Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
Dogfen HTML

Bwrdd Cynghori Cenedlaethol cofnodion cyfarfod - 10 Mehefin 2026

Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol 10 Mehefin 2026.

Cyhoeddwyd: 6 Hydref 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:
Argraffu

Presenoldeb

Yn bresennol:

  • Ruth Hussey (Cadeirydd)
  • Valerie Billingham (Swyddfa'r Comisiynydd Pobl Hŷn)
  • Kate Cubbage (Ymddiriedolaeth Gofalwyr)
  • Stuart Davies (Darparwr Gwasanaeth Cymorth Cartref)
  • Tomos Davies (Swyddfa'r Comisiynydd Plant)
  • Peter Max (Darparwr Gofal Preswyl)
  • Melanie Minty (Fforwm Gofal Cymru)
  • Claire Protheroe (CWLWM)
  • Jenny Williams (ADSS Cymru)
  • Gillian Baranski (Prif Arolygydd)
  • Kevin Barker (AGC)
  • Lou Bushell-Bauers (AGC)
  • Neil Fewtrell (AGC)
  • Sarita Marshall (AGC)
  • Margaret Rooney (AGC)
  • Elizabeth Wallwork (AGC)

Ymddiheuriadau:

  • Natalie Fletcher (Darparwr)
  • Alyson Thomas (Llais)
  • Bethan Louise Kay (Swyddog blynyddoedd cynnar yr Awdurdod Lleol)
  • Carol Bishop Jones (Gofalwr a defnyddiwr gwasanaeth, gwasanaethau oedolion) 
  • Rachel Overton (Darparwr, gofal dydd llawn)

1. Croeso, ymddiheuriadau a chyflwyniadau

  • Agorodd y Cadeirydd y cyfarfod a nododd yr ymddiheuriadau.
  • Cyflwynodd yr aelodau a oedd yn bresennol eu hunain. Croesawyd aelodau newydd a'r unigolion a oedd yn bresennol am y tro cyntaf.

2. Cofnodion y cyfarfod blaenorol

  • Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol yn gofnod cywir.

3. Camau Gweithredu sy'n Weddill

  • Trafodwyd a nodwyd y camau gweithredu. 

4. Y wybodaeth ddiweddaraf gan y Prif Arolygydd

Mae'r datblygiadau allweddol ers y cyfarfod diwethaf yn cynnwys:

  • Y wybodaeth ddiweddaraf am yr etholiad: Mae gweinyddiaeth newydd a gaiff ei harwain gan Blaid Cymru bellach ar waith yn Llywodraeth Cymru, gyda ffocws cynnar ar ofal plant a chwarae, gofal cymdeithasol, a'r gwaith o ddileu elw o wasanaethau plant.
  • Adroddiadau diweddar: Mae adroddiadau'n dangos ymgysylltiad cryf ym mhob rhan o'r sector, gan gynnwys yr adroddiad ar Ofal Plant a Chwarae: Ymarfer Gwerth ei Rannu, a gafodd adborth cadarnhaol gan ddarparwyr. 
  • Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid: Nododd adroddiad ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru y galw mewn awdurdodau lleol a byrddau iechyd, yr heriau recriwtio ac arferion anghyson. Bydd penderfyniad diweddar y Goruchaf Lys yn effeithio ar drothwyon.
  • Cyfradd ymateb y Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth: Daeth y cyfnod cyflwyno Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth i ben ar 27 Mawrth gyda chyfradd gwblhau o 96%.  Yn 2025, cyflwynodd 97% o ddarparwyr eu datganiadau.
  • Datganiadau Blynyddol / casglu data ar y cyd â Gofal Cymdeithasol Cymru: Tua 95% yw'r gyfradd ymateb hyd yma. 
  • Strategaeth cyfathrebu ac ymgysylltu: Mae strategaeth newydd wedi cael ei datblygu a chaiff ei chyhoeddi'n fuan.
  • Diogelu: Mae gwaith sylweddol yn mynd rhagddo, gan gynnwys cydadolygiad thematig mawr o'r broses o roi adran 5 o Weithdrefnau Diogelu Cymru ar waith – sy'n ymwneud â honiadau yn erbyn y rhai mewn swyddi o ymddiriedaeth.
  • Cynadleddau ansawdd ac ymgysylltu: Mae AGC wedi cynnal cynadleddau ansawdd â darparwyr o wasanaethau gofal plant a chwarae a gwasanaethau oedolion a phlant. Mae'r cyfleoedd hyn yn helpu i rannu arferion da ar draws gwasanaethau.
  • Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025: Mae'r broses o'i rhoi ar waith yn dynodi newid hirdymor sylweddol i wasanaethau plant. Mae AGC ar y trywydd iawn i gyflawni'r hyn sydd ei angen i gefnogi hyn. 

5. Beth sy'n digwydd ym myd ein hawdurdodau lleol

Rhoddodd Lou Bushell-Bauers drosolwg cenedlaethol o Wasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol yng Nghymru, gan dynnu sylw at dystiolaeth arolygu, gweithgarwch goruchwylio ac adolygiadau thematig. Mae'r sefyllfa gyffredinol yn sefydlog ar y cyfan, gyda'r rhan fwyaf o wasanaethau yn cael eu barnu'n 'dda' ac yn cael eu cefnogi gan brosesau arwain cryf a thimau ymrwymedig. 

Cryfderau allweddol a nodwyd:

  • Mae ymarfer seiliedig ar gryfderau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn cael ei ymgorffori'n fwy cadarn
  • Mae systemau diogelu a threfniadau gwaith amlddisgyblaethol yn gryf ar y cyfan
  • Cynnydd yn y defnydd o ddulliau myfyriol sy'n seiliedig ar gydberthnasau, yn enwedig mewn gwasanaethau plant

Pwysau allweddol ar y system: 

  • Oedi o ran amseroldeb (asesiadau, cynllunio ac adolygiadau)
  • Prinder staff a heriau o ran cadw staff
  • Materion o ran lleoliadau a digonolrwydd y farchnad, yn arbennig ar gyfer anghenion cymhleth

Pwysleisiodd Lou fod y pwysau hyn yn gydgysylltiedig ac yn effeithio ar y system gyfan, gan effeithio ar gysondeb a chalyniadau i bobl. 

Er bod gwasanaethau'n perfformio'n gymharol dda, y neges allweddol yw y bydd gwelliant cynaliadwy yn dibynnu ar fynd i'r afael â phwysau ar y system ehangach, ac nid ar berfformiad gwasanaethau unigol yn unig.

Amlinellodd AGC ei rhaglen wella ei hun hefyd, gan ganolbwyntio ar y canlynol:

  • Camau dilynol ac atebolrwydd cryfach ar ôl arolygiadau
  • Defnydd gwell o ddata a gwybodaeth
  • Mwy o gydweithio â phartneriaid 
  • Ehangu'r cyfleoedd i ddysgu a rhannu arferion da ledled Cymru

Cyfraniadau aelodau:

  • Roedd llawer yn cytuno bod trosolwg Lou yn adlewyrchu'r realiti presennol.

Her adeiladol mewn perthynas â'r canlynol: 

  • Effaith newidiadau i bolisïau (e.e. model nid-er-elw)
  • Cysondeb o ran data, adrodd a llais y defnyddiwr gwasanaethau 

Atgyfnerthu materion allweddol: 

  • Pwysau ar y system
  • Baich ar ofalwyr
  • Sicrhau gwell cysondeb mewn perthynas â systemau a'r broses adrodd

Dywedodd Valerie Billigham fod y Comisiynydd Pobl Hŷn wedi cynnal arolwg o brofiadau pobl hŷn o ofal cymdeithasol rhwng mis Tachwedd 2025 a mis Ionawr 2026. Caiff briff ei gyhoeddi cyn y toriad. 

Camau gweithredu

  • Kevin Barker a Lou Bushell-Bauers i fynd ar drywydd anghysondebau mewn perthynas â gofalwyr di-dâl.
  • Bydd adroddiad y Comisiynydd Pobl Hŷn yn cael ei rannu pan fydd ar gael.

6. Lleisiau'r aelodau

  • Mynegodd Peter Max bryder y gallai'r prosesau cofrestru presennol fod yn arafu'r gwaith o ddatblygu lleoliadau gofal newydd, ac y dylid eu hailystyried.  Dywedodd Margaret Rooney fod ein data yn dangos bod ein dull newydd wedi arwain at brosesu ceisiadau'n gynt.
  • Mynegodd Melanie Minty bryderon ynghylch ansefydlogrwydd cynyddol yn y sector cartrefi gofal, gan nodi pwysau o ran ffioedd a newid mewn rhai awdurdodau lleol tuag at ddarparu gwasanaethau'n fewnol a allai arwain at gau mwy o wasanaethau a throsglwyddo preswylwyr. Mae angen rhoi cymorth cyfannol gwell i breswylwyr a theuluoedd, yn enwedig y rhai ag anghenion cymhleth, a all fod fwyaf agored i niwed yn ystod cyfnodau o'r fath.

Bydd AGC yn monitro'r gwasanaethau sy'n cau yn ofalus iawn gan roi adborth yn ôl yr angen.

7. Trafodaeth ar berfformiad AGC, 2025-2026

Rhoddodd Margaret Rooney ddiweddariad ar berfformiad AGC, gan gwmpasu gweithgarwch arolygu, staffio a gwaith rheoleiddio.

Ar y cyfan, mae AGC yn cyrraedd y rhan fwyaf o'r targedau perfformiad, yn enwedig y targedau canlynol:

  • Adroddiadau arolygu'n cael eu cyflwyno a'u cyhoeddi mewn modd amserol
  • Perfformiad cryf o ran amseroedd penderfyniadau ynghylch cofrestru

Bu gostyngiad bach yn nifer yr arolygiadau, yn bennaf oherwydd: 

  • Swyddi gwag blaenorol a saib mewn recriwtio
  • Y cyfnod sefydlu chwe mis ar gyfer arolygwyr newydd yn arwain at oedi wrth sicrhau'r capasiti llawn i arolygu

 Nodwyd bod arolygiadau rheolaidd hwyr yn fater allweddol:

  • Yn sgil blaenoriaethu arolygiadau risg uwch ac ymateb i bryderon

Disgwylir i'r sefyllfa wella wrth i arolygwyr newydd ddod yn gwbl weithredol

 Nodwyd cynnydd mewn pryderon a hysbysiadau:

  • Mae hyn yn rhoi mwy o bwysau ar weithgarwch arolygu
  • Gall arwain at arolygiadau ychwanegol

 Mae'r perfformiad cofrestru wedi gwella'n sylweddol, yn rhannol oherwydd y canlynol:

  • Newidiadau i'r broses (yr angen i ddarparu dogfennaeth lawn ymlaen llaw)
  • Lefelau staffio uwch
  • Gostyngiad yn nifer y ceisiadau a ddaeth i law

Cyflawnodd rhaglen arolygu'r awdurdodau lleol y canlynol:

  • Arolygiadau, archwiliadau gwelliant a gwaith ar y cyd â phartneriaid (e.e. AGIC)
  • Ymgysylltiad cryf â phobl, staff a rhanddeiliaid

Cyflwynodd Margaret bwynt trafod allweddol ynghylch symud tuag at fodel arolygu sy'n canolbwyntio'n fwy ar risg, gan ystyried y canlynol:

  • Arolygu gwasanaethau sy'n perfformio'n dda yn llai aml
  • Sicrhau y gellir canolbwyntio'n well ar wasanaethau risg uwch

Cyfraniadau aelodau:

Defnyddio cyfarfodydd ansawdd fel ffordd o wneud y canlynol:

  • Cynnal goruchwyliaeth rhwng arolygiadau 
  • Annog gwelliant parhaus heb bwysau arolygiad ffurfiol

Ystyried sut i wneud y canlynol:

  • Nodi arwyddion rhybudd cynnar (e.e. newidiadau mewn arweinyddiaeth)
  • Darparu gwybodaeth fwy dynamig, amser real i'r cyhoedd
  • Myfyrio ar oblygiadau unrhyw fodel newydd ar adnoddau
  • Cynnal cymhellion ar gyfer gwella 

8. Cynllun Strategol – cyflawniadau a'r hyn sydd wedi newid

Rhoddodd Gillian Baranski ddiweddariad ar ddarparu'r Cynllun Strategol a'r blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Ymhlith yr 11 o gamau a gynlluniwyd, cwblhawyd 7 ohonynt, a bu i 4 gael eu hoedi yn bennaf oherwydd y canlynol:

  • Newidiadau i'r system (platfform rheoli achosion newydd)
  • Pwysau ar adnoddau (swyddi gwag a gweithgarwch recriwtio uchel)
  • Mae angen amser i ymgysylltu'n ehangach a chwblhau gwaith datblygu

Roedd y cyflawniadau allweddol yn cynnwys:

  • Cynnydd ar ddatblygiadau digidol a gwelliannau wrth gofrestru
  • Gwaith cydweithredol â Gofal Cymdeithasol Cymru a phartneriaid
  • Ffocws parhaus ar rannu arferion da

Nododd Gillian fod digwyddiadau allanol wedi llywio blaenoriaethau'n sylweddol, gan gynnwys y canlynol:

  • Gwaith diogelu yn dilyn troseddau Neil Foden
  • Rhoi'r agenda nid-er-elw ar waith mewn gwasanaethau plant
  • Newidiadau i bolisïau a pharatoi ar gyfer ymchwiliad cyhoeddus COVID-19

Gan edrych tua'r dyfodol, mae'r blaenoriaethau'n cynnwys:

  • Darparu swyddogaethau rheoleiddio craidd
  • Rhoi'r cynllun cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar waith
  • Gwella'r broses o ymgysylltu â phobl sy'n defnyddio gwasanaethau
  • Datblygu strategaeth ddigidol a data
  • Defnyddio gwybodaeth a data yn well
  • Adeiladu ar lwyddiant o ran graddau er mwyn ysgogi gwelliannau ym mhob rhan o'r sector

9. Strategaeth ddigidol ar gyfer AGC – blaenoriaeth

Cyflwynodd Neil Fewtrell ddrafft cynnar o strategaeth ddigidol AGC, gan ofyn am adborth gan yr aelodau.

Mae'r strategaeth yn cyd-fynd â Safonau Gwasanaethau Digidol Cymru ac yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Anghenion defnyddwyr
  • Hygyrchedd a chynhwysiant
  • Gwelliant wedi'i ysgogi gan ddata

Y weledigaeth gyffredinol yw creu'r canlynol:

  • Gwasanaethau digidol syml a chynhwysol i ddefnyddwyr
  • Amgylchedd gwaith digidol mwy effeithlon i staff

Mae'r meysydd ffocws allweddol yn cynnwys:

  • Gwasanaethau digidol sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr (hygyrch, dwyieithog, cynhwysol)
  • Gwella sut mae'r cyhoedd yn cael gwybodaeth er mwyn gwneud dewisiadau gwybodus
  • Symleiddio'r broses o ryngweithio â darparwyr er mwyn lleihau'r baich
  • Gwella systemau mewnol a llifoedd gwaith i staff
  • Datblygu sgiliau a diwylliant digidol yn AGC
  • Sicrhau technoleg ddiogel a modern a threfniadau llywodraethu cryf

Mae'r strategaeth yn cydnabod y pedwar prif grŵp defnyddwyr:

  • Darparwyr
  • Y cyhoedd
  • Staff AGC
  • Rhanddeiliaid ehangach

Caiff llwyddiant ei fesur drwy'r canlynol: 

  • Rhyngweithio haws i ddarparwyr a'r cyhoedd
  • Mwy o ddefnydd o wasanaethau digidol
  • Llai o ymdrech ymarferol a chynhyrchiant a phrosesau gwneud penderfyniadau gwell

Gofynnodd Neil yn benodol i’r aelodau am y canlynol: 

  • Adborth ar y weledigaeth a'r blaenoriaethau
  • Gwybodaeth am fylchau neu feysydd coll
  • Cymorth i sefydlu grwpiau defnyddwyr, yn enwedig grwpiau sy'n cynnwys darparwyr a defnyddwyr gwasanaethau. 

Adborth gan yr Aelodau

  • Cafodd y strategaeth ddigidol ei chroesawu ac roedd cytundeb ei bod yn symud i'r cyfeiriad cywir ac yn canolbwyntio'n briodol ar anghenion defnyddwyr a hygyrchedd. 
  • Nododd yr aelodau bod angen atgyfnerthu'r elfen data a dadansoddeg, gan gynnwys rhannu data yn well ac, integreiddio a defnyddio gwybodaeth i gefnogi gwaith rheoleiddio sy'n seiliedig ar risg 
  • Roedd cefnogaeth gref o blaid sefydlu grwpiau defnyddwyr, yn enwedig grwpiau sy'n cynnwys darparwyr, a nodwyd bwlch o ran ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaethau a'r cyhoedd 
  • Pwysleisiwyd y dylai strategaeth ddigidol alluogi canlyniadau busnes, yn hytrach na gweithredu fel swyddogaeth unigol 
  • Nododd yr aelodau ddefnydd cynyddol o AI ac adnoddau digidol ym mhob rhan o'r sector, gan annog AGC i archwilio dulliau tebyg a dysgu gan eraill 
  • Gwnaed argymhellion i gysylltu â mentrau digidol presennol ar gyfer y sector cyfan ac ystyried y defnydd moesegol o dechnoleg 
  • Awgrymwyd hefyd y gallai AGC helpu i ddatblygu dull digidol ymhlith darparwyr sy'n llai medrus wrth ddefnyddio adnoddau digidol. 

10. Unrhyw fater arall

  • Cadarnhawyd y bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar 11 Medi 2026.

Cofrestr gwrthdaro buddiannau

  • Yn dilyn cais gan aelodau, mae AGC wedi ychwanegu pwynt at y Cylch Gorchwyl sy'n ymwneud â ‘chynnal archwiliad gwrthdaro buddiannau blynyddol.’
  • Mae AGC yn bwriadu cynnal archwiliad blynyddol o unrhyw achosion o wrthdaro buddiannau a allai fod gan aelodau. 
  • Bydd yr archwiliad nesaf yn cael ei gynnal ym mis Mehefin 2027.

Camau gweithredu:

  • Pob aelod i gyflwyno datganiad o fuddiannau (erbyn diwedd mis Mehefin) i gefnogi proses gwrthdaro buddiannau newydd y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol.
  • Bydd ffurflen gwrthdaro buddiannau newydd yn cael ei hanfon gan AGC, a gofynnir i aelodau ddatgan unrhyw fuddiannau proffesiynol neu bersonol perthnasol. 

Ar ôl derbyn y datganiadau, bydd AGC yn eu hadolygu ac yn cadarnhau a oes angen eu cofnodi'n ffurfiol

Micro-ofal

Gofynnodd Valerie Billingham am y gwasanaeth micro-ofal Cadarnhaodd Margaret fod opsiynau'n cael eu hystyried a bod camau pellach yn ddibynnol ar benderfyniad y Gweinidog.

Cofnod Camau Gweithredu y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol – 10 Mehefin 2026

 

CyfeirnodCam gweithreduPerchennogAmserlen / Diweddariad Nesaf
AKevin Barker a Lou Bushell-Bauers i fynd ar drywydd anghysondebau mewn perthynas â gofalwyr di-dâl.Kevin/Lou11 Medi
APob aelod i gyflwyno datganiad o fuddiannau (erbyn diwedd mis Mehefin) i gefnogi proses gwrthdaro buddiannau newydd y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol.Y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol30 Mehefin
ABydd adroddiad y Comisiynydd Pobl Hŷn yn cael ei rannu pan fydd ar gael. Comisiynydd Pobl Hŷn 
ABydd ffurflen gwrthdaro buddiannau newydd yn cael ei hanfon gan AGC, a gofynnir i aelodau ddatgan unrhyw fuddiannau proffesiynol neu bersonol perthnasol.Swyddfa'r Prif Arolygydd