Mae ein Bwrdd Cynghori Cenedlaethol yn rhoi llais i bobl yn y ffordd yr ydym yn gweithio.
Sut mae’r Bwrdd yn ein helpu
Mae’r Bwrdd yn ein helpu ni drwy roi cyngor ac argymhellion ar sut y gellir gwella gofal a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru ar gyfer pobl, trwy well rheoleiddio, arolygu ac adolygu.
Mae hefyd:
- yn darparu gwybodaeth arbenigol a mewnwelediad ynghylch gofal a gwasanaethau cymdeithasol
- cynrychioli 'llais' ar gyfer barn teuluoedd a pherthnasau, gofalwyr, a bobl sy'n defnyddio gwasanaethau ond hefyd safbwyntiau holl bobl mewn gofal a gwasanaethau cymdeithasol
- yn rhoi trosolwg ‘beirniadol’ ar ein gwaith i sicrhau ei fod yn cyflawni ei nodau ac yn sicrhau canlyniadau cadarnhaol i bobl
- yn rhoi cyfraniad cadarnhaol trwy awgrymu atebion i ganfyddiadau ein gwaith a’r heriau sy’n wynebu gwasanaethau gofal a chymdeithasol
- yn rhoi cydlyniad a sicrhau gwaith cydgysylltiedig gan yr holl ‘bartneriaid’ sy’n berthnasol i’n gwaith
- yn dylanwadu ar ein cynllun gwaith i’r dyfodol ar sail ein canfyddiadau ein hunain a’n perfformiad rhanbarthol
Pa mor aml y mae’r Bwrdd yn cyfarfod?
Mae’r Bwrdd yn cyfarfod tair gwaith y flwyddyn mewn lleoliadau gwahanol ledled Cymru.