Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Adolygu a myfyrio – effeithiau hunanwerthuso

Ymarferwyr yn sicrhau bod rhieni a gofalwyr yn cael cyfleoedd i roi adborth ar bob agwedd ar y ddarpariaeth a phrofiad eu plentyn yn y lleoliad.

Students Learning from Teacher

Disgrifiad o natur y strategaeth neu'r gweithgaredd

Mae trefniadau hunanwerthuso bob amser wedi bod yn rhan annatod o waith Caban Kingsland. Mae'r ymarferwyr yn adolygu eu hymarfer yn barhaus er mwyn sicrhau bod y broses yn parhau i adlewyrchu'r gwasanaeth ar y pryd. Maent yn ystyried yr hyn sydd wedi digwydd ac yn rhannu syniadau i annog canlyniadau llesiant, ymgysylltu ac addysg pob un o'r plant y mae'n gofalu amdanynt. Mae hyn yn diwallu anghenion unigol pob plentyn ac yn galluogi'r tîm cyfan i ddeall y ffyrdd gorau posibl o greu darpariaeth sy'n ymateb i'r datblygiadau diweddaraf ym maes addysg a gofal y blynyddoedd cynnar.

Pa effaith y mae'r gwaith hwn wedi'i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau'r plant?

Mae'n hanfodol bod yr arweinwyr yn sicrhau bod y tîm cyfan o staff yn teimlo perchnogaeth dros y broses hunanwerthuso. Nid dim ond arfer sy'n cymryd amser ac ymdrech ydyw. Mae'n broses sy'n galluogi pawb i fyfyrio ar lwyddiannau ac agweddau y mae angen eu datblygu ymhellach. Ar y dechrau, mae hunanwerthuso yn helpu'r ymarferwyr i nodi'r meysydd y mae angen eu gwella a gall hyn fod yn broses anodd wrth iddynt geisio sicrhau bod y ddarpariaeth yn llwyddo.

Ond gall gwerthuso'n rheolaidd dalu ar ei ganfed. Mae nodi meysydd penodol i'w gwella, cyflwyno newidiadau, myfyrio a rhoi gwelliannau pellach ar waith yn atgoffa'r ymarferwyr eu bod yn gwneud gwaith da. Mae'n gyfle i gofio am y profiadau ardderchog a'r heriau y gwnaethant eu nodi a'r newidiadau a gyflwynwyd ganddynt ac y gwnaethant weithio'n galed i'w rhoi ar waith. Hunanwerthuso, yn ei ffordd ei hun, yw'r adnodd datblygiad personol parhaus gorau sydd ar gael.

Heriau

Nid yw'n hawdd gweithio'n agos gydag eraill ac yna gwestiynu eu hymarfer, yn enwedig os byddant yn gwneud yr hyn y maent bob amser wedi'i wneud. Mae newidiadau i'r cwricwlwm, deddfwriaeth, deddfwriaeth anghenion dysgu ychwanegol ac effaith COVID-19 yn nodi bod angen ystyried newidiadau yn barhaus, fel tîm. Mae'n hanfodol bod yr arweinwyr yn cynnwys pob ymarferydd yn y broses, gan roi amser iddo nodi ei ddatblygiad personol a'i anghenion dysgu proffesiynol ei hun. Mae sicrhau bod pob ymarferydd yn ymgysylltu â'r broses yn galluogi pawb i fyfyrio ar feysydd sy'n dangos yr ymarfer gorau. Caiff hyn effaith gadarnhaol ar y tîm sy'n teimlo ei fod yn cael ei gynnwys ac wedi'i rymuso i lywio'r ddarpariaeth.

Mae ymarferwyr yn sicrhau bod rhieni a gofalwyr yn cael cyfleoedd i roi adborth ar bob agwedd ar y ddarpariaeth a phrofiad eu plentyn yn y lleoliad. Maent yn cynnig cyfleoedd i gael adborth gan bartneriaid ac asiantaethau eraill y maent yn gweithio gyda nhw. Mae hyn hefyd yn bwydo i mewn i'r cyfleoedd i ddatblygu ymwybyddiaeth o ymarfer llwyddiannus ac yn helpu i nodi meysydd i'w gwella. Nid yw'r ymarferwyr yn anghofio dangos tystiolaeth o'r adborth cadarnhaol y maent wedi'i gael, ac maent yn ymfalchïo yn hyn wrth iddynt symud ymlaen. Wrth i bethau ddatblygu yn y ddarpariaeth, mae'r ymarferwyr yn rhoi'r newidiadau bach hynny ar waith. Gallai fod mor syml â sut maent yn ymateb i rywbeth y mae plentyn wedi'i ddweud neu wedi'i wneud. Fel adnodd ar gyfer myfyrio, y pethau bach sy'n gosod y safonau ar gyfer ymarfer cynhwysol ac sy'n creu dyfodol gwell i'r plant yn y ddarpariaeth.

Gall gwaith papur fod yn heriol ar y gorau. Gall y broses hunanwerthuso fod yn llethol. Fodd bynnag, gan fod pob diwrnod yn wahanol a gan y gall ymennydd ymarferwyr gynnwys cymaint o wybodaeth, maent yn nodi cwestiynau ar bapur; pa mor dda rydym yn ei wneud? sut rydym yn gwybod hynny? Sut gallwn ni wella? Drwy ddadansoddi eu gwaith a symud tuag at gasgliad cadarnhaol, maent yn ceisio nodi'r effaith gadarnhaol ar y lleoliad. Bydd hunanwerthuso yn nodi'r ffordd orau ymlaen yn glir ac yn atgoffa pawb o'r gwaith gwych y maent yn ei wneud. Maent yn mwynhau gwybod bod popeth y maent yn ei wneud er budd gorau'r plant a'u bod yn symud tuag at gasgliad cadarnhaol fel tîm. Yna, maent yn symud ymlaen at y mater nesaf.