Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Adeiladu amgylchedd dysgu cyfoethog

Mae Cylch Meithrin Cynwyd Sant yn amgylchedd dysgu cryf a chefnogol a rhoddir y flaenoriaeth uchaf i les plant bob amser.

Nursery teacher helping a student cut an egg box in their crafts lesson

Gwybodaeth am y lleoliad

Mae Cylch Meithrin Cynwyd Sant yn lleoliad nas cynhelir cyfrwng Cymraeg wedi’i leoli yn yr ysgol gynradd Gymraeg leol ym Maesteg. Mae’n darparu gofal dydd llawn ar gyfer plant rhwng dwy a phump oed, a fydd yn trosglwyddo i Ysgol Cynwyd Sant yn y pen draw. Mae’r lleoliad yn gweithredu bum niwrnod yr wythnos rhwng 9am a 3pm. Daw mwyafrif y plant o gartrefi Saesneg eu hiaith, ac ar hyn o bryd, anaml y byddant yn clywed y Gymraeg yn cael ei siarad y tu allan i’r lleoliad o fewn y gymuned leol.

Mae’r lleoliad yn amgylchedd dysgu cryf a chefnogol a rhoddir y flaenoriaeth uchaf i les plant bob amser. Mae arweinwyr wedi sefydlu ethos cadarnhaol ar draws y lleoliad, gan sicrhau amgylchedd dysgu croesawgar, diogel a chyfoethog sy’n ysgogi chwarae a dysgu plant yn hynod lwyddiannus. Mae gan y ddau aelod staff weledigaeth gref iawn sydd wedi’i seilio ar greu amgylchedd cartrefol ac ysgogol gyda chyfleoedd cyfoethog i ddatblygu chwilfrydedd ac annibyniaeth y plant. Maent yn rhannu’r un weledigaeth ac mae ganddynt ddisgwyliadau uchel ar eu cyfer eu hunain a’r holl blant.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae gan ymarferwyr ddisgwyliadau uchel ar gyfer pob un o’r plant, ac maent yn nodi eu hanghenion dysgu yn eithriadol o dda. Maent yn annog dyfalbarhad pan fydd y plant yn wynebu rhwystrau yn eu chwarae, ac yn manteisio’n rhagorol ar bob cyfle i ddatblygu hyn. Ystyrir diddordebau ac anghenion unigol trwy arsylwi plant yn chwarae, ac yn ymyrryd yn fedrus ar adegau priodol i ymestyn gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau plant. Pan fydd ymarferwyr eisiau i blant ddatblygu medrau penodol, maent yn dechrau’r gweithgaredd eu hunain ac yn aros i blant ddangos diddordeb ac ymuno â’r gweithgaredd. Mae staff yn darparu cyfleoedd mynych i blant wneud dewisiadau a datrys problemau, a dim ond yn ymyrryd pan fyddant yn teimlo bod cyfle da i ehangu dealltwriaeth plant. Mae arweinwyr yn defnyddio strategaethau effeithiol iawn tra’n rhyngweithio â phlant, ac yn eu hannog i wneud eu gorau bob amser.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae ymarferwyr bob amser yn ystyried diddordebau ac anghenion unigol plant. Maent yn cymryd amser i arsylwi plant yn chwarae i ddeall eu hanghenion unigol ac wedyn yn darparu profiadau dysgu o safon uchel. Maent yn sicrhau cydbwysedd effeithiol rhwng gweithgareddau sy’n datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth plant a chyfleoedd cyfoethog i blant arbrofi a dilyn eu llwybrau eu hunain mewn dysgu, trwy chwarae di-dor. Mae staff yn fodelau rôl rhagorol. Maent yn darparu ardaloedd dysgu ysgogol dan do ac yn yr awyr agored i ennyn chwilfrydedd plant, gan eu galluogi i fod yn gwbl annibynnol yn eu chwarae. Maent yn deall pwysigrwydd chwarae ochr yn ochr â’r plant, gan gamu i mewn dim ond pan fydd angen i annog a chynorthwyo.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae ymarferwyr yn darparu amgylchedd dysgu ysgogol a chyfoethog dan do ac yn yr awyr agored fel ei gilydd, sy’n ennyn diddordeb plant yn eithriadol o dda. Mae’r amgylchedd a’r adnoddau yn tanio dychymyg plant yn llwyddiannus ac yn eu galluogi i fentro, archwilio, darganfod, a datrys problemau. Mae arweinwyr wedi cynllunio pob ardal i roi cyfleoedd pwrpasol i bob un o’r plant ddatblygu ystod eang o fedrau tra’n rhoi cyfleoedd perffaith i staff pan fydd angen ymestyn eu dysgu. Mae ymarferwyr yn sicrhau bod yr holl adnoddau ac offer dan do ac yn yr awyr agored ar lefel plentyn, sy’n eu galluogi i ddefnyddio popeth sydd ei angen arnynt i chwarae’n annibynnol.