Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Adroddiad arolygu: Gwasanaeth Mabwysiadu De-ddwyrain Cymru

Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau ein harolygiad o Wasanaeth Mabwysiadu De-ddwyrain Cymru a gynhaliwyd rhwng 30 Mehefin a 3 Gorffennaf 2025.

Canolbwyntiodd yr arolygiad ar sut mae'r gwasanaeth yn hybu llesiant a gofal a chymorth plant drwy leoliadau mabwysiadu parhaol yn ogystal â'r trefniadau arweinyddiaeth a llywodraethu.

I weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion, darllenwch yr adroddiad llawn isod.