Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 4 Medi 2025
  • Newyddion

Arolygiaeth Gofal Cymru yn cwblhau gwiriad gwella o wasanaethau plant Pen-y-bont ar Ogwr

Gwnaethom arolygu gwasanaethau plant Pen-y-bont ar Ogwr rhwng 23 a 25 Mehefin 2025 i asesu'r cynnydd a wnaed yn erbyn meysydd i'w gwella a nodwyd yn flaenorol.

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi nodi gwelliannau sylweddol i wasanaethau plant Pen-y-bont ar Ogwr, yn arbennig o ran sefydlogrwydd y gweithlu a'r prosesau sicrhau ansawdd gan fod trefniadau arweinyddiaeth cyson ar waith a buddsoddiadau wedi'u gwneud i'r gweithlu, yn ogystal â meysydd y mae angen eu datblygu ymhellach.

Mae'r arolygiad hwn yn dilyn Arolygiad Gwerthuso Perfformiad a gynhaliwyd ym mis Mai 2022 ac Arolygiad ar y Cyd o Drefniadau Amddiffyn Plant a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2023.

Gwelliannau allweddol a nodwyd

Nododd ein harolygiad bod yr awdurdod lleol wedi datblygu o fod â phrinder sylweddol o staff i fod â gweithlu sy'n gynyddol sefydlog. Hwn yw'r gwelliant mwyaf sylweddol ers ein harolygiad blaenorol.

Mae niferoedd y staff asiantaeth wedi gostwng yn sylweddol o 41% yn 2023 i 7% yn unig erbyn mis Mehefin 2025. 

Nododd ein harolwg staff y byddai 86% o gyflogeion yn argymell Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel lle i weithio ynddo i ffrind, sy'n dangos bod morâl y staff a boddhad yn y gwaith wedi gwella.

Mae'r awdurdod lleol wedi rhoi rhaglen 'tyfu eich hun' a rhaglen recriwtio rhyngwladol ar waith yn llwyddiannus ar gyfer gwaith cymdeithasol. Mae'r ffocws parhaus hwn ar lesiant y gweithlu ac ansawdd yr ymarfer yn ategu capasiti'r awdurdod lleol i fwrw ymlaen â gwelliannau a'u cynnal.

Nodwyd gennym fod yr awdurdod lleol yn ymateb i ymholiadau diogelu mewn modd amserol, gydag ymweliadau'n cael eu cynnal â bron pob plentyn yn unol â gofynion Gweithdrefnau Diogelu Cymru. 

Mae'r Hwb Diogelu Amlasiantaeth yn hwyluso gwaith partneriaeth effeithiol rhwng asiantaethau.

Mae partneriaid gweithredol yn cydweithio'n dda â'i gilydd ac mae hyder yn y penderfyniadau a wneir ym maes diogelu. Caiff hyn ei ategu gan systemau uwchgyfeirio effeithiol a diwylliant iach o her broffesiynol drwy gyfarfodydd amlasiantaeth rheolaidd.

Mae cynllun strategol 'Ystyried y Teulu' yr awdurdod lleol yn cyflwyno gwybodaeth, cyngor a gwasanaethau cymorth a help cynnar, a chymorth lleol integredig. Mae dangosyddion cynnar yn dangos y cafwyd effaith gadarnhaol, gan gynnwys gostyngiad o 16% yn nifer y plant a ddyrannwyd i dimau arbenigol a gostyngiad o 48% yn nifer y dyraniadau amddiffyn plant.

Gwnaeth 92% o blant a oedd yn cael cymorth gan wasanaethau ar ffiniau gofal yn 2024-25 osgoi ymuno â'r system ofal. Mae hyn yn dangos bod ymyriadau cynnar yn diwallu anghenion plant ar yr adeg gywir ac yn lleihau'r pwysau ar wasanaethau statudol.

Meysydd y mae angen eu datblygu ymhellach

Er ein bod yn cydnabod y gwelliannau hyn, nododd ein harolygiad rai meysydd y mae angen eu datblygu ymhellach. 

Mae'r ymarfer yn amrywio ar draws timau o hyd, sy'n golygu bod rhai plant a theuluoedd yn profi effaith gadarnhaol gwelliannau i raddau mwy nag eraill. Rhaid i'r awdurdod lleol barhau i weithio i sicrhau ymarfer cyson ymhlith pob aelod o'r staff ac ar draws y timau.

Mae digonolrwydd lleoliadau yn her o hyd, ac mae angen gwneud gwaith parhaus i ddatblygu lleoliadau gofal maeth a lleoliadau preswyl digonol, yn benodol ar gyfer plant sydd â'r anghenion mwyaf.

Y camau nesaf

Rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol ystyried y meysydd i'w gwella a nodwyd a chymryd camau priodol i fynd i'r afael â nhw. Byddwn yn monitro cynnydd drwy ein gweithgarwch adolygu perfformiad parhaus.