Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
Dogfen HTML

Canllawiau ar awdurdodaeth gynhenid gorchmynion Amddifadu o Ryddid yr Uchel Lys ar gyfer plant

Mae'r canllawiau hyn ar gyfer darparwyr gwasanaethau sy'n ystyried darparu gofal i blant neu sydd eisoes yn darparu gofal i blant sy'n destun gorchymyn amddifadu o ryddid a wneir o dan awdurdodaeth gynhenid yr Uchel Lys.

Cyhoeddwyd: 17 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:
Argraffu

1. Cyflwyniad

1.1 Mae'r canllawiau hyn ar gyfer darparwyr gwasanaethau sy'n ystyried darparu gofal i blant neu sydd eisoes yn darparu gofal i blant sy'n destun gorchymyn amddifadu o ryddid a wneir o dan awdurdodaeth gynhenid yr Uchel Lys. Caiff gorchmynion amddifadu o ryddid eu gwneud gan yr Uchel Lys yng Nghymru a Lloegr ar ôl gweithrediadau gan yr awdurdod lleol sy'n lleoli.

1.2 Datblygwyd y canllawiau i helpu darparwyr gwasanaethau i ddeall y trefniadau hyn ac i nodi disgwyliadau AGC o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

1.3 Mae AGC am sicrhau y caiff plant sy'n cael eu gosod o dan y trefniadau hyn eu diogelu'n briodol, ochr yn ochr â phlant eraill sy'n byw yn y cartref nad ydynt yn destun gorchmynion o'r fath. Mae'n bwysig nad yw'r trefniadau hyn yn ymyrryd â hawliau'r plant o dan y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (ECHR).

2. 2. Cefndir

2.1 Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, mae AGC wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y plant sy'n byw mewn gwasanaethau cartrefi gofal ac sy'n destun gorchmynion amddifadu o ryddid.

2.2 Rydym yn ymwybodol mai'r prif reswm dros y cynnydd yn y trefniadau hyn yw'r diffyg lleoliadau diogel a lleoliadau addas i blant sy'n agored i niwed ac sydd ag anghenion gofal cymhleth, gan gynnwys yr angen i'w hamddiffyn rhag camfanteisio rhywiol a throseddol. Gwyddom yn y rhan fwyaf o'r sefyllfaoedd hyn y byddai'r plant wedi dioddef trawma sylweddol yn ystod eu bywydau ac y byddai angen gofal a chymorth arbenigol arnynt a fydd yn sicrhau cartref cyson a magwrus iddynt.

3. Fframwaith Cyfreithiol ar gyfer trefniadau ‘amddifadu o ryddid’

3.1 Mae'n bwysig bod darparwyr gwasanaethau sy'n cytuno i blentyn symud i gartref gofal cofrestredig o dan orchymyn amddifadu o ryddid yn deall y sefyllfa gyfreithiol o ran y trefniadau hyn a'r amodau y maent yn cytuno i gydymffurfio â nhw yn unol â'r gorchymyn penodol a roddir gan yr Uchel Lys.

3.2 Mae'r term ‘amddifadu o ryddid’ yn deillio o Erthygl 5 o'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (ECHR), sy'n nodi bod gan bawb, o bob oedran, yr hawl i ryddid. Mae Erthygl 5 yn nodi'r amgylchiadau lle gellir caniatáu trefniadau amddifadu o ryddid lle mae angen sicrhau bod mesurau diogelu llym ar waith i'r rhai sydd wedi'u hamddifadu o'u rhyddid. Mae mesurau diogelu o'r fath yn cynnwys y gofyniad bod yn rhaid i unrhyw drefniadau amddifadu o ryddid fod yn ‘weithdrefn a ragnodir o dan y gyfraith’ a bod gan y rhai sydd wedi'u hamddifadu o'u rhyddid yr hawl i wneud cais i'r llys adolygu cyfreithlonrwydd eu cadw'n gaeth.

3.3 Cadarnhaodd Llys Hawliau Dynol Ewrop (Storck v Germany [2005] ECtHR) y bydd trefniadau gofal unigolyn yn arwain at orchymyn amddifadu o ryddid os yw'r tri amod canlynol yn cael eu bodloni: 

  • cânt eu cadw mewn man penodol am gyfnod anghyfnewidiadwy o amser. 
  • nid ydynt yn cydsynio i'r trefniadau hyn lle cânt eu cadw dan gyfyngiad. 
  • y wladwriaeth sy'n gyfrifol am y trefniadau amddifadu o ryddid. (Yr awdurdod lleol sy'n lleoli yw'r wladwriaeth yn yr achos hwn)

3.4 Caiff trefniadau amddifadu o ryddid eu rhoi ar waith pan fydd cyfyngiadau yn cael eu gosod ar ryddid plentyn y tu hwnt i'r hyn a ddisgwylir fel arfer ar gyfer plentyn o'r un oedran. Gall hyn gynnwys cadw'r plentyn mewn amgylchedd dan glo lle na all adael, cadw'r plentyn lle y caiff ei oruchwylio a'i reoli'n barhaus a bod y plentyn yn destun trefniadau atal yn gorfforol neu driniaeth feddygol heb fod angen iddo gydsynio. Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn nodi y dylid ond cyfyngu ar ryddid plentyn pan fetho popeth arall ac am y cyfnod byrraf priodol o amser yn unig.

3.5 Gall y llysoedd teulu awdurdodi gorchymyn amddifadu o ryddid plentyn mewn dwy ffordd: 

  • Adran 25 o Ddeddf Plant 1989 (Plant sy'n byw yn Lloegr) 
  • Adran 119 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, (plant sy'n byw yng Nghymru).

3.6 Er mwyn gwneud gorchymyn o dan Adran 25 neu Adran 119, rhaid i'r meini prawf canlynol gael eu bodloni: 

  • mae'r plentyn wedi rhedeg i ffwrdd ar sawl achlysur yn y gorffennol, 
  • ac mae'n debygol o ddioddef niwed sylweddol os bydd yn rhedeg i ffwrdd, 
  • neu y bydd y plentyn yn niweidio ei hun neu bersonau eraill os bydd yn cael ei roi mewn unrhyw fath arall o lety.

3.7 Mewn achosion o'r fath, rhaid i'r plentyn gael ei roi mewn cartref cofrestredig diogel i blant. Cyfleusterau arbenigol yw'r rhain lle y caiff plant eu cadw mewn lleoliadau cyfyngedig iawn. Ychydig iawn o'r cyfleusterau hyn sydd ar gael.

3.8 Gall yr Uchel Lys awdurdodi trefniadau amddifadu o ryddid y plentyn o dan ei awdurdodaeth gynhenid pan na fydd unrhyw un o'r trefniadau cyfreithiol eraill yn addas, e.e., os na fydd gwelyau ar gael mewn cartrefi diogel i blant neu os na chaiff meini prawf diogelwch y llety eu bodloni. Fodd bynnag, gall y trefniadau gael eu defnyddio mewn achosion lle yr ystyrir y byddai llety diogel ffurfiol yn anghymesur, ond lle y mae cyfyngiadau yn ofynnol er mwyn cadw plentyn yn ddiogel mewn lleoliad cartref gofal. Yn wir, gofynnir yn fwyfwy i'r Uchel Lys wneud gorchmynion i alluogi plentyn i symud o lety diogel i gartref gofal. Mewn sefyllfaoedd o'r fath, gellir defnyddio gorchymyn amddifadu o ryddid fel cam pontio cyn i gyfyngiadau gael eu codi'n gyfan gwbl.

3.9 Bydd y gorchymyn amddifadu o ryddid yn nodi'r cyfyngiadau sy'n gymwys i'r plentyn wrth ei amddifadu o ryddid, ac mae'n ofynnol i'r rhai hynny sy'n gyfrifol sicrhau y caiff y manylion, fel y'u nodir yn y gorchymyn, eu rhoi ar waith wrth ddarparu gofal i'r plentyn sy'n destun y gorchymyn. Yn gyffredinol, gall natur y cyfyngiadau a roddir ar waith gynnwys ond nid yw'n gyfyngedig i'r canlynol. 

  • goruchwyliaeth barhaus 
  • cadw drysau a ffenestri dan glo neu osod system larwm arnynt er mwyn atal plentyn rhag gadael y cartref 
  • defnyddio dulliau atal yn gorfforol 
  • cyfyngiadau ar y defnydd o ffôn symudol 
  • cyfyngiadau ar y defnydd o'r we 
  • nid yw'r plentyn yn rhydd i adael y cartref heb oruchwyliaeth 
  • ni chaiff y plentyn fod ag eitemau a all achosi niwed iddo neu i bobl eraill yn ei feddiant 
  • cynnal chwiliadau ar ystafell y plentyn a/neu ar y plentyn ei hun 
  • cynnal gwiriadau yn ystod y nos 
  • bydd y plentyn yn destun archwiliadau pan fydd yn ei ystafell wely/ ystafell ymolchi 
  • vyfyngiadau ar y rhai y gall y plentyn fod mewn cysylltiad â nhw.

3.10 Mewn achos a oedd yn ystyried sefyllfa plant yn y Goruchaf Lys yn y DU (Par D (Plentyn) [2019] UKSC 42), nodwyd yn glir y bydd penderfynu p'un a ddylid cadw plentyn dan gyfyngiad ai peidio yn dibynnu ar b'un a yw'r cyfyngiadau a roddwyd ar waith yn cydymffurfio â mesurau rheoli arferol rhieni ar gyfer plentyn yn y grŵp oedran hwn. Mewn perthynas â'r mater o gydsynio, bydd hyn yn dibynnu ar oedran y plentyn yn ogystal â'i alluedd.

3.11 Yr hyn a fydd er budd pennaf y plentyn yw prif ystyriaeth yr Uchel Lys wrth benderfynu p'un a ddylid gwneud gorchymyn amddifadu o ryddid ar waith ai peidio.

4. Cyfrifoldebau'r Darparwr Gwasanaeth

4.1 Mae'n hanfodol bod darparwyr gwasanaeth yn rhoi ystyriaeth lawn i Ddatganiad o Ddiben y gwasanaeth a'r cyfrifoldebau a osodwyd arno o dan Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 (“y Rheoliadau”) a'r Canllawiau Statudol cysylltiedig wrth wneud penderfyniadau am ddarparu cartref i blentyn sy'n destun Gorchymyn Amddifadu o Ryddid.

4.2 Mae Rheoliad 7 o'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i'r gwasanaeth gael ei ddarparu yn unol â’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth. Mae dyletswydd ar y gwasanaeth i sicrhau y caiff y datganiad o ddiben ei adolygu'n barhaus a'i ddiwygio lle y bo'n briodol. Mae'r Canllawiau Statudol yn nodi y dylai'r datganiad o ddiben ddisgrifio'r gwasanaethau a ddarperir yn gywir, ac y dylid ei ddiweddaru pan gaiff newidiadau eu gwneud i'r gwasanaeth. Mae'r ddarpariaeth o wasanaethau arbenigol ychwanegol yn enghraifft o newid i'r gwasanaeth lle y bydd angen diweddaru'r datganiad o ddiben.

4.3 O dan y Rheoliadau, mae'n ofynnol i'r darparwr gwasanaeth hysbysu AGC am unrhyw ddiwygiadau arfaethedig i’r datganiad o ddiben o leiaf 28 diwrnod cyn iddynt gymryd effaith. Mewn amgylchiadau brys lle y bwriedir newid y gwasanaeth a ddarperir ar unwaith, mae'n ofynnol i'r darparwr gwasanaeth hysbysu AGC ar unwaith, a chyn rhoi'r newid ar waith, lle y bo hynny'n ymarferol. Rhaid diweddaru datganiad o ddiben y gwasanaeth i adlewyrchu'r newid yn ddi-oed a darparu copi i AGC.

4.4 Lle y bydd darparwr gwasanaeth yn ceisio gofalu am blentyn o dan orchymyn amddifadu o ryddid gyda'r cyfyngiadau cysylltiedig ar waith, mae'n debygol y bydd angen newid y ffordd y caiff y gwasanaeth ei ddarparu i blant. Felly, rhaid diwygio'r datganiad o ddiben i adlewyrchu'r newid hwn. Dylai'r Datganiad o Ddiben nodi sut y bydd gofal yn cael ei ddarparu'n ddiogel a sut y bydd y darparwr gwasanaeth yn sicrhau na fydd unrhyw gyfyngiadau yn effeithio'n negyddol ar blant eraill sy'n byw yn y cartref. Wrth wneud hynny, dylid rhoi ystyriaeth i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.

4.5 Rhaid i ddarparwyr gwasanaeth sicrhau bod unrhyw benderfyniad a wneir i leoli plentyn sy'n destun gorchymyn amddifadu o ryddid mewn gwasanaeth cartref gofal cofrestredig yn dangos ei fod yn bodloni'r gofynion a nodir yn Rheoliad 14 o'r Rheoliadau a bod y Canllawiau Statudol yn cael eu hystyried a'u gweithredu'n llawn. Ni ddylai darparwr gwasanaeth ddarparu gofal a chymorth i blentyn sy'n destun gorchymyn amddifadu o ryddid oni bai ei fod wedi pennu y gall y gwasanaeth ddiwallu ei anghenion a'i fod yn meddu ar y gallu i weithredu a chynnal y cyfyngiadau a nodir yn y gorchymyn amddifadu o ryddid yn ddiogel. Rhaid i'r darparwr hefyd ystyried unrhyw risgiau i lesiant y plentyn yn ogystal â'r risgiau i blant eraill sy'n cael gofal yn y cartref wrth wneud ei benderfyniad terfynol. Wrth ystyried hynny, bydd angen i'r darparwr gwasanaeth ystyried gallu'r gwasanaeth i weithredu a chynnal y cyfyngiadau a nodir yn y gorchymyn amddifadu o ryddid yn ddiogel.

4.6 Rhaid i'r darparwr gwasanaeth hysbysu AGC pan fydd plentyn sy'n destun Gorchymyn Amddifadu o Ryddid yn symud i mewn i gartref gofal drwy'r porth hysbysu ar-lein.

4.7 Rhaid i'r darparwr gwasanaeth sicrhau ei fod yn cynnal asesiad darparwr fel sy'n ofynnol o dan Reoliad 18 o'r Rheoliadau a'r Canllawiau Statudol o fewn 7 diwrnod i ddarparu'r gwasanaeth.

Fframweithiau cyfreithiol yr atodiadau