Strategaeth cyfathrebu ac ymgysylltu 2026-2030
Mae'r strategaeth hon yn nodi sut y bydd Arolygiaeth Gofal Cymru yn cynnal ac yn gwella ein gwelededd, ein hygyrchedd a'r ffordd rydym yn ymgysylltu â'r bobl a'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, gan gynnwys y rhai sy'n defnyddio gwasanaethau gofal, eu teuluoedd a'r darparwyr sy'n darparu gofal ledled Cymru.
Rydym am i bobl wybod beth rydym yn ei wneud, sut y gallwn helpu, a sut mae eu lleisiau yn llywio ein gwaith. Y strategaeth hon yw ein hymrwymiad i gyflawni hynny.
Mae'r strategaeth yn canolbwyntio ar bedwar maes allweddol:
- Thema 1: Datblygu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth
- Thema 2: Galluogi prosesau ystyrlon
- Thema 3: Atgyfnerthu prosesau cyfathrebu digidol a chynhwysol
- Thema 4: Datblygu partneriaethau strategol a galluedd cyfathrebu
Dogfennau
-
Strategaeth cyfathrebu ac ymgysylltu 2026-2030 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MBPDF, Maint y ffeil:1 MB