Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 25 Mehefin 2026
  • Newyddion

AGC yn cyhoeddi Strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu newydd ar gyfer 2026-2030

Heddiw, mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi cyhoeddi ei Strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu ar gyfer 2026-2030, sy'n nodi sut y byddwn yn cynnal ac yn gwella ein sefyllfa fel llais gweladwy, dibynadwy a dylanwadol yn y dirwedd gofal yng Nghymru.

Mae'r strategaeth yn ymateb i amgylchedd cyfathrebu sy'n newid yn gyflym ac wedi'i lywio gan drawsnewidiad digidol, disgwyliadau newydd ymhlith y cyhoedd, a galw cynyddol am dryloywder ac atebolrwydd gan gyrff cyhoeddus.

Yn seiliedig ar bedair thema allweddol, mae'r strategaeth yn amlinellu ein hymrwymiad i'r canlynol:

  • datblygu ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r hyn y mae AGC yn ei wneud a sut y gallwn helpu pobl i wneud penderfyniadau gwybodus am ofal
  • galluogi proses ymgysylltu ddwyffordd ystyrlon gyda phobl sy'n defnyddio gwasanaethau a darparwyr gofal
  • atgyfnerthu ein prosesau cyfathrebu digidol a chynhwysol i sicrhau nad oes neb yn cael ei eithrio
  • datblygu partneriaethau strategol sy'n cyrraedd mwy o bobl ac yn cynyddu ein heffaith