Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Llythyr gwiriad gwella awdurdod lleol: Gwasanaethau oedolion Cyngor Sir Fynwy

Mae'r llythyr hwn yn crynhoi canfyddiadau ein harolygiad gwiriad gwella o wasanaethau oedolion Cyngor Sir Fynwy ym mis Ebrill 2025.

Gwnaethom gynnal yr arolygiad gwiriad gwella hwn rhwng 31 Mawrth a'r 2 Ebrill 2025, er mwyn adolygu'r cynnydd a wnaed gan yr awdurdod lleol yn dilyn ein harolygiad gwerthuso perfformiad ym mis Gorffennaf 2022.

Rydym yn ymgymryd â gweithgarwch arolygu yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014; llinellau ymholi allweddol; a'r safonau ansawdd yn y Cod Ymarfer mewn perthynas â gwella gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru a pherfformiad y gwasanaethau cymdeithasol hynny. Mae hyn yn ein helpu i bennu pa mor effeithiol yw awdurdodau lleol wrth gefnogi, mesur, a chynnal gwelliannau i bobl ac mewn gwasanaethau.

I weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion, darllenwch y llythyr isod.