dibynadwy, gweladwy a dylanwadol yn nhirwedd gofal Cymru. Mae'n cydnabod mai dim ond pan gaiff ei gyfleu'n effeithiol i'r cynulleidfaoedd cywir ar yr amser cywir y mae ein dealltwriaeth a'n harbenigedd unigryw yn creu newid cadarnhaol, mewn ffyrdd sy'n ysbrydoli gweithredu ac yn meithrin hyder yn ein rôl fel hyrwyddwyr dros y rhai sy'n derbyn gofal.

Cyd-destun strategol

Ym mis Ebrill 2025, lansiwyd ein cynllun strategol sy'n amlinellu ein blaenoriaethau ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Un o'r tair thema allweddol yn ein cynllun strategol yw:

Dylanwad – Bod yn adnabyddus a dibynadwy, gan rannu ein dealltwriaeth a'n harbenigedd unigryw er mwyn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol. Byddwn yn gwneud y canlynol:

  • Bod yn fwy gweledol i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r hyn rydym yn ei wneud a sut y gallwn helpu.

  • Sicrhau bod ein gwaith wedi'i lywio gan y bobl sy'n defnyddio ac yn gweithio mewn gwasanaethau gofal.

  • Adrodd yn agored, heb ffafrio’r hyn rydym yn ei ddysgu am ofal yng Nghymru, heb fod ofn herio lle rydym yn gweld cyfleoedd i ymyrryd ar ran y rhai sy’n derbyn gofal.

  • Gweithio gyda'n gilydd ar draws AGC a gyda'n partneriaid, gan rannu'r hyn rydym yn ei wybod i wella canlyniadau i bobl.

Mae'r strategaeth cyfathrebu ac ymgysylltu hon yn amlinellu'n fanylach sut y byddwn yn cyflawni'r uchelgeisiau hyn.

Yr amgylchedd polisi a rheoleiddio

Mae'r sector gofal yng Nghymru yn parhau i wynebu pwysau digynsail, yn sgil newidiadau demograffig ac anghenion mwyfwy cymhleth i heriau parhaus o ran y gweithlu. Mae'r pwysau hyn wedi dwysáu ffocws y cyhoedd a gwleidyddion ar ansawdd, diogelwch a chynaliadwyedd gwasanaethau gofal, gan greu cyfleoedd a chyfrifoldebau i gyrff rheoleiddio ddarparu gwybodaeth glir sy'n seiliedig ar dystiolaeth, a all lywio'r gwaith o ddatblygu polisïau a gwella gwasanaethau.

Y dirwedd gyfathrebu broffesiynol

Mae prosesau cyfathrebu'r llywodraeth wedi newid yn sylweddol, gan symud tuag at ddulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n cael eu llywio gan wyddor ymddygiad sy'n rhoi blaenoriaeth i ymgysylltu gwirioneddol dros fodelau darlledu traddodiadol. Mae pwyslais Gwasanaeth Cyfathrebu'r Llywodraeth ar ymgyrchoedd sy'n 'gwneud gwahaniaeth' drwy fframwaith OASIS (Amcanion, Cynulleidfa/dealltwriaeth, Strategaeth/Syniadau, Gweithredu, Sgorio/Gwerthuso) yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer datblygu dulliau cyfathrebu sy'n cyflawni canlyniadau mesuradwy yn hytrach na dim ond creu ymwybyddiaeth.

Mae'r newid hwn tuag at gyfathrebu sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau yn cyd-fynd â'n blaenoriaeth strategol i ddylanwadu ar newid cadarnhaol mewn gwasanaethau gofal. Drwy fabwysiadu egwyddorion gwyddor ymddygiad, yn enwedig y model COM-B (Gallu, Cyfle, Cymhelliant, Ymddygiad), gallwn ddeall y rhwystrau sy'n atal gwahanol randdeiliaid rhag ymgysylltu'n effeithiol â'n gwaith neu weithredu ar ein canfyddiadau yn well a mynd i'r afael â'r rhwystrau hynny'n fwy effeithiol.

Trawsnewidiad technolegol a digidol

Mae datblygiad cyflym adnoddau cyfathrebu digidol, gan gynnwys cyflwyno deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol, yn cynnig cyfleoedd a heriau ym maes cyfathrebu rheoleiddiol. Mae'r technolegau hyn yn cynnig posibiliadau newydd ar gyfer creu cynnwys hygyrch, wedi'i bersonoli ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd amrywiol drwy eu dewis sianeli. 

Mae'r disgwyliad cynyddol am gyfathrebu aml-sianel, hygyrch yn golygu bod yn rhaid i ni ystyried nid yn unig yr hyn rydym yn ei gyfleu, ond sut y gall gwahanol gynulleidfaoedd, gan gynnwys unigolion ag anableddau, unigolion sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, ac unigolion â lefelau amrywiol o lythrennedd digidol, gael mynediad at ein cynnwys ac ymgysylltu ag ef.

Rhwymedigaethau cyfreithiol ar gyfer cyfathrebu cynhwysol

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i ni wneud addasiadau rhesymol gan sicrhau mynediad cyfartal at wybodaeth i bawb. Rhaid i ni ystyried y naw nodwedd warchodedig ochr yn ochr â ffactorau economaidd-gymdeithasol a daearyddol a all greu rhwystrau i gael gafael ar wybodaeth.

Rhaid i ni hefyd sicrhau bod ein holl waith yn cyrraedd safonau’r Gymraeg.

Ble ydyn ni nawr?

  • Mae ein dilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol yn cynyddu'n raddol ond mae'r cyfraddau ymgysylltu yn lleihau.
  • Mae traean o ddarparwyr yn ymgysylltu â chynnwys yr e-fwletin.
  • Cynyddodd nifer defnyddwyr gwefan AGC 20% rhwng 2024 a 2025.
  • Y sgôr gyfartalog ar gyfer pob un o'n digwyddiadau i ddarparwyr oedd 4.5 allan o 5.
  • Rhoddodd 1492 o bobl adborth i ni yn ystod arolygiadau o awdurdodau lleol yn 2024/25.

Thema 1: Meithrin ymwybyddiaeth a dealltwriaeth

Yr hyn rydym am ei gyflawni:

Mae pobl yng Nghymru yn deall beth mae AGC yn ei wneud, sut y gallwn eu helpu i wneud penderfyniadau gwybodus am ofal, a sut i rannu eu profiadau â ni.

Amcanion strategol:

  • Gwella dealltwriaeth y cyhoedd o sut mae graddau AGC a'r cyfeiriadur gwasanaethau yn cefnogi penderfyniadau ynghylch gofal
  • Sicrhau bod pobl yn gwybod sut i roi adborth ar wasanaethau gofal
  • Rheoli ein henw da mewn ffordd ragweithiol drwy ymgysylltu â’r cyfryngau mewn modd strategol 

Thema 2: Galluogi ymgysylltu ystyrlon

Yr hyn rydym am ei gyflawni:

Gall pobl sy'n defnyddio gwasanaethau a darparwyr gofal ymgysylltu â ni'n hawdd, rhannu eu profiadau, a gweld sut mae eu hadborth yn llywio ein gwaith.

Amcanion strategol:

  • Creu cyfleoedd hygyrch i ddefnyddwyr gwasanaeth rannu profiadau a dylanwadu ar welliant
  • Cau'r cylch adborth – dangos sut rydym yn defnyddio’r hyn y mae pobl yn ei ddweud wrthym a chyfleu’r canlyniadau yn ôl i gyfranogwyr
  • Rhoi safonau ymgysylltu arfer gorau ar waith, gan gynnwys egwyddorion cyfathrebu'r llywodraeth a safonau ymgysylltu cenedlaethol Cymru

Thema 3: Atgyfnerthu cyfathrebu digidol a chynhwysol

Yr hyn rydym am ei gyflawni:

Mae ein sianeli cyfathrebu yn hygyrch, yn hawdd eu defnyddio, ac yn effeithiol, gan sicrhau ein bod yn cyrraedd pob cymuned drwy ddulliau priodol.

Amcanion strategol:

  • Datblygu adnoddau digidol sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr ac sy'n diwallu anghenion amrywiol defnyddwyr a darparwyr Gwasanaethau
  • Cyrraedd cynulleidfaoedd amrywiol drwy sianeli digidol a sianeli nad ydynt yn rhai digidol, gan sicrhau nad oes neb yn cael ei allgáu
  • Archwilio a gwella hygyrchedd yn barhaus ar gyfer pob un o'n sianeli Cyfathrebu
  • Defnyddio technoleg, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial lle y bo'n briodol, i wella (nid disodli) ymgysylltiad dynol

 

Thema 4: Datblygu partneriaethau strategol a gallu cyfathrebu

Yr hyn rydym am ei gyflawni:

Rydym yn ymgysylltu'n systematig â rhanddeiliaid allweddol ac yn grymuso cydweithwyr ym mhob rhan o AGC i gynllunio a chyflwyno deunyddiau cyfathrebu effeithiol.

Amcanion strategol:

  • Meithrin a chynnal cydberthnasau â rhanddeiliaid strategol drwy weithgarwch cynllunio ac ymgysylltu systematig
  • Datblygu cronfa ddata ganolog o randdeiliaid er mwyn sicrhau prosesau ymgysylltu cyson a chydlynol
  • Uwchsgilio cydweithwyr ym mhob rhan o AGC ym maes cynllunio cyfathrebu, gan leihau'r ddibyniaeth ar y tîm canolog a meithrin diwylliant cyfathrebu  

Cynllun danfon

2026 / 2027

  • Archwiliad o e-byst y darparwr cyfredol a'r gwelliannau a gyflawnwyd
  • Archwiliad o sianeli cyfryngau cymdeithasol cyfredol a'r gwelliannau a gyflawnwyd
  • Hyfforddiant cyfryngau ar gyfer cydweithwyr CIW perthnasol
  • Gwerthusiad offer trin cyfryngau wedi'i ddatblygu a'i roi ar waith
  • Asesiad dewisiadau gwefan wedi'i gwblhau
  • Cynllunio ymgyrch sgôr yn dechrau
  • Dechrau prosiect - gwrando ar bobl sy'n defnyddio gwasanaethau - gwasanaethau RISCA
  • Diweddaru'r holl ganllawiau arddull

2027 / 2028

  • Datblygu cynllun cyflawni digwyddiadau tair blynedd
  • Datblygu pecyn cymorth cynllunio cyfathrebu 
  • Dechrau ar brosiect gwella'r wefan
  • Dechrau rhaglen gwella hygyrchedd
  • Yr ymgyrch graddau yn mynd yn fyw
  • Cyflawni allbynnau ar gyfer gwrando ar bobl sy'n defnyddio Gwasanaethau
  • Dechrau cynllunio'r ymgyrch dewis gofal
  • Hyfforddiant ar y cyfryngau cymdeithasol i staff

2028 / 2029

  • Cyflawni'r cynllun digwyddiadau tair blynedd
  • Rhoi'r pecyn cymorth cynllunio ymgysylltu / hyfforddiant staff ar waith
  • Rhoi'r pecyn cymorth cynllunio ymgysylltu ar waith
  • Gorffen prosiect gwella'r wefan 
  • Gorffen rhaglen gwella hygyrchedd
  • Parhau â'r ymgyrch Graddau
  • Gwerthusiad parhaus o'r prosiect 'gwrando'
  • Yr ymgyrch dewis gofal yn mynd yn fyw
  • Gwaith gwella'r wefan – profi Defnyddwyr

2029 / 2030

  • Cyflawni'r cynllun digwyddiadau tair blynedd
  • Adolygiad 3 blynedd o'r cyfryngau cymdeithasol
  • Hyfforddiant gloywi ar y cyfryngau a gwerthuso effaith y pecyn cymorth
  • Gwerthuso effaith y cynllun digwyddiadau tair blynedd 
  • Gwerthuso effaith y rhaglen gwella hygyrchedd
  • Gwerthuso'r ymgyrch graddau 
  • Rhoi'r gwersi a ddysgwyd ar waith ar gyfer timau arolygu eraill
  • Gwerthuso'r ymgyrch dewis gofal 
  • Gorffen gwaith i wella'r wefan