Adolygiad Thematig Cenedlaethol o Wasanaethau Mabwysiadu
Mae'r adolygiad thematig cenedlaethol hwn yn seiliedig ar ganfyddiadau o arolygiadau o bob un o'r pum Cydweithredfa Fabwysiadu Ranbarthol, ochr yn ochr â gwaith ymgysylltu uniongyrchol â phlant, rhieni mabwysiadol, teuluoedd geni, a gweithwyr proffesiynol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gwbl hygyrch
1. Rhagair
Caiff gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru eu darparu gan weithlu ymroddedig a medrus, gyda chymorth arweinwyr a phartneriaid sy'n benderfynol o wella bywydau plant na allant fyw gyda'u teuluoedd geni mwyach. Mae'r adolygiad thematig cenedlaethol hwn yn seiliedig ar ganfyddiadau o arolygiadau o bob un o'r pum Cydweithredfa Fabwysiadu Ranbarthol, ochr yn ochr â gwaith ymgysylltu uniongyrchol â phlant, rhieni mabwysiadol, teuluoedd geni, a gweithwyr proffesiynol. Mae eu profiadau a'u gwybodaeth yn darparu sail dystiolaeth gadarn a chymhellol ar gyfer y canfyddiadau a nodir yn yr adroddiad hwn. Er bod fframwaith ehangach y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn darparu cyd-destun pwysig, nid oedd Tîm Canolog y gwasanaeth hwn na'r Asiantaethau Mabwysiadu Gwirfoddol yn rhan o gwmpas yr adolygiad hwn.
Ledled Cymru, mae ymarfer sy'n canolbwyntio ar y plentyn ac sy'n ystyriol o drawma yn gryfder nodedig.
Mae'r ymarferwyr yn gyson yn dangos dealltwriaeth gref o brofiadau bywyd, hunaniaeth ac anghenion emosiynol plant, ac yn gweithio'n galed i'w cefnogi drwy gyfnodau pontio cymhleth ac arwyddocaol. Mae ethos cydweithredol yn sail i lawer o'r gwaith hwn a, lle y caiff ei arwain yn dda a'i lywodraethu'n effeithiol, mae'n arwain at wasanaethau ystyriol ac ymatebol i blant a theuluoedd, hyd yn oed yng nghyd-destun pwysau sylweddol o ran capasiti ac adnoddau.
Fodd bynnag, mae'r arolygiadau o'r pum Cydweithredfa Fabwysiadu Ranbarthol yn tynnu sylw at amrywioldeb pryderus o ran profiadau plant, gan gynnwys gwahaniaethau rhwng rhanbarthau ac o fewn rhai rhanbarthau. Lle mae'r trefniadau llywodraethu a phartneriaeth yn gryf, mae penderfyniadau amserol, cyfathrebu effeithiol a llwybrau cymorth cydlynol o fudd i'r plant. Lle mae'r trefniadau hyn yn wannach, mae'r plant yn profi achosion o oedi, anghysondeb ac ansicrwydd. Mae profiadau plant yn parhau i amrywio ledled Cymru oherwydd gwahaniaethau o ran cynllunio sefydlogrwydd, cymorth mabwysiadu a chymhwyso canllawiau cenedlaethol.
Caiff y problemau hyn eu gwaethygu ymhellach gan y prinder cenedlaethol parhaus o ran mabwysiadwyr. Mae hyn er gwaethaf gweithgarwch recriwtio a marchnata parhaus a phenodol ledled rhanbarthau. Mae'r mater hwn yn cyfrannu at amseroedd aros estynedig i bob plentyn, ond yn enwedig i grwpiau o frodyr a chwiorydd a phlant ag anghenion ychwanegol.
Mae ymrwymiad, gwydnwch a phroffesiynoldeb y gweithlu yn amlwg. Mae'r ymarferwyr a'r arweinwyr yn dan os penderfynoldeb a chreadigrwydd wrth ymateb i heriau, a cheir enghreifftiau cryf o arweinyddiaeth fyfyriol a gwaith partneriaeth effeithiol. Mae'r cryfderau hyn yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer gwella, ond ni allant wneud iawn am drefniadau llywodraethu, data a phrosesau goruchwylio amrywiol, sy'n cyfyngu ar gydlyniad a sicrwydd cyson mewn rhai rhanbarthau.
Er mwyn sicrhau gwelliant cynaliadwy, mae angen i ni bellach gymryd camau gweithredu pendant ar y cyd. Bydd cynnydd yn dibynnu ar gryfhau'r trefniadau llywodraethu, gwella'r prosesau rheoli data a pherfformiad, atebolrwydd cliriach, a gweithredu fframweithiau cenedlaethol ac ymarfer da yn gyson. Mae llwyddiant y Cydweithredfeydd Mabwysiadu Rhanbarthol yn dibynnu ar gymorth, her a phrosesau cydgysylltu cadarn
drwy strwythurau ehangach y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol.
Diolchwn i'r holl blant, teuluoedd geni a mabwysiadol, ymarferwyr a phartneriaid a gyfrannodd at yr arolygiadau. Mae eu parodrwydd i fod yn agored wedi ein galluogi i gyflwyno darlun cenedlaethol cynhwysfawr o wasanaethau mabwysiadu yng Nghymru. Fel adolygiad thematig cenedlaethol, mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar y themâu sy'n dod i'r amlwg ar draws pob un o'r pum Cydweithredfa Fabwysiadu Ranbarthol. Mae adroddiadau arolygu unigol yn darparu canfyddiadau manwl am wasanaethau penodol, ond mae'r adolygiad hwn yn nodi'r cryfderau, yr heriau a'r cyfleoedd cyffredin sy'n effeithio ar wasanaethau mabwysiadu ledled Cymru. Caiff enghreifftiau eu cynnwys er mwyn dangos themâu cenedlaethol yn hytrach na chymharu rhanbarthau. Ein ffocws yw lleihau amrywiadau ym mhrofiadau plant a chefnogi gwelliant ym mhob rhan o'r system fabwysiadu. Bydd cynnydd cynaliadwy yn helpu i sicrhau bod pob plentyn yn profi sefydlogrwydd amserol, diogel a pharhaol drwy fabwysiadu, ni waeth ble mae'n byw yng Nghymru.
Gillian Baranski
Prif Arolygydd
Arolygiaeth Gofal Cymru
2. Cipolwg
2.1 Trosolwg
- Cynhaliodd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) arolygiad o bob un o'r pum Cydweithredfa Fabwysiadu Ranbarthol rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2025.
- Gwnaeth y gwaith dadansoddi thematig trawsranbarthol archwilio arferion mabwysiadu, gwasanaethau cymorth, trefniadau llywodraethu, diogelu, capasiti'r gweithlu, recriwtio, sicrhau ansawdd a rheoli perfformiad ledled Cymru.
- Gallwch weld adroddiadau arolygu'r Cydweithredfeydd Mabwysiadu Rhanbarthol unigol ar wefan AGC.
2.2 Cryfderau cenedlaethol
- Gweithlu medrus, sefydlog ac ymroddedig sy'n darparu ymarfer sy'n ystyriol o drawma ac sy'n canolbwyntio ar y plentyn.
- Arweinyddiaeth weladwy a chefnogol sy'n meithrin diwylliannau dysgu a phrosesau cyfathrebu clir.
- Pwyslais cryf ar hunaniaeth, profiad bywyd ac anghenion emosiynol plant.
- Ymrwymiad clir i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a hunaniaeth ddiwylliannol.
- Trefniadau cadarn o ran y panel mabwysiadu, sy'n cynnig proses graffu amlddisgyblaethol ac argymhellion amserol sy'n canolbwyntio ar y plentyn.
- Ymarfer sy'n seiliedig ar hawliau ac ymgysylltu sensitif a gwybodus â theuluoedd geni.
2.3 Meysydd allweddol i'w gwella
- Prinder mabwysiadwyr yn cyfyngu ar gyfleoedd i roi sefydlogrwydd i blant heb unrhyw achosion o oedi, er gwaethaf ymgyrchoedd recriwtio wedi'u targedu.
- Cymorth mabwysiadu anghyson a hwyr, gan gynnwys wrth ddarparu gwasanaethau therapiwtig.
- Amrywiaeth yn amseroldeb ac ansawdd gwaith taith bywyd a llythyrau yn ddiweddarach mewn bywyd.
- Anghysondebau o ran prosesau llywodraethu, ynghyd â rhai cytundebau partneriaeth sydd wedi dyddio.
- Nid yw'r trefniadau ar gyfer goruchwylio prosesau diogelu yn cael eu cofnodi na'u monitro'n gyson mewn rhai rhanbarthau, gan gynnwys cofnodi/monitro ymweliadau dirybudd.
- Systemau data tameidiog sy'n cyfyngu ar y gallu i rannu gwybodaeth a sicrhau prosesau goruchwylio cyson.
3. Cefndir
Mae'r gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru yn gweithredu o fewn system genedlaethol, tair haen a sefydlwyd i sicrhau bod plant na allant fyw gyda'u teuluoedd geni yn cael eu cefnogi i gyflawni sefydlogrwydd drwy drefniadau mabwysiadu sefydlog a hirdymor, a hynny mewn ffordd amserol a chyson. Mae'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn dwyn ynghyd y pum Cydweithredfa Fabwysiadu Ranbarthol, pob un o'r 22 o awdurdodau lleol, partneriaid iechyd ac addysg, Asiantaethau Mabwysiadu Gwirfoddol a thîm canolog cenedlaethol i ddarparu arweinyddiaeth a phrosesau cydgysylltu a goruchwylio ar gyfer pob rhan o'r system.
Ceir enghreifftiau cadarnhaol o'r Cydweithredfeydd Mabwysiadu Rhanbarthol yn cydweithio ag awdurdodau lleol, byrddau iechyd, partneriaid addysg ac Asiantaethau Mabwysiadu Gwirfoddol. Mae'r partneriaethau hyn yn gyfrifol am sicrhau bod trefniadau mabwysiadu yn ddiogel, yn bodloni gofynion statudol ac yn helpu i gyflawni canlyniadau o ansawdd uchel i blant a theuluoedd ledled Cymru. Mae'r sylfaen statudol ar gyfer y cydweithio hwn wedi'i nodi yng Nghyfarwyddydau Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (Trefniadau Mabwysiadu ar y Cyd) (Cymru) 2015, sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol weithio ar y cyd i ddarparu gwasanaethau mabwysiadu cyson o ansawdd uchel.
Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn arolygu gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol ledled Cymru ar ran Gweinidogion Cymru o dan Adran 149B o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, gan sicrhau bod swyddogaethau awdurdodau lleol mewn perthynas â mabwysiadu yn cael eu cyflawni'n effeithiol.
Cynhaliwyd yr adolygiad thematig cenedlaethol hwn yng nghyd-destun tirwedd mabwysiadu newidiol. Ledled
Cymru, mae gwasanaethau mabwysiadu yn wynebu heriau o ran sicrhau digon o fabwysiadwyr, yn enwedig ar gyfer grwpiau o frodyr a chwiorydd a phlant ag anghenion ychwanegol neu anghenion cymhleth. Cynhaliwyd yr adolygiad ochr yn ochr ag ymdrechion parhaus i gryfhau gwasanaethau mabwysiadu drwy'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a datblygiadau ehangach ym meysydd mabwysiadu, maethu a gofal gan berthynas. Mae'n ystyried effeithiolrwydd trefniadau wrth gefnogi canlyniadau cadarnhaol i blant a theuluoedd.
Mae'r adolygiad hwn yn rhan o uchelgeisiau ehangach Llywodraeth Cymru i wella canlyniadau i blant sydd â phrofiad o fod mewn gofal, ac mae'n cyd-fynd ag egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, gan gynnwys cydweithio, atal a gwella canlyniadau hirdymor.
Gwnaeth yr adolygiad hwn archwilio sut mae disgwyliadau a chanllawiau cenedlaethol yn cael eu rhoi ar waith ar lefelau rhanbarthol a lleol, gan nodi amrywiaeth ym mhrofiadau plant. Gwnaethom hefyd nodi pa gamau pellach sy'n ofynnol er mwyn sicrhau profiadau a chanlyniadau teg i blant ledled Cymru.
Mae'r adolygiad thematig hwn yn rhoi trosolwg cenedlaethol o'r hyn sy'n gweithio'n dda, y meysydd lle mae angen gwelliannau, a sut mae'n rhaid i'r system fabwysiadu barhau i aeddfedu.
4. Canfyddiadau: Llesiant
4.1 Gwnaethom ofyn
- A yw gwasanaethau yn hygyrch, yn ddiogel ac yn ymatebol, o'r ymholiad cyntaf hyd at y broses leoli a thu hwnt?
- A yw anghenion llesiant plant yn cael eu diogelu'n briodol wrth iddynt symud tuag at sefydlogrwydd a chael eu mabwysiadu?
- A yw'r trefniadau yn cefnogi hunaniaeth, diwylliant ac iaith plant, gan gynnwys darpariaeth cyfrwng Cymraeg lle bo angen?
4.2 Yr hyn a nodwyd gennym
4.2.1 Gwybodaeth hygyrch a'r cyswllt cyntaf
Mae gwasanaethau yn dangos ymrwymiad cryf i broses ymgysylltu hygyrch ac ymatebol yn ystod camau cynharaf y daith fabwysiadu, gan gydnabod pwysigrwydd gwybodaeth hygyrch a chyswllt cyntaf amserol wrth gefnogi llesiant plant a'u teuluoedd.
Ar y cyfan, caiff gwybodaeth am fabwysiadu ei hybu'n dda ledled Cymru drwy wefannau'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a'r Cydweithredfeydd Mabwysiadu Rhanbarthol, sy'n rhoi gwybodaeth hygyrch am y broses fabwysiadu. Gwnaeth y bobl a oedd yn ystyried mabwysiadu ddisgrifio'r gwefannau hyn yn gyson fel pwynt cyswllt cyntaf pwysig a defnyddiol. Mewn rhai rhanbarthau, mae adnoddau rhyngweithiol megis 'gwirwyr' mabwysiadu yn helpu pobl i ystyried eu hamgylchiadau ac i wneud penderfyniadau gwybodus am y camau nesaf.
Er bod gwefannau'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a'r Cydweithredfeydd Mabwysiadu Rhanbarthol yn cael eu defnyddio'n eang a'u gwerthfawrogi'n fawr, mae cyfleoedd i gryfhau prosesau cyfathrebu digidol. Mae hyn yn cynnwys gwneud defnydd mwy cyson o'r cyfryngau cymdeithasol a llwyfannau ar-lein eraill i hyrwyddo cyfleoedd mabwysiadu a rhannu gwybodaeth amserol â darpar fabwysiadwyr.
Ledled Cymru, mae'r Cydweithredfeydd Mabwysiadu Rhanbarthol yn ymateb yn brydlon i ymholiadau cychwynnol.
Caiff pecynnau gwybodaeth eu darparu'n gyson o fewn pum diwrnod gwaith, ac yn aml yn gynt, yn unol â chanllawiau ymarfer da’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol.
Mae hyn yn adlewyrchu ethos gofal cwsmeriaid cryf a chydnabyddiaeth bod gwaith ymgysylltu cynnar yn hanfodol lle ceir heriau cenedlaethol o ran recriwtio digon o fabwysiadwyr.
Mae hyn yn adlewyrchu cryfder cyson mewn ymarfer sy'n seiliedig ar hawliau ac sy'n canolbwyntio ar y plentyn, gydag ymarferwyr yn sicrhau bod barn plant a theuluoedd geni yn llywio'r broses o wneud penderfyniadau mewn ffordd ystyrlon.
Mae'r ymarferwyr yn hyrwyddo hawliau plant ac yn ceisio sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed, gan eirioli drostynt a'u cynnwys mewn penderfyniadau lle y bo'n briodol.
Ymgysylltir â theuluoedd geni mewn modd sensitif, ac maent yn cael gwybodaeth ac arweiniad hygyrch sy'n eu helpu i ddeall beth sy'n digwydd a pham.
Ymarfer da: Adnoddau digidol o ansawdd uchel
Gwnaeth un Gydweithredfa Fabwysiadu Ranbarthol ddatblygu cyfres o ddeunyddiau ar-lein modern a diddorol i gefnogi darpar fabwysiadwyr yn ystod camau cynharaf eu taith.
Roedd y rhain yn cynnwys fideos straeon mabwysiadwyr yn dangos profiadau go iawn teuluoedd mabwysiadol, ac adnoddau rhyngweithiol i helpu unigolion a chyplau i benderfynu ai mabwysiadu yw'r llwybr cywir iddynt.
Roedd yr adnoddau yn meithrin dealltwriaeth gynnar o'r broses fabwysiadu, yn lleihau pryder ymhlith darpar fabwysiadwyr, ac yn herio camsyniadau cyffredin a allai fel arall atal ymgeiswyr addas rhag cysylltu.
Ymarfer da: Ymgysylltu â rhieni geni a chymorth mabwysiadu ymatebol
Gwnaeth rhiant geni sôn yn gadarnhaol am ei brofiad o weithio gyda gweithwyr cymdeithasol drwy gydol y broses fabwysiadu, gan nodi bod gwybodaeth wedi cael ei hegluro'n raddol ac ar gyflymder addas. O ganlyniad, roedd y rhiant yn teimlo ei fod yn cael ei hysbysu a'i barchu yn ystod pob cam o'r broses.
Yn ogystal â chyfathrebu clir, cafodd y rhiant geni gymorth ymarferol cyson, gan gynnwys help i ddeall budd-daliadau ac i fanteisio ar wasanaethau eirioli yn ystod cyfarfodydd. Gwnaeth y cymorth ymarferol hwn gryfhau ei hyder a'i helpu i ymgysylltu mewn ffordd fwy cyflawn â'r broses.
Mae'r profiad hwn yn dangos sut y gall ymarfer meddylgar sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, lle mae'r cymorth yn cael ei deilwra at anghenion yr unigolyn yn hytrach na'i ddarparu mewn ffordd unffurf, wneud gwahaniaeth ystyrlon i rieni geni yn ystod cyfnod sydd yn aml yn hynod o anodd.
4.2.2 Bylchau yn y wybodaeth sydd ar gael
Fodd bynnag, er gwaethaf y cryfderau hyn, mae bylchau nodedig yn y wybodaeth sydd ar gael am lwybrau cymorth mabwysiadu lleol. Nid yw pobl sy'n ystyried mabwysiadu bob amser yn cael gwybodaeth hygyrch am yr ystod o gymorth mabwysiadu sydd ar gael yn eu hardal, nac am y trothwyon perthnasol ar ei gyfer, boed hynny drwy wefannau neu drwy waith ymgysylltu a marchnata cynnar. Mae hyn yn cyfyngu ar ddealltwriaeth o ba gymorth sydd ar gael i hyrwyddo llesiant plant a theuluoedd, a gall effeithio ar hyder yn y system.
Bwriad dogfennau allweddol megis Datganiadau o Ddiben a chanllawiau gwasanaethau mabwysiadu ar gyfer rhieni geni a phlant yw cefnogi eglurder a dealltwriaeth o wasanaethau a hawliau pobl. Fodd bynnag, ar draws Cydweithredfeydd Mabwysiadu Rhanbarthol, nid yw'r dogfennau hyn bob amser yn cynnwys yr holl wybodaeth ofynnol ac nid ydynt yn cael eu diweddaru'n rheolaidd. O ganlyniad, nid oes gan bobl bob amser ddealltwriaeth gyson o'r hyn y gallant ei ddisgwyl gan wasanaethau.
4.2.3 Diogelu a llesiant emosiynol plant
Ledled Cymru, mae ymarferwyr mabwysiadu yn dangos ymrwymiad cryf i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant. Yn y rhan fwyaf o'r Cydweithredfeydd Mabwysiadu Rhanbarthol, mae ymarfer sy'n ystyriol o drawma ac sy'n canolbwyntio ar y plentyn wedi'i ymgorffori'n dda, ac mae'r ymarferwyr yn sensitif i hanes,, hunaniaeth ac anghenion emosiynol plant.
Caiff diogelu ei drafod fel mater o drefn mewn fforymau goruchwylio a fforymau amlasiantaethol, ac mae'r ymarferwyr yn gweithredu'n brydlon mewn ymateb i bryderon, gan weithio gydag asiantaethau partner mewn ffordd adeiladol.
Fodd bynnag, nid yw'r prosesau ar gyfer goruchwylio trefniadau diogelu bob amser yn adarn ar draws pob rhanbarth. Mewn rhai ardaloedd, nid oes tystiolaeth bob amser o'r ymweliadau dirybudd sy'n ofynnol â phlant cyn i Orchymyn Mabwysiadu gael ei roi. Mae'r trefniadau cofnodi hefyd yn amrywio, ac yn aml caiff gwybodaeth am ddiogelu ei chadw ar systemau'r awdurdodau lleol yn hytrach na systemau'r Cydweithredfeydd Mabwysiadu Rhanbarthol. Mae'r diffyg cydlyniad hwn yn cyfyngu ar allu'r Cydweithredfeydd Mabwysiadu Rhanbarthol i ddadansoddi themâu diogelu, monitro canlyniadau a bodloni eu hunain bod camau dilynol effeithiol yn cael eu cymryd mewn perthynas â phryderon.
Ymarfer da: Prosesau effeithiol ar gyfer goruchwylio lleoliad plentyn cyn y Gorchymyn Mabwysiadu
Ar ôl i blentyn gael ei leoli gyda theulu mabwysiadol, aeth gweithiwr cymdeithasol o'r Gydweithredfa Fabwysiadu Ranbarthol ati i gysylltu unwaith eto â chanolwr y rhiant mabwysiadol cyn i'r Gorchymyn Mabwysiadu gael ei roi.
O ganlyniad, llwyddodd y gweithiwr cymdeithasol i ganfod barn annibynnol y canolwr ar hynt y lleoliad ac i asesu a oedd yn diwallu anghenion y plentyn. Dangosodd y dull hwn ymarfer da drwy sicrhau bod y prosesau ar gyfer goruchwylio'r lleoliad yn seiliedig ar amrywiaeth o safbwyntiau yn ystod cam hollbwysig yn y broses fabwysiadu, yn hytrach na safbwyntiau'r rhiant mabwysiadol yn unig.
4.2.4 Sefydlogrwydd Cynnar Cymru
Mae Sefydlogrwydd Cynnar Cymru yn opsiwn cynllunio gofal gwerthfawr sy'n gynyddol bwysig sy'n helpu i roi sefydlogrwydd a sylfaen ddiogel i blant cyn gynted â phosibl. Drwy leihau nifer y symudiadau y mae plant yn eu profi, mae Sefydlogrwydd Cynnar Cymru yn helpu i leihau trawma ychwanegol ac yn cefnogi eu llesiant emosiynol wrth iddynt symud ymlaen tuag at sefydlogrwydd.
Mae fframwaith cenedlaethol ar waith a cheir ymrwymiad cynyddol ym mhob rhanbarth, gyda'r Cydweithredfeydd Mabwysiadu Rhanbarthol yn dysgu oddi wrth ei gilydd wrth i ymarfer ddatblygu. Fodd bynnag, nid yw Sefydlogrwydd Cynnar Cymru wedi'i ymgorffori'n llawn ledled Cymru eto. Mae nifer y plant sy'n elwa ar y dull hwn yn parhau i fod yn isel ac mae profiad uniongyrchol a hyder ymarferwyr wrth ddefnyddio
Sefydlogrwydd Cynnar Cymru yn amrywio rhwng y rhanbarthau.
Caiff hyn ei ddangos yng Ngraff 1 isod.
Graff 1: Nifer y plant a leolwyd o dan Fframwaith Sefydlogrwydd Cynnar Cymru rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025

Yn ystod 2024-2025, lleolwyd cyfanswm o naw plentyn o dan Fframwaith Sefydlogrwydd Cynnar Cymru. Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru a gofnododd y nifer uchaf o leoliadau (tri). Cofnododd Gwasanaeth Mabwysiadu De-ddwyrain Cymru, Gwasanaeth Mabwysiadu Bae'r Gorllewin, a'r Gwasanaeth Mabwysiadu yn y Fro, y Cymoedd a Chaerdydd ddau leoliad yr un. Ni chofnododd Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru unrhyw leoliadau o dan Fframwaith Sefydlogrwydd Cynnar Cymru yn ystod 2024-25 ac felly nid yw wedi'i ddangos ar y siart.
Mae ymwybyddiaeth o Sefydlogrwydd Cynnar Cymru, y defnydd ohono, a'r modd y caiff ei roi ar waith yn amrywio rhwng y rhanbarthau, er bod hyfforddiant ar gael. Byddai prosesau ymgysylltu, cofnodi a chymhwyso mwy cyson yn gwella hyder a gallu ymarferwyr i ddefnyddio Sefydlogrwydd Cynnar Cymru.
4.2.5 Hunaniaeth, diwylliant a'r Gymraeg
Mae hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn gryfder ar draws y gwasanaethau mabwysiadu, a chaiff sylw rhagweithiol ei roi i ddiwallu anghenion diwylliannol, ieithyddol a chrefyddol plant. Mae'r gwasanaethau yn cydnabod pwysigrwydd lleoli plant gyda theuluoedd a all hyrwyddo eu treftadaeth a'u hiaith.
Caiff anghenion plant o ran diwylliant a hunaniaeth eu hystyried yn ofalus. Lle y bo'n bosibl, caiff plant eu magu mewn teuluoedd sy'n rhannu ac yn hyrwyddo eu treftadaeth. Lle nad yw hyn yn bosibl, caiff rhieni mabwysiadol gymorth i helpu plant i gynnal cysylltiadau â'u diwylliant, eu hiaith, eu crefydd a'u hunaniaeth.
Mae argaeledd ymarferwyr sy'n siarad Cymraeg yn amrywio rhwng y rhanbarthau, gan adlewyrchu demograffeg leol i raddau helaeth. Lle bo angen, mae'r rhanbarthau yn sicrhau y gellir cyflawni’r broses fabwysiadu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Weithiau caiff hyn ei gefnogi drwy ddefnyddio cyfieithwyr trydydd parti i sicrhau bod plant, teuluoedd a mabwysiadwyr yn gallu ymgysylltu mewn ffordd lawn ac ystyrlon â gwasanaethau.
Ceir enghreifftiau cryf o ymarferwyr yn hyrwyddo hawliau plant mewn ffordd fedrus ac yn sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed, gan gymryd camau i sicrhau bod eu barn yn llywio penderfyniadau mewn ffordd ystyrlon. Ymgysylltir â theuluoedd geni mewn modd sensitif, ac maent yn cael gwybodaeth ac arweiniad clir sy'n cefnogi tryloywder.
Ymarfer da: Ystyried barn rhieni geni o ran mabwysiadu eu plentyn
Wrth gynllunio ar gyfer teulu mabwysiadol plentyn, ystyriodd y gweithwyr cymdeithasol yn ofalus y dymuniadau a fynegwyd gan y rhieni geni, a oedd yn gobeithio y byddai eu plentyn yn cael ei fagu mewn teulu Mwslimaidd.
Aeth y plentyn ymlaen i gael ei fagu gan rieni mabwysiadol a allai feithrin ei hunaniaeth ddiwylliannol a chrefyddol, gan ei helpu i gynnal cysylltiad â'i ffydd a'i dreftadaeth.
Mae'r enghraifft hon yn dangos sut y gall ystyried barn y rhieni geni yn ofalus gefnogi ymdeimlad plant o hunaniaeth a pherthyn.
5. Canfyddiadau: Gofal a chymorth
5.1 Gwnaethom ofyn
A yw plant, y teulu biolegol a'r teulu sy'n mabwysiadu yn cyflawni canlyniadau da drwy'r cymorth a ddarperir, sy'n hybu eu llesiant cyffredinol?
5.2 Yr hyn a nodwyd gennym
5.2.1 Asesiadau
Mae'r prosesau asesu ar gyfer darpar fabwysiadwyr yn gadarn ac yn gynhwysfawr, ac mae'r holl wiriadau statudol gofynnol yn cael eu cwblhau. Mae'r ymarferwyr yn fedrus wrth gynnal asesiadau o ansawdd uchel ac yn defnyddio'r fframwaith asesu cenedlaethol yn gyson i arwain eu gwaith.
Mae'r ymarferwyr yn dangos dealltwriaeth gref o hanes, profiadau a bregusrwydd plant. Mae hyn yn eu galluogi i asesu a oes gan ddarpar fabwysiadwyr y gallu, y gwydnwch a'r ddealltwriaeth ofynnol i ddiwallu anghenion y plant nawr ac yn y dyfodol. O ganlyniad, caiff plant eu magu gan deuluoedd mabwysiadol a all ddarparu cartrefi diogel, magwrus a sefydlog. Mae'r dull hwn yn ategu sefydlogrwydd lleoliadau, yn lleihau'r risg y byddant yn chwalu, ac yn hyrwyddo llesiant hirdymor plant, eu diogelwch a chanlyniadau cadarnhaol.
5.2.2 Ansawdd ac amseroldeb y prosesau cynllunio sefydlogrwydd a phontio
Mae'r ymarferwyr yn dangos ymrwymiad cryf i sicrhau bod y broses o symud o ofal maeth i fabwysiadu yn cael ei chynllunio'n ofalus ac yn sensitif gan ganolbwyntio ar lesiant emosiynol y plant. Ceir enghreifftiau cadarnhaol o gydweithio effeithiol rhwng ymarferwyr y Cydweithredfeydd Mabwysiadu Rhanbarthol a gweithwyr cymdeithasol plant, gan helpu i sicrhau bod plant yn symud at eu teuluoedd parhaol gan darfu cyn lleied â phosibl arnynt. Caiff ymarfer ei lywio gan ganllawiau cenedlaethol ac mae'n cynnwys defnyddio llinellau amser anogaeth ystyriol o drawma sy'n nodi cydberthnasau allweddol, profiadau cynnar, eu heffaith bosibl ar y plant, ynghyd â strategaethau 1 Llinell Amser Anogaeth Ystyriol o Drawma a Deall Diwrnod y Plentyn – Adnodd gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol i Weithwyr Proffesiynol. Canllawiau Ymarfer Da i gefnogi'r broses rheoleiddio emosiynol. Fodd bynnag, nid yw'r dulliau gweithredu hyn wedi'u hymgorffori'n gyson. Er enghraifft, dim ond ar gyfer plant dros ddwy oed ac ar gyfer nifer cyfyngedig o blant yn gyffredinol y caiff llinellau amser anogaeth ystyriol o drawma eu cwblhau.
Mae prosesau defnyddiol eraill, megis diwrnodau 'cyflwyno' (bump in days) a diwrnodau 'deall y plentyn', yn rhoi gwybodaeth werthfawr i fabwysiadwyr am hanes ac anghenion y plant. Mae'r dulliau gweithredu hyn yn dangos y cynnydd sylweddol a wnaed o fewn gwasanaethau mabwysiadu, ac yn helpu mabwysiadwyr i feithrin dealltwriaeth ac i baratoi cyn y lleoliad.
Dealltwriaeth o ymarfer
“Yn sgil cyflwyno ein tîm Deall y Plentyn a chymorth ein therapyddion, mae dealltwriaeth lawer mwy manwl o anghenion plant wedi datblygu dros y blynyddoedd diwethaf.” (ymarferydd o un o'r Cydweithredfeydd Mabwysiadu Rhanbarthol)
“Nid oes gennyf ddim byd drwg i'w ddweud am fy nhaith gyfan gyda'r ddau weithiwr cymdeithasol a fu'n rhan o'r broses. Gwnaethant yn union fel y dywedont y byddent yn ei wneud, ac roedd yr amserlenni a nodwyd ganddynt yn llygad eu lle. Cefais gefnogaeth arbennig o dda drwy gydol y broses gyfan.” (Llais rhiant mabwysiadol)
Fodd bynnag, ceir amrywiaeth o ran pa mor gyflym y caiff plant eu cefnogi i symud tuag at sefydlogrwydd a phontio i'w teuluoedd mabwysiadol, ac effeithiolrwydd y broses honno. Caiff yr oedi wrth fwrw ymlaen â lleoliadau mabwysiadu plant ei ddangos yng Ngraff 2, sy'n nodi nifer cyfartalog y diwrnodau (y cymedr rhifyddol) a gymerodd i blant symud o'r penderfyniad y dylent gael eu lleoli i'w mabwysiadu hyd at gael eu lleoli. Mae'r data yn cwmpasu'r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025. Er y dylid ystyried yr amserlenni hyn ochr n ochr â'r safonau perthnasol a'r disgwyliadau rheoliadol, mae'r data'n tynnu sylw at anghysondeb o ran pa mor gyflym y mae plant yn symud ymlaen drwy'r cam hwn.
Graff 2: Nifer cyfartalog y diwrnodau (y cymedr rhifyddol) a gymerodd i blant symud o'r penderfyniad y dylent gael eu lleoli i'w mabwysiadu hyd at gael eu lleoli

Yn ystod 2024-2025, roedd nifer cyfartalog y diwrnodau a gymerodd i blant symud o'r penderfyniad y dylent gael eu lleoli i'w mabwysiadu hyd at gael eu lleoli yn amrywio'n sylweddol ledled Cymru. Gwasanaeth Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru a gofnododd y cyfnod amser cyfartalog hiraf, sef 450 diwrnod, a Gwasanaeth Mabwysiadu Bae'r Gorllewin a gofnododd y cyfnod amser cyfartalog byrraf, sef 248 diwrnod. Cofnododd Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru gyfartaledd o 394 diwrnod, cofnododd Gwasanaeth Mabwysiadu yn y Fro, y Cymoedd a Chaerdydd gyfartaledd o 314 diwrnod, a chofnododd Gwasanaeth Mabwysiadu De-ddwyrain Cymru gyfartaledd o 276 diwrnod.
“Cawson ni ein paru gyntaf ym mis Mehefin 2021 ac ni chafodd ein mab ei leoli gyda ni tan fis Tachwedd 2021. Roedd y broses yn araf iawn…” (Llais rhiant mabwysiadol)
Mae plant yn elwa ar drefniadau pontio sy'n adlewyrchu eu hanghenion a'u hamgylchiadau unigol ac sy'n osgoi oedi diangen.
5.2.3 Cymorth mabwysiadu
Mae amrywioldeb o ran argaeledd, cysondeb ac ansawdd y cymorth mabwysiadu ar draws y ydweithredfeydd Mabwysiadu Rhanbarthol. Lle mae'r cymorth yn effeithiol, mae'r teuluoedd yn elwa ar fewnbwn cydgysylltiedig ac amserol, gan gynnwys gwasanaethau therapiwtig, cymorth gan gymheiriaid, a dulliau cynyddol arloesol megis gwaith taith bywyd a gwasanaethau cyfryngol.
Mae'r cymorth hwn yn cyfrannu'n gadarnhaol at gefnogi plentyn i symud i'w gartref parhaol.
Ymarfer da: Cyfathrebu â rhieni geni
Yn dilyn lleoliad gyda rhieni mabwysiadol o dan orchymyn lleoli, cafodd y rhieni geni lythyrau ymgartrefu o fewn chwe wythnos i leoli'r plentyn. Roedd y rhain wedi'u hysgrifennu mewn cywair sensitif ac yn egluro eu hawliau a goblygiadau mabwysiadu yn glir.
Roedd y llythyrau wedi'u llunio'n ofalus i gydnabod arwyddocâd y digwyddiad ac i sicrhau bod y rhieni geni yn teimlo eu bod yn cael eu hysbysu a'u parchu, hyd yn oed wrth i'r broses symud yn ei blaen. Mae hyn yn dangos sut y gall cyfathrebu ystyriol ac amserol roi sicrwydd ystyrlon ar adeg sy'n heriol yn emosiynol.
Lleisiau ar gymorth mabwysiadu
“Roedd y cyfnod pan ddaeth ein mab atom yn gyfnod heriol iddo… cawsom ein cyfeirio at therapydd chwarae anhygoel … iddi hi mae'r diolch am gadw ein teulu gyda’i gilydd” (Rhiant mabwysiadol)
“Mae’r cymorth rydym wedi’i gael wedi bod yn neilltuol, gan gynnwys eirioli ar ein rhan a sicrhau bod fy mhlant yn cael asesiadau niwroamrywiaeth a bod y cymorth cywir ar eu cyfer yn cael ei ystyried a'i roi ar waith.” (Rhieni mabwysiadol)
Fodd bynnag, nid yw'r lefel hon o ddarpariaeth yn gyson ar draws pob Cydweithredfa Fabwysiadu Ranbarthol. Mewn lleiafrif o ardaloedd, mae'r plant, y mabwysiadwyr a'r teuluoedd geni yn elwa ar gymorth mabwysiadu cynhwysfawr ac amlddisgyblaethol sy'n hygyrch, yn amserol, ac wedi'i deilwra at anghenion unigol. Roedd gan bob Cydweithredfa Fabwysiadu Ranbarthol heblaw am un restr aros ar gyfer gwasanaethau cymorth mabwysiadu, ac nid oedd trefniadau effeithiol ar gyfer adolygu a blaenoriaethu'r galw i'w gweld yn gyson ledled Cymru. Ni chysylltwyd â phobl ar restrau aros yn rheolaidd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am eu statws ar y rhestr neu i asesu a oedd eu hamgylchiadau wedi newid.
Lleisiau ar gymorth mabwysiadu: heriau
“Ar ôl 18 mis rwy’n dal i aros am gymorth therapi i fy nhri phlentyn.” (Rhiant mabwysiadol)
“Ni chawsom unrhyw gymorth o gwbl mewn perthynas ag unrhyw elfen ar ôl i'r plant gael eu lleoli. Roedd ein profiad yn ofnadwy. Nid oes unrhyw ddigwyddiadau yn cael eu cynnal
yn agos atom nac unrhyw grwpiau cymorth i ddiwallu ein hanghenion.”(Rhiant mabwysiadol)
Lleisiau ymarferwyr
“Mae ein rhestr aros yn tyfu o hyd.” (ymarferydd o un o'r Cydweithredfeydd
Mabwysiadu Rhanbarthol)
“Mae gweithio yng nghefn gwlad Cymru yn effeithio ar ein gallu i ddarparu gwasanaethau.” (ymarferydd o un o'r Cydweithredfeydd Mabwysiadu Rhanbarthol)
5.2.4 Cynlluniau cymorth mabwysiadu
Mae ansawdd y Cynlluniau Cymorth Mabwysiadu yn amrywiol ac nid ydynt bob amser yn cael eu hadolygu na'u diweddaru mewn modd amserol i adlewyrchu anghenion newidiol y plant a'r teuluoedd.
Ceir tystiolaeth o waith sensitif yn cael ei wneud ledled Cymru sy'n helpu mabwysiadwyr i ddeall manteision mathau gwahanol o gyswllt i blant. Ceir enghreifftiau cadarnhaol o ymarferwyr yn hyrwyddo dull modern o ymdrin â chyswllt yn unol â Chanllaw Ymarfer Da ar gyfer Cyswllt y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol1, gan archwilio opsiynau y tu hwnt i drefniadau blwch llythyrau traddodiadol a helpu teuluoedd mabwysiadol i ddeall gwerth cynnal cysylltiadau diogel a phriodol. Fodd bynnag, yn y rhan fwyaf o Gydweithredfeydd Mabwysiadu Rhanbarthol, cyswllt anuniongyrchol (blwch llythyrau) yw'r trefniant cyffredin o hyd i blant a theuluoedd geni. Prin yw'r dystiolaeth o waith adolygu neu addasu rheolaidd mewn ymateb i anghenion newidiol y plant. Nid yw hyn yn cyd‑fynd â Chanllaw Ymarfer Da ar gyfer Cyswllt y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol.
5.2.5 Monitro cynlluniau gofal a chymorth
Ceir enghreifftiau o Swyddogion Adolygu Annibynnol yn goruchwylio lleoliadau plant yn dda cyn i Orchmynion Mabwysiadu gael eu gwneud. Mae hyn yn cynnwys goruchwylio'r ymweliadau dirybudd gofynnol â phlant ar ôl iddynt gael eu lleoli a chyn i'r Gorchmynion Mabwysiadu gael eu rhoi.
Yr ymarfer gorau yw pan fydd y plant yn elwa ar barhad a phrosesau goruchwylio gan Swyddog Adolygu Annibynnol cyson sy'n goruchwylio cynnydd. Mewn rhai o'r Cydweithredfeydd Mabwysiadu Rhanbarthol, mae'r Swyddogion Adolygu Annibynnol yn monitro cynnydd y broses o ddatblygu gwaith taith bywyd a llythyrau yn ddiweddarach mewn bywyd y plentyn. Maent yn cynnal adolygiadau hanner ffordd o leoliadau, sy'n rhoi cyfle strwythuredig i graffu ar briodoldeb ac amseroldeb y gwaith taith bywyd yn dilyn adolygiadau a gynhelir ar ôl lleoli'r plant.
5.2.6 Gwaith taith bywyd
Ceir enghreifftiau o waith taith bywyd rhagorol yn cael ei wneud gyda phlant, yn ogystal â llythyrau yn ddiweddarach mewn bywyd wedi'u hysgrifennu'n sensitif i helpu plant sydd wedi cael eu mabwysiadu a rhieni mabwysiadol i ddeall profiadau blaenorol y plant dan sylw. Mae hyn yn galluogi mabwysiadwyr i gefnogi plant i ddeall eu hanes ar gyflymder sy'n addas iddynt. Fodd bynnag, mae ansawdd ac amseroldeb y gwaith taith bywyd a'r llythyrau yn ddiweddarach mewn bywyd yn anghyson, sy'n golygu nad yw pob plentyn yn cael yr un budd o'r cymorth pwysig hwn.
Lleisiau ar waith taith bywyd
“Nid yw llyfrau bywyd yn cael eu diweddaru mewn modd amserol wrth i’r plentyn fynd yn hŷn.” (Rhiant mabwysiadol)
“Gwnaethant lwyddo (y Cydweithredfeydd Mabwysiadu Rhanbarthol) i'n helpu ac i roi
gwybodaeth i ni a oedd ar goll o waith papur ein plentyn.” (Rhiant mabwysiadol)
Ymarfer da: Stori bywyd plentyn
Cafodd gwaith stori bywyd plentyn ei gyfoethogi drwy ddefnyddio ffotograffau mewn modd ystyriol, gan gynnwys delweddau o ansawdd da o aelodau'r teulu geni a ffotograffau o'r cartref gofal maeth. Gwnaeth y cofnodion gweledol hyn helpu'r plentyn i wneud synnwyr o'i brofiadau, deall ei daith, a datblygu ymdeimlad cryfach o'i hunaniaeth ei hun.
Ochr yn ochr â'r ffotograffau, gwnaeth y plentyn elwa ar straeon a oedd wedi'u hysgrifennu'n uniongyrchol iddo yn y person cyntaf. Gwnaeth yr ymagwedd bersonol hon y deunydd yn fwy hygyrch ac ystyrlon, gan helpu'r plentyn i deimlo bod ei stori'n cael ei hadrodd gyda gofal a'i fod yn rhan greiddiol o'r stori honno.
Mae'r enghraifft hon yn amlygu sut y gall buddsoddi mewn deunyddiau gweledol ac ysgrifenedig o ansawdd uchel fel rhan o'r gwaith stori bywyd gael effaith gadarnhaol barhaol ar ddealltwriaeth plentyn o bwy ydyw ac o ble y mae wedi dod.
5.2.7 Lleoliadau sy'n chwalu
Er gwaethaf y pwysau ar wasanaethau mabwysiadu, mae achosion o leoliadau yn chwalu yn parhau i fod yn anghyffredin. O'r 196 o Orchmynion Mabwysiadu a roddwyd ledled Cymru yn ystod y cyfnod adrodd, dim ond naw lleoliad a ddaeth i ben cyn i'r Gorchymyn Mabwysiadu gael ei wneud.
Caiff hyn ei ddangos yng Ngraff 3 isod.
Graff 3: Nifer y plant rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025 y gwnaeth eu Lleoliad ar gyfer Mabwysiadu chwalu'n barhaol rhwng dyddiad y Lleoliad Mabwysiadu a chyn gwneud y Gorchymyn Mabwysiadu.

Rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025, Gwasanaeth Mabwysiadu De-ddwyrain Cymru a gofnododd y nifer uchaf o blant y gwnaeth eu lleoliad mabwysiadu chwalu'n barhaol rhwng yr adeg y cawsant eu lleoli i'w mabwysiadu a'r adeg y gwnaed y gorchymyn mabwysiadu, gan gofnodi pum achos o leoliadau'n chwalu. Cofnododd Gwasanaeth Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru a'r Gwasanaeth Mabwysiadu yn y Fro, y Cymoedd a Chaerdydd ddau achos o leoliadau'n chwalu yr un. Ni chofnododd Gwasanaeth Mabwysiadu Bae'r Gorllewin na Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru unrhyw achosion o leoliadau'n chwalu yn ystod y cyfnod.
Ceir enghreifftiau rhagorol o'r Cydweithredfeydd Mabwysiadu Rhanbarthol yn dadansoddi ac yn dysgu o leoliadau sydd wedi chwalu, ac yn defnyddio'r gwersi a ddysgwyd o'r achosion hyn i nodi themâu sy'n dod i'r amlwg ac ymateb iddynt. Mae'r lefel gyson isel o leoliadau sy'n chwalu yn darparu tystiolaeth o sefydlogrwydd cryf lleoliadau yn gyffredinol.
Fodd bynnag, mae gweithgarwch asesu yn dod yn fwyfwy cymhleth ac mae mynediad cyfyngedig ac oedi wrth gael gwybodaeth feddygol neu arbenigol hanfodol yn cael effaith bellach ar hyn. Gall hyn rwystro'r gallu i wneud penderfyniadau cadarn sy'n seiliedig ar dystiolaeth, a chyfrannu at oedi wrth gymeradwyo darpar fabwysiadwyr.
Caiff hyn ei ddangos yng Ngraff 4 isod.
Graff 4: Hyd cyfartalog (cymedr rhifyddol) yr amser, mewn diwrnodau, y mae'n ei gymryd i ddarpar fabwysiadwr symud o'r ymholiad cychwynnol i benderfyniad yr asiantaeth i'w gymeradwyo fel unigolyn addas i fabwysiadu yn ystod y cyfnod penodedig (1 Ebrill 2024 i 31 Mawrth 2025)

Yn ystod 2024-2025, roedd nifer cyfartalog y diwrnodau a gymerodd i ddarpar fabwysiadwyr symud ymlaen o'r ymholiad cychwynnol hyd at benderfyniad yr asiantaeth yn amrywio ledled Cymru. Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru a gofnododd y cyfnod amser cyfartalog hiraf, sef 415 diwrnod. Cofnododd y Gwasanaeth Mabwysiadu yn y Fro, y Cymoedd a Chaerdydd gyfartaledd o 282 diwrnod, cofnododd Gwasanaeth Mabwysiadu De-ddwyrain Cymru gyfartaledd o 201 diwrnod, a chofnododd Gwasanaeth Mabwysiadu Bae'r Gorllewin y cyfnod amser cyfartalog byrraf, sef 94 diwrnod. Ni chafwyd unrhyw ddata gan Wasanaeth Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru ar gyfer y cyfnod hwn.
5.2.8 Llais y plentyn
Yn yr enghreifftiau cryfaf, mae Adroddiadau Mabwysiadu Plant A a B (CAR A a CAR B) yn adlewyrchu lleisiau, safbwyntiau, profiadau bywyd a hawliau'r plant a'u teuluoedd geni yn glir ac yn effeithiol. Ceir enghreifftiau o adroddiadau o ansawdd uchel ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, wedi'u hysgrifennu yn y person cyntaf, gan wella hygyrchedd i blant a fydd o bosibl yn darllen eu cofnodion yn ddiweddarach pan fyddant yn oedolion.
Fodd bynnag, ceir ymarfer anghyson ledled Cymru o hyd.
Mae gormod o Adroddiadau Mabwysiadu Plant B yn dal i ddatgan bod plant yn “rhy ifanc” i gael llais, gan gyfyngu ar y gallu i gynrychioli eu profiadau mewn ffordd ystyrlon. I'r gwrthwyneb, mae'r adroddiadau cryfach yn dangos y gellir cyfleu safbwynt plentyn ni waeth beth fo'i oedran, er enghraifft drwy ddatganiadau naratif wedi'u llunio'n ofalus sy'n adlewyrchu'r hyn y byddai'r plentyn o bosibl yn ei ddweud, neu drwy arsylwadau gwybodus ymarferwyr.
Mae adroddiadau o ansawdd uchel yn dangos yn gyson sut y gall profiadau cynnar plant effeithio arnynt drwy gydol eu bywydau, a sut y dylai'r ffactorau hyn lywio cynlluniau ar gyfer eu gofal a'u sefydlogrwydd yn y dyfodol.
Ymarfer da: Llyfrau straeon wedi'u personoli ac adnoddau cyfathrebu creadigol
Cafodd plant eu cefnogi i wneud synnwyr o'u profiadau drwy ddefnyddio llyfrau straeon wedi'u personoli ac adnoddau cyfathrebu creadigol wedi'u teilwra at eu hamgylchiadau unigol. Gwnaeth yr adnoddau hyn helpu i hyrwyddo diogelwch emosiynol y plant a chwarae rhan bwysig wrth eu cefnogi i ffurfio ymdeimlad o hunaniaeth, gan roi ffordd hygyrch ac addas i'w hoedran iddynt ddeall eu hanes eu hunain.
Roedd y manteision yn ymestyn y tu hwnt i'r plant eu hunain. Roedd y rhieni mabwysiadol yn gweld bod cael y deunyddiau hyn wrth law yn rhoi'r hyder iddynt siarad yn agored ac yn sensitif â'u plentyn am ei gefndir, nid yn unig ar ddechrau'r lleoliad ond hefyd wrth i'r plentyn dyfu'n hŷn a dechrau gofyn cwestiynau mwy cymhleth.
Mae'r dull gweithredu yn dangos sut y gall adnoddau wedi'u personoli ac wedi'u cynllunio'n dda gefnogi nid yn unig y plentyn, ond y teulu mabwysiadol cyfan, wrth ymdrin â sgyrsiau am hunaniaeth a hanes mewn modd ystyriol sy'n canolbwyntio ar y plentyn.
5.2.9 Ymarfer sy'n canolbwyntio ar y plentyn ac sy'n ystyriol o drawma
Ledled Cymru, mae ymarferwyr mabwysiadu yn dangos ymrwymiad cryf i ymarfer sy'n canolbwyntio ar y plentyn ac sy'n ystyriol o drawma, gan gydnabod pwysigrwydd deall hanes, hunaniaeth ac anghenion emosiynol pob plentyn. Mae'r ymarfer yn seiliedig ar ddulliau sy'n hyrwyddo diogelwch emosiynol, ymddiriedaeth a chyfranogiad ystyrlon, gan gefnogi plant i wneud synnwyr o'u profiadau.
Mae'r ymarferwyr yn defnyddio ystod o adnoddau cyfathrebu creadigol yn gyson i helpu plant i ddeall straeon eu bywyd a datblygu ymdeimlad cadarn o hunaniaeth. Mae'r dulliau hyn yn arbennig o effeithiol wrth alluogi plant i ymgysylltu'n gyflym ac mewn ffordd sy'n adlewyrchu eu hoedran, eu datblygiad a'u parodrwydd emosiynol.
Yn gyffredinol, dywedir bod hyfforddiant i ddarpar fabwysiadwyr yn agored, yn fyfyriol ac yn onest. Mae'n helpu mabwysiadwyr i ddatblygu dealltwriaeth gref o drawma ac ymlyniad ac yn eu galluogi i ymateb i brofiadau plant gan ddangos hyder, empathi a sensitifrwydd.
Fodd bynnag, mae ansawdd a chysondeb ymarfer sy'n ystyriol o drawma yn amrywio ar draws y rhanbarthau, gan nodi cyfleoedd pellach i gryfhau ac ymgorffori'r dull hwn yn fwy cyson ledled Cymru.
5.2.10 Paneli mabwysiadu
Mae paneli mabwysiadu ledled Cymru yn darparu swyddogaeth graffu gadarn sy'n canolbwyntio ar y plentyn, wedi'i chefnogi gan her amlasiantaeth briodol ac ystod eang o arbenigwyr proffesiynol o feysydd sy'n cynnwys mabwysiadu, maethu, iechyd ac addysg. Mae trefniadau'r paneli wedi'u strwythuro'n dda ac yn helpu i wneud argymhellion amserol ac atebol i Wneuthurwyr Penderfyniadau yr Asiantaethau. Mae Gwneuthurwyr Penderfyniadau yr Asiantaethau yn gwneud penderfyniadau amserol a rhesymegol yn gyson, gan gryfhau'r trefniadau llywodraethu, ond nid yw'r cofnodion ysgrifenedig bob amser yn adlewyrchu manylder y broses o wneud penderfyniadau yn llawn. Mewn sawl rhanbarth, mae'r paneli yn mynd ati i ystyried llais y plentyn, gan amlygu ymarfer da sy'n canolbwyntio ar y plentyn. Caiff mabwysiadwyr eu cefnogi'n dda drwy gyngor meddygol ynghylch eu hiechyd eu hunain ac anghenion y plant, ac maent yn gwerthfawrogi'r arweiniad a ddarperir i'w helpu i ddeall a diwallu anghenion y plant sy'n ymuno â'u teulu.
5.2.11 Recriwtio mabwysiadwyr
Mae recriwtio digon o fabwysiadwyr yn bryder cenedlaethol sylweddol. Er gwaethaf ymgyrchoedd wedi'u targedu a'r ffaith bod pob Cydweithredfa Fabwysiadu Ranbarthol yn canolbwyntio ar y maes hwn, mae nifer y mabwysiadwyr sydd ar gael wedi gostwng yn sylweddol ers 2021/22. Er bod nifer y lleoliadau sydd eu hangen wedi aros yn gymharol sefydlog, dechreuodd y galw fod yn fwy na nifer y mabwysiadwyr a oedd ar gael yn 2023/24, a chynyddodd y diffyg ymhellach yn 2024/25. Mae prinder parhaus o fabwysiadwyr o hyd, yn enwedig ar gyfer grwpiau o frodyr a chwiorydd a phlant ag anghenion cymhleth, gan effeithio ar allu plant i gyflawni sefydlogrwydd heb oedi diangen. Nid yw'r strategaethau marchnata yn cyfeirio'n gyson at y cymorth sydd ar gael i bobl sy'n ystyried mabwysiadu. Gallai mwy o eglurder ynghylch y cymorth sydd
ar gael cyn ac ar ôl mabwysiadu helpu i annog mwy o geisiadau.
Mae Graff 5 yn dangos y gostyngiad parhaus yn nifer y mabwysiadwyr sydd ar gael ers 2021/22 ac yn dangos sut roedd nifer y lleoliadau yr oedd eu hangen yn fwy na nifer y mabwysiadwyr a oedd ar gael o 2023/24 ymlaen, gan greu diffyg cynyddol.
Graff 5: Y lleoliadau sydd eu hangen o gymharu â'r mabwysiadwyr sydd ar gael – rhannwyd y graff gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol

Mae data a ddarparwyd gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn dangos bod nifer y mabwysiadwyr a oedd ar gael wedi gostwng o 446 yn 2021-22 i 288 yn 2024-25. Dros yr un cyfnod, arhosodd nifer y lleoliadau yr oedd eu hangen yn gymharol sefydlog, gan amrywio o 293 i 327. Yn ystod 2021-22 a 2022-23 roedd nifer y mabwysiadwyr a oedd ar gael yn fwy na nifer y lleoliadau yr oedd eu hangen. Yn ystod 2023-24 roedd y ffigurau'n weddol gyfartal, gyda 299 o fabwysiadwyr ar gael a 293 o leoliadau eu hangen. Yn 2024-25, roedd nifer y lleoliadau yr oedd eu hangen (327) yn fwy na nifer y mabwysiadwyr a oedd ar gael (288).
6. Canfyddiadau: Arweinyddiaeth a llywodraethu
6.1 Gwnaethom ofyn
A yw'r trefniadau arweinyddiaeth a llywodraethu yn sicrhau bod pobl yn cael gwasanaethau o ansawdd uchel?
6.2 Yr hyn a nodwyd gennym
6.2.1 Arweinyddiaeth a diwylliant
Mae'r arweinwyr ar draws y Cydweithredfeydd Mabwysiadu Rhanbarthol yn weladwy, yn hawdd mynd atynt ac yn gefnogol, gan greu amgylchedd lle mae'r ymarferwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u harwain yn dda. Mae'r arweinwyr yn hyrwyddo diwylliant dysgu agored ac yn annog ymarfer myfyriol sy'n ystyriol o drawma. Maent yn ymgysylltu'n gadarnhaol ag ymarferwyr ac yn hyrwyddo cyfleoedd dysgu a chyfleoedd myfyriol megis ymarferion ymholiadau gwerthfawrogol a gweithdai arbenigol.
Fodd bynnag, mae amrywioldeb yng nghryfder a chysondeb yr arweinyddiaeth a'r trefniadau llywodraethu ledled Cymru. Yn y rhanbarthau lle ceir rôl Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol ddynodedig, cyfeiriodd yr ymarferwyr at brosesau goruchwylio cryfach, cyfathrebu cliriach a mwy o gysondeb wrth wneud penderfyniadau o ddydd i ddydd.
6.2.2 Bwrdd Rheoli Rhanbarthol
Caiff pob Cydweithredfa Fabwysiadu Ranbarthol ei chefnogi gan Fwrdd Rheoli Rhanbarthol. Lle mae'r aelodaeth yn sefydlog, ar lefel uwch briodol, ac yn ymgysylltu'n gyson, ac yn cynrychioli rhanddeiliaid allweddol, mae'r Byrddau Rheoli Rhanbarthol yn darparu goruchwyliaeth strategol effeithiol, yn cefnogi gwaith cynllunio cydlynol, yn alinio adnoddau ac yn galluogi penderfyniadau amserol. Yn yr enghreifftiau cryfaf, mae'r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol hefyd yn goruchwylio'r gwasanaethau mabwysiadu yn gadarn, ac yn mynd ati'n rhagweithiol i nodi sut y gall partneriaid gefnogi'r ddarpariaeth. Mae dirprwyo awdurdod cyllidebol i'r Rheolwyr Mabwysiadu Rhanbarthol yn cryfhau ymhellach y gallu i wneud penderfyniadau amserol a sicrhau cynllunio mwy cyson ar gyfer plant a theuluoedd.
Fodd bynnag, mewn rhai ardaloedd, mae'r cytundebau partneriaeth wedi dyddio, nid yw partneriaid allweddol yn cael eu cynnwys fel mater o drefn, ac nid yw'r trefniadau llywodraethu yn cael eu goruchwylio'n ddigonol. Mae hyn yn gwanhau'r gwaith o graffu ar ymarfer a datblygu gwasanaethau, gan gyfyngu ar effeithiolrwydd a chysondeb arweinyddiaeth strategol ledled y rhanbarth.
6.2.3 Gweithlu'r Cydweithredfeydd Mabwysiadu Rhanbarthol a gwasanaethau plant awdurdodau lleol
Mae ymarferwyr y Cydweithredfeydd Mabwysiadu Rhanbarthol a gwasanaethau plant awdurdodau lleol sy'n ymwneud â gwaith mabwysiadu yn fedrus, yn brofiadol ac yn ymrwymedig, ac yn cyfrannu at ddiwylliant cryf sy'n canolbwyntio ar y plentyn ac sy'n cael ei ategu gan brosesau goruchwylio rheolaidd a datblygiad proffesiynol parhaus. Maent yn dangos dealltwriaeth gref o gyfrifoldebau diogelu, ac yn sicrhau bod anghenion plant yn parhau i fod yn greiddiol wrth asesu a gwneud penderfyniadau. Mae trefniadau staffio sefydlog o fewn y Cydweithredfeydd Mabwysiadu Rhanbarthol yn cefnogi parhad, gan alluogi cydberthnasau llawn ymddiriedaeth â phlant, mabwysiadwyr ac asiantaethau partner, cryfhau'r gwaith cynllunio a chyfrannu at sefydlogrwydd lleoliadau a chanlyniadau gwell. Fodd bynnag, ceir enghreifftiau lle gall capasiti cyfyngedig o ran y gweithlu, sy'n aml yn gysylltiedig â chyllid byrdymor ar gyfer swyddi allweddol, gael effaith uniongyrchol ar amseroldeb ac ansawdd y gwasanaeth a ddarperir, ac ar forâl ymarferwyr.
Nid yw ymarferwyr ac arweinwyr y Cydweithredfeydd Mabwysiadu Rhanbarthol bob amser yn cael eu cyflogi gan yr un cyflogwr. Mae hyn yn arwain at delerau ac amodau cyflogaeth gwahanol i ymarferwyr ar draws awdurdodau lleol. Gall hyn greu cymhlethdodau gweithredol a diwylliannol.
Gall trosiant uchel ymhlith gweithwyr cymdeithasol plant yn yr awdurdodau lleol amharu ar daith fabwysiadu plant, gan arwain at oedi a'i gwneud yn ofynnol i deuluoedd ailadrodd eu profiadau. Fodd bynnag, er gwaethaf hyn, cynhelir cydberthnasau gwaith cadarnhaol a sefydledig yn gyffredinol rhwng ymarferwyr y Cydweithredfeydd Mabwysiadu Rhanbarthol a gweithwyr cymdeithasol plant.
Y pwysau ar y gweithlu: lleisiau ymarferwyr
“Mae problemau llwyth gwaith…yn llethu'r staff.”
“Mae'r llwythi achosion yn rhy drwm.”
“Rydym yn parhau i fod yn brin o staff… mae fy llwyth gwaith wedi cynyddu’n sylweddol.”
6.2.4 Datganiad o Ddiben a chanllawiau
Mae Datganiadau o Ddiben a chanllawiau gwybodaeth y Cydweithredfeydd Mabwysiadu Rhanbarthol ar gyfer darpar fabwysiadwyr, rhieni geni a phlant yn chwarae rhan bwysig wrth eu helpu i ddeall y broses fabwysiadu. Fodd bynnag, ledled Cymru nid ydynt bob amser yn cynnwys yr holl wybodaeth ofynnol. Mae rhai wedi dyddio, gan gyfyngu ar eu heffeithiolrwydd o ran cefnogi eglurder, atebolrwydd a hawliau pobl. Byddai gwella cysondeb, cywirdeb a chyflawnrwydd y dogfennau hyn yn cryfhau dealltwriaeth pobl o'r gwasanaeth a'u hawliau.
6.2.5 Sicrhau ansawdd
Mae anghysondeb yn y ffordd y mae'r Cydweithredfeydd Mabwysiadu Rhanbarthol yn monitro ymarfer, yn defnyddio gwersi a ddysgwyd i ysgogi gwelliannau, ac yn sicrhau ansawdd y broses o ddarparu gwasanaethau. Er bod gan Gydweithredfeydd Mabwysiadu Rhanbarthol ystod o fecanweithiau sy'n cyfrannu at y broses o adolygu gwasanaethau, nid yw'r rhain wedi'u halinio na'u hymgorffori'n gyson ar draws y gwasanaeth cyfan. Mae angen dull mwy systematig a chyson o archwilio, monitro, adolygu a rhoi'r gwersi a ddysgwyd ar waith ledled Cymru. Dylai hyn hefyd gynnwys ffocws ar ba mor dda y mae ymarfer yn cyd-fynd â chanllawiau ymarfer da y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a'r argymhellion a wnaed yn dilyn Adolygiadau Ymarfer Plant/ Adolygiadau Diogelu Unedig Sengl.
Ceir enghreifftiau lle mae barn a phrofiadau plant a theuluoedd yn cael eu casglu a'u dadansoddi fel mater o drefn i lywio ymarfer a datblygu gwasanaethau, gan gynnwys datblygu dulliau marchnata a chyfrannu at adolygiadau blynyddol. Fodd bynnag, nid yw'r dull hwn yn cael ei gymhwyso'n gyson, gan gyfyngu ar ei effaith. Mae angen i'r Cydweithredfeydd Mabwysiadu Rhanbarthol hefyd gryfhau'r ffordd y mae gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid yn llywio'r broses o ddarparu gwasanaethau, a sicrhau bod adborth clir yn cael ei roi i'r rhai sydd wedi cyfrannu, gan ddangos y gwahaniaeth y mae eu cyfraniad wedi'i wneud.de.
Nid yw'r rhan fwyaf o'r Cydweithredfeydd Mabwysiadu Rhanbarthol yn casglu nac yn dadansoddi gwybodaeth yn rheolaidd am atgyfeiriadau diogelu a'u canlyniadau, gan eu bod o'r farn mai gwasanaethau plant yr awdurdod lleol sy'n gyfrifol am hyn. Er mwyn cynnal goruchwyliaeth effeithiol a dangos cydymffurfiaeth â Gweithdrefnau Diogelu Cymru, mae angen i'r Cydweithredfeydd Mabwysiadu Rhanbarthol gofnodi pob pryder diogelu yn gyson, monitro ymatebion o fewn yr amserlenni gofynnol a sicrhau bod gwybodaeth am ddiogelu yn llywio'r gwaith o gynllunio cymorth mabwysiadu. Byddai cryfhau'r trefniadau hyn hefyd yn galluogi gwell defnydd o ddata diogelu ar lefelau strategol a gweithredol.
6.2.6 Systemau data
Mewn rhai Cydweithredfeydd Mabwysiadu Rhanbarthol, mae cyfyngiadau yn y systemau data a mynediad cyfyngedig at gofnodion gwasanaethau plant awdurdodau lleol yn atal prosesau cyfathrebu a rhannu
gwybodaeth amserol. Tynnodd yr ymarferwyr sylw at effaith ymarferol y materion hyn, gan nodi:
“Nid ydym yn gallu defnyddio unrhyw rai o systemau’r awdurdodau lleol rydym yn gweithio iddynt… mae’n rhaid i ni ddibynnu ar weithwyr cymdeithasol prysur iawn yr awdurdodau lleol i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni.” (Llais ymarferydd)
Mae systemau tameidiog ac anghyson yn atal gwaith partneriaeth effeithiol, yn oedi'r broses o rannu gwybodaeth, ac yn effeithio ar amseroldeb a chywirdeb penderfyniadau.
Er bod awdurdodau lleol ledled Cymru yn rhoi systemau newydd ar waith ar gyfer cofnodi achosion ac wedi ystyried integreiddio â'r Cydweithredfeydd Mabwysiadu Rhanbarthol fel rhan o'r gwaith hwn, mae'r ffaith nad oes un system unigol ar gael a bod rhai rhanbarthau yn defnyddio llwyfannau gwahanol yn golygu bod yr heriau hyn yn debygol o barhau mewn rhannau o Gymru.
6.2.7 Dysgu cydgysylltiedig ledled Cymru
Mae'r tîm canolog yn darparu cydlyniad cenedlaethol, yn datblygu canllawiau ac adnoddau, ac yn cefnogi is‑grwpiau thematig sy'n canolbwyntio ar recriwtio, perfformiad a chymorth mabwysiadu. Mae'r cyfraniad hwn yn cael ei werthfawrogi ac yn helpu i hyrwyddo cysondeb a lleihau achosion o ddyblygu ar draws y Cydweithredfeydd Mabwysiadu Rhanbarthol. Mae rhai o'r Cydweithredfeydd Mabwysiadu Rhanbarthol yn gweithio mewn ffordd ragweithiol gyda rhanbarthau eraill i rannu'r gwersi a ddysgwyd a datblygu ymarfer gorau, ond nid yw hyn yn gyson ledled Cymru eto. Byddai cydweithio trawsranbarthol cryfach yn lleihau amrywiadau ac yn helpu i sicrhau bod canllawiau'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn cael eu rhoi ar waith mewn ffordd fwy cyson. Byddai disgwyliadau diffiniedig o ran y ffordd y mae tair haen y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn cydweithio i gydgysylltu gweithgarwch gwella yn cryfhau cysondeb cenedlaethol ymhellach.
7. Y camau nesaf
7.1 Camau dilynol rhanbarthol unigol
Bydd Arolygiaeth Gofal Cymru yn cysylltu â phob Cydweithredfa Fabwysiadu Ranbarthol yn unigol i drafod y cynnydd a wnaed yn erbyn y camau gweithredu sy'n deillio o'u hadroddiadau arolygu unigol.
7.2 Ymgysylltu
Mae AGC yn ymrwymedig i gefnogi'r sector i ymgysylltu â chanfyddiadau'r adroddiad hwn. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y system fabwysiadu yng Nghymru i ystyried y ffordd orau i'r dystiolaeth a'r gwersi a ddysgwyd lywio ymarfer, strategaethau a threfniadau llywodraethu yn y dyfodol.
7.3 Sicrwydd parhaus
Mae'r adroddiad hwn yn nodi themâu a blaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer gwella ledled Cymru. Mae adroddiadau arolygu unigol y Cydweithredfeydd Mabwysiadu Cenedlaethol yn darparu'r canfyddiadau manwl, y meysydd i'w gwella, a'r argymhellion sy'n berthnasol i bob gwasanaeth. Bydd cynnydd yn erbyn y gofynion hyn sy’n benodol i wasanaethau yn cael ei fonitro drwy weithgarwch arolygu a sicrwydd parhaus AGC, ochr yn ochr â gwaith i ystyried y cynnydd cenedlaethol wrth fynd i’r afael â’r themâu a nodwyd yn yr adroddiad hwn.
Atodiad 1: Rhestr termau
Mae'r rhestr termau hon yn darparu diffiniadau o'r termau allweddol a ddefnyddir drwy gydol yr adroddiad. Ei bwriad yw cefnogi eglurder, cysondeb a dealltwriaeth gyffredin ar draws gwasanaethau mabwysiadu rhanbarthol a chenedlaethol yng Nghymru.
Adolygiadau Diogelu Unedig Sengl
Fframwaith cenedlaethol Cymru sy'n darparu adolygiad diogelu cydlynol sengl pan fydd niwed difrifol neu farwolaeth yn digwydd a phan amheuir achos o gam-drin neu esgeuluso.
Asiantaeth Fabwysiadu Wirfoddol
Asiantaeth fabwysiadu reoleiddiedig, annibynnol sy'n recriwtio, asesu a chefnogi mabwysiadwyr ac sy'n gweithio gydag awdurdodau lleol a Chydweithredfeydd Mabwysiadu Cenedlaethol i sicrhau teuluoedd mabwysiadol i blant.
Bwrdd rheoli rhanbarthol
Yn goruchwylio ac yn llywodraethu'r Gydweithredfa Fabwysiadu Ranbarthol o safbwynt strategol, gan graffu ar berfformiad, sicrhau gwaith partneriaeth effeithiol a chefnogi gwelliannau parhaus.
Canllaw i blant
Dogfen sy'n addas i blant yn esbonio'r hyn y mae'r gwasanaeth mabwysiadu yn ei wneud, beth y gall plant ei ddisgwyl, a phwy fydd yn eu cefnogi.
Canllaw i deuluoedd geni
Dogfen sy'n rhoi gwybodaeth i rieni a pherthnasau geni am y broses fabwysiadu, eu hawliau, beth i'w ddisgwyl, a'r cymorth sydd ar gael iddynt. Mae'n egluro:
- ystyr cyfreithiol mabwysiadu
- yr amserlenni cysylltiedig
- sut mae penderfyniadau'n cael eu gwneud
- sut y gallant gyfrannu at gynllun eu plentyn
- y trefniadau ar gyfer cyswllt ar ôl mabwysiadu
- sut i gael mynediad at wasanaethau eiriolaeth a chymorth.
CAR A (Adroddiad Mabwysiadu Plentyn A)
Yr adroddiad statudol ar gyfer y panel mabwysiadu wrth ystyried ai mabwysiadu yw'r cynllun sefydlogrwydd mwyaf priodol. Mae'n rhoi disgrifiad cynhwysfawr o gefndir, profiadau, hunaniaeth ac anghenion y plentyn, ynghyd â'r rhesymau pam y mae mabwysiadu yn cael ei gynnig.
CAR B (Adroddiad Mabwysiadu Plentyn B)
Yr adroddiad statudol a gaiff ei gwblhau pan fydd proses baru bosibl yn cael ei hystyried. Mae'n nodi gwybodaeth fanwl am anghenion y plentyn, gallu'r darpar fabwysiadwyr i ddiwallu'r anghenion hynny, a sut y bydd y broses baru yn cefnogi lles a llesiant hirdymor y plentyn.
Cydweithredfa Fabwysiadu Ranbarthol
Partneriaeth o awdurdodau lleol a sefydlwyd i ddarparu gwasanaethau mabwysiadu ar sail ranbarthol fel rhan o Wasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru. Mae Cydweithredfeydd Mabwysiadu Cenedlaethol yn ymgymryd â swyddogaethau asiantaeth fabwysiadu, gan gynnwys recriwtio ac asesu mabwysiadwyr, dod o hyd i deuluoedd, paru a darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu, gyda'r nod o sicrhau sefydlogrwydd a gwella canlyniadau i blant.
Cymorth mabwysiadu
Yr ystod o wasanaethau a ddarperir cyn ac ar ôl Gorchymyn Mabwysiadu i blant sy'n cael eu mabwysiadu, teuluoedd mabwysiadol a theuluoedd geni. Gall hyn gynnwys cyngor, ymyriadau therapiwtig, hyfforddiant, cymorth gan gymheiriaid, trefniadau cyswllt, gwaith taith bywyd a gwasanaethau cyfryngol.
Cynlluniau cymorth mabwysiadu
Cynlluniau sy'n nodi anghenion cymorth mabwysiadu asesedig plentyn a'i deulu, y gwasanaethau i'w darparu, a'r trefniadau adolygu. Mae'r rhain yn canolbwyntio ar y plentyn, yn gymesur ac yn cael eu diweddaru i adlewyrchu anghenion newidiol.
Datganiadau o Ddiben
Dogfennau sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith sy'n amlinellu nodau, amcanion a gweithrediadau gwasanaeth mabwysiadu. Rhaid iddynt fod yn gywir, yn hygyrch a chael eu hadolygu'n rheolaidd.
Eiriolaeth
Cymorth i alluogi plant, pobl ifanc, teuluoedd geni a mabwysiadwyr i sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed a bod eu hawliau yn cael eu cynnal. Mae eiriolaeth yn helpu unigolion i ddeall opsiynau, mynegi eu dymuniadau a chymryd rhan ystyrlon mewn penderfyniadau.
Mae mathau yn cynnwys:
- Hunaneiriolaeth
- Eiriolaeth anffurfiol
- Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol.
Gofal a chymorth
Y cymorth a ddarperir gan Gydweithredfa Fabwysiadu Ranbarthol wrth drefnu proses fabwysiadu.
Gofalwr maeth
Unigolyn sydd wedi'i gymeradwyo o dan reoliadau perthnasol i ofalu am blentyn sy'n derbyn gofal ar ran awdurdod lleol.
Gorchmynion Mabwysiadu
Gorchymyn cyfreithiol sy'n rhoi cyfrifoldeb rhiant llawn i fabwysiadwyr cymeradwy ac yn torri'r cysylltiadau cyfreithiol rhwng plentyn a'i rieni geni yn barhaol. Daw'r rhiant/rhieni mabwysiadol yn rhiant/rhieni cyfreithiol i'r plentyn am oes, gan gynnwys ar ôl i'r plentyn gyrraedd 18 oed.
Gorchymyn Lleoli
Gorchymyn llys sy'n awdurdodi awdurdod lleol i leoli plentyn i'w fabwysiadu gyda mabwysiadwyr cymeradwy. Mae'n parhau mewn grym hyd nes y caiff Gorchymyn Mabwysiadu ei wneud, ei ddirymu, neu hyd nes y bydd
y plentyn yn cyrraedd 18 oed.
Gwaith taith bywyd
Gwaith sy'n cynnwys y Llyfr Stori Bywyd a'r Llythyr yn Ddiweddarach Mewn Bywyd, sy'n darparu disgrifiad cydlynol, priodol o ran oedran, o hanes, hunaniaeth a phrofiadau'r plentyn.
Gwasanaethau cyfryngol
Gwasanaethau sy'n cefnogi oedolion sydd wedi cael eu mabwysiadu a pherthnasau geni i gael gafael ar wybodaeth neu drefniadau cyswllt rheoleiddiedig.
Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol
Gwasanaeth mabwysiadu tair haen i Gymru gyfan sy'n dwyn ynghyd dîm canolog cenedlaethol, pum Cydweithredfa Fabwysiadu Ranbarthol, awdurdodau lleol ac Asiantaethau Mabwysiadu Gwirfoddol i ddarparu a gwella gwasanaethau mabwysiadu ledled Cymru. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol.
Gweithwyr cymdeithasol plant
Ymarferwyr awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am blant sy'n derbyn gofal, gan gynnwys y rhai sydd â chynllun ar gyfer mabwysiadu. Maent yn gweithio gyda Chydweithredfeydd Mabwysiadu Rhanbarthol i fwrw ymlaen â chynlluniau gofal, prosesau paru, trefniadau pontio a gwaith taith bywyd.
Gwneuthurwr Penderfyniadau yr Asiantaeth
Uwch-swyddog yr asiantaeth fabwysiadu sy'n gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch a ddylai plentyn gael ei leoli i'w fabwysiadu ac a yw darpar fabwysiadwyr yn addas ar gyfer mabwysiadu, gan ystyried argymhellion y panel mabwysiadu a phob adroddiad perthnasol.
Hunanwerthusiadau
Gwybodaeth a gaiff ei chasglu gan AGC yn ystod arolygiadau a gwerthusiadau o berfformiad er mwyn deall profiadau, barn a safbwyntiau pobl sy'n defnyddio gwasanaeth, yn gweithio ynddo, neu'n gweithio ochr yn ochr ag ef.
Llinellau amser anogaeth ystyriol o drawma
Adnodd a gymeradwywyd gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, sy'n cyflwyno cronoleg sy'n ystyriol o drawma o brofiadau plentyn ac ymatebion sy'n rhoi anogaeth. Caiff ei ddefnyddio i lywio'r broses paru, gwaith cynllunio ar gyfer trefniadau pontio a chymorth mabwysiadu.
Llythyrau yn ddiweddarach mewn bywyd
Llythyrau sy'n briodol o ran oedran ac wedi'u hysgrifennu gan weithiwr cymdeithasol y plentyn, yn egluro profiadau bywyd cynnar, penderfyniadau allweddol, a'r rhesymau dros fabwysiadu, gan ffurfio rhan o Waith Taith Bywyd y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol.
Mwy na Geiriau
Fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer diwallu anghenion plant, teuluoedd ac ymarferwyr o ran y Gymraeg. Mewn gwasanaethau mabwysiadu, mae'n hyrwyddo'r Cynnig Rhagweithiol ac yn sicrhau bod iaith, diwylliant a hunaniaeth yn cael eu hystyried wrth asesu, paru a chefnogi.
Panel Mabwysiadu
Corff amlasiantaeth sy'n goruchwylio gwaith mabwysiadu yn annibynnol. Mae'n ystyried ac yn gwneud argymhellion ynghylch penderfyniadau allweddol, gan gynnwys cymeradwyo darpar fabwysiadwyr a phenderfynu a yw'n addas lleoli plant i gael eu mabwysiadu. Mae'r panel yn dwyn ynghyd weithwyr proffesiynol profiadol ac aelodau annibynnol i sicrhau bod sail gadarn i benderfyniadau, eu bod yn canolbwyntio ar y plentyn, a'u bod yn seiliedig ar wybodaeth lawn a chywir. Rôl gynghorol yw rôl y panel, a chaiff y penderfyniadau terfynol eu gwneud gan wneuthurwr penderfyniadau yr asiantaeth.
Paru
Y broses o nodi'r teulu mabwysiadol mwyaf addas ar gyfer plentyn yn seiliedig ar ei anghenion, ei hunaniaeth a'i brofiadau, a gallu'r mabwysiadwyr i ddiwallu'r anghenion hynny nawr ac yn y dyfodol.
Plentyn
Person o dan 18 oed.
Pontio
Y broses strwythuredig a gynllunnir sy'n cefnogi plentyn wrth symud o ofal maeth i'w deulu mabwysiadol, gan gynnwys cyflwyniadau a threfniadau trosglwyddo wedi'u teilwra at ei oedran, ei anghenion emosiynol a'i brofiadau bywyd.
Rheolwr mabwysiadu rhanbarthol
Yn arwain swyddogaethau gweithredol a strategol y Gydweithredfa Fabwysiadu Ranbarthol, gan gefnogi trefniadau sicrhau ansawdd, prosesau ar gyfer goruchwylio'r gweithlu, gwaith partneriaeth, a gweithredu canllawiau cenedlaethol yn gyson.
Sefydlogrwydd Cynnar Cymru
Fframwaith y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol sy'n cefnogi sefydlogrwydd cynnar drwy osod plant gyda gofalwyr sydd wedi'u cymeradwyo i fod yn ofalwyr maeth ac yn ddarpar fabwysiadwyr lle bynnag y bo'n bosibl.
Atodiad 2: Methodoleg
Trosolwg o'r dull
Mae'r adolygiad thematig cenedlaethol hwn yn seiliedig ar gorff sylweddol o dystiolaeth a gasglwyd o'r pum Cydweithredfa Fabwysiadu Ranbarthol yng Nghymru. Nid arolygwyd Tîm Canolog y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol na'r Asiantaethau Mabwysiadu Gwirfoddol fel rhan o'r fethodoleg hon. Cafodd y fethodoleg ei chynllunio i ddarparu dealltwriaeth gynhwysfawr o'r ffordd y caiff gwasanaethau mabwysiadu eu darparu, eu profi a'u goruchwylio, gyda ffocws penodol ar gysondeb, ansawdd, a phrofiadau bywyd plant a theuluoedd.
Gwaith maes (cyfweliadau, cofnodion, paneli)
Cyflawnwyd y gwaith maes yn ystod arolygiadau unigol o bob Cydweithredfa Fabwysiadu Ranbarthol. Cynhaliwyd yr ymweliadau rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2025 ac roeddent yn cynnwys:
- Adroddiad arolygu: Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru
- Adroddiad arolygu: Gwasanaeth Mabwysiadu De-ddwyrain Cymru
- Adroddiad arolygu: Gwasanaeth Mabwysiadu Bae'r Gorllewin
- Adroddiad arolygu: Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
- Adroddiad arolygu: Y Gwasanaeth Mabwysiadu yn y Fro, y Cymoedd a Chaerdydd.
Yn ystod y gwaith maes, aeth yr arolygwyr ati i adolygu cofnodion achosion, arsylwi ar ymarfer, ac ymgysylltu'n uniongyrchol â phlant, pobl ifanc, teuluoedd geni a theuluoedd mabwysiadol, ymarferwyr, rheolwyr a phartneriaid.
Lluniodd AGC hunanwerthusiad a'i ddosbarthu i bob Cydweithredfa Fabwysiadu Ranbarthol i'w gwblhau cyn y gweithgarwch arolygu. Mae hunanwerthusiadau yn rhoi cipolwg ar gryfderau rhanbarthol, meysydd i’w gwella ac effeithiolrwydd systemau lleol. Roedd yr hunanwerthusiadau o gymorth wrth lywio llinellau ymholi, gan ddarparu cyd-destun hanfodol ar gyfer gweithgarwch arolygu.
Aeth yr arolygwyr ati hefyd i adolygu dogfennaeth a gyflwynwyd gan y Cydweithredfeydd Mabwysiadu Rhanbarthol cyn yr ymweliadau. Drwy gydol y gwaith maes, cynhaliwyd cyfweliadau a grwpiau ffocws gydag amrywiaeth eang o weithwyr proffesiynol, gan gynnwys ymarferwyr y Cydweithredfeydd Mabwysiadu Rhanbarthol, timau gwasanaethau plant awdurdodau lleol, partneriaid iechyd ac addysg, cynrychiolwyr o'r trydydd sector, aelodau etholedig ac aelodau o'r paneli mabwysiadu. Arsylwyd ar baneli mabwysiadu a grwpiau cymorth.
Cynhaliwyd adolygiad manwl o gofnodion gofal cymdeithasol, a oedd yn cynnwys adolygu 83 o gofnodion mabwysiadu ac olrhain 21 ohonynt. Roedd y gweithgarwch olrhain weithiau'n cynnwys cwrdd â phlant, rhieni mabwysiadol, rhieni geni a gofalwyr maeth lle y bo'n briodol. Gwnaeth yr arolygwyr hefyd siarad ag oedolion a phlant sydd â phrofiad uniongyrchol o fabwysiadu, gan gynnwys oedolion a phlant sydd wedi'u mabwysiadu, rhieni geni, mabwysiadwyr a gofalwyr maeth.
Cafodd arolygon eu dosbarthu i ymarferwyr a rheolwyr yn y Cydweithredfeydd Mabwysiadu Rhanbarthol a'r awdurdodau lleol, ac i fabwysiadwyr, teuluoedd geni a rhanddeiliaid perthnasol eraill, megis Asiantaethau Mabwysiadu Gwirfoddol a phartneriaid iechyd ac addysg. Yn ogystal, ystyriwyd pa mor dda y mae polisïau a chanllawiau ymarfer da y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn cael eu rhoi ar waith yn ymarferol.
Roedd y dull aml-haenog hwn yn ffordd o driongli'r dystiolaeth a gafwyd wrth arsylwi ar ymarfer, adolygu dogfennaeth, a chasglu data arolygon a thystiolaeth uniongyrchol gan bobl sy'n defnyddio neu'n darparu gwasanaethau mabwysiadu. Drwy’r fethodoleg hon, cawsom ddarlun cyfoethog a chytbwys o ymarfer mabwysiadu ledled Cymru a llwyddwyd i nodi'r canfyddiadau thematig, y cryfderau a’r meysydd i’w gwella a amlinellir yn yr adroddiad hwn.
Cyfyngiadau
Manylir ar y dull a ddefnyddir i gasglu tystiolaeth ar gyfer arolygiadau'r Cydweithredfeydd Mabwysiadu Rhanbarthol yn yr atodiadau.
Roedd y cofnodion a welsom yn canolbwyntio'n bennaf ar y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025.
Ni chafodd Asiantaethau Mabwysiadu Gwirfoddol eu harolygu'n benodol fel rhan o'r fethodoleg hon. Fodd bynnag, gwnaeth yr arolygiadau ystyried profiadau plant a theuluoedd pan oedd plant wedi cael eu lleoli â theuluoedd mabwysiadol drwy Asiantaethau Mabwysiadu Gwirfoddol.
Mae mabwysiadu trawswladol yn cynrychioli cyfran gymharol fach o weithgarwch mabwysiadu yng Nghymru ac felly nid oedd yn brif ffocws i'r adolygiad hwn.
Y Gymraeg
Mae AGC yn ymrwymedig i ddarparu'r cynnig rhagweithiol ar gyfer y Gymraeg, a chafodd y cynnig rhagweithiol ei dderbyn ar adegau wrth arolygu'r Cydweithredfeydd Mabwysiadu Cenedlaethol. Gwnaethom gynnal cyfweliadau drwy gyfrwng y Gymraeg.