Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Adeiladu amgylchedd dysgu cyfoethog

Nod Ysgol Feithrin Pont-y-pŵl yw sicrhau fod llais y plant wrth wraidd popeth mae’n ei wneud.

Gweithiwr meithrinfa gyda phlentyn yn yr iard chwarae

Gwybodaeth am y lleoliad

Mae Ysgol Feithrin Pont-y-pŵl yn feithrinfa cyfrwng Cymraeg nas gynhelir yng nghanol tref Pont-y-pŵl. Cynigir gofal sesiynol a gofal dydd ynghyd â chlwb brecwast a chlwb cinio mewn adeilad hynafol cofrestredig cyferbyn ȃ chyfleusterau Parc Pont-y-pŵl ers dros 40 mlynedd. Mae’r plant yn cychwyn yn ddwy a hanner oed ac yn aros gyda’r lleoliad hyd nes iddynt symud ymlaen i ddosbarth derbyn. Mae’r rhan fwyaf o blant yn dod o gartrefi lle nad yw’r rhieni yn siarad Cymraeg. Mae’r Arweinydd yn Gymraes ac mae gan bob un o’r staff brofiad helaeth o ofal plant.

Mae’r adeilad yn cynnwys neuadd fawr agored ar y llawr cyntaf sydd yn gartref i’r feithrinfa. Mae yna fynedfa eang, groesawgar, toiledau pwrpasol a chegin ymarferol ynghyd ȃ gofod storio. Tu allan, mae ardal chwarae agored, ddiogel ac amrywiol sydd yn cynnig profiadau i’r plant ddatblygu eu medrau corfforol, creadigol ac ymchwiliol. Ar y llawr gwaelod, mae ail neuadd lle mae’r Cylch Ti a Fi yn cyfarfod yn wythnosol. 

Mae gan Ysgol Feithrin Pont-y-pŵl berthynas agos ag ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg ardal Pont-y-pŵl – mae’n cydweithio’n agos i sicrhau caiff y plant pedair oed gyfleoedd i gyfarfod â’r athrawon ac ymweld ȃ’r ysgolion cyn trosglwyddo i’r dosbarthiadau derbyn. 

Mae’r lleoliad yn cynnig polisi drws agored i bob plentyn sydd â diddordeb mewn addysg cyfrwng Cymraeg ac yn credu’n gryf fod angen arfer cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Nod Ysgol Feithrin Pont-y-pŵl yw sicrhau fod llais y plant wrth wraidd popeth mae’n ei wneud. Mae’r lleoliad yn annog y plant i ddweud eu barn, trafod pynciau’r dydd a chydnabod pwysigrwydd eu cynefin, eu hiaith, eu teuluoedd a’u cyfeillion. Mae’r plant yn rhan annatod o ddewis yr hyn sydd yn digwydd yn ddyddiol, gan roi offer ac adnoddau y tu mewn a’r tu allan a chynorthwyo i ddatblygu ardaloedd chwarae rôl. Y nod yw darparu cyfleoedd chwarae a dysgu cyffrous i’r plant gan adael iddynt arwain a datblygu i fod yn ddysgwyr uchelgeisiol sydd yn gwerthfawrogi eu cynefin.

Staff

Mae pob aelod o staff wedi cael copi o’r Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir ac wedi dilyn cyrsiau hyfforddi amrywiol. Mae’r feithrinfa’n cynllunio ei sesiynau i gyd-fynd ȃ’r llwybrau datblygu, yn arsylwi’r plant i ddeall eu sgemâu er mwyn llywio darpariaeth ac yn ymateb i ddiddordebau’r plant. Mae ymarferwyr yn ceisio bod yn ddelfryd ymddwyn da i’r plant gan eu hannog i fynegi barn, parchu eraill, cymryd diddordeb yn eu cymuned a dysgu bod yn annibynnol.

Mae’r staff yn mynd allan o’u ffordd i fagu perthynas agos gyda rhieni a theuluoedd y plant a’u hannog i deimlo’n rhan o deulu estynedig y lleoliad. Mae’r staff yn cadw mewn cysylltiad ȃ chyn rieni, yn dilyn datblygiad a hanes ein cyn ddisgyblion yn ofalus ac, erbyn hyn, mae nifer ohonynt yn rhieni gyda ni eu hunain ac yn siarad Cymraeg gyda’u plant hwythau.

Mae bod yn feithrinfa gymunedol yn hynod o bwysig. Mae gwahoddiad agored i bawb fynychu unrhyw gyngherddau, sioeau a digwyddiadau codi arian a threfnir ac mae sicrhau cyfleoedd i’r plant ddysgu am eu cymuned yn rhan bwysig o gynllunio. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd a nodwyd yn arfer effeithiol neu arloesol

Gwna’r feithrinfa ddefnydd helaeth o’r parc lleol bendigedig i ddysgu am fyd natur a’r tymhorau. Caiff ymweliadau eu trefnu ȃ’r llyfrgell, y farchnad wythnosol a’r archfarchnad leol ac mae’r plant wrth eu boddau yn ymweld â chartref gofal i’r henoed lleol, gan fagu perthynas agos â’r preswylwyr yno a pharatoi gweithgareddau a dewis llyfrau i rannu gyda’u ffrindiau newydd. Yn ogystal ȃ bod yn rhan o’u cymuned leol, anogir y plant i fod yn chwilfrydig am Gymru, yr iaith Gymraeg a diwylliannau eraill. Mae’r plant wrth eu bodd yn dysgu dawnsfeydd gwerin Cymreig, caneuon a rhigymau Cymraeg, ac am Santes Dwynwen a’r Fari Lwyd. Ar yr un pryd, maent yn awyddus iawn i ddysgu am draddodiadau gwledydd eraill megis dathlu dyfodiad y flwyddyn newydd Tsieineaidd. Gyda chymorth y staff, daeth y plant o hyd i fideo yn dangos gorymdaith dathlu yn Tsieina ac, o ganlyniad, creasant benwisg draig 3D a threfnu gorymdaith o gwmpas y neuadd gyda rhai plant yn creu band offerynnol.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth, lles a safonau plant?

Mae’r plant yn chwilfrydig am y cyfleoedd dysgu sydd o’u cwmpas ac maent yn ymestyn a datblygu eu syniadau eu hunain yn hyderus. Os yw’r plant yn penderfynu adeiladu cestyll yn yr ardal blociau, maent yn gwybod fod modd chwilio am syniadau mewn llyfr neu ar lechen gyfrifiadurol. Os ydynt yn gweld baner ar dŵr un o’r cestyll yn y llun, maent yn mynd draw i’r ardal gwaith coed i gynllunio a chreu eu baneri eu hunain a gweithio allan sut i’w gosod ar ben tyrau’r cestyll. Efallai byddan nhw’n penderfynu wedyn eu bod am ychwanegu ffos â dŵr o’r tap. Mae’r plant yn cydweithio’n dda fel tîm ac yn datblygu fel dysgwyr uchelgeisiol a galluog. Mae’r staff yno i annog y plant i ymestyn eu syniadau, eu perchnogi a’u symud ymlaen ac mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar hyder a lles y plant. Gwneir defnydd eang o offer a deunyddiau naturiol, er enghraifft cwpanau a phlatiau pren yn y gegin fwd, a nod y feithrinfa yw cynnig adnoddau go iawn ymhob ardal ddysgu, fel llysiau a ffrwythau o’r farchnad neu’r ardd yn y siop fferm, arian mân yn y til, gitâr maint llawn yn y gornel gerdd a morthwylion a llif yn yr ardal gwaith coed.