Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 9 Medi 2025
  • Newyddion

Arolygiaeth Gofal Cymru yn cwblhau gwiriad gwella o wasanaethau cymdeithasol i oedolion Cyngor Sir Penfro

Diben yr arolygiad, a gynhaliwyd rhwng 8 a 9 Gorffennaf 2025, oedd asesu'r cynnydd a wnaed wrth fynd i'r afael â meysydd i'w gwella a nodwyd yn flaenorol.

Gwnaethom gwblhau gwiriad gwella o wasanaethau cymdeithasol i oedolion Cyngor Sir Penfro yn ddiweddar, yn dilyn yr Arolygiad Gwerthuso Perfformiad a gynhaliwyd ym mis Ebrill 2024.

Cryfderau allweddol a nodwyd

  • Mae'r asesiadau a'r cynlluniau gofal o ansawdd da. Mae'r sgyrsiau am 'Yr Hyn sy'n Bwysig' yn rhoi darlun clir o amgylchiadau a heriau pob person, sy'n arwain at broses cynllunio gofal sy'n seiliedig ar wybodaeth ac wedi'i theilwra at yr unigolyn.
  • Mae'r cynlluniau gofal a chymorth yn fanwl ac yn gynhwysfawr. Maent yn cynnwys dadansoddiadau penodol o'r gofal personol sydd ei angen i helpu pobl i gynnal eu hannibyniaeth.
  • Mae'r awdurdod lleol yn ymrwymedig i feithrin partneriaethau cydweithredol â sefydliadau yn y trydydd sector. Mae ymdrechion sylweddol wedi'u gwneud i ddefnyddio gwasanaethau'r trydydd sector i ddarparu help cynnar a chymorth ataliol.

Meysydd y mae angen eu datblygu ymhellach

  • Dylai'r arweinwyr wella'r dull a ddefnyddir i gyfathrebu a chydweithio â'r staff ymhellach.
  • Rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau bod asesiadau yn canolbwyntio'n llwyr ar nodi a deall rôl gofalwyr anffurfiol a'r ffordd y mae hyn yn gysylltiedig â'r gofal a'r cymorth a ddarperir.

Y camau nesaf

Rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol ystyried y meysydd i'w gwella a nodwyd a chymryd camau priodol i fynd i'r afael â'r meysydd hyn a'u gwella. Byddwn yn monitro cynnydd drwy ein gweithgarwch adolygu perfformiad parhaus gyda'r awdurdod lleol. 

Mae'r Gwiriad Gwella yn dilyn y cyfrifoldebau statudol a amlinellir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac yn helpu i bennu pa mor effeithiol y mae awdurdodau lleol yn cefnogi ac yn cynnal gwelliannau i bobl a gwasanaethau.