Arolygiaeth Gofal Cymru yn cwblhau gwiriad gwella o wasanaethau oedolion Sir Fynwy
Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi cwblhau gwiriad gwella o wasanaethau oedolion Cyngor Sir Fynwy yn ddiweddar yn dilyn yr Arolygiad Gwerthuso Perfformiad a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf 2022.
Diben yr arolygiad, a gynhaliwyd rhwng 31 Mawrth a'r 2 Ebrill 2025, oedd asesu'r cynnydd a wnaed wrth fynd i'r afael â meysydd i'w gwella a nodwyd yn flaenorol.
Cryfderau allweddol a nodwyd
- Mae'r cyngor wedi llwyddo i sefydlu dull seiliedig ar le ac i roi strategaeth gomisiynu effeithiol ar waith sy'n canolbwyntio ar effeithlonrwydd a chymorth i ddarparwyr
- Mae argaeledd cymorth cartref wedi gwella'n sylweddol ers 2022
- Datblygu llwybr ailalluogi sy'n darparu cymorth ar gyfer pob atgyfeiriad, gan helpu pobl i gynnal eu hannibyniaeth gartref a hwyluso'r broses o ryddhau cleifion o'r ysbyty mewn modd amserol
- Mae tystiolaeth yn dangos bod y dull hwn wedi lleihau neu liniaru'r angen am gymorth parhaus.
Meysydd y mae angen eu datblygu ymhellach
- Mae angen gwella chwilfrydedd gweithwyr proffesiynol mewn perthynas â nodi risgiau ac archwilio, gan mai dim ond ychydig o gofnodion oedd yn cynnwys risgiau a chynlluniau wrth gefn
- Mae angen i'r cyngor sicrhau bod hyfforddiant ategol ar gael i wella dulliau dadansoddi risg
- Cafwyd ymatebion cymysg am ddatblygiadau i'r gwasanaeth wrth ymgysylltu a chyfathrebu â'r staff, gyda rhai ohonynt yn gwerthfawrogi fforymau ymarfer ond yn dymuno cael sesiynau'n amlach
- Mae'r cymorth i ofalwyr yn dangos ymarfer cymysg o ran cydnabod hawliau i gael asesiad ffurfiol, a dim ond ychydig o asesiadau oedd yn cynnwys canlyniadau wedi'u cydgynhyrchu.
Mae'r arolygwyr wedi argymell y dylai'r cyngor ddatblygu model gweithio cliriach i hyrwyddo ymarfer seiliedig ar gryfderau gyda mwy o gydgynhyrchu. Gwnaethant hefyd gynghori y dylid esbonio'r cymorth sydd ar gael i ofalwyr a sefydlu trefniadau i sicrhau y caiff asesiadau gofalwyr eu cynnig a'u cwblhau'n brydlon.
Mae tîm arwain y cyngor wedi dangos ymwybyddiaeth o bryderon y staff ac mae eisoes wedi rhoi strategaeth gyfathrebu ar waith yn ogystal â chyfleoedd hyfforddiant gwell. Mae AGC wedi annog yr arweinwyr i barhau i ganolbwyntio ar ymgysylltu â'r staff, atgyfnerthu cynigion hyfforddiant, a chydgynhyrchu cynlluniau datblygu gwasanaethau er mwyn sicrhau gweledigaeth a rennir.
Mae'r Gwiriad Gwella yn dilyn y cyfrifoldebau statudol a amlinellir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac yn helpu i bennu pa mor effeithiol y mae awdurdodau lleol yn cefnogi ac yn cynnal gwelliannau i bobl a gwasanaethau.