Arolygiaeth Gofal Cymru yn cwblhau gwiriad gwella o wasanaethau plant Sir y Fflint
Diben yr arolygiad, a gynhaliwyd rhwng 14 a 16 Gorffennaf 2025, oedd asesu'r cynnydd a wnaed wrth fynd i'r afael â meysydd i'w gwella a nodwyd yn flaenorol.
Gwnaethom gwblhau gwiriad gwella o wasanaethau plant Sir y Fflint yn ddiweddar, yn dilyn yr Arolygiad Gwerthuso Perfformiad a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2023.
Roedd yr arolygiad hwn yn rhan o'n rhaglen waith wedi'i chynllunio ac nid oedd yn gysylltiedig ag unrhyw achosion unigol.
Canfyddiadau allweddol
Nododd ein gwiriad gwella ddarlun cymysg, yn ogystal â meysydd i'w gwella ochr yn ochr â phryderon pwysig y mae angen rhoi sylw iddynt.
Meysydd y mae'n rhaid eu gwella
- Rhaid i'r awdurdod lleol barhau ag ymdrechion i sicrhau bod gweithlu digonol, cyson, cymwys a chymwysedig ar waith i gyflawni ei ddyletswyddau statudol.
- Rhaid i'r awdurdod lleol fodloni gofynion GDC (Gweithdrefnau Diogelu Cymru), parhau i oruchwylio perfformiad yn agos a chymryd pob cam rhesymol i leihau'r siawns y bydd unrhyw oedi.
- Dylai'r awdurdod lleol sicrhau bod pob asiantaeth berthnasol yn cael ei gwahodd yn gyson i gyfarfodydd strategaeth.
Meysydd i'w gwella a nodwyd
- Mae arweinwyr yn hyrwyddo diwylliant cadarnhaol drwy arwain mewn ffordd dosturiol sy'n creu gweithlu brwdfrydig sy'n cael ei gefnogi'n dda i ddarparu gwasanaethau i blant a theuluoedd.
- Mae opsiynau gwell o ran llety a phrosesau cynllunio llwybrau amserol wedi arwain at leihau achosion o ddigartrefedd ymhlith y rhai sy'n gadael gofal i fod yn annibynnol.
- Mae ffocws strategol clir ar nodi teuluoedd mewn angen ac ymateb iddynt yn gynt, a gaiff ei gefnogi gan bartneriaid i wella gwasanaethau lleol a rhanbarthol.
Y camau nesaf
Rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol ystyried y meysydd i'w gwella a nodwyd a chymryd camau priodol i fynd i'r afael â'r meysydd hyn a'u gwella. Byddwn yn monitro cynnydd drwy ein gweithgarwch adolygu perfformiad parhaus gyda'r awdurdod lleol.
Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael ei ddiogelu'n gyson a bod awdurdodau lleol yn cyrraedd y safonau uchel sy'n ofynnol i ddiogelu plant. Mae'r Gwiriad Gwella yn dilyn y cyfrifoldebau statudol a amlinellir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac yn helpu i bennu pa mor effeithiol y mae awdurdodau lleol yn cefnogi ac yn cynnal gwelliannau i bobl a gwasanaethau.