Canllaw i gofrestru - Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010
Rydym yn sicrhau mai dim ond y bobl hynny y bernir eu bod yn addas ac sy'n debygol o ddarparu gofal o ansawdd da a gaiff eu cofrestru i wneud hynny.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gwbl hygyrch
1. Ein hymagwedd at gofrestru
1.1 Diben cofrestru
Fel rheoleiddiwr gofal cymdeithasol yng Nghymru, un o swyddogaethau craidd AGC yw sicrhau mai dim ond y bobl hynny y bernir eu bod yn addas ac sy'n debygol o ddarparu gofal o ansawdd da a gaiff eu cofrestru i wneud hynny.
Mae'r broses gofrestru yn borthor i'r rhai sy'n dymuno darparu gwasanaeth rheoleiddiedig, ac mae'n gam cyntaf tuag at ddiogelu pobl sy'n defnyddio gwasanaethau rhag cael gofal gwael.
Mae'r gofrestr rydym yn ei chadw yn gofnod cyhoeddus o'r rhai sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau gofal yng Nghymru, a'r unigolion sy'n gysylltiedig â nhw.
Mae'r canllawiau hyn yn nodi ein dull o gofrestru, gan gynnwys yr egwyddorion a'r prosesau rydym yn eu dilyn wrth arfer ein pwerau o dan y ddeddfwriaeth ganlynol.
- Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 ("y Mesur”)
- Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010
- Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016
- Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2022
Hefyd:
- Y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant Rheoleiddiedig.
Mae ein gwaith yn seiliedig ar gyfres o egwyddorion:
- Canolbwyntio ar yr unigolyn – rydym yn sicrhau bod y bobl sy'n defnyddio gwasanaethau rheoleiddiedig wrth wraidd ein gwaith, ac yn ystyried effaith gwasanaethau o ran gwella llesiant pobl
- Cefnogi gwelliant – rydym yn llunio barn am wasanaethau. Rydym yn cydnabod arferion da, yn nodi arferion gwael ac yn annog gwelliant mewn gwasanaethau gofal
- Bod yn dryloyw – rydym yn ceisio llunio adroddiadau clir fel bod pobl yn gallu deall y rhesymau dros benderfyniadau
- Bod yn deg – rydym yn llunio ein barn ar sail y dystiolaeth a gasglwyd fel rhan o arolygiad, ac yn rhoi'r cyfle i ddarparwyr gwestiynu cywirdeb ffeithiol a chanfyddiadau
- Bod yn gadarn – rydym yn cymryd camau cadarn ac amserol pan fydd gwasanaethau'n darparu gofal gwael neu'n peryglu diogelwch pobl
- Bod yn gymesur – drwy ganolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf
- Bod yn effeithlon – drwy wneud y defnydd gorau o TGCh a cheisio peidio â rhoi baich diangen ar y rhai sy'n darparu gwasanaethau gofal a chymorth
1.2 Gweithredu ar sail hawliau
Mae cynnal hawliau pobl wrth wraidd ein gwaith. Rydym yn ystyried amcanion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) a 'Cynllun Hawliau Plant' Llywodraeth Cymru, sydd wedi'u nodi ym Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.
Mae erthyglau perthnasol y CCUHP, y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, Deddf Hawliau Dynol 1998 a Deddf Cydraddoldeb 2010, wedi'u hymgorffori yn ein fframweithiau arolygu. Bydd arolygwyr yn ystyried y ffordd y mae darparwyr yn hyrwyddo hawliau pobl, er mwyn sicrhau bod gan blant ac oedolion lais, eu bod yn ddiogel ac yn cael eu trin â pharch, a'u bod yn cael eu helpu i wireddu eu llawn botensial.
1.3 Mwy na geiriau
Fframwaith Strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer hyrwyddo'r Gymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yw Mwy na geiriau, a gyhoeddwyd yn 2016.
Gall pawb sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a gofal plant wneud gwahaniaeth drwy ofyn iddyn nhw eu hunain “beth galla i ei wneud er mwyn helpu i wella'r ddarpariaeth Gymraeg a hyrwyddo diwylliant Cymru?”
Rôl AGC wrth hyrwyddo'r Gymraeg a diwylliant Cymru
Yn ystod y cam gwneud cais:
Dylai pob darparwr gofal gynnwys gwybodaeth am y gwasanaethau y gellir eu darparu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ei Ddatganiad o Ddiben.
Yn ystod y cyfweliad person addas â'r Unigolion / Personau Cyfrifol, byddwn am wybod fel arweinwyr sut maent yn bwriadu hyrwyddo'r Gymraeg a diwylliant Cymru yn y gwasanaeth.
2. Pa wasanaethau y mae angen eu cofrestru?
Mae'n ofynnol i unrhyw un sy'n darparu gwasanaeth gwarchod plant neu ofal dydd o dan y Mesur gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru.
Mae'r diffiniadau o ofal dydd yn cwmpasu amrywiaeth o wasanaethau Gofal Plant a Chwarae gwahanol, sef:
- Gofal dydd llawn
- Gofal dydd sesiynol
- Gofal plant y tu allan i oriau ysgol
- Meithrinfeydd
- Darpariaeth chwarae mynediad agored
Mae'r diffiniadau o wasanaethau gwarchod plant a gofal dydd wedi'u nodi yn Rhan 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 ac yn Atodiad 2 i'r canllawiau hyn. Cyn cyflwyno cais i gofrestru gwasanaeth rheoleiddiedig, dylai darparwr ystyried y diffiniadau a'r eithriadau canlynol.
2.1 Gwarchodwr Plant
Mae person yn warchodwr plant os yw'n gofalu am un neu fwy o blant dan ddeuddeg oed ar safle domestig am fudd.
Ystyr “safle domestig” yw safle a ddefnyddir fel annedd preifat, ac mae'n cynnwys unrhyw ardd, iard, garej a thŷ allan, ac ati.
Gall “am fudd” gynnwys arian a rhoddion o unrhyw fath fel taliad am wasanaeth a ddarparwyd.
2.2 Eithriadau
Pan fydd gofal yn cael ei ddarparu am lai na dwy awr mewn unrhyw ddydd, nid yw hyn yn cyrraedd y trothwy ar gyfer cofrestru.
Nid yw'r diffiniad o warchodwr plant yn cynnwys gofal a ddarperir yng nghartref y plentyn ei hun. Mae'r eithriad hwn hefyd yn ymestyn i blant ail deulu sy'n derbyn gofal yn yr un cartref.
Nid oes angen cofrestru trefniant rhwng ffrindiau, lle nad oes unrhyw daliad (ariannol neu fel arall) yn cael ei wneud.
Os yw'r plentyn yn derbyn gofal rhwng 6pm ar unrhyw ddydd a 2am y diwrnod canlynol, nid yw hyn yn bodloni'r diffiniad o warchodwr plant.
2.3 Gofal dydd llawn
Mae person yn darparu gofal dydd i blant lle mae gofal yn cael ei ddarparu i blant dan ddeuddeg oed ar unrhyw adeg benodol ar safle ar wahân i safle domestig. Lle y defnyddir y term 'gofal dydd', mae hyn yn cynnwys yr amrywiaeth o ddarpariaethau gofal plant a chwarae gwahanol.
2.4 Eithriadau
Pan fydd gofal yn cael ei ddarparu am lai na dwy awr mewn unrhyw ddydd, nid yw hyn yn cyrraedd y trothwy ar gyfer cofrestru.
Nid oes angen cofrestru os caiff cyfanswm cyfnod y gofal ar safle ei ddarparu lai na chwe diwrnod mewn unrhyw flwyddyn galendr. Dylid hysbysu AGC yn ysgrifenedig cyn yr achlysur cyntaf yn y flwyddyn honno.
Mae gofal a ddarperir i blant mewn gwasanaeth rheoleiddiedig o dan ddeddfwriaeth wahanol wedi'i eithrio rhag cofrestru. Mae enghreifftiau o'r gwasanaethau hyn yn cynnwys:
- Gwasanaeth cartref gofal
- Gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd
- Ysbyty
Mae gofal dros nos mewn tŷ llety neu sefydliad tebyg arall i blentyn sy’n aros yno wedi'i eithrio rhag cofrestru, ar yr amod nad yw'r gofal ond yn cael ei ddarparu rhwng 6pm ar unrhyw ddydd a 2am y diwrnod canlynol. Fodd bynnag, dim ond os nad yw'r person sy'n darparu'r gofal yn gwneud hynny ar gyfer mwy na dau gleient gwahanol ar yr un pryd y mae'r eithriad yn gymwys.
Mae ysgolion wedi'u heithrio o'r diffiniad o ofal dydd, lle mae unrhyw ofal a ddarperir yn gysylltiedig â'r addysgu.
Nid oes angen cofrestru fel gwasanaeth gofal dydd os yw'r gofal a ddarperir yn gysylltiedig â hyfforddi yn y gweithgareddau canlynol:
- chwaraeon
- y celfyddydau perfformio
- celf a chrefft,
- cymorth ar gyfer astudiaethau ysgol neu waith cartref
- astudiaethau crefyddol neu ddiwylliannol
Fodd bynnag, nid yw'r eithriad hwn yn gymwys os yw'r plant dan bump oed ac yn mynychu mwy na phedair awr y dydd, neu os yw'r person yn cynnig hyfforddiant ar gyfer mwy na dau o'r gweithgareddau uchod.
3. Mathau o ddarparwyr
Rhaid i warchodwyr plant gofrestru fel unigolyn, yn eu henw eu hunain.
Gall darparwyr Gofal Plant a Chwarae wneud cais i gofrestru naill ai fel Unigolion neu Sefydliadau. Mae'r ffurflen gais yn cynnwys rhestr o endidau cyfreithiol y dylai darparwyr ei defnyddio i nodi'r math o endid cyfreithiol y maent yn ei gofrestru. Mae'r rhestr wedi'i nodi isod.
3.1 Unigolion
- Unigolyn
- Personau Cofrestredig ar y Cyd (gwasanaeth Gofal Plant a Chwarae a ddarperir gan fwy nag un Unigolyn)
Unigolyn
Gall unigolyn gofrestru i ddarparu gwasanaeth rheoleiddiedig fel unig fasnachwr.
Mae'r cofrestriad yn enw'r unigolyn ei hun. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i unrhyw gontractau yr ymrwymir iddynt â rhieni neu staff hefyd fod yn enw'r unigolyn ei hun. Os oes gan yr unigolyn hefyd gwmni cyfyngedig y mae'n ei ddefnyddio i ymrwymo i gontract â rhieni, staff neu gomisiynwyr, rhaid i'r cais fod yn enw'r cwmni hwn, heblaw mai'r gwarchodwr plant ydyw.
Personau Cofrestredig ar y Cyd
Gall dau unigolyn neu fwy ddod yn Bersonau Cofrestredig ar gyfer gwasanaeth. Er y gall yr unigolion gyflwyno ffurflen gais ar y cyd, mae'r cofrestriad yn enw pob unigolyn.
3.2 Sefydliadau
- Cwmni Cyfyngedig
- Cwmni Cyfyngedig Cyhoeddus
- Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig
- Cwmni Elusennol
- Sefydliadau Corfforedig Elusennol
- Ymddiriedolaeth Elusennol (yn cynnwys Elusen Anghorfforedig)
- Corff anghorfforedig arall
Cwmni Cyfyngedig
Mae cwmni cyfyngedig yn fath o strwythur busnes sy’n endid cyfreithiol yn ei rinwedd ei hun. Gall cwmnïau cyfyngedig fod yn gyfyngedig drwy gyfranddaliadau neu drwy warant, a rhaid iddynt fod wedi'u cofrestru â Thŷ'r Cwmnïau. Yn y ddau achos, gall y cwmni ymrwymo i gontractau yn ei enw ei hun, ac mae'n gyfrifol am ei weithredoedd, ei gyllid a'i rwymedigaethau ei hun. Mae'n rhaid bod gan gwmni cyfyngedig o leiaf un cyfarwyddwr.
Os yw cwmni yn un o is-gwmnïau rhiant gwmni neu gwmni daliannol, rhaid i'r endid cyfreithiol sy'n gyfrifol am ddarparu'r gwasanaeth gofrestru â ni. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, y cwmni sy'n ymrwymo i gontractau â chomisiynwyr ac unigolion sy'n defnyddio'r gwasanaeth, sy'n cyflogi'r staff ac sydd â pholisi yswiriant mewn perthynas â'r gwasanaeth a ddarperir.
Cwmni Cyfyngedig Cyhoeddus (“CCC”)
Math o gwmni cyfyngedig yw CCC, y mae rhwydd hynt i'r cyhoedd brynu a gwerthu ei gyfranddaliadau. Mae'n rhaid i CCC fod wedi'i gofrestru â Thŷ'r Cwmnïau, ac mae'n rhaid bod ganddo o leiaf ddau gyfarwyddwr ac ysgrifennydd.
Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (“PAC”)
Corff corfforaethol yw PAC, ac mae'n endid cyfreithiol ar wahân i'w aelodau. Mae PAC wedi'i hymgorffori drwy gofrestriad â Thŷ'r Cwmnïau.
Mae aelodaeth PAC yn cynnwys y rhai hynny a ymrwymodd i'r ddogfen ymgorffori ac unrhyw un arall sydd wedi dod yn aelod ers hynny drwy gytundeb â'r aelodau presennol.
Cwmni Elusennol
Mae cwmni elusennol wedi'i gofrestru â Thŷ'r Cwmnïau (fel cwmni) a chyda'r Comisiwn Elusennau fel ei endid cyfreithiol ei hun. Drwy feddu ar statws corfforaethol, gall cwmni elusennol ymrwymo i gontractau yn ei enw ei hun, ac mae'n gyfrifol am ei weithredoedd, ei gyllid a'i rwymedigaethau ei hun. Fel cwmni cyfyngedig, bydd gan yr elusen gyfarwyddwyr ac aelodau.
Sefydliad Corfforedig Elusennol (“SCE”)
Sefydliadau elusennol sydd â'u hunaniaeth gyfreithiol eu hunain yw SCEau. Gallant ymrwymo i gontractau yn eu henw eu hunain ac mae ganddynt atebolrwydd cyfyngedig sy'n diogelu aelodau ac ymddiriedolwyr rhag colledion ariannol. Mae SCEau wedi'u cofrestru â'r Comisiwn Elusennau, ond byddant hefyd yn ymddangos ar gofrestr Tŷ'r Cwmnïau. Noder – mae'r rhain yn wahanol i Gwmnïau Elusennol.
Mae dau fath o strwythur llywodraethu ar gyfer SCEau.
- SCE Sylfaen – yr ymddiriedolwyr yw unig aelodau'r sefydliad
- SCE Cyswllt – mae gan y sefydliad hwn aelodau ac ymddiriedolwyr
Cyrff corfforaethol eraill
Mae gwahanol fathau eraill o gyrff corfforaethol a all ymrwymo i gontractau yn eu henw eu hunain ac sy'n gyfrifol am eu gweithredoedd, eu cyllid a'u rhwymedigaethau eu hunain.
Mae'n bosibl bod y rhain yn cael eu rheoleiddio gan Dŷ'r Cwmnïau neu'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol.
Mae enghreifftiau o'r cyrff hyn yn cynnwys:
- Cymdeithasau Buddiannau Cymunedol – Yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol
- Cwmnïau Buddiannau Cymunedol – Tŷ'r Cwmnïau
- Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus – Yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol
- Cwmnïau Cydweithredol – Tŷ'r Cwmnïau
Os nad yw'r math o gorff corfforaethol rydych yn gwneud cais i'w gofrestru wedi'i gynnwys yn y rhestr uchod, dylech ddewis “Corff corfforaethol arall” ar y ffurflen gais.
Awdurdodau Lleol
Cyrff corfforaethol yw awdurdodau lleol, a sefydlwyd o dan adran 21 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Er eu bod yn gyrff corfforaethol, nid ydynt wedi'u cofrestru â Thŷ'r Cwmnïau ac nid oes ganddynt rif cwmni.
Bwrdd Iechyd Lleol (BILl)
Cyrff corfforaethol yw BILlau, a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.
Partneriaethau
Mae partneriaeth yn cynnwys dau unigolyn neu fwy sy'n cytuno i gydweithio dros fenter busnes a rennir. Mae'r unigolion (partneriaid) yn rhannu elw a rhwymedigaethau'r bartneriaeth.
Os bydd partner presennol yn gadael y bartneriaeth gofrestredig neu bartner newydd yn ymuno â hi, bydd hyn fel arfer yn creu partneriaeth newydd, sy'n endid cyfreithiol newydd.
Er nad yw'n ofynnol yn gyfreithiol i bartneriaeth feddu ar gytundeb partneriaeth, bydd angen i ni fod yn fodlon ar y trefniadau llywodraethu sydd ar waith..
3.3 Cyrff anghorfforedig
Pwyllgor
Grŵp o bobl yw pwyllgor, sy'n dod ynghyd i geisio cyflawni nod cyffredin, yn aml ar ran sefydliad mwy. Pan fydd pwyllgor yn gwneud cais i gofrestru â ni, bydd angen i ni fod yn fodlon bod trefniadau llywodraethu cadarn ar waith.
Mae'r unigolion sy'n rhan o'r pwyllgor yn gyfrifol yn unigol am weithredoedd, cyllid a rhwymedigaethau'r pwyllgor.
Ymddiriedolaeth Elusennol
Sefydliad yw ymddiriedolaeth elusennol neu elusen anghorfforedig a ffurfiwyd er mwyn gwella addysg, hybu iechyd a chysur y cyhoedd, lleihau tlodi, hyrwyddo crefydd, neu at unrhyw ddiben elusennol arall yn ôl y gyfraith.
Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd angen i ymddiriedolaeth elusennol gofrestru â'r Comisiwn Elusennau.
Cyrff anghorfforedig eraill
Mae'n bosibl bod mathau eraill o gyrff anghorfforedig sy'n dymuno cofrestru i ddarparu gwasanaeth. Os nad yw'r math o gorff anghorfforedig rydych yn gwneud cais i'w gofrestru wedi'i gynnwys yn y rhestr uchod, dylech ddewis "Corff anghorfforedig arall" ar y ffurflen gais.
Noder
Os bydd y math o ddarparwr neu'r endid cyfreithiol sy'n gyfrifol am ddarparu'r gwasanaeth yn newid, bydd angen i chi gyflwyno cais newydd i gofrestru. Er enghraifft:
- Berson Cofrestredig i bwyllgor
- Berson Cofrestredig i Sefydliad Corfforedig Elusennol
- Sefydliad Corfforedig Elusennol i Gwmni
- Gwmni i Gwmni gwahanol â rhif cwmni gwahanol
Os na fyddwch yn siŵr a oes angen cais newydd, cysylltwch ag AGC i gael cyngor.
4. Pwy ddylai gofrestru ag AGC?
Mae angen i AGC fod yn fodlon mai'r person/sefydliad sy'n gyfrifol am ddarparu'r gwasanaeth yw'r un sy'n gwneud cais i gofrestru. Gall ein Tîm Cofrestru ateb unrhyw ymholiadau ynglŷn â phwy ddylai gofrestru ag AGC. Mae Atodiadau 3 a 4 hefyd yn cynnwys canllawiau pellach ar Sefydliadau Corfforedig Elusennol a gwasanaethau a ddarperir ar safleoedd ysgolion, yn y drefn honno.
4.1 Gwneud cais
Rhaid i bob cais i gofrestru gael ei wneud drwy AGC Ar-lein.
Rydym yn cydnabod y bydd nifer bach o ymgeiswyr o bosibl yn ei chael hi'n anodd cael mynediad i AGC Ar-lein. Rydym yn awgrymu y dylech chwilio am opsiynau amgen, fel llyfrgelloedd lleol neu leoliadau eraill sy'n cynnig mynediad dibynadwy i'r rhyngrwyd.
Mae'r ffurflen gais yn gofyn am y wybodaeth ganlynol:
Gwybodaeth am y Person Cofrestredig
Bydd y rhan hon o'r ffurflen yn gofyn am fanylion am y Person Cofrestredig. Os mai sefydliad yw'r Person Cofrestredig, bydd angen i ni gael gwybodaeth am yr unigolion dan sylw fel rhan o'n hasesiad person addas a phriodol. Bydd angen i ymgeiswyr nodi'r math o endid cyfreithiol y maent yn gwneud cais i'w gofrestru, er enghraifft unigolyn, cwmni cyfyngedig, cwmni elusennol, ac ati.
Y math o wasanaeth(au) rheoleiddiedig rydych yn gwneud cais i'w ddarparu/darparu Gwybodaeth am y gwasanaeth(au) rheoleiddiedig, gan gynnwys:
- y lleoliad
- y safle
- uchafswm nifer y plant sy'n defnyddio'r gwasanaeth
- y math o ddarpariaeth, er enghraifft gofal dydd llawn, gofal plant y tu allan i oriau ysgol, darpariaeth chwarae mynediad agored, ac ati
Yr Unigolyn Cyfrifol dynodedig (lle y bo'n berthnasol)
Mae'n rhaid bod Unigolyn Cyfrifol dynodedig ar gyfer unrhyw sefydliad sy'n gwneud cais i gofrestru.
Pwy ddylai gwblhau'r ffurflen gais?
Rhaid i'r cais gael ei gwblhau gan y Person Cofrestredig neu'r Unigolyn Cyfrifol yn ôl y drefn ganlynol:
- Gwarchodwr plant – y gwarchodwr plant
- Unigolyn gofal dydd gydag un Person Cofrestredig – y Person Cofrestredig
- Unigolyn gofal dydd gyda Phersonau Cofrestredig ar y cyd – un Person Cofrestredig arweiniol. Bydd angen i'r Personau Cofrestredig eraill gwblhau gwybodaeth benodol amdanynt eu hunain
- Sefydliad gofal dydd – yr Unigolyn Cyfrifol. Os oes mwy nag un Unigolyn Cyfrifol, un Unigolyn Cyfrifol arweiniol.
- Bydd angen i'r Unigolion Cyfrifol eraill gwblhau gwybodaeth benodol amdanynt eu hunain.
- Sefydliad gofal dydd, partneriaeth – y partner sydd wedi'i benodi'n Unigolyn Cyfrifol.
Mae'r broses ar-lein yn dangos yn glir pan fydd pob rhan o'r ffurflen wedi'i chwblhau. Gall yr ymgeisydd wedyn gyflwyno'r cais.
Gofynnir i ymgeiswyr nodi a ydynt yn cytuno i gyfathrebu â ni yn electronig. Bydd hyn yn cynnwys pob llythyr a Hysbysiad cyfreithiol.
4.2 Gwybodaeth a dogfennau gofynnol
Rhaid i'r cais fod yn gyflawn cyn y gallwn ei dderbyn. Mae Atodiad 6 yn cynnwys crynodeb manylach o'r wybodaeth a'r dogfennau sydd eu hangen yn y ffurflen gais.
Gwarchodwyr Plant
Mae AGC yn gofyn am rif tystysgrif gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn y ffurflen gais ar gyfer y gwarchodwr plant, cynorthwywyr gwarchod plant ac aelodau cartref y gwarchodwr plant sy'n 16 oed a throsodd. Er mwyn i'r gwiriad hwn fod yn ddilys, mae'n rhaid bod y dystysgrif wedi'i chyflwyno lai na thri mis cyn i'r cais gael ei gyflwyno, neu mae'n rhaid bod yr unigolyn wedi'i gofrestru ar gyfer Gwasanaeth Diweddaru y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae'n bosibl gwneud cais am dystysgrif(au) gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd drwy ddarparwr trydydd parti AGC. Cysylltwch ag AGC i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud hyn.
Rhaid i dystysgrifau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gael eu gweld fel rhan o'r broses gofrestru. Gallant gael eu gweld gan yr arolygydd cofrestru yn yr ystod yr ymweliad â'r safle neu gall yr unigolyn eu cyflwyno mewn cyfweliad addasrwydd.
Gwasanaethau Gofal Plant a Chwarae
Mae AGC yn gofyn am rif tystysgrif gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn y ffurflen gais ar gyfer pob Person Cofrestredig, Unigolyn Cyfrifol a Pherson â Chyfrifoldeb. Er mwyn i'r gwiriad hwn fod yn ddilys, mae'n rhaid bod y dystysgrif wedi'i chyflwyno lai na thri mis cyn i'r cais gael ei gyflwyno, neu mae'n rhaid bod yr unigolyn wedi'i gofrestru ar gyfer Gwasanaeth Diweddaru y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Dylai'r gwiriadau hyn gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gael eu cynnal drwy ddarparwr y gwasanaeth neu sefydliad cynnal. Os nad yw hyn yn bosibl, gellir gwneud cais am y tystysgrifau gofynnol drwy ddarparwr trydydd parti AGC. Cysylltwch ag AGC i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud hyn.
4.3 Diweddariadau am hynt y cais
Ar ôl i'r cais gael ei gyflwyno, gall yr ymgeisydd olrhain ei hynt drwy AGC Ar-lein.
Ni chaiff cais ei dderbyn hyd nes y bydd wedi pasio gwiriad cyflawnrwydd AGC, gweler Atodiad 6. Os na fydd cais yn pasio'r gwiriad cyflawnrwydd, rhoddir gwybod i'r ymgeisydd am y meysydd y mae angen iddo roi sylw iddynt.
Unig ddiben y gwiriad cyflawnrwydd yw sicrhau bod gwybodaeth allweddol yn ddilys a/neu wedi'i chynnwys, ac nid yw'n asesu ansawdd y wybodaeth a gyflwynwyd.
Ar ôl pasio'r gwiriad cyflawnrwydd, caiff y cais ei dderbyn gan AGC a rhoddir gwybod i'r ymgeisydd.
Bydd hynt y cais yn cael ei arddangos ar AGC Ar-lein.
4.4 Gwneud newidiadau ar ôl i gais gael ei gyflwyno
Mae'n bosibl y bydd achlysuron pan fydd angen gwneud newidiadau i'r unigolion a enwir yn y cais ar ôl iddo gael ei gyflwyno a'i dderbyn gan AGC. Er enghraifft, mae'n bosibl na fydd y Person â Chyfrifoldeb yn meddu ar gymhwyster addas ac felly y bydd yr ymgeisydd yn penderfynu penodi Person â Chyfrifoldeb gwahanol, neu efallai na fydd aelod o gartref y gwarchodwr plant sy'n 16 oed a throsodd yn byw yno mwyach. Gall yr ymgeisydd wneud y newidiadau hyn drwy AGC Ar-lein.
Os caiff unrhyw rolau allweddol (fel y Person â Chyfrifoldeb neu'r Unigolyn Cyfrifol) eu tynnu o'r cais, ni fyddwn yn ymdrin â'r cais hyd nes y bydd pob rôl allweddol wedi'i llenwi.
4.5 Asesu cais
Pan fydd y cais wedi cael ei dderbyn, byddwn yn cynnal asesiad o ansawdd. Byddwn fel arfer yn asesu ceisiadau yn y drefn y cawsant eu derbyn, ond byddwn yn ymateb i bwysau yn y sector.
4.6 Ffactorau i'w hystyried wrth wneud penderfyniad ynglŷn â chais
Wrth wneud penderfyniad ynglŷn â chais, byddwn yn ystyried y canlynol:
- A yw'r ffurflen gais yn cynnwys yr holl wybodaeth ofynnol?
- A ydym yn fodlon bod y Person Cofrestredig neu'r Unigolyn Cyfrifol yn 'berson addas a phriodol'?
- A ydym yn fodlon y bydd y Person Cofrestredig yn cydymffurfio â gofynion y rheoliadau?
Mae Atodiad 7 yn nodi ein Fframwaith Penderfynu, sy'n cynnwys y ffynonellau tystiolaeth rydym yn eu hystyried wrth wneud penderfyniadau a phennu disgwyliadau.
A yw'r cais yn cynnwys yr holl wybodaeth ofynnol?
Bydd ein gwiriad cyflawnrwydd cychwynnol yn sicrhau bod y ffurflen gais yn cynnwys yr holl wybodaeth ofynnol. Os byddwn yn gweld nad yw'r wybodaeth neu'r dogfennau a ddarparwyd yn cynnwys digon o fanylion, byddwn yn gofyn am i hyn gael ei unioni.
Byddwn yn rhoi terfynau amser penodol i'r Person Cofrestredig / Unigolyn Cyfrifol ddarparu gwybodaeth ategol. Os na chaiff y wybodaeth ei chyflwyno, gall hyn olygu y caiff y cais ei wrthod.
Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw darparu unrhyw wybodaeth y gofynnwyd amdani i AGC mewn modd amserol.
5. Person addas a phriodol
Rhaid i AGC fod yn fodlon bod y Person Cofrestredig neu'r Unigolyn Cyfrifol yn “berson addas a phriodol” i ddarparu gwasanaethau rheoleiddiedig. Mae'r Rheoliadau'n nodi'r wybodaeth y mae'n rhaid i ymgeisydd ei darparu, ond rhaid i AGC hefyd ystyried pob mater sy'n briodol yn ein barn ni.
Bydd ein hasesiad o addasrwydd yn cynnwys unrhyw wybodaeth sydd gennym eisoes am Berson Cofrestredig neu Unigolyn Cyfrifol. Rhaid i Berson Cofrestredig ac Unigolyn Cyfrifol gwblhau Holiadur Person Addas fel rhan o'r ffurflen gais, gweler Atodiad 5. Mae'n bosibl y bydd y broses asesu hefyd yn cynnwys Cyfweliad Person Addas.
Efallai y byddwn yn cysylltu ag awdurdodau neu reoleiddwyr eraill (fel yr Heddlu, Gwasanaethau Cymdeithasol neu Ofsted) am wybodaeth lle y bo hynny'n briodol.
Wrth ystyried unrhyw wybodaeth a gawn drwy gysylltu ag awdurdodau neu reoleiddwyr eraill, byddwn yn ystyried materion fel:
- natur a difrifoldeb unrhyw drosedd(au)
- niwed a achoswyd i unrhyw blentyn/person, neu unrhyw dystiolaeth o fwriad i achosi niwed
- dyddiad y drosedd
- unrhyw gamau a gymerwyd gan y person i unioni'r mater
Bydd AGC yn ystyried a oes angen cymryd unrhyw gamau pellach. Gall hyn gynnwys gofyn am ragor o fanylion yn ysgrifenedig neu gynnal cyfweliad er mwyn canfod a yw'r datgeliad yn debygol o effeithio ar addasrwydd yr ymgeisydd i ddarparu'r gwasanaeth.
Bydd yn ofynnol i Bersonau Cofrestredig gwblhau gwiriad gan yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol. Caiff y gwiriadau hyn eu cynnal gan AGC er mwyn ystyried a yw ymgeisydd wedi'i anghymhwyso rhag gofalu am blant yn unol â Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2022.
Os caiff unrhyw ganlyniad positif ei ddatgelu gan wiriad yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol, bydd AGC yn ystyried a oes angen cymryd unrhyw gamau pellach. Gall hyn gynnwys gofyn am ragor o fanylion yn ysgrifenedig neu gynnal cyfweliad er mwyn canfod a yw'r wybodaeth yn debygol o effeithio ar addasrwydd yr ymgeisydd i ddarparu gwasanaeth rheoleiddiedig.
Rhaid i warchodwr plant a Pherson â Chyfrifoldeb ddarparu dau eirda mewn perthynas â'u cymhwysedd i gyflawni'r rolau ar gyfer y gwasanaeth(au) rheoleiddiedig.
6. Cydymffurfiaeth â'r Rheoliadau
Bydd angen i AGC fod yn fodlon y bydd y gwasanaeth yn cael ei ddarparu mewn ffordd sy'n sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth berthnasol. Bydd hyn yn cynnwys y rheoliadau a wnaed o dan y Mesur ac unrhyw ddeddfwriaeth arall sy'n berthnasol i'r gwasanaeth, fel deddfwriaeth iechyd a diogelwch.
Mae'r Rheoliadau a'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol yn nodi'r gofynion a'r argymhellion ar gyfer Personau Cofrestredig. Mae gofal plant rheoleiddiedig yn cynnwys ystod eang o fathau gwahanol o ddarpariaeth, gan gynnwys gofal dydd llawn, gofal plant y tu allan i oriau ysgol a darpariaeth chwarae mynediad agored. Rhaid i Bersonau Cofrestredig ystyried gofynion a safonau a all amrywio yn ôl natur y gwasanaeth. Mae ein Fframwaith Penderfynu yn rhoi mwy o fanylion am y ffynonellau tystiolaeth rydym yn eu defnyddio i ddod i benderfyniadau ynglŷn â chofrestru.
Byddwn yn ystyried lefelau o ddiffyg cydymffurfio mewn gwasanaethau sy'n bodoli eisoes fel rhan o'n hasesiad pan fydd darparwr cofrestredig yn gwneud cais i ychwanegu gwasanaeth arall.
Mae'n bosibl y byddwn yn gofyn i ymgeisydd gwblhau rhestr wirio ar gyfer y safle ac efallai y byddwn yn cynnal ymweliad â'r safle fel rhan o gais i gofrestru. Cynhelir yr ymweliad hwn er mwyn asesu gallu'r ymgeisydd i fodloni gofynion rheoliadol mewn perthynas ag addasrwydd y safle i ddarparu'r gwasanaeth a ddisgrifir yn y Datganiad o Ddiben. Felly, rhaid i'r Arolygydd Cofrestru allu gweld y safle wedi'i gwblhau ac yn barod i ddarparu'r gwasanaeth er mwyn cynnal yr asesiad hwnnw. Gall ymweliadau â gwasanaethau a ddefnyddir fod yn destun Asesiad Risg.
Nid yw AGC yn ymweld â safle nac yn asesu ei addasrwydd cyn i gais gael ei gyflwyno.
Ni ddylid cyflwyno cais i gofrestru oni bai bod y safle yn barod i gael ei asesu.
Mae Atodiad 10 yn rhoi rhagor o wybodaeth am y mathau o gais y mae AGC yn eu hasesu ac a yw ymweliad â safle yn debygol o gael ei gynnal.
Mae AGC yn defnyddio rhestr wirio er mwyn helpu i asesu'r safle os oes angen cynnal ymweliad.
Wrth ddod i benderfyniad yn ynglŷn â chofrestru, byddwn yn rhesymol ac yn gymesur o ran y wybodaeth y byddwn yn gofyn amdani, a dim ond pan fydd angen i ni wneud hynny er mwyn ein helpu i ddod i benderfyniad y byddwn yn gofyn am dystiolaeth ychwanegol.
Byddwn yn ceisio dod i benderfyniad ynghylch ceisiadau cofrestru o fewn yr amserlenni a argymhellir gan AGC. Os bydd angen gwybodaeth ychwanegol arnom neu os bydd materion penodol y mae angen eu datrys mewn perthynas â gwasanaeth, efallai y bydd angen i ni ymestyn yr amser y mae'n ei gymryd i ni brosesu'r cais.
Noder – nid yw cyflwyno cais yn golygu y caiff cofrestriad ei gymeradwyo yn awtomatig. Nod AGC yw cofrestru gwasanaethau diogel o ansawdd da. Gall asesu cais a gwneud penderfyniad yn ei gylch arwain at gymeradwyo neu wrthod cofrestriad.
Ar ôl iddynt gael eu cofrestru, rydym yn disgwyl i Bersonau Cofrestredig barhau i fodloni gofynion rheoliadol, gwella ansawdd y gwasanaeth ac ymgysylltu ag AGC.
7. Anghymhwyso rhag cofrestru
Mae rhai troseddau, gan gynnwys y rhai hynny a restrir yn Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2022 yn golygu y gall person gael ei anghymhwyso rhag cofrestru. Gall person hefyd gael ei anghymhwyso rhag cofrestru os yw’n byw yn yr un cartref â pherson arall sydd wedi'i anghymhwyso rhag cofrestru.
Fel rhan o'r ffurflen gais, mae'n ofynnol i'r ymgeisydd gyflwyno datganiadau o ran addasrwydd unrhyw unigolion sy'n debygol o ddod i gysylltiad â'r plant sy'n defnyddio'r gwasanaeth.
Rhaid i ymgeiswyr ddarparu gwybodaeth sy'n wir ac yn gywir, hyd eithaf eu gwybodaeth a'u cred. Mae'n drosedd gwneud datganiad anwir neu gamarweiniol yn fwriadol mewn cais i gofrestru, a gall gwneud hynny arwain at erlyniad a/neu at wrthod neu ganslo cofrestriad.
Mae Atodiad 8 yn cynnwys rhagor o wybodaeth am anghymhwyso rhag cofrestru.
8. Gwneud cais am hepgoriad
Os bydd unigolyn wedi'i anghymhwyso rhag cofrestru, bydd hawl ganddo i wneud cais i AGC am i'r anghymhwysiad hwn gael ei hepgor. Bydd AGC yn ystyried pob cais am hepgoriad yn unigol.
Mae Atodiad 9 yn rhoi rhagor o fanylion am y broses o wneud cais am hepgoriad a'r ffordd y mae AGC yn gwneud penderfyniadau ynghylch ceisiadau o'r fath.
9. Tynnu cais yn ôl cyn i benderfyniad gael ei wneud
Mae'r Mesur yn ei gwneud yn ofynnol i ni wneud penderfyniad ynglŷn â chais i gofrestru, drwy naill ai ei gymeradwyo neu ei wrthod. Er bod hyn yn ofyniad cyfreithiol llym, rydym yn cydnabod efallai y bydd ymgeisydd am dynnu cais yn ôl cyn i benderfyniad gael ei wneud. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd yn briodol i ni drin y cais fel cais wedi'i dynnu'n ôl.
Rhaid i unrhyw benderfyniad i dynnu cais yn ôl gael ei wneud gan yr ymgeisydd ei hun, a all geisio ei gyngor cyfreithiol ei hun os bydd yn dymuno gwneud hynny.
9.1 Os bydd ymgeisydd am dynnu cais yn ôl
Dylai'r ymgeisydd ddefnyddio ei gyfrif ar-lein i ofyn am i gais gael ei dynnu'n ôl, gan esbonio'r amgylchiadau. Bydd yr Arolygydd Cofrestru yn rhoi'r gorau i asesu'r cais.
Ar sail esboniad yr ymgeisydd o'r amgylchiadau, bydd Rheolwr y Tîm yn penderfynu a yw'n briodol trin y cais fel cais wedi'i dynnu'n ôl yn hytrach na gwneud penderfyniad yn ei gylch. Os caiff y cais ei gymeradwyo, caiff ei gofnodi fel cais wedi'i dynnu'n ôl ac anfonir cadarnhad o hyn at yr ymgeisydd.
Mae'n bosibl y bydd amgylchiadau lle y bydd AGC yn parhau i wneud penderfyniad ynglŷn â chais, er bod yr ymgeisydd wedi nodi nad yw'n awyddus i gael ei gofrestru mwyach. Er enghraifft, os bydd cais yn cael ei gyflwyno a'r broses gyfweld a gwybodaeth arall a gafwyd yn arwain AGC at y farn glir y byddai'r ymgeisydd yn anaddas i gael ei gofrestru. Yn yr amgylchiadau hyn, bydd AGC yn penderfynu gwrthod y cais. Mae goblygiadau ychwanegol i unrhyw benderfyniad i wrthod cais i gofrestru. Os caiff cais i gofrestru ei wrthod, caiff yr unigolyn dan sylw ei anghymhwyso rhag gallu gweithredu neu gyfrannu'n ariannol at ddarpariaeth gofal dydd a gwarchod plant, oni chaiff hepgoriad ei ganiatáu o dan Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Rhif 2) (Cymru) 2022.
10. Penderfyniadau ynglŷn â chofrestru
10.1 Cymeradwyo cais
Os byddwn yn bwriadu cymeradwyo cais, byddwn yn cyhoeddi Hysbysiad o Benderfyniad yn cymeradwyo'r cais a thystysgrif yn manylu ar yr amodau cofrestru. Daw'r cofrestriad i rym ar yr un diwrnod ag y caiff y cais ei gymeradwyo.
10.2 Gwrthod cais
Os byddwn yn bwriadu gwrthod cais i gofrestru, byddwn yn cyhoeddi Hysbysiad o Fwriad.
Bydd yr Hysbysiad yn nodi'r rhesymau dros wrthod y cais a'r amserlen ar gyfer gwneud sylwadau am eich cynnig.
Daw Hysbysiad o Benderfyniad i wrthod cais, a gyhoeddir yn dilyn Hysbysiad o Fwriad, i rym 28 diwrnod ar ôl iddo gael ei gyhoeddi, oni chaiff apêl ei gwneud i'r Tribiwnlys.
11. Y broses sylwadau ac apeliadau
Os byddwn yn cyhoeddi Hysbysiad o Fwriad naill ai i osod amodau ar gofrestriad neu wrthod cais, bydd yr Hysbysiad yn pennu terfyn amser ar gyfer gyflwyno sylwadau i ni. Bydd y terfyn amser hwn wedi'i nodi yn yr Hysbysiad, ond rhaid iddo fod yn 28 diwrnod o leiaf.
Byddwn yn anelu at ymateb drwy gyhoeddi Hysbysiad o Benderfyniad o fewn 28 diwrnod ar ôl y terfyn amser ar gyfer gwneud sylwadau. Os na allwn ymateb o fewn 28 diwrnod, byddwn yn rhoi gwybod i'r ymgeisydd ac yn nodi'r rhesymau dros hynny. Mewn achosion o'r fath, byddwn yn cyhoeddi Hysbysiad o Benderfyniad o fewn 56 diwrnod ar ôl y terfyn amser ar gyfer gwneud sylwadau. Rydym yn ystyried sylwadau yn unol â'n Proses Sylwadau, gweler Atodiad 11.
Bydd yr Hysbysiad o Benderfyniad yn nodi a ydym yn bwriadu cymryd y camau arfaethedig, a bydd yn egluro'r rhesymau dros hynny ac unrhyw hawliau i apelio.
12. Apeliadau
Rhaid i unrhyw apêl gael ei gwneud yn uniongyrchol i'r Tribiwnlys erbyn y terfyn amser a bennwyd yn yr Hysbysiad. Yna, bydd y Tribiwnlys yn pennu amserlen ar gyfer yr achos.
Gall y Tribiwnlys gadarnhau'r penderfyniad i wrthod y cais, gwrthdroi'r penderfyniad, gorchymyn y dylid cymeradwyo'r cais, neu wneud unrhyw orchymyn arall fel y gwêl yn briodol.
13. Amodau cofrestru ac amrywiadau
Pan fydd gwasanaeth wedi'i gymeradwyo, bydd angen i'r Person Cofrestredig/Unigolyn Cyfrifol actifadu ei gyfrif AGC Ar-lein, gan ei alluogi i gyflwyno hysbysiadau a gwneud cais i amrywio'r amodau cofrestru. Y cyfrif hwn fydd yr un a ddefnyddiwyd yn ystod y broses gofrestru. Bydd gan bob Person Cofrestredig/Unigolyn Cyfrifol ei gyfrif ei hun ac ni ddylai rannu manylion mewngofnodi ei gyfrif ag unrhyw berson arall.
13.1 Amodau cofrestru
Ar adeg cofrestru, rhoddir tystysgrif i bob darparwr Gofal Plant a Chwarae sy'n cynnwys ei amodau cofrestru.
Gall AGC osod amodau o'r fath fel y gwêl yn briodol ar adeg cofrestru. Bydd yr amodau hyn yn amrywio yn dibynnu ar y math o wasanaeth.
Ar gyfer gwarchodwr plant, bydd yr amodau cofrestru safonol canlynol bob amser:
- Cyfeiriad y gwasanaeth lle y caiff y plant eu gwarchod
- Uchafswm nifer y plant a fydd yn derbyn gofal ar unrhyw adeg benodol
Os nad oes unrhyw bryderon am addasrwydd na lle ar y safle, caiff gwarchodwyr plant eu cofrestru ar gyfer yr uchafswm safonol o 10 o blant.
Ceir amod cofrestru ychwanegol a ddefnyddir pan fydd gwarchodwr plant yn gweithio gyda gwarchodwr plant arall yn yr un cyfeiriad, neu pan fydd gwarchodwr plant yn gweithio gyda chynorthwyydd yn yr un cyfeiriad, ac yn darparu gofal i fwy na 10 o blant.
Ar gyfer gwasanaethau gofal plant a chwarae, bydd yr amodau cofrestru safonol canlynol yn gymwys i'r gwasanaeth bob amser:
- Uchafswm nifer y plant a fydd yn derbyn gofal ar unrhyw adeg benodol
- Enw'r Unigolyn/Unigolion Cyfrifol – os mai sefydliad yw'r Person Cofrestredig
Gallwn osod amodau ar gofrestriad Person Cofrestredig pan fydd yn cofrestru a phan fydd y gwasanaeth wedi dod yn weithredol.
13.2 Amrywio amodau
Gellir amrywio amodau cofrestru Person Cofrestredig naill ai drwy gamau gweithredu gennym ni i wneud hynny, neu drwy gais gan y Person Cofrestredig.
Y camau gweithredu a gymerir gennym
O dan yr amgylchiadau canlynol, byddwn yn cyhoeddi Hysbysiad o Fwriad i wneud y canlynol:
- Gosod amodau ar gofrestriad Person Cofrestredig
- Amrywio amodau ar gofrestriad Person Cofrestredig
- Tynnu amodau oddi ar gofrestriad Person Cofrestredig
- Gwrthod cais i amrywio amodau ar gofrestriad Person Cofrestredig
- Gwrthod cais i dynnu amodau oddi ar gofrestriad Person Cofrestredig
Bydd pob Hysbysiad y byddwn yn ei gyhoeddi yn nodi'r camau gweithredu rydym yn bwriadu eu cymryd, y rheswm/rhesymau dros gymryd y camau gweithredu a therfyn amser i'r sawl sy'n derbyn yr Hysbysiad wneud sylwadau i ni. Gall yr amserlen ar gyfer gwneud sylwadau amrywio yn dibynnu ar yr amgylchiadau, ond ym mhob achos, mae'n rhaid iddi fod o leiaf 28 diwrnod ar ôl i'r Hysbysiad gael ei gyhoeddi.
Mae ein Proses Sylwadau yn Atodiad 11 yn nodi'r broses ar gyfer gwneud sylwadau a'r ffordd rydym yn ymateb iddynt..
14. Ceisiadau gan Bersonau Cofrestredig
Gall Personau Cofrestredig wneud cais i amrywio eu cofrestriad drwy AGC Ar-lein drwy wneud y canlynol:
- Ychwanegu gwasanaeth gofal dydd ychwanegol (byddai wedi bod yn ofynnol gwneud cais newydd i gofrestru yn flaenorol):
- Dileu gwasanaeth
Gall Personau Cofrestredig wneud cais i amrywio eu hamodau yn y ffyrdd canlynol:
- Amrywio uchafswm nifer y plant a fydd yn derbyn gofal ar unrhyw adeg benodol
- Amrywio'r amodau a osodwyd ar eu cofrestriad
- Ychwanegu Unigolyn Cyfrifol
- Dileu Unigolyn Cyfrifol
- Amrywio cyfeiriad y gwasanaeth (gwarchodwyr plant yn unig)
- Ychwanegu/Dileu partner (Partneriaethau yn unig)
Os byddwn yn bwriadu cymeradwyo cais, byddwn yn cyhoeddi Hysbysiad o Benderfyniad i gymeradwyo'r cais. Daw'r penderfyniad i rym ar yr un diwrnod y caiff y cais ei gymeradwyo.
Os byddwn yn cyhoeddi Hysbysiad o Fwriad i wrthod cais i amrywio amodau, bydd yr Hysbysiad yn rhoi terfyn amser ar gyfer gwneud sylwadau i ni. Mae ein Proses Sylwadau yn Atodiad 11 yn nodi'r broses ar gyfer gwneud sylwadau a'r ffordd rydym yn ymateb iddynt.
Atodiad 1 – Rhestr termau
Staff Gofal Plant a Chwarae/Cynorthwyydd Gwarchodwr Plant
Person a gyflogir dan gontract cyflogaeth i ofalu am blant perthnasol, neu unigolyn sy'n gwirfoddoli i ofalu am blant perthnasol.
Gwarchodwr plant
Mae person yn gweithredu fel gwarchodwr plant os yw'n gofalu am un neu fwy o blant dan ddeuddeg oed ar safle domestig am fudd.
Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Mae'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn helpu cyflogwyr i wneud penderfyniadau recriwtio mwy diogel ac atal pobl anaddas rhag gweithio gyda grwpiau sy'n agored i niwed, gan gynnwys plant. Bydd gwiriad safonol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn dangos unrhyw euogfarnau heb eu disbyddu, rhybuddion a cheryddon. Bydd gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn dangos pob rhybudd a cherydd, yn ogystal ag euogfarnau wedi'u disbyddu a heb eu disbyddu. Gall hefyd chwilio drwy'r rhestr o bobl sydd wedi'u gwahardd rhag gweithio gyda phlant ac oedolion sy'n agored i niwed, er mwyn gweld a yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag gweithio gyda'r grwpiau hyn. Gall yr heddlu lleol ychwanegu unrhyw wybodaeth berthnasol am yr ymgeisydd.
Gorfodi
Amrywiaeth o gamau a gymerir gan AGC yn erbyn darparwr gwasanaeth nad yw'n cydymffurfio a gofynion rheoliadol neu amodau ei gofrestriad. Gall hyn amrywio o gyhoeddi hysbysiadau diffyg cydymffurfio i ganslo cofrestriad darparwr gwasanaeth.
Person addas a phriodol
Rhywun y mae Gweinidogion Cymru yn ei ystyried yn gymwys ac yn addas ar gyfer rôl person cofrestredig neu unigolyn cyfrifol.
Arolygu
Pan fydd yr arolygiaeth yn cadarnhau ac yn asesu safon y gofal a'r cymorth a ddarperir gan ddarparwr gwasanaeth wrth ddarparu gwasanaeth rheoleiddiedig.
Endid cyfreithiol
Mae hyn yn golygu unigolyn, cwmni neu sefydliad sydd â hawliau a rhwymedigaethau cyfreithiol.
Yn byw yn
Pawb sy'n 16 oed a throsodd ac yn byw ar y safle perthnasol (o ran y ffurflen gais a chynnal gwiriadau gorfodol).
Person â Chyfrifoldeb
O ran gofal plant a chwarae, yr unigolyn a benodwyd gan y Person Cofrestredig i fod yn gwbl gyfrifol am ddarparu gofal plant ar y safle o ddydd i ddydd.
Darparwr
Unigolyn, cwmni neu sefydliad sy'n darparu'r gwasanaeth.
Darparwr gwasanaeth Gofal Plant a Chwarae i blant
Mae person yn darparu gwasanaeth gofal plant a chwarae i blant os yw'n darparu gofal i blant dan ddeuddeg oed ar unrhyw adeg benodol ar safle ar wahân i safle domestig.
Person Cofrestredig
Person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 i ddarparu gwasanaeth, fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gwasanaeth gofal plant a chwarae.
Rheoliadau
Mae'r rhain yn nodi'r gofynion y mae'n rhaid i Bersonau Cofrestredig eu bodloni er mwyn cofrestru i ddarparu gwasanaeth.
Unigolyn Cyfrifol
Person a ddynodwyd gan Berson Cofrestredig sy'n sefydliad i weithredu ar ei ran mewn perthynas â gwasanaeth(au) cofrestredig. O ran darpariaeth gan sefydliad sy'n gorff corfforaethol, dylai'r Unigolyn Cyfrifol fod yn gyfarwyddwr, yn rheolwr, yn ysgrifennydd neu'n swyddog arall, neu os yw sefydliad yn gymdeithas anghorfforedig, dylai fod yn swyddog neu'n aelod o'r corff llywodraethu. Mae'r person hwn yn gyfrifol am oruchwylio darpariaeth y gwasanaeth gofal plant a chwarae.
Gwasanaeth
Mae hyn yn cyfeirio at wasanaeth unigol. Yn achos gwarchod plant, y gwarchodwr plant yw hwn. Yn achos gwasanaeth gofal plant a chwarae, mae'n cyfeirio at wasanaeth gofal plant a chwarae a ddarperir mewn lleoliad penodol.
Gofal Cymdeithasol Cymru
Gofal Cymdeithasol Cymru yw rheoleiddiwr y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'n gosod safonau ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol, ac yn ei ddatblygu, gan ei wneud yn atebol am ei waith a darparu gwybodaeth am ofal a chymorth i'r cyhoedd, y gweithlu a sefydliadau eraill.
Datganiad o Ddiben
Y Datganiad o Ddiben yw'r brif ddogfen sy'n nodi eich gweledigaeth ar gyfer y gwasanaeth a'r ffordd rydych yn bwriadu diwallu anghenion y plant sy'n ei ddefnyddio.
I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae'n rhaid i'r Datganiad o Ddiben ei gynnwys, gweler ein canllawiau ar lunio Datganiad o Ddiben.
Atodiad 2 – Diffiniadau o ofal plant rheoleiddiedig
Mae gofal plant rheoleiddiedig yn cynnwys ystod eang o fathau gwahanol o ddarpariaeth.
Yng Nghymru, caiff darpariaeth gwarchod plant, gofal dydd a chwarae i blant hyd at 12 oed ei rheoleiddio gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Caiff rhai gwasanaethau cofrestredig eu hariannu gan Awdurdodau Lleol i ddarparu'r Cwricwlwm i Gymru i blant 3-4 oed. Caiff y gwasanaethau hyn eu harolygu gan Estyn hefyd, er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd safonau addysgol.
Mae gofal plant rheoleiddiedig yn cynnwys dau gategori:
Gwarchod plant
Gofal plant a ddarperir gan un neu fwy o bobl i blant o oed geni hyd at 12 oed ar safle domestig ar wahân i gartref y plentyn ei hun am fwy na dwy awr y dydd am fudd.
Gall gwarchodwyr plant gynnig y canlynol: Gofal dydd llawn a gofal rhan amser fel darpariaeth cyn ac ar ôl ysgol, gan gynnwys oriau annodweddiadol, e.e.
- darpariaeth gyda'r nos, ar benwythnosau a dros nos, gofal cofleidiol - darpariaeth gofal plant sy'n cefnogi'r rhieni hynny y mae eu plant yn cael lleoedd addysg wedi'u hariannu er mwyn ymestyn y ddarpariaeth i ddiwrnod ysgol llawn
- darpariaeth yn ystod gwyliau'r ysgol, lleoedd addysg a ariennir - y Cwricwlwm i Gymru i blant rhwng 3 a 4 oed, ar gyfer rhan o'r diwrnod ysgol
- lleoedd gofal plant am ddim - gofal plant sydd ar gael drwy raglenni a ariennir fel Dechrau'n Deg a/neu raglenni neu fentrau eraill gan Lywodraeth Cymru
Mae'n rhaid i unrhyw un sy'n cynnig gweithredu fel gwarchodwr plant fod wedi'i gofrestru ag AGC oni bai ei fod wedi'i eithrio rhag cofrestru o dan Ran 2 o Orchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (fel y'i diwygiwyd), gweler Atodiad 2.
Ni chaiff neb sy'n gwneud cais i gofrestru fel gwarchodwr plant fod wedi'i anghymhwyso rhag cofrestru, ac mae'n rhaid iddo fodloni a bod yn debygol o barhau i fodloni gofynion penodol a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 1 i Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010, (fel y'u diwygiwyd), a Rhannau 3, 4 a 5 o'r Rheoliadau hynny. Hefyd, ni chaiff neb sy'n gweithio neu'n byw ar y safle sy'n dod i gysylltiad rheolaidd â'r plant fod wedi'i anghymhwyso.
Ar hyn o bryd, nid oes rhaid cofrestru darpariaeth gofal i blant 12 oed a throsodd. Fodd bynnag, gall plant 12 oed a throsodd dderbyn gofal gan warchodwr plant sydd wedi'i gofrestru ac sy'n darparu gofal i blant dan 12 oed.
Darpariaeth gofal dydd a chwarae mynediad agored
Gofal plant a ddarperir gan un neu fwy o bobl neu sefydliad i blant o oed geni hyd at 12 oed ar safle annomestig am fwy na dwy awr y dydd am fudd.
Mae'n rhaid i unrhyw un sy'n cynnig darparu gwasanaeth gofal plant a chwarae fod wedi'i gofrestru ag AGC oni bai ei fod wedi'i eithrio rhag cofrestru o dan Ran 3 o Orchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (fel y'i diwygiwyd), gweler Atodiad 2.
Mae gofal plant a chwarae ar safle annomestig yn cynnwys amrywiaeth o ddarpariaethau gwahanol, gan gynnwys:
- Gofal Dydd Llawn – gofal plant i blant o oed geni hyd at 12 oed am gyfnod parhaus o bedair awr neu fwy mewn diwrnod, ar safle annomestig. Gall gynnwys meithrinfeydd dydd, canolfannau plant a rhai canolfannau teuluoedd, sy'n cynnig gofal llawn amser neu ran amser, gan gynnwys darpariaeth cyn ac ar ôl ysgol, gofal cofleidiol, darpariaeth yn ystod gwyliau'r ysgol, lleoedd addysg a ariennir a lleoedd gofal plant am ddim. Gall hefyd gynnwys gwasanaethau sy'n cynnig amrywiaeth o wasanaethau gofal gwahanol drwy gydol y dydd, e.e. Gofal Dydd Sesiynol a Gofal y Tu Allan i Oriau'r Ysgol. Gall y rhain gynnwys grwpiau chwarae cyfrwng Cymraeg a Saesneg, cylchoedd meithrin, gofal cofleidiol, lleoedd addysg a ariennir a lleoedd gofal plant am ddim.
- Gofal Dydd Sesiynol – gofal plant i blant rhwng 2 a 4 oed am lai na chyfnod parhaus o bedair awr mewn unrhyw ddiwrnod, ar safle annomestig. Os caiff dwy sesiwn eu cynnig mewn diwrnod, ni ddylai plant fynychu mwy na phum sesiwn bob wythnos. Dylai fod toriad rhwng y sesiynau ac ni ddylai'r plant fod yng ngofal y darparwr. Gall gynnwys grwpiau chwarae, cylchoedd meithrin, gofal cofleidiol, lleoedd addysg a ariennir a lleoedd gofal plant am ddim.
- Gofal y Tu Allan i Oriau'r Ysgol – gofal plant i blant rhwng 3 a 12 oed am fwy na chyfnod parhaus o ddwy awr mewn unrhyw ddiwrnod, ar safle annomestig. Mae'n cyfeirio at ofal plant y tu allan i oriau diwrnod ysgol llawn amser plentyn ac mae'n cynnwys gofal a ddarperir cyn ac ar ôl yr ysgol ac yn ystod gwyliau'r ysgol. Nid yw'n cynnwys gofal cofleidiol na chynllun brecwast mewn ysgolion cynradd Llywodraeth Cymru.
- Meithrinfeydd - gofal plant i blant o oed geni hyd at 12 oed, a ddarperir yn achlysurol ar safle annomestig. Mae angen iddynt fod wedi'u cofrestru os ydynt yn darparu gofal o safle dynodedig am fwy na dwy awr y dydd a mwy na phum niwrnod y flwyddyn. Mae gan rai ohonynt safle parhaol ac maent yn darparu gofal i blant tra bod eu rhieni'n cymryd rhan mewn gweithgareddau penodol, e.e. hyfforddiant neu chwaraeon. Mae rhai eraill wedi'u sefydlu dros dro er mwyn darparu gofal i blant tra bod eu rhieni'n cymryd rhan mewn gweithgareddau cyfnod penodol, e.e. cynhadledd neu arddangosfa.
- Darpariaeth Chwarae Mynediad Agored – fel arfer i blant rhwng 5 a 12 oed, wedi'i darparu gan staff am fwy na dwy awr y dydd ac ar fwy na phum niwrnod y flwyddyn. Gall fod yn ddarpariaeth barhaol neu dros dro, wedi'i lleoli mewn amrywiaeth o leoliadau neu heb safle, a gall gynnwys cynlluniau chwarae yn ystod y gwyliau. Ei diben yw cynnig cyfleoedd chwarae wedi'u staffio i blant, fel arfer yn absenoldeb eu rhieni. Ni chyfyngir ar symudiadau'r plant oni bai bod angen gwneud hynny am resymau diogelwch, ac ni chânt eu hatal rhag mynd a dod fel y mynnant.
Rhaid i unigolion a sefydliadau sy'n gwneud cais i gofrestru fodloni'r meini prawf statudol a bennir yn adran 26 o Orchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Diwygio) 2016, sef nad ydynt wedi'u hanghymhwyso rhag cofrestru a'u bod yn bodloni ac yn debygol o barhau i fodloni'r gofynion a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 1 i Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010, (fel y'u diwygiwyd), a Rhannau 3, 4 a 5 o'r Rheoliadau hynny
Ar hyn o bryd, nid oes rhaid cofrestru darpariaeth gofal i blant 12 oed a throsodd, ond gall plant 12 oed a throsodd dderbyn gofal mewn lleoliad sydd wedi'i gofrestru i ddarparu gofal i blant dan 12 oed.
Atodiad 3 – Dull AGC o ymdrin â Sefydliadau Corfforedig Elusennol
Beth yw Sefydliad Corfforedig Elusennol?
Yn hanesyddol, byddai darparwyr â statws elusennol yn aml yn sefydlu cwmni cyfyngedig er mwyn rhedeg eu busnes a chofrestru â ni. Byddai hyn yn golygu eu bod wedi'u cofrestru â Thŷ'r Cwmnïau a'r Comisiwn Elusennau. Creodd Deddf Elusennau 2006 fath newydd o endid cyfreithiol, sef Sefydliad Corfforedig Elusennol (SCE).
Sefydliadau elusennol sydd â'u hunaniaeth gyfreithiol eu hunain yw SCEau. Mae ganddynt statws anghorfforedig sy'n golygu y gallant ymrwymo i gontractau yn eu henw eu hunain a bod ganddynt atebolrwydd cyfyngedig sy'n diogelu aelodau ac ymddiriedolwyr rhag colledion ariannol. Mae SCEau wedi'u cofrestru â'r Comisiwn Elusennau, ond byddant hefyd yn ymddangos ar gofrestr Tŷ'r Cwmnïau.
Yn 2018, cyflwynodd deddfwriaeth broses symlach i gwmnïau elusennol newid i fod yn SCE gan gynnal eu statws cyfreithiol. Mae’r broses hon yn golygu bod y sefydliad yn cadw ei holl asedau a rhwymedigaethau, heb fod angen iddo drosglwyddo dim o'r cwmni i'r SCE.
Beth yw'r effaith ar gofrestru ag AGC?
Noder - Os bydd y math o ddarparwr neu'r endid cyfreithiol sy'n gyfrifol am ddarparu'r gwasanaeth yn newid, er enghraifft o Berson Cofrestredig i SCE, bydd angen i chi gyflwyno cais newydd i gofrestru.
Darparwyr newydd
Ar gyfer darparwyr newydd, rhaid i ymgeiswyr sicrhau eu bod yn nodi'n glir y math o endid cyfreithiol y maent y ei gofrestru. Fel rhan o'r broses gofrestru, bydd AG yn cynnal gwiriadau â Thŷ'r Cwmnïau a'r Comisiwn Elusennau er mwyn sicrhau bod yr endid cyfreithiol cywir wedi'i nodi.
Pwy sy'n darparu'r gwasanaeth?
Bydd angen i AGC hefyd fod yn fodlon mai'r person/sefydliad sy'n gyfrifol am ddarparu'r gwasanaeth yw'r un sy'n gwneud cais i gofrestru. Er enghraifft, bydd AGC yn ystyried pwy sy'n gwneud penderfyniadau allweddol o ran rhedeg y gwasanaeth, fel:
- Pwy sy'n ymrwymo i gontractau cyflogaeth â'r staff? Ai person unigol neu fwrdd/pwyllgor o Ymddiriedolwyr sy'n gwneud hynny?
- Pwy sydd â rheolaeth dros y safle lle y caiff y gwasanaeth ei ddarparu (boed hynny fel tenant neu fel perchennog)? Ai unigolyn neu bwyllgor sy'n gyfrifol sy'n gyfrifol am hynny?
- Os mai unigolyn sy'n gwneud cais i gofrestru, a oes gan yr unigolyn gontract cyflogaeth gyda phwyllgor/bwrdd ymddiriedolwyr?
- Yn enw pwy mae'r yswiriannau atebolrwydd cyflogwr ac atebolrwydd cyhoeddus? Pwy sy'n atebol am unrhyw rwymedigaethau a all godi?
Bydd AGC yn ystyried yr atebion i'r cwestiynau hyn (ac unrhyw rai eraill a all fod yn berthnasol) wrth benderfynu pwy sy'n darparu'r gwasanaeth. Os bydd unigolyn wedi gwneud cais i gofrestru, ond bydd yr atebion i'r cwestiynau hyn yn datgelu bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu gan bwyllgor neu fwrdd ymddiriedolwyr, yna bydd angen gwneud cais newydd yn enw'r sefydliad perthnasol.
Gall peidio â nodi'r endid cyfreithiol cywir ar ffurflen gais i gofrestru arwain at oedi wrth gofrestru'r gwasanaeth.
Darparwyr cofrestredig sy'n newid eu statws cyfreithiol
Ym mhob sefyllfa, pan fydd darparwr cofrestredig yn gwneud cais am statws SCE, mae'n rhaid iddo gysylltu ag AGC. Yn dibynnu ar y math o endid cyfreithiol sydd wedi'i gofrestru ag AGC ar hyn o bryd, mae angen gwahanol ganlyniadau a chamau gweithredu mewn perthynas â chofrestru'r darparwr.
Nodir isod y gwahanol senarios a all fod yn gymwys, a'r camau gweithredu sy'n ofynnol:
Unigolyn yw'r person cofrestredig
Gall y senario hwn fod yn gymwys i unigolyn sydd wedi'i gofrestru yn ei rinwedd ei hun ond sydd hefyd yn rhan o sefydliad megis pwyllgor neu fwrdd ymddiriedolwyr, neu'n cael ei gyflogi ganddo. Os yw'r sefydliad yn newid ei statws cyfreithiol i SCE, bydd angen i AGC ystyried pwy sy'n darparu'r gwasanaeth – yr unigolyn neu'r sefydliad.
Gan ystyried yr ymatebion i'r cwestiynau uchod; os mai'r person cofrestredig unigol sy'n gyfrifol am ddarparu'r gwasanaeth, ni fydd angen gwneud cais newydd i gofrestru.
Os mai'r sefydliad sy'n gyfrifol am ddarparu'r gwasanaeth, bydd angen gwneud cais newydd i gofrestru. Bydd angen i'r cais i gofrestru fod yn enw'r SCE a rhaid iddo gael ei gyflwyno o fewn 28 diwrnod ar ôl i'r SCE gael ei gofrestru â'r Comisiwn Elusennau.
Cwmni Cyfyngedig yw'r Person Cofrestredig
Bydd y sefyllfa hon yn gymwys i wasanaethau lle mai cwmni cyfyngedig, heb statws elusennol, yw'r darparwr cofrestredig, a lle mae'n sefydlu SCE i ymgymryd â'r gwaith o ddarparu'r gwasanaeth.
Bydd gan y SCE newydd ei endid cyfreithiol ei hun ac, felly, bydd angen iddo wneud cais newydd i gofrestru'r gwasanaeth ag AGC. Rhaid i'r cais hwn gael ei gyflwyno o fewn 28 diwrnod ar ôl i'r SCE gael ei gofrestru â'r Comisiwn Elusennau.
Cwmni Elusennol yw'r Person Cofrestredig
Mae Cwmnïau Elusennol yn cael budd o broses symlach ar gyfer newid i fod yn SCE. Mae'r broses hon yn galluogi'r Cwmni Elusennol i gadw ei enw a'i rif elusen yn ogystal ag unrhyw asedau neu rwymedigaethau.
Gan fod yr endid cyfreithiol yn parhau, nid oes angen gwneud cais newydd i gofrestru'r SCE. Fodd bynnag, rhaid rhoi gwybod i AGC am y newid, gan ddarparu'r manylion canlynol:
- Cadarnhad o'r enw a'r rhif elusen
- Cadarnhad o'r cyfeiriad
- Enw pob ymddiriedolwr
Rhaid i'r wybodaeth hon gael ei darparu o fewn 28 diwrnod ar ôl i'r SCE gael ei gofrestru â'r Comisiwn Elusennau.
Sefydliad anghorfforedig yw'r Person Cofrestredig
Bydd y sefyllfa hon yn gymwys i wasanaethau lle mai sefydliad anghorfforedig, megis pwyllgor neu ymddiriedolaeth elusennol, yw'r darparwr cofrestredig, sy'n newid i fod yn SCE.
Bydd gan y SCE newydd ei endid cyfreithiol ei hun ar wahân i'r sefydliad anghorfforedig ac, felly, bydd angen iddo wneud cais newydd i gofrestru'r gwasanaeth ag AGC. Rhaid i'r cais hwn gael ei gyflwyno o fewn 28 diwrnod ar ôl i'r SCE gael ei gofrestru â'r Comisiwn Elusennau.
Ym mhob sefyllfa lle mae angen gwneud cais newydd, gan gymryd bod cais i gofrestru'r gwasanaeth wedi'i gyflwyno o fewn 28 diwrnod, bydd cofrestriad y gwasanaeth yn parhau nes bod penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch y cais newydd
Ble i fynd am gymorth
Ar gyfer unrhyw ymholiadau yn ymwneud â chofrestru ag AGC, cysylltwch ag AGC ar 0300 790 0126 a dewiswch Opsiwn 1 neu e-bostiwch agc@llyw.cymru.
I gael cyngor ac arweiniad mewn perthynas â SCEau, ewch i wefan y Comisiwn Elusennol.
Atodiad 4 – Lle y caiff gwasanaethau Gofal Plant a Chwarae eu darparu ar safleoedd ysgolion
Os caiff gwasanaeth Gofal Plant a Chwarae ei ddarparu ar safle ysgol, rhaid i'r gwasanaeth fod wedi'i gofrestru ag AGC. Bydd y sawl y mae angen iddo gofrestru i ddarparu'r gwasanaeth yn amrywio, yn dibynnu ar y trefniadau llywodraethu.
Nodir isod yr amrywiaeth o amgylchiadau lle y dylai corff llywodraethu gofrestru:
- Mae corff llywodraethu ysgol yn cyflogi unigolyn i ddarparu gofal plant.
- Mae'r pennaeth yn rheoli'r gofal plant yn uniongyrchol, ond mae'n gwneud hynny ar ran yr ysgol.
- Mae'r pennaeth yn cyflogi rheolwr i ddarparu gofal plant ar ran yr ysgol.
- Mae'r pennaeth a rhai o aelodau'r corff llywodraethu yn ffurfio pwyllgor i ddarparu'r gofal (hyd yn oed os nad ydynt yn atebol i'r corff llywodraethu cyfan).
- Mae'r corff llywodraethu yn sefydlu pwyllgor i fod yn gyfrifol am y gwaith o reoli a darparu'r gwasanaeth gofal y tu allan i oriau ysgol, ac mae'r pwyllgor yn atebol i'r corff llywodraethu.
Nodir isod yr amrywiaeth o amgylchiadau lle y dylai endidau cyfreithiol eraill gofrestru:
- Mae'r ysgol yn comisiynu unigolyn neu sefydliad i ddarparu gofal plant ar ei rhan – yr unigolyn neu'r sefydliad a gomisiynwyd i ddarparu'r gwasanaeth yw'r endid cyfreithiol y bydd angen iddo gofrestru.
- Mae'r corff llywodraethu yn sefydlu pwyllgor i fod yn gwbl gyfrifol am y gwaith o ddarparu'r gwasanaeth gofal y tu allan i oriau ysgol. Nid yw'r pwyllgor yn atebol i'r corff llywodraethu – y pwyllgor sy'n gyfrifol am ddarparu'r gofal. Y pwyllgor yw'r endid cyfreithiol y bydd angen iddo gofrestru.
- Mae'r clwb y tu allan i oriau ysgol yn cael ei gynnal gan bwyllgor rhieni, sydd â rheolaeth lawn dros y gofal o ddydd i ddydd a ddarperir ac nad yw'n atebol i'r corff llywodraethu – y pwyllgor rhieni yw'r endid cyfreithiol y bydd angen iddo gofrestru.
- Mae person neu sefydliad yn llogi ystafell ar safle'r ysgol er mwyn darparu gofal – y person neu'r sefydliad sy'n rhentu'r safle ac yn darparu'r gofal plant yw'r endid cyfreithiol y bydd angen iddo gofrestru
Atodiad 5 – Holiadur Person Addas a Phriodol – Person/Personau Cofrestredig/Unigolyn/Unigolion Cyfrifol
Mae'r adran ganlynol yn gofyn i chi gwblhau pedwar cwestiwn am y ffordd y byddwch yn cyflawni eich cyfrifoldebau cyfreithiol o ran y gwasanaeth. Byddwn yn defnyddio eich ymatebion i asesu eich addasrwydd.
Fe'ch cynghorir i ymgyfarwyddo â'r ddeddfwriaeth berthnasol, gan gynnwys:
- Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010
- Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2022
- Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016
- Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010
- Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2016
Bydd angen i chi hefyd ymgyfarwydd o â'r canlynol, a rhoi sylw iddynt:
- Y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed
- Y Fframwaith Arolygu ar gyfer Gofal Plant
Gallwch ddod o hyd i'r Rheoliadau, y Safonau Gofynnol Cenedlaethol a'r Fframwaith Arolygu ar ein gwefan. Gallwch gael rhagor o arweiniad drwy bwyso'r botwm 'help'.
Rheoli'r gwasanaeth
Sut y byddwch yn sicrhau eich bod yn rheoli eich gwasanaeth a, lle y bo hynny'n berthnasol, yn arwain eich staff (mae hyn yn cynnwys cynorthwywyr gwarchod plant/gwirfoddolwyr/myfyrwyr) yn effeithiol?
Testun cymorth: Yn eich ymateb, dylech ystyried Rheoliadau 9, 12, 14, 15 ac 16, yn ogystal â Rhan 5 o Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010, fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016.
Dylech hefyd ystyried Thema 4.1 y Fframwaith Arolygu.
Eich cyfrifoldebau cyfreithiol o ran personau yn y gwasanaeth
A) Os ydych yn warchodwr plant, beth yw eich dealltwriaeth o'ch cyfrifoldebau cyfreithiol o ran unigolion yn eich gwasanaeth? Mae hyn yn cynnwys:
- pobl sy'n byw yn eich cartref
- gwarchodwyr plant cofrestredig eraill
- staff (cynorthwywyr gwarchod plant/gwirfoddolwyr/myfyrwyr).
B) Os ydych yn Berson Cofrestredig/Unigolyn Cyfrifol mewn gwasanaeth gofal dydd, beth yw eich dealltwriaeth o'ch cyfrifoldebau cyfreithiol wrth benodi unigolion i weithio/gwirfoddoli yn eich gwasanaeth?
Disgrifiwch y trefniadau sydd gennych yn eich gwasanaeth i benodi Person â Chyfrifoldeb addas ac aelodau addas o'r staff.
Testun cymorth: Yn eich ymateb, dylech ystyried Rheoliadau 27, 28 a 29 ac Atodlenni 1 a 2 i Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010, fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016.
Dylech hefyd ystyried Thema 4.3 y Fframwaith Arolygu.
Adolygiad o Ansawdd y Gofal
Disgrifiwch:
- Y systemau a'r prosesau y byddwch yn eu defnyddio i hunanwerthuso a gwella ansawdd eich gwasanaeth.
- Y cynlluniau sydd gennych i wella canlyniadau i'r plant yn eich gofal.
Testun cymorth: Yn eich ymateb, dylech ystyried Rheoliadau 16 a 32 o Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010. Dylech hefyd ystyried Thema 4.2 y Fframwaith Arolygu.
Amddiffyn a Diogelu Plant
Amddiffyn y plentyn yw'r brif flaenoriaeth ac mae gan bawb gyfrifoldeb i wneud hynny. Disgrifiwch:
- Yr hyn y byddech chi a'r aelodau o'ch staff (gan gynnwys cynorthwywyr gwarchod plant lle y bo hynny'n berthnasol) yn ei wneud pe bai gennych unrhyw bryderon am lesiant plentyn.
- Sut y byddech yn rhoi polisi amddiffyn plant eich gwasanaeth ar waith.
Testun cymorth: Yn eich ymateb, dylech ystyried Rheoliadau 16 a 32 o Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010. Dylech hefyd ystyried Thema 2 y Fframwaith Arolygu.
Atodiad 6 – Crynodeb o'r wybodaeth a'r dogfennau sydd eu hangen yn y ffurflen gais
A6.1 Gwybodaeth am ddarparwr y gwasanaeth
Gwybodaeth am ddarparwr y gwasanaeth
Unigolion
- Enw
- Cyfeiriad
- Dyddiad geni
- Manylion cyswllt
- Profiad a chymwysterau proffesiynol
- Hanes cyflogaeth
- Manylion unrhyw gysylltiad blaenorol neu bresennol â gwasanaethau rheoleiddiedig eraill yn y DU
- Manylion unrhyw fuddiannau busnes eraill
- Rhif tystysgrif y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd neu fanylion Gwasanaeth Diweddaru y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (mae'n rhaid bod y dystysgrif wedi'i chyhoeddi lai na thri mis cyn i'r cais gael ei gyflwyno neu mae'n rhaid bod yr ymgeisydd wedi'i gofrestru ar gyfer Gwasanaeth Diweddaru'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd)
Cwmnïau Cyfyngedig, Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig, Cwmnïau Cyfyngedig Preifat, Cwmnïau Elusennol, Sefydliadau Corfforedig Elusennol, Cyrff Corfforaethol Eraill
- Enw'r sefydliad
- Cyfeiriad y sefydliad
- Rhif y cwmni/Rhif yr elusen
- Manylion cyswllt y sefydliad
- Cysylltiadau â chwmnïau eraill Manylion pob swyddog sefydliadol, gan gynnwys enw, dyddiad geni, manylion cyswllt a manylion unrhyw gysylltiad arall â gwasanaethau rheoleiddiedig.
- Manylion unrhyw gysylltiad blaenorol neu bresennol â gwasanaethau rheoleiddiedig eraill yn y DU
- Manylion unrhyw fuddiannau busnes eraill
- Dynodiad Unigolyn Cyfrifol
Pwyllgorau, Ymddiriedolaethau Elusennol, Cyrff Anghorfforedig Arall
- Enw'r sefydliad
- Cyfeiriad y sefydliad
- Manylion cyswllt y sefydliad
- Cysylltiadau â sefydliadau eraill.
- Manylion pob swyddog sefydliadol, gan gynnwys: enw, dyddiad geni, manylion cyswllt a manylion unrhyw gysylltiad arall â gwasanaethau rheoleiddiedig. Manylion unrhyw gysylltiad blaenorol neu bresennol â gwasanaethau rheoleiddiedig eraill yn y DU
- Manylion unrhyw fuddiannau busnes eraill
- Dynodiad yr Unigolyn Cyfrifol
Partneriaethau
- Enw'r bartneriaeth
- Cyfeiriad y bartneriaeth
- Manylion cyswllt y bartneriaeth
- Manylion pob partner, gan gynnwys enw, dyddiad geni, manylion cyswllt a manylion unrhyw gysylltiad arall â gwasanaethau rheoleiddiedig. Manylion unrhyw gysylltiad blaenorol neu bresennol â gwasanaethau rheoleiddiedig eraill yn y DU
- Manylion unrhyw fuddiannau busnes eraill
- Dynodiad yr Unigolyn Cyfrifol
Gwybodaeth am yr Unigolyn Cyfrifol
- Enw
- Cyfeiriad
- Dyddiad geni
- Manylion cyswllt
- Profiad a chymwysterau proffesiynol
- Hanes cyflogaeth
- Manylion unrhyw gysylltiad blaenorol neu bresennol â gwasanaethau rheoleiddiedig eraill yn y DU
- Manylion unrhyw fuddiannau busnes eraill
- Rhif tystysgrif y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd neu fanylion Gwasanaeth Diweddaru y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (mae'n rhaid bod y dystysgrif wedi'i chyhoeddi lai na thri mis cyn i'r cais gael ei gyflwyno neu mae'n rhaid bod yr ymgeisydd wedi'i gofrestru ar gyfer Gwasanaeth Diweddaru y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd)
Gwybodaeth am y gwasanaeth
- Enw
- Cyfeiriad
- Manylion cyswllt
- Uchafswm nifer y lleoedd yn y gwasanaeth
- Uchafswm oedran y plant sy'n defnyddio'r gwasanaeth
- Y Person â Chyfrifoldeb yn y gwasanaeth, gan gynnwys ei enw, dyddiad geni, cyfeiriad cartref, manylion cyswllt, cymwysterau, profiad a hanes cyflogaeth
A6.2 Dogfennau sydd eu hangen yn y ffurflen gais
Datganiad o Ddiben
Mae angen Datganiad o Ddiben ar gyfer pob gwasanaeth.
Mae AGC wedi llunio canllaw ar lunio Datganiad o Ddiben a thempled a all fod yn ddefnyddiol i chi, ond nid oes rhaid i chi ddefnyddio'r templed.
Cynlluniau llawr
Cynlluniau llawr y safle â mesuriadau mewn metrau sgwâr. Mae AGC wedi llunio canllawiau ar gyfer drafftio cynlluniau o'r safle â mesuriadau mewn metrau sgwâr.
Tystysgrifau ar gyfer cymwysterau proffesiynol a chymorth cyntaf sy'n berthnasol i ofalu am blant dan 12 oed
Gwarchodwr Plant a Pherson â Chyfrifoldeb – gorfodol
Person Cofrestredig ac Unigolyn Cyfrifol – dewisol
Geirda meddygol
Rhaid i bob Gwarchodwr Plant, Person Cofrestredig, Unigolyn Cyfrifol a Pherson â Chyfrifoldeb gyflwyno geirda meddylgol.
Os byddwch yn ei chael hi'n anodd cael geirda meddygol, cysylltwch ag AGC am gyngor
Ffurflen gydsynio'r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol
Rhaid i bob Personau Cofrestredig – gwarchodwr plant a gofal dydd gyflwyno ffurflen wedi'i llofnodi a'i dyddio.
Dogfennau polisïau a'r gweithdrefnau
Rhaid i Gwarchodwyr Plant, y Person Cofrestredig arweiniol (os oes mwy nag un), yr Unigolyn Cyfrifol arweiniol (os oes mwy nag un) Child minders, the lead RP (where there are multiple RPs), the lead RI (where there are multiple RIs) lanlwytho'r dogfennau canlynol.
Dim ond un ddogfen y gallwch ei lanlwytho o dan bob pennawd.
- Polisi Rheoli Ymddygiad
- Gweithdrefn plentyn coll/heb ei gasglu
- Gweithdrefn Gwyno
- Polisi Amddiffyn Plant
- Y weithdrefn i'w dilyn os bydd damwain neu ddigwyddiad
- Gweithdrefn Gwagio'r Adeilad Oherwydd Tân
Mae'r Polisïau a'r Gweithdrefnau canlynol yn ofynnol yn ôl y Safonau Gofynnol Cenedlaethol:
- Polisi Anghenion Ychwanegol
- Polisi Cyfrinachedd
- Polisi Meddyginiaeth
- Polisi Cyfle Cyfartal
- Cynllun Gweithredol
- Polisi Newid Cewynnau (dewisol)
Asesiadau risg cyffredinol
Gan gynnwys ardaloedd awyr agored y safle, teithiau ar droed ac mewn cerbydau, ac ati.
Rhaid i Gwarchodwyr Plant, y Person Cofrestredig arweiniol (os oes mwy nag un), yr Unigolyn Cyfrifol arweiniol (os oes mwy nag un) lanwlytho.
Asesiad risg tân ar gyfer y safle
Rhaid i Gwarchodwyr Plant, y Person Cofrestredig arweiniol (os oes mwy nag un), yr Unigolyn Cyfrifol arweiniol (os oes mwy nag un) lanlwytho.
Tystysgrifau gwiriadau diogelwch blynyddol (neu gyfnod arall o amser a argymhellir yn dibynnu ar y math o system wresogi) ar gyfer dyfeisiau nwy/trydanol/pwmp gwres/llosgi pren neu olew
Rhaid i Gwarchodwyr Plant, y Person Cofrestredig arweiniol (os oes mwy nag un), yr Unigolyn Cyfrifol arweiniol (os oes mwy nag un) lanlwytho.
Tystysgrif Rheolaeth Adeiladu
Os yw'n gymwys, e.e. os yw'r safle yn un newydd.
Rhaid i Gwarchodwyr Plant, y Person Cofrestredig arweiniol (os oes mwy nag un), yr Unigolyn Cyfrifol arweiniol (os oes mwy nag un) lanlwytho.
Caniatâd cynllunio
Os yw'r sefydliad yn un o is-gwmnïau cwmni daliannol, dau adroddiad blynyddol diwethaf, os oes rhai, y cwmni daliannol ac unrhyw un o is-gwmnïau eraill y cwmni daliannol hwnnw.
Rhaid i Gwarchodwyr Plant, y Person Cofrestredig arweiniol (os oes mwy nag un), yr Unigolyn Cyfrifol arweiniol (os oes mwy nag un) lanlwytho.
Copïau o ddau adroddiad blynyddol diwethaf y sefydliad
Os yw'r sefydliad yn un o is-gwmnïau cwmni daliannol, dau adroddiad blynyddol diwethaf, os oes rhai, y cwmni daliannol ac unrhyw un o is-gwmnïau eraill y cwmni daliannol hwnnw.
Rhaid i Pob cwmni cyfyngedig, cwmni cyfyngedig cyhoeddus, partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, cwmni elusennol, cwmni corfforedig elusennol neu unrhyw gorff corfforaethol arall lanlwytho.
Cyfrifon blynyddol diwethaf y sefydliad (os oes rhai)
Rhaid i pob cwmni cyfyngedig, cwmni cyfyngedig cyhoeddus, partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, cwmni elusennol, cwmni corfforedig elusennol neu unrhyw gorff corfforaethol arall lanlwytho.
Tystysgrif yswiriant
Mewn perthynas ag atebolrwydd a all godi yn achos marwolaeth, anaf, atebolrwydd cyhoeddus, difrod neu golled arall mewn perthynas â’r darpariaeth gofal.
Nid oes angen cynnwys y dystysgrif hon yn yr adroddiad, ond rhaid i bob darparwr ei chyflwyno cyn y caiff penderfyniad ei wneud ynglŷn â chais.
Atodiad 7 – Fframwaith penderfynu ynghylch cofrestriad
A7.1 A yw'r ffurflen gais yn cynnwys yr holl wybodaeth ofynnol?
Yr hyn rydym yn edrych arno, pam a'n disgwyliad
Ffurflen gais
Sicrhau cydymffurfiaeth â'r Rheoliadau Cofrestru
Ein disgwyliad
- Bod yr holl gwestiynau wedi'u cwblhau
- Bod y wybodaeth a roddwyd yn ddilys, e.e. Bod rhif tystysgrif y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn gywir a bod cais wedi'i wneud am y gwiriad cywir, h.y. ar gyfer oedolion neu blant sy'n agored i niwed
- Bod yr holl ddogfennau gofynnol wedi'u darparu
A7.2 A ydym yn fodlon bod yr ymgeisydd yn 'berson addas a phriodol’?
Yr hyn rydym yn edrych arno, pam a'n disgwyliad
Ffurflen gais
Croeswirio'r wybodaeth a roddwyd â ffynonellau tystiolaeth eraill
Ein disgwyliad
- Bod yr ymgeisydd wedi dewis y math cywir o ddarparwr
Tŷ'r Cwmnïau
Cadarnhau endid cyfreithiol
Ein disgwyliad
- Bod yr endid cyfreithiol wedi'i gofrestru'n gwmni
- Bod y cyfarwyddwyr a restrir ar y ffurflen gais wedi'u cofrestru â Thŷ'r Cwmnïau
- Bod yr holl wybodaeth arall a roddwyd yn cyfateb i'r wybodaeth a ddelir gan Dŷ'r Cwmnïau
Y Comisiwn Elusennol
Cadarnhau statws elusennol
Ein disgwyliad
- Ei fod wedi'i gofrestru'n elusen.
- Bod yr unigolion a restrir ar y ffurflen gais wedi'u cofrestru'n ymddiriedolwyr gyda'r Comisiwn Elusennau.
- Bod yr holl wybodaeth a roddwyd yn cyfateb i'r wybodaeth a ddelir gan y Comisiwn Elusennau.
Cyrff rheoleiddio eraill
Asesu addasrwydd
Ein disgwyliad
- Os yw'r darparwr hefyd wedi'i gofrestru â chorff rheoleiddio arall, er enghraifft Estyn/Ofsted, nad oes unrhyw ffactorau eraill a fyddai'n codi amheuaeth ynghylch ei addasrwydd
Datganiadau
Asesu addasrwydd
Ein disgwyliad
- Bod y datganiad wedi'i lofnodi gan unigolyn sydd ag awdurdod digonol i wneud hynny.
- Bod yr ymgeisydd wedi cadarnhau addasrwydd y darparwr/unrhyw unigolyn perthnasol arall
Gwybodaeth a ddelir gan AGC (CaSSI)
Asesu addasrwydd
Ein disgwyliad
- Nad oes unrhyw ffactorau eraill a fyddai'n codi amheuaeth ynghylch addasrwydd
A7.3 A yw'r Person Cofrestredig/Unigolyn Cyfrifol yn addas?
Yr hyn rydym yn edrych arno, pam a'n disgwyliad
Ffurflen gais a Chynllun strwythurol y sefydliad (heb gynnwys unigolion)
Assessment of eligibility
Ein disgwyliad
- Bod yr Unigolyn Cyfrifol dynodedig yn gweithio mewn swydd addas yn y sefydliad i oruchwylio'r gwasanaeth a gwneud penderfyniadau rheoli yn ei gylch
Y ddogfen hunaniaeth
Prawf adnabod
Ein disgwyliad
- Y bydd y Person Cofrestredig/Unigolyn Cyfrifol yn darparu prawf adnabod ffotograffig i AGC. Y mathau derbyniol o brawf adnabod yw
- trwydded yrru neu pasbort
Tystiolaeth o gymwysterau (os ydynt wedi'u rhestru ar y ffurflen gais)
Cadarnhau cymwysterau
Ein disgwyliad
- Os oes cymwysterau perthnasol ar gyfer y Person Cofrestredig/Unigolyn Cyfrifol/Person â Chyfrifoldeb wedi'u rhestru ar y ffurflen gais, rhaid i brawf o'r rhain gael ei ddarparu i AGC
Adroddiad yr ymarferydd meddygol neu unigolyn cyfatebol
Assessment of fitness
Ein disgwyliad
- Nad oes unrhyw faterion wedi'u nodi o ran gallu'r Person Cofrestredig/Unigolyn Cyfrifol/Person â Chyfrifoldeb i gyflawni'r rôl
Tystysgrif y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Asesu addasrwydd
Ein disgwyliad
- Bod y Person Cofrestredig/Unigolyn Cyfrifol wedi datgan unrhyw droseddau/euogfarnau sydd wedi'u nodi ar dystysgrif y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
- Bod tystysgrif y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn gysylltiedig â'r maes, h.y. plant.
- Nad oes unrhyw ffactorau eraill a fyddai'n codi amheuaeth ynghylch addasrwydd.
Geirdaon
Asesu addasrwydd
Ein disgwyliad
- Bod y Person Cofrestredig/Unigolyn Cyfrifol wedi datgan unrhyw wybodaeth sydd wedi'i nodi ar y dystysgrif Gwasanaethau Cymdeithasol
- Nad yw'r geirdaon a ddarparwyd yn nodi unrhyw faterion o ran addasrwydd – gweler Pennod 5 y Canllawiau hyn
Gwybodaeth gan gyrff rheoleiddio eraill
Asesu addasrwydd
Ein disgwyliad
- Os yw'r Person Cofrestredig/Unigolyn Cyfrifol yn ymwneud â gwasanaeth arall/gwasanaethau eraill sydd wedi'i gofrestru/wedi'u cofrestru â chorff rheoleiddio arall, er enghraifft Estyn/Ofsted, neu os yw wedi gwneud hynny yn y gorffennol, nad oes unrhyw ffactorau eraill a fyddai'n codi amheuaeth ynghylch ei addasrwydd
Datganiadau
Asesu addasrwydd
Ein disgwyliad
- Bod y Person Cofrestredig/Unigolyn Cyfrifol wedi datgan bod yr holl wybodaeth a roddwyd yn gywir
Holiadur Person Cofrestredig/Unigolyn Cyfrifol
Asesu addasrwydd
Ein disgwyliad
- Bod yr holl gwestiynau wedi'u cwblhau
- Bod yr unigolyn dynodedig yn meddu ar ddealltwriaeth foddhaol o'i ddyletswyddau o dan y Rheoliadau ac wedi dangos ei fod yn debygol o gyflawni'r dyletswyddau hynny
Cyfweliad â'r Person Cofrestredig/Unigolyn Cyfrifol
Asesu addasrwydd
Ein disgwyliad
- Bod yr holl gwestiynau ategol a nodwyd yn dilyn Holiadur y Person Cofrestredig/Unigolyn Cyfrifol wedi'u hateb yn foddhaol, yn ei barn ni
- Bod yr holl ddogfennau gofynnol (e.e. prawf adnabod) wedi'u darparu
- Yr aed i'r afael ag unrhyw faterion o ran addasrwydd
Penodi rheolwr
Asesu addasrwydd
Ein disgwyliad
- Bod Person â Chyfrifoldeb addas wedi'i benodi sy'n meddu ar gymhwyster Lefel 3 o leiaf a gydnabyddir ar restr Gofal Cymdeithasol Cymru neu Chwarae Cymru o Gymwysterau Gofynnol i weithio ym maes y blynyddoedd cynnar a gwasanaethau gofal plant a chwarae yng Nghymru
- Os nad yw'r Person â Chyfrifoldeb yn meddu ar gymhwyster addas, bod ystyriaeth ddyledus wedi'i rhoi i'r rhestrau uchod a rhesymau derbyniol wedi'u rhoi i egluro pam nad yw'n meddu ar gymhwyster o'r fath. Caiff hyn ei drafod â'r Person Cofrestredig/Unigolyn Cyfrifol fel rhan o'r broses gofrestru
A7.4 Cydymffurfiaeth â gofynion y rheoliadau ac unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol arall?
Yr hyn rydym yn edrych arno, pam a'n disgwyliad.
Datganiad o Ddiben
Sicrhau cydymffurfiaeth â'r Rheoliadau
Ein disgwyliad
- Bod y Datganiad o Ddiben yn cydymffurfio â Rheoliad 15(1) o Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010
Polisïau a gweithdrefnau
Sicrhau cydymffurfiaeth â'r Rheoliadau
Ein disgwyliad
- Bod yr ymgeisydd yn cyflwyno copïau o'r polisïau a'r gweithdrefnau gorfodol sy'n ofynnol gan y Rheoliadau
- Bod yr ymgeisydd yn darparu copi o unrhyw bolisïau a gweithdrefnau ychwanegol sy'n ofynnol yn unol â'r math o wasanaeth, yn ystod yr arolygiad cofrestru
- Bod yr holl bolisïau a gweithdrefnau yn bodloni gofynion y Rheoliadau a bod ystyriaeth wedi'i rhoi i'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol
- Bod gennym yr opsiwn i fynd â chopi o'r polisïau a'r gweithdrefnau gyda ni a'u dychwelyd maes o law
Asesiad o’r safle ar gyfer cofrestru
Sicrhau cydymffurfiaeth â'r Rheoliadau
Ein disgwyliad
- Bod y safle yn adlewyrchu'r cynllun llawr a ddarparwyd fel rhan o'r cais
- Y bydd dyluniad a chynllun y safle a'r cyfleusterau a'r cyfarpar sydd ar gael yn helpu'r plant i gyflawni eu canlyniadau gorau posibl, ac yn hyrwyddo a chynnal eu hannibyniaeth, diogelwch a llesiant
Tystysgrif yswiriant
Sicrhau cydymffurfiaeth â'r Rheoliadau
Ein disgwyliad
- Bod yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ar waith ar gyfer y gwasanaeth dan sylw, a'i fod yn gyfredol ac yn cyfrif am golledion o dan atebolrwydd cyhoeddus ac atebolrwydd cyflogwr
Atodiad 8 – Anghymhwyso rhag cofrestru
Mae Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Rhif 2) (Cymru) 2022 ("Rheoliadau 2022") yn nodi categorïau o unigolion y gellir eu hanghymhwyso rhag cofrestru yng Nghymru fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd.
- trosedd sy'n ymwneud ag anaf corfforol i blentyn, neu farwolaeth plentyn*
- troseddau treisgar neu rywiol penodol yn erbyn plant ac oedolion y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(5) ac Atodlen 2 i Reoliadau 2022
- trosedd y cyfeirir ati yn rheoliad 3(7) ac Atodlen 3 i Reoliadau 2022
- an offence overseas, which would constitute an offence regarding disqualification under the 2022 Regulations if it had been committed in any part of the United Kingdom.
*Ystyrir bod person wedi cyflawni trosedd os yw wedi'i euogfarnu o drosedd, os yw wedi'i ddyfarnu'n ddieuog o gyflawni trosedd o ganlyniad i orffwylledd, os ystyrir bod ganddo anabledd a'i fod wedi cyflawni'r weithred y mae wedi'i gyhuddo o'i chyflawni mewn cysylltiad â throsedd o'r fath, neu os yw wedi cael rhybudd mewn cysylltiad â throsedd gan swyddog heddlu ar neu ar ôl 6 Ebrill 2007. Ystyrir bod person wedi cyflawni trosedd sy'n "gysylltiedig" â throsedd os ystyrir bod y person hwnnw wedi cyflawni'r drosedd o geisio cyflawni, cynllwynio i gyflawni neu ategu rhywun i gyflawni'r drosedd honno; neu helpu, annog, cynghori neu beri i rywun gyflawni'r drosedd honno.
Mae Rheoliadau 2022 hefyd yn cynnwys unrhyw berson:
- sy'n destun gorchymyn neu benderfyniad y cyfeirir ato yn rheoliad 3(1) ac Atodlen 1 i Reoliadau 2022, er enghraifft tynnu plentyn o'i ofal neu atal plentyn rhag byw gydag ef.
- sydd wedi'i gynnwys ar y rhestr o bobl sydd wedi'u gwahardd rhag gweithio gyda phlant a ddelir gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
- sy'n destun gorchymyn anghymhwyso
- y gwrthodwyd ei gofrestru'n warchodwr plant neu'n ddarparwr gofal dydd, neu y cafodd ei gofrestriad ei ganslo, yn flaenorol
- a fu'n ymwneud â'r gwaith o reoli cartref plant, neu y bu ganddo fuddiant ariannol ynddo, ac y cafodd ei gofrestriad ei ganslo
Gellir hefyd anghymhwyso person rhag cofrestru'n warchodwr plant os yw'n byw:
- yn yr un cartref â pherson arall sydd wedi'i anghymhwyso rhag cofrestru.
- mewn cartref lle mae person anghymwys wedi'i gyflogi ac rydych yn bwriadu darparu gwasanaeth gwarchod plant yn y lleoliad hwnnw.
Ni chaiff person sydd wedi'i anghymhwyso rhag cofrestru weithredu fel gwarchodwr plant; darparu gofal dydd; neu ymwneud yn uniongyrchol â'r gwaith o ddarparu unrhyw ofal dydd. Mae'n drosedd i berson ddarparu gofal plant mewn rhinwedd o'r fath tra bydd wedi'i anghymhwyso rhag cofrestru.
Rhaid i berson beidio â chyflogi person sydd wedi'i anghymhwyso rhag cofrestru mewn perthynas â darparu gwasanaethau gofal dydd neu warchod plant. Mae'n drosedd i berson gyflogi person gan wybod ei fod wedi'i anghymhwyso.
Gall person wneud cais i AGC hepgor anghymhwysiad.
Fodd bynnag, nid oes gan AGC y pŵer i hepgor anghymhwysiadau os yw person:
- wedi'i gynnwys ar y rhestr o bobl sydd wedi'u gwahardd rhag gweithio gyda phlant ac oedolion sy'n agored i niwed a ddelir gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd; neu
- wedi cyflawni trosedd yn erbyn plentyn o fewn ystyr adran 26 (1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llysoedd 2000 a bod y llys wedi gorchymyn y dylid anghymhwyso'r person hwnnw rhag gweithio gyda phlant (o dan adran 28(4) a 29(4) neu 29A(2) o'r Ddeddf honno)
Atodiad 9 – Gwneud cais am hepgoriad
Y weithdrefn i staff AGC wrth ystyried ceisiadau am hepgoriad a wneir o dan Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Rhif 2) (Cymru) 2022.
A9.1 Cefndir
Mae'r canllawiau hyn yn berthnasol i warchodwyr plant a darparwyr gofal dydd cofrestredig, y rhai sy'n cyflogi staff i weithio yn y gwasanaethau rheoleiddiedig hyn a'r rhai sy'n gwneud cais i gael eu cofrestru i ddarparu'r gwasanaethau rheoleiddiedig hyn.
Mae rhai pobl wedi'u hanghymhwyso gan Arolygiaeth Gofal Cymru rhag cofrestru fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd.
Gall AGC ddod yn ymwybodol o anghymhwysiad posibl mewn nifer o sefyllfaoedd gwahanol, gan gynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:
- mae person yn ystyried cofrestru ac am drafod sut y gall euogfarn effeithio ar ei gais
- mae person yn cyflwyno cais cyflawn i gofrestru ac yn datgan euogfarn berthnasol
- mae canlyniadau gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn dod i law ac yn datgelu euogfarn berthnasol;
- mae gwiriad o gofnodion AGC yn dangos bod cofrestriad blaenorol wedi cael ei wrthod neu ei ganslo; neu
- mae ymholiadau cyn cofrestru gwasanaethau cymdeithasol wedi dangos bod gorchmynion cymwys wedi'u gwneud
Os bydd person yn dod o fewn un o'r categorïau ar gyfer anghymhwyso a nodir yn y
Rheoliadau Anghymhwyso, ni chaiff weithredu fel gwarchodwr plant, darparu gofal dydd i blant nac ymwneud yn uniongyrchol â'r gwaith o reoli gofal dydd i blant.
Rhaid i AGC werthuso pam y gall person fod wedi'i anghymwyso rhag cofrestru ac ystyried yr amgylchiadau llawn. Ar ôl ystyried yr holl wybodaeth sydd ar gael, mae gan AGC y disgresiwn i benderfynu a yw'r anghymhwysiad yn effeithio ar y gallu i ddarparu gwasanaeth rheoleiddiedig. Os bydd person yn gwneud cais i AGC osod anghymhwysiad o'r neilltu, yr enw ar hyn yw gwneud cais am hepgoriad.
Mae'r canllawiau hyn yn nodi:
- pwy sydd wedi'i anghymhwyso
- sut i wneud cais am hepgoriad o dan Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Rhif 2) (Cymru) 2022.
- Gweithdrefn AGC ar gyfer delio â cheisiadau i hepgor anghymhwysiad.
At ddibenion y canllawiau hyn, defnyddir “y Rheoliadau Anghymwyso” wrth gyfeirio at Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Rhif 2) (Cymru) 2022. Yn yr un modd, defnyddir “y Mesur” wrth gyfeirio at Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.
A9.2 Rhesymau dros anghymhwyso
Mae'r Rheoliadau Anghymwyso yn nodi ym mha ffyrdd ac o dan ba amgylchiadau y gallai person fod wedi'i anghymwyso rhag cofrestru. Mae hyn yn cynnwys achosion lle mae person wedi cael euogfarn neu rybudd am droseddau penodol yn erbyn oedolion neu blant, achosion lle mae gorchmynion penodol wedi cael eu gwneud mewn perthynas â phlant y person, neu achosion lle mae AGC wedi gwrthod ceisiadau blaenorol neu wedi diddymu cofrestriad yn flaenorol.
Mae'r Rheoliadau Anghymwyso hefyd yn nodi'r achosion hynny lle na fydd anghymhwysiad person yn weithredol o bosibl a'r amgylchiadau lle y gall person wneud cais i AGC hepgor ei anghymhwysiad.
Mae'r Rheoliadau Anghymhwyso yn nodi bod yn rhaid i'r person cofrestredig hysbysu AGC am unrhyw fater a fyddai'n rheswm dros ei anghymhwyso ef ac unrhyw berson sy'n byw neu'n gweithio yn y man lle darperir y gwasanaeth. Mae'n drosedd peidio â hysbysu AGC am hyn heb esgus rhesymol.
Mae'r Mesur yn ei gwneud yn drosedd gweithredu fel gwarchodwr plant, darparu gofal dydd neu ymwneud yn uniongyrchol â'r gwaith o reoli gofal dydd yng Nghymru tra bydd wedi'i anghymwyso.
Mae'r Mesur hefyd yn nodi bod person wedi'i wahardd rhag cyflogi unrhyw berson anghymwys mewn perthynas â darparu gwasanaethau gofal dydd neu warchod. Mae cyflogi person o'r fath yn drosedd o dan y Mesur.
Gall person fod yn anghymwys o dan y rheoliadau mewn nifer o wahanol ffyrdd. Cynghorir arolygwyr i gyfeirio at y Rheoliadau Anghymwyso a'r Mesur yn y lle cyntaf. Gall arolygwyr ofyn am ragor o gyngor gan wasanaethau cyfreithiol AGC os bydd angen.
A9.3 Cais i hepgor anghymhwysiad
Gall person sydd wedi'i anghymhwyso wneud cais i AGC hepgor anghymhwysiad.
Mae cais o'r fath yn wirfoddol. Dim ond pan fydd person yn gwneud cais am hepgoriad y gall AGC ystyried a ddylid ei gymeradwyo. Gall AGC wahodd person i wneud cais am hepgoriad gan na fydd o bosibl yn ymwybodol bod hyn yn bosibl o dan amgylchiadau penodol.
Mae'r Rheoliadau Anghymhwyso yn caniatáu i AGC hepgor anghymhwysiad pe bai person yn anghymwys o dan reoliadau 3, 4, 6(1), 6(3) neu 8. Gall person a fyddai’n anghymwys o dan un o’r rheoliadau hyn wneud cais i AGC hepgor yr anghymhwysiad.
Mae'n bwysig nodi nad oes gan AGC y pŵer i ymchwilio i hepgor anghymhwysiad lle mae person:
- wedi'i gynnwys ar y rhestr o bobl sydd wedi'u gwahardd rhag gweithio gyda phlant ac oedolion agored i niwed a ddelir gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd; neu
- wedi cyflawni trosedd yn erbyn plentyn o fewn ystyr adran 26(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llysoedd 2000 a bod y llys wedi gorchymyn bod y person wedi'i anghymhwyso rhag gweithio gyda phlant o dan adran 28(4), 29(4) neu 29A(2) o'r Ddeddf honno
Er mwyn gwneud cais am hepgoriad, rhaid i berson cofrestredig neu berson sy'n gwneud cais i gofrestru hysbysu AGC am amgylchiadau ei anghymhwysiad.
Os na fydd ymgeisydd wedi datgelu ei fod yn anghymwys, rhaid ystyried gwrthod ei gofrestru. Fodd bynnag, gall yr ymgeisydd wneud sylwadau yn erbyn y penderfyniad hwn i wrthod ei gofrestru. Gall sylwadau gynnwys cais i hepgor yr anghymhwysiad.
Er mwyn gwneud cais i hepgor anghymhwysiad, mae AGC yn ei gwneud yn ofynnol i'r cais gael ei wneud yn ysgrifenedig. Rhaid i'r person roi cymaint o wybodaeth â phosibl i AGC.
A9.4 Dyfarnu
Ar ôl i'r ffeithiau gael eu dwyn i sylw AGC, rhaid i'r arolygydd ystyried yr holl wybodaeth sydd ar gael am amgylchiadau'r achos, gan ofyn am ragor o wybodaeth os oes angen.
Gall yr arolygydd wahodd y person anghymwys (boed yn ymgeisydd neu'n berson sy'n gweithio / byw yn y man lle y darperir gofal plant) i gyfarfod dros Teams neu i ddod i un o swyddfeydd AGC er mwyn trafod manylion ei anghymhwysiad a materion perthnasol eraill. Gall y person ofyn i rywun ddod gydag ef os yw'n dymuno.
Os bydd yr ymgeisydd yn gwrthod neu'n canslo'r cyfarfod uchod, gellir cynnig apwyntiad arall iddo. Dylai'r gwahoddiad hwn egluro mai dyma ei gyfle i roi gwybodaeth berthnasol a fydd yn helpu AGC i ddod i benderfyniad. Dylid nodi'n glir, os na fydd y person yn dod i'r cyfarfod, y caiff penderfyniad ei wneud gan ddefnyddio'r wybodaeth sydd gan AGC yn barod.
Rhaid i AGC fod yn fodlon bod yr ymgeisydd yn addas i'w gofrestru i weithio fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd. Felly, bydd AGC yn pwyso a mesur y ffactorau canlynol wrth ystyried cais am hepgoriad:
- Gonestrwydd yr ymgeisydd – A oedd datgeliadau'r ymgeisydd yn llawn, yn gywir ac yn onest?
- Perthnasedd yr euogfarn – Wrth wneud dyfarniad, dylid pwyso a mesur natur y drosedd a'r effaith bosibl ar wasanaeth cofrestredig, yn enwedig a all beri unrhyw risg i'r plant sy'n cael gofal. Rhaid i AGC werthuso a oedd y drosedd yn un fwriadol neu a oedd unrhyw fath o dwyll yn perthyn iddi.
- Ffeithiau'r drosedd (troseddau) neu'r mater(ion) – Beth oedd amgylchiadau'r drosedd neu'r mater sydd wedi arwain at yr anghymhwysiad? Pa esboniadau a gynigiwyd gan yr ymgeisydd?
- Difrifoldeb y mater – Pa mor ddifrifol yw unrhyw drosedd neu fater arall a ddatgelwyd? Pa effaith y byddai ymddygiad tebyg yn debygol o'i chael ar blant sy'n mynychu'r gwasanaeth arfaethedig?
Pan fydd person wedi camddefnyddio ei bŵer personol wrth gael ei anghymhwyso, dylid ystyried ei addasrwydd fel rhan o'r broses o benderfynu ar ei gais i gofrestru, yn ogystal ag ystyried cais i hepgor. Mae hyn yn berthnasol i gam-drin corfforol, emosiynol, ariannol a rhywiol.
Byddai ymddygiad blaenorol hefyd yn cael ei ystyried yn arwydd cryf fod ymgeisydd yn anaddas os oedd yn cynnwys:
- Twyll, rhagfwriad, cymryd risgiau o hyd a / neu orfodaeth
- Os bydd yr anghymhwysiad wedi codi o ganlyniad i berson arall sy'n byw neu'n gweithio yng nghartref y gwarchodwr plant, rhaid i AGC asesu gallu'r person cofrestredig i ddiogelu plant.
- Dylid ystyried faint o gyswllt a pha fath o gyswllt y disgwylir i'r person hwnnw ei gael â'r plant sy'n cael gofal ac a allai unrhyw amodau a osodir ar y cofrestriad leddfu pryderon.
- Patrymau ymddygiad – A yw'r ymgeisydd wedi dangos yr ymddygiadau dan sylw droeon? A yw'r materion a ddatgelwyd yn awgrymu patrwm o droseddu neu faterion perthnasol eraill? Bydd AGC yn canolbwyntio'n bennaf ar achosion lle mae'r ymgeisydd wedi torri'r rheolau yn aml, neu achosion lle mae'r ymgeisydd wedi cyflawni’r un troseddau neu rai tebyg droeon.
- Amseru ac amgylchiadau'r ymgeisydd – Faint o amser sydd wedi mynd heibio ers i'r drosedd neu'r mater arall ddigwydd? Beth oedd oedran y person ar adeg y digwyddiad ac, os yw'n briodol, beth oedd oedran unrhyw ddioddefwr? A yw amgylchiadau'r ymgeisydd wedi newid ers yr ymddygiad troseddol neu'r materion perthnasol eraill? Bydd AGC yn asesu a yw'n ymddangos bod unrhyw faterion a ddatgelwyd wedi'u cyfyngu i'r canlynol:
- person ifanc yn ei arddegau
- unrhyw gyfnod penodol pan y gall yr ymgeisydd ddangos bod rhywbeth wedi tarfu'n sylweddol ar ei amgylchiadau personol a'i allu i fod yn aelod o gymdeithas, neu unrhyw gyfnod o fwy na 15 mlynedd yn ôl
- bydd AGC yn canolbwyntio'n bennaf ar achosion lle mae'r ymgeisydd yn parhau i dorri rheolau (y gyfraith a therfynau a dderbynnir yn gymdeithasol) yn nes ymlaen yn ei fywyd
- Agwedd yr ymgeisydd – Beth yw agwedd yr ymgeisydd at y troseddau hyn nawr a beth yw ei ddealltwriaeth o oblygiadau'r digwyddiad? Bydd AGC yn canolbwyntio'n bennaf ar achosion lle mae'r ymgeisydd yn ceisio bychanu difrifoldeb ei ymddygiad ac yn dangos diffyg dealltwriaeth glir o effaith ei weithredoedd.
Enghreifftiau yn unig yw'r ffactorau uchod ac ni fwriedir i'r rhestr fod yn hollgynhwysfawr. Rhaid ystyried pob sefyllfa yn ofalus ar sail y ffeithiau penodol.
Os bydd yr anghymhwysiad wedi codi am fod euogfarn neu fater arall wedi cael ei datgelu/ddatgelu ynglŷn â pherson sy'n byw neu'n gweithio yng nghartref yr ymgeisydd, yna dylai'r arolygydd gysylltu â'r person hwnnw yn gyntaf. Rhaid cael cydsyniad y person hwnnw i rannu'r wybodaeth â'r ymgeisydd er mwyn galluogi'r ymgeisydd i wneud cais am hepgoriad. Os na roddir y cydsyniad hwnnw, dylai'r arolygydd geisio cyngor gan Dîm Gwybodaeth AGC ynghylch a ellir rhannu unrhyw wybodaeth â'r ymgeisydd, a faint o wybodaeth y gellir ei rhannu.
Wrth ystyried ffeithiau'r achos, bydd yr arolygydd yn trafod y materion gyda'i reolwr llinell ac yn paratoi adroddiad yn nodi ei asesiad o ffactorau.
Caiff copi o adroddiad yr arolygydd ar yr hepgoriad ei anfon at yr ymgeisydd er mwyn iddo fwrw golwg drosto. Gofynnir i'r ymgeisydd hefyd gadarnhau bod y wybodaeth yn yr adroddiad ar yr hepgoriad yn gywir. Dylid annog y person i wneud unrhyw newidiadau i'r adroddiad er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei gynrychioli'n gywir. Ni chaiff argymhelliad yr arolygydd ei gynnwys yn yr ohebiaeth hon.
A9.5 Gwneud argymhellion
Bydd yr arolygydd yn gwneud argymhelliad i gymeradwyo neu wrthod y cais am hepgoriad. Caiff yr argymhelliad ei adolygu gan reolwr llinell yr arolygydd.
Caiff yr adroddiad ar yr hepgoriad ei gyflwyno i'r Pennaeth Cofrestru a Gorfodi (neu uwch-reolwr ar radd gyfatebol) yn AGC i'w ystyried a'i gymeradwyo'n derfynol.
Ar ôl dod i benderfyniad, bydd y penderfynwr yn hysbysu'r ymgeisydd (yn ysgrifenedig) am ei benderfyniad a'r rhesymau drosto. Os bydd yn penderfynu gwrthod rhoi hepgoriad, yna rhaid i'r llythyr egluro'r hawl i apelio i'r Tribiwnlys fel a ganlyn:
“Mae gennych yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad hwn. Os hoffech apelio, rhaid i chi wneud hynny drwy gwblhau ffurflen Apelio CS A1 (Tribiwnlys Haen Gyntaf y Siambr Iechyd, Addysg a Gofal Cymdeithasol) (Safonau Gofal) a'i hanfon i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf o fewn 10 diwrnod gwaith." The Appeal
Mae'r ffurflen Apelio ar gael yn: Appeal application in relation to child care providers and children's homes: Form CS A1 (Saesneg yn unig).
Manylion cyswllt y Tribiwnlys Haen Gyntaf (Siambr Iechyd, Addysg a Gofal Cymdeithasol) yw:
HM Courts and Tribunals Service
Care Standards
First Floor, Darlington Magistrates’ Court
Parkgate
Darlington DL1 1RU
E-bost: cst@hmcts.gsi.gov.uk
Gofynnir i chi hefyd hysbysu Gweinidogion Cymru am eich bwriad i apelio drwy ysgrifennu at Arolygiaeth Gofal Cymru.
A9.6 Tynnu hepgoriad yn ôl
Gall AGC, ar ôl rhoi caniatâd ysgrifenedig i hepgor anghymhwysiad, dynnu'r caniatâd hwnnw yn ôl (rheoliad 9(1) o'r Rheoliadau Anghymwyso). Mae tynnu caniatâd i hepgor anghymhwysiad yn golygu bod yr anghymhwysiad gwreiddiol yn cael ei adfer.
Dylid neilltuo achosion o dynnu caniatâd i hepgor anghymhwysiad person yn ôl ar gyfer amgylchiadau lle, ar ôl rhoi caniatâd ysgrifenedig i hepgor anghymhwysiad, mae rhagor o wybodaeth wedi dod i'r amlwg mewn perthynas â'r anghymhwysiad hwnnw, sy'n dangos na ddylid bod wedi hepgor yr anghymhwysiad.
Atodiad 10 – Matrics penderfynu o ran a ddylid cynnal ymweliad cofrestru safle ai peidio
Caiff asesiad risg ei gynnal mewn perthynas ag unrhyw safleoedd a feddiennir cyn yr ymweliad.
10.1 Gwasanaeth gwarchod plant
Math o gais, os oes angen cynnal ymweliad, a'r ffactorau a ystyrir wrth benderfynu a ddylid cynnal ymweliad.
Cais cychwynnol i gofrestru – nid yw'r gwasanaeth yn hysbys i AGC
- Rhaid cynnal ymweliad
Cais cychwynnol i gofrestru – i weithio gyda gwarchodwr plant arall sydd eisoes wedi'i gofrestru yng nghyfeiriad y gwarchodwr plant cofrestredig
- Efallai y bydd rhaid cynnal ymweliad
Ffactorau a ystyrir wrth benderfynu a ddylid cynnal ymweliad
- Cynlluniau llawr â mesuriadau
- Dyddiad yr arolygiad diweddaraf
- Adroddiad arolygu diweddaraf y gwarchodwr plant cofrestredig
- Hanes cydymffurfiaeth y Gwarchodwr Plant
- Cadarnhad gan y Gwarchod Plant cofrestredig o unrhyw newidiadau a all fod wedi digwydd ers y cofrestriad gwreiddiol
- Trafodaeth ag arolygydd y gwasanaeth.
Symud tŷ
- Rhaid cynnal ymweliad. Ymweliad personol â safle yw'r dewis cyntaf bob amser ar gyfer y math hwn o gais.
Cynnydd yn uchafswm nifer y plant y gofelir amdanynt,
Gan gynnwys: Estyniad i'r safle, gwaith addasu neu adnewyddu, neu cafodd yr ystafelloedd ychwanegol eu gweld yn flaenorol a'u hystyried yn addas ond nad oeddent yn cael eu defnyddio.
- Efallai y bydd rhaid cynnal ymweliad
Ffactorau a ystyrir wrth benderfynu a ddylid cynnal ymweliad
- Cynlluniau llawr â mesuriadau,
- Adroddiad arolygu diweddaraf y Gwarchodwr Plant cofrestredig
- Hanes cydymffurfiaeth y Gwarchodwr Plant cofrestredig
- Lluniau o'r safle
- Trafodaeth ag arolygydd y gwasanaeth
- Gwybodaeth ysgrifenedig am y cyfleusterau, os oes angen
Cais i ganslo gwasanaeth gwarchodwr plant yn wirfoddol
- Nid oes rhaid cynnal ymweliad
Cais i amrywio neu ddileu amod ychwanegol (amodau anghyffredin) sydd wedi cael ei osod oherwydd materion amgylcheddol
- Efallai y bydd rhaid cynnal ymweliad
Ffactorau a ystyrir wrth benderfynu a ddylid cynnal ymweliad
- Trafodaeth ag arolygydd y gwasanaeth mewn perthynas â materion yn ymwneud â diffyg cydymffurfiaeth amgylcheddol
- Camau a gymerwyd gan y darparwr cofrestredig i gydymffurfio
- Adroddiad arolygu diweddaraf y Gwarchodwr Plant cofrestredig
10.2 Gwasanaethau Gofal Plant a Chwarae
Gwasanaethau Gofal Plant a Chwarae
- Rhaid cynnal ymweliad. Ymweliad personol â safle yw'r dewis cyntaf bob amser ar gyfer y math hwn o gais.
Cais cychwynnol i gofrestru – mae'r gwasanaeth yn hysbys i AGC ond yn newid safle
- Rhaid cynnal ymweliad. Ymweliad personol â safle yw'r dewis cyntaf bob amser ar gyfer y math hwn o gais.
Cais cychwynnol i gofrestru – newid darparwr, ond yr un safle, polisïau a gweithdrefnau, e.e. newid o gofrestriad unigol i Sefydliad Corfforedig Elusennol, neu werthu gwasanaeth i ddarparwr newydd
- Efallai y bydd rhaid cynnal ymweliad
Ffactorau a ystyrir wrth benderfynu a ddylid cynnal ymweliad
- Dyddiad yr arolygiad diweddaraf
- Adroddiad arolygu diweddaraf y darparwr cofrestredig
- Trafodaeth ag arolygydd y gwasanaeth
- Hanes cydymffurfiaeth y darparwr presennol
- Cadarnhad gan y darparwr presennol o unrhyw newidiadau a all fod wedi digwydd ers y cais gwreiddiol i gofrestru
Cais i newid lleoliad, e.e. yr un cyfeiriad ond ystafell wahanol/caban gwahanol nad yw'n hysbys i AGC
- Efallai y bydd rhaid cynnal ymweliad
Ffactorau a ystyrir wrth benderfynu a ddylid cynnal ymweliad
- Cynlluniau llawr a mesuriadau
- Adroddiad arolygu diweddaraf Trafodaeth ag arolygydd y gwasanaeth
- Gwybodaeth ysgrifenedig am y cyfleusterau, lle mae ymholiadau
- Cadarnhad gan y darparwr presennol o unrhyw newidiadau a all fod wedi digwydd ers y rhoddwyd gwybod i AGC am y safle
Cynnydd yn uchafswm nifer y plant a fydd yn derbyn gofal
Gan gynnwys: Estyniad i'r safle, gwaith addasu neu adnewyddu, neu cafodd yr ystafelloedd ychwanegol eu gweld yn flaenorol a'u hystyried yn addas ond nad oeddent yn cael eu defnyddio.
- Efallai y bydd rhaid cynnal ymweliad
Ffactorau a ystyrir wrth benderfynu a ddylid cynnal ymweliad
- Cynlluniau llawr â mesuriadau,
- Adroddiad arolygu diweddaraf y gwarchodwr plant cofrestredig
- Hanes cydymffurfiaeth y Gwarchodwr Plant cofrestredig
- Lluniau o'r safle
- Trafodaeth ag arolygydd y gwasanaeth
- Gwybodaeth ysgrifenedig am y cyfleusterau, os oes angen
Person Cofrestredig neu Unigolyn Cyfrifol newydd
- Nid oes rhaid cynnal ymweliad
Cais i ganslo'r Person Cofrestredig neu Unigolyn Cyfrifol yn wirfoddol
- Nid oes rhaid cynnal ymweliad
Cais i ganslo'r gwasanaeth yn wirfoddol
- Nid oes rhaid cynnal ymweliad
Cais i amrywio neu ddileu amod ychwanegol (amodau anghyffredin) sydd wedi cael ei osod oherwydd materion amgylcheddol
- Efallai y bydd rhaid cynnal ymweliad
Ffactorau a ystyrir wrth benderfynu a ddylid cynnal ymweliad
- Trafodaeth ag arolygydd y gwasanaeth mewn perthynas â materion yn ymwneud â diffyg cydymffurfiaeth amgylcheddol
- Camau a gymerwyd gan y darparwr cofrestredig i gydymffurfio
- Adroddiad arolygu diweddaraf y darparwr cofrestredig
Ym mhob achos, dim ond rhan o'r penderfyniad ynghylch ymweld fydd hyn. Os bydd y cais cyffredinol yn codi unrhyw bryderon, bydd yr arolygydd yn trafod y cais gyda'i reolwr llinell a bydd yr adroddiad cofrestru yn cynnwys rhesymau clir dros y penderfyniad a wnaed.
Atodiad 11 – Proses sylwadau AGC
A11.1 Terminoleg
“Gwasanaeth(au) rheoleiddiedig” –yn cyfeirio at unrhyw rai o'r mathau o wasanaethau a ddiffinnir gan Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (y Mesur), fel gwarchodwr plant neu wasanaeth gofal dydd.
“Gwasanaeth(au)” – yn cyfeirio at wasanaeth unigol sydd wedi'i gofrestru o dan y Mesur.
“Hysbysiad” – yn cyfeirio at Hysbysiad o Fwriad neu Hysbysiad o Benderfyniad, oni nodir fel arall.
A11.2 Y fframwaith cyfreithiol
Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010
Mae'n ofynnol i ni gyhoeddi Hysbysiad o Fwriad mewn perthynas â'r camau gweithredu canlynol:
- Gwrthod cais i gofrestru
- Gosod amod newydd ar gofrestriad person
- Amrywio neu ddileu unrhyw amod a osodwyd ar gofrestriad person
- Gwrthod cais i amrywio neu ddileu unrhyw amod o'r fath
- Canslo cofrestriad person
A11.3 Yr hawl i wneud sylwadau
Bydd pob Hysbysiad y byddwn yn ei gyhoeddi yn nodi'r camau gweithredu rydym yn bwriadu eu cymryd, y rheswm/rhesymau dros gymryd y camau gweithredu a therfyn amser i'r sawl sy'n derbyn yr Hysbysiad wneud sylwadau i ni. Gall yr amserlen ar gyfer gwneud sylwadau amrywio yn dibynnu ar yr amgylchiadau, ond ym mhob achos, mae'n rhaid iddi fod o leiaf 28 diwrnod ar ôl i'r Hysbysiad gael ei gyhoeddi.
Dylai'r rhai sy'n cyflwyno sylwadau i ni nodi hynny'n glir yn eu gohebiaeth â ni. Byddwn yn ceisio egluro statws unrhyw ohebiaeth a geir mewn ymateb i Hysbysiad os nad yw'n glir a yw'r person yn gwneud sylwadau.
Gellir gwneud sylwadau naill ai yn ysgrifenedig neu ar lafar. Nodir isod y broses ar gyfer y ddau.
Dylid cyflwyno sylwadau gydag unrhyw dystiolaeth ategol y dibynnir arni. Mae peidio â gwneud hyn yn debygol o effeithio ar ein hystyriaeth o'r sylwadau neu achosi oedi.
A11.4 Yr amserlen
Pan fydd y sylwadau wedi dod i law, ein nod fydd ymateb drwy gyhoeddi Hysbysiad o Benderfyniad/Hysbysiad o Ganslo o fewn 28 diwrnod i'r terfyn amser ar gyfer gwneud sylwadau.
Nid yw hyn yn golygu 28 diwrnod ar ôl i'r sylwadau ddod i law.
Os na allwn ymateb o fewn 28 diwrnod, byddwn yn rhoi gwybod i'r sawl sydd wedi derbyn yr Hysbysiad. Mewn achosion o'r fath, byddwn yn cyhoeddi Hysbysiad o Benderfyniad o fewn 56 diwrnod i'r terfyn amser ar gyfer gwneud sylwadau ac yn esbonio'r rheswm dros yr oedi.
Y Broses
Ar ôl i'r sylwadau ddod i law, caiff Penderfynwr ei ddyrannu. Bydd y Penderfynwr yn rhywun ar yr un radd â'r arolygydd a lofnododd yr Hysbysiad, neu radd uwch, ac ni fydd wedi bod yn rhan o'r penderfyniad i gymryd y camau arfaethedig.
A11.5 Sylwadau ar lafar
Dylai'r rhai sy'n dymuno gwneud sylwadau ar lafar roi gwybod i ni cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl. Bydd y Penderfynwr yn gwrando ar sylwadau ar lafar ar adeg ac mewn lleoliad sy'n gyfleus i bawb neu dros Teams. Dylai hyn ddigwydd o fewn 28 diwrnod ar ôl i'r sawl sydd wedi derbyn yr Hysbysiad roi gwybod i ni ei fod yn dymuno gwneud sylwadau ar lafar.
Gall y sawl sydd wedi derbyn yr Hysbysiad gyflwyno ei wrthwynebiadau yn bersonol, neu drwy gyfarfod dros Teams. Fel arall, gall y sawl sydd wedi derbyn yr Hysbysiad drefnu i gynrychiolydd gyflwyno ei sylwadau ar ei ran. Fel arfer, byddai disgwyl i'r person ddod i'r gwrandawiad gyda'i gynrychiolydd.
Os, am unrhyw reswm, na fydd y sawl sydd wedi derbyn yr Hysbysiad yn dod i'r gwrandawiad ond ei fod yn dymuno i'w gynrychiolydd barhau i wneud gwrthwynebiadau ar lafar yn ei absenoldeb, bydd angen i ni gael awdurdodiad ysgrifenedig gan y sawl sydd wedi derbyn yr Hysbysiad i'r perwyl hwn.
Nid yw'r gwrandawiad sylwadau ar lafar yn cynnwys unigolion yn rhoi tystiolaeth nac yn galw tystion, ac nid oes unrhyw ddarpariaeth i'r arolygydd na'r rheolwr sy'n gyfrifol am roi'r Hysbysiad fod yn bresennol.
A11.6 Gwneud penderfyniadau
Bydd y Penderfynwr yn ystyried yr holl dystiolaeth sy'n berthnasol i'r cam gweithredu arfaethedig, gan gynnwys:
- yr Hysbysiad sy'n cynnig y cam gweithredu
- unrhyw dystiolaeth ategol y dibynnir arni ar gyfer cymryd y cam gweithredu
- y sylwadau a wnaed gan y sawl sydd wedi derbyn yr Hysbysiad
- unrhyw dystiolaeth ategol a roddwyd gan y sawl sydd wedi derbyn yr Hysbysiad
Fel rhan o'r broses o ddod i benderfyniad, gall y Penderfynwr ofyn am wybodaeth ychwanegol, gan gynnwys gofyn am arolygiad o'r gwasanaeth(au). Caiff canlyniad yr arolygiad ei ystyried ar ffurf adroddiad arolygu drafft. Oherwydd yr amserlenni y mae'n rhaid i ni gadw atynt wrth ystyried sylwadau, nid oes digon o amser i aros i'r adroddiad gael ei gyhoeddi cyn ystyried canlyniad yr arolygiad. Os bydd y Penderfynwr yn cadarnhau'r Hysbysiad, a'r sawl sydd wedi derbyn yr Hysbysiad yn herio'r adroddiad drafft, dylai hyn gael ei nodi mewn unrhyw apêl a wneir i'r Tribiwnlys.
Gall y Penderfynwr geisio cyngor gan y Gwasanaethau Cyfreithiol ar faterion yn ymwneud â chyfraith a gweithdrefn. Fodd bynnag, cyfrifoldeb y Penderfynwr yw dod i benderfyniad.
A11.7 Canlyniadau yn dilyn Hysbysiad o Fwriad
Ar ôl dod i benderfyniad, rhaid i'r Penderfynwr gyhoeddi Hysbysiad o Benderfyniad yn nodi ei benderfyniad a'r rheswm/rhesymau drosto. Gall y Penderfynwr naill ai:
- gadarnhau'r Hysbysiad o Fwriad, neu
- gadarnhau'r Sylwadau
A11.8 Apeliadau
Os bydd gan y sawl sy'n derbyn yr Hysbysiad hawl i apelio i'r Tribiwnlys Iechyd a Gofal Cymdeithasol, bydd hyn wedi'i nodi'n glir ar yr Hysbysiad o Benderfyniad.
Atodiad 12 – Disgwyliadau o ran cyfathrebu ag AGC
Mae Rheoliad 31 o Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i Bersonau Cofrestredig hysbysu AGC am unrhyw newidiadau i'w gwasanaeth a'u gofal plant a restrir yn Atodlen 4. Mae hyn yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, newidiadau i'r canlynol:
- unigolion ar y safle
- cyfeiriad y gwasanaeth gwarchod plant
- y math o ofal a ddarperir
- oriau gwarchod
Gall AGC hefyd ofyn am wybodaeth arall am y gofal a ddarperir i blant er mwyn sicrhau addasrwydd parhaus Person Cofrestredig i gael ei gofrestru.
Mae Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yn caniatáu i Berson Cofrestredig atal ei gofrestriad yn wirfoddol. Gellir gwneud cais i atal cofrestriad yn wirfoddol drwy gyfrif AGC Ar-lein. Mae angen y wybodaeth ganlynol ar AGC mewn perthynas ag unrhyw gais i atal cofrestriad yn wirfoddol:
- y rheswm dros wneud cais i atal y cofrestriad
- dyddiad dechrau a gorffen y cyfnod atal.
O bryd i'w gilydd, gall AGC ofyn am ddiweddariad am ataliad parhaus Person Cofrestredig. Mae'n bwysig bod y Person Cofrestredig yn ymgysylltu ag AGC ac yn darparu'r holl wybodaeth angenrheidiol mewn modd amserol. Gall peidio ag ymgysylltu olygu na all AGC fod yn fodlon bod y Person Cofrestredig yn parhau i fod yn addas i gael ei gofrestru.
Os na fydd Person Cofrestredig yn ymgysylltu ag AGC, byddwn yn rhoi'r broses ganlynol ar waith:
Bydd AGC yn ceisio cysylltu â'r Person Cofrestredig drwy'r manylion cyswllt personol a ddarparwyd ar adeg cofrestru, h.y. rhif ffôn, cyfeiriad e-bost a chyfeiriad cartref. Dros gyfnod o ddau fis, bydd AGC yn ceisio cysylltu ddwywaith yn ysgrifenedig drwy lythyr/e-bost a dwywaith dros y ffôn.
Os na fydd unrhyw ymateb, bydd AGC yn anfon Hysbysiad o Fwriad i Ganslo Cofrestriad i'r cyfeiriad mwyaf diweddar a ddarparwyd gan y Person Cofrestredig. Os na fydd unrhyw ymateb i'r Hysbysiad o fewn 28 diwrnod, byddwn yn anfon Hysbysiad o Benderfyniad. Caiff y cofrestriad ei ganslo ar ôl y cyfnod hwnnw o 28 diwrnod, os na fydd y Person Cofrestredig yn apelio i'r Tribiwnlys.
Mae goblygiadau difrifol i ganslo, gan gynnwys cael eich anghymhwyso rhag cofrestru fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd yng Nghymru.
Hefyd, ni chaiff y person anghymwys weithio gyda gwarchodwr plant na chael ei gyflogi mewn perthynas â darparu gofal dydd yng Nghymru.
Rhowch wybod i AGC drwy eich cyfrif AGC ar-lein:
- os byddwch yn symud tŷ
- os bydd eich manylion cyswllt yn newid – rhif ffôn symudol, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad cartref
- os byddwch yn penderfynu ailgychwyn eich gwasanaeth cyn diwedd y cyfnod atal y gofynnwyd amdano
- os byddwch yn penderfynu nad ydych am barhau wedi'ch cofrestru mwyach