Arolygiaeth Gofal Cymru yn cwblhau archwiliad sicrwydd o wasanaethau plant Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Roedd yr arolygiad, a gynhaliwyd rhwng 17 a 19 Tachwedd 2025, yn asesu perfformiad yr awdurdod lleol wrth gyflawni ei ddyletswyddau a'i swyddogaethau yn unol â'r ddeddfwriaeth.
Rydym wedi cwblhau archwiliad sicrwydd o wasanaethau plant Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ddiweddar.
Cryfderau allweddol a nodwyd
- Mae arweinwyr ac ymarferwyr yn rhoi dull seiliedig ar gryfderau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ar waith, gan hyrwyddo annibyniaeth a llais pobl. Mae'r defnydd o adnoddau fel 'straeon cymdeithasol' a'r fenter 'Yr Hyn sy'n Bwysig' yn adlewyrchu dull strwythuredig o gofnodi lleisiau unigolion a theilwra gwasanaethau at anghenion plant a theuluoedd.
- Mae arweinyddiaeth ym maes gwasanaethau plant yn weladwy ac yn effeithiol ar bob lefel, gydag ymarferwyr yn nodi bod rheolwyr yn gefnogol ac yn hawdd mynd atynt. Mae'r rhan fwyaf o ymarferwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi, a dywedwyd bod trefniadau goruchwylio yn fyfyriol ac yn ddefnyddiol.
- Mae dulliau ymyrryd yn gynnar ac atal ar waith ym mhob rhan o'r gwasanaeth ac maent yn gryfder amlwg. Mae ymarferwyr yn nodi anghenion sy'n codi yn brydlon ac yn gweithio mewn ffordd ragweithiol gyda theuluoedd i atal achosion rhag gwaethygu.
- Mae'r trefniadau ar gyfer gweithio mewn partneriaeth yn gadarn, gyda strwythurau llywodraethu clir ac ethos a rennir mewn perthynas â diogelu a hybu llesiant plant. Mae'r awdurdod lleol yn gofyn am adborth gan bartneriaid, plant a theuluoedd mewn ffordd ragweithiol ac yn ymateb i'r adborth hwnnw.
Meysydd y mae angen eu datblygu ymhellach
- Rhaid i'r awdurdod lleol barhau i fonitro amseroldeb ac effeithiolrwydd trafodaethau strategaeth ynghylch ymddygiad niweidiol o safbwynt rhywiol er mwyn sicrhau yr eir i'r afael ag unrhyw bryderon diogelu yn ddi-oed.
- Dylai'r awdurdod lleol atgyfnerthu ei ddull gweithredu er mwyn sicrhau bod llais pob plentyn, yn enwedig plant ifanc iawn a phlant sy'n rhan o grwpiau mwy o frodyr a chwiorydd, yn cael ei nodi a'i fod yn llywio cynlluniau gofal a chymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
- Dylai'r awdurdod lleol weithio gyda phartneriaid i atgyfnerthu prosesau ymgysylltu cyson fel bod pob asiantaeth yn chwarae rhan lawn wrth ddarparu ac adolygu gwasanaethau a monitro cynlluniau diogelwch.
Y camau nesaf
Rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol ystyried y meysydd i'w gwella a nodwyd a chymryd camau priodol i fynd i'r afael â'r meysydd hyn a'u gwella. Byddwn yn monitro cynnydd drwy ein gweithgarwch adolygu perfformiad parhaus gyda'r awdurdod lleol. Lle y bo'n berthnasol, rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol rannu'r ymarfer cadarnhaol a nodwyd ag awdurdodau lleol eraill, er mwyn rhannu'r gwersi a ddysgwyd a helpu i lywio gwelliant parhaus mewn gwasanaethau statudol ledled Cymru.
Mae'r Archwiliad Sicrwydd yn dilyn y cyfrifoldebau statudol a amlinellir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac yn helpu i bennu pa mor effeithiol y mae awdurdodau lleol yn cefnogi ac yn cynnal gwelliannau i bobl a gwasanaethau.