Arolygiad yn nodi cryfderau a meysydd i'w gwella yng Ngwasanaeth Mabwysiadu De-ddwyrain Cymru
Mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cyhoeddi ei adroddiad arolygu ar Wasanaeth Mabwysiadu De-ddwyrain Cymru, gan nodi enghreifftiau o ymarfer da a meysydd i'w gwella. Canolbwyntiodd yr arolygiad ar sut mae'r gwasanaeth yn hybu llesiant a diogelwch plant drwy leoliadau mabwysiadu parhaol.
Cynhaliodd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) arolygiad o Wasanaeth Mabwysiadu De-ddwyrain Cymru rhwng 30 Mehefin a 3 Gorffennaf 2025. Cydweithredfa ranbarthol yw Gwasanaeth Mabwysiadu De-ddwyrain Cymru, sy'n cwmpasu awdurdodau lleol Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen, ac mae'n rhan o Wasanaeth Mabwysiadau Cenedlaethol Cymru.
Canolbwyntiodd yr arolygiad ar ba mor dda y mae'r gwasanaeth yn hyrwyddo llesiant a diogelwch plant drwy gynnig lleoliadau mabwysiadu parhaol, gwerthuso ansawdd y gofal a chymorth a ddarperir i blant, teuluoedd biolegol a mabwysiadwyr, yn ogystal â'r trefniadau arweinyddiaeth a llywodraethu.
Yr hyn a nodwyd gennym
Nododd yr arolygwyr fod Gwasanaeth Mabwysiadu De-ddwyrain Cymru yn wasanaeth sy'n canolbwyntio ar y plentyn a bod ymdeimlad cryf o ddiben ac arweinyddiaeth glir ar waith. Disgrifiwyd yr ymarferwyr fel unigolion ymrwymedig, gwybodus a chynhwysol, a nodwyd eu bod yn deall y cyfrifoldebau diogelu yn glir. Mae'r gwasanaeth yn elwa ar weithlu sefydlog a phrofiadol, ac mae ethos cryf o weithio mewn partneriaeth â theuluoedd biolegol a mabwysiadwyr.
Nodwyd bod yr asesiadau o ddarpar fabwysiadwyr yn gadarn ac yn ddadansoddol, a'u bod yn canolbwyntio ar anghenion y plant. Roedd y paneli mabwysiadu yn cael eu rhedeg yn effeithiol a'u cefnogi gan gyngor cyfreithiol a meddygol, ac roedd aelodau'r panel yn cael cynnig hyfforddiant gan y gwasanaeth. Roedd y paneli yn cynnwys cyfraniadau gan rieni sydd wedi mabwysiadu a gweithwyr cymorth rhieni biolegol a chawsant eu canmol gan yr ymarferwyr a'r mabwysiadwyr.
Nodwyd bod y gwasanaethau cymorth mabwysiadu yn un o gryfderau'r gwasanaeth hefyd. Roedd y rhain yn cynnwys ymyriadau a arweinir gan seicoleg, grwpiau cymorth cymheiriaid a dulliau therapiwtig fel Therachwarae. Dywedodd un rhiant sydd wedi mabwysiadu fod y cymorth yn “invaluable”, a nododd yr arolygwyr fod y gwasanaethau hyn yn cyfrannu at sefydlogrwydd lleoliadau.
Fodd bynnag, nododd yr arolygiad sawl maes i'w wella hefyd.
Yr hyn y mae angen ei wella
Mae recriwtio mabwysiadwyr yn dal i beri pryder sylweddol. Er gwaethaf ymdrechion amlwg, nid yw Gwasanaeth Mabwysiadu De-ddwyrain Cymru wedi datblygu cronfa ddigonol o fabwysiadwyr i ddiwallu anghenion amrywiol a chymhleth plant hyd yma. Roedd oedi cyn penodi swyddog recriwtio a diffyg strategaeth farchnata ddynamig a gaiff ei hadolygu'n rheolaidd yn ffactorau a oedd yn cyfrannu at hyn.
Nid oedd y prosesau paru, er eu bod yn cael eu cefnogi gan adnoddau sy'n ystyriol o drawma, bob amser yn amserol nac yn gyson. Nododd yr arolygwyr amrywioldeb yn y defnydd o adnoddau fel Link Maker ac yn ansawdd Adroddiadau Mabwysiadu Plant. Cafodd yr oedi o ran anfon achosion at y panel ei nodi hefyd.
Nododd yr arolygiad hefyd nad oedd y ‘Cynnig Rhagweithiol’ ar gyfer y Gymraeg yn cael ei hyrwyddo'n gyson, ac nad oedd dogfennau allweddol yn bodloni'r gofynion rheoliadol yn llawn. Er bod gwybodaeth yn hygyrch ar y cyfan, dim ond ar gais y caiff deunyddiau a gaiff eu cyfieithu eu darparu fel arfer.
Y camau nesaf
Mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi gofyn i Wasanaeth Mabwysiadu De-ddwyrain Cymru gyflwyno cynllun gwella yn amlinellu'r ffordd y bydd yn mynd i'r afael â'r canfyddiadau yn yr adroddiad. Caiff y cynllun hwn ei ddefnyddio i fesur cynnydd a llywio ffocws arolygiadau yn y dyfodol.
Darllenwch yr adroddiad arolygu llawn, sydd ar gael drwy ddilyn y ddolen isod, i weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion.