Canllawiau chwythu'r chwiban
Canllaw ar godi pryderon am ofal cymdeithasol neu ofal plant yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gwbl hygyrch
Cyngor i weithwyr gofal cymdeithasol
Mae'r canllawiau hyn ar gyfer pobl sy'n gweithio, neu wedi gweithio i sefydliad gofal cymdeithasol neu sefydliad gofal plant ac sydd â phryderon am ofal gwael. Mae'n nodi ein rôl a'r hyn y gallwn, ac na allwn, ei wneud pan fyddwn yn derbyn gwybodaeth am chwythu'r chwiban.
Chwythu'r chwiban yw'r term a ddefnyddir pan fydd rhywun sy'n gweithio mewn sefydliad neu'n gweithio i sefydliad eisiau codi pryderon am gamarfer, drygioni, anghyfreithlondeb neu risg. Gall y pryderon hyn effeithio ar bobl sy'n defnyddio gwasanaeth, y cyhoedd, aelodau eraill o staff neu'r sefydliad ei hun.
Siarad yn agored
O bryd i'w gilydd, gallai fod gennych bryderon am rywbeth sy'n digwydd lle rydych yn gweithio a allai effeithio ar bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth, eich cydweithwyr neu'r sefydliad cyfan. Nid yw'n hawdd gwneud rhywbeth am y pryderon hyn bob amser.
Rhaid i bob gweithiwr gofal cymdeithasol proffesiynol ddilyn ei god ymddygiad proffesiynol, a byddem bob amser yn argymell eich bod yn codi eich pryder gyda'ch sefydliad yn gyntaf. Dylai fod gan eich sefydliad bolisi chwythu'r chwiban. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod nad yw hyn yn bosibl weithiau neu y gallwch deimlo nad yw eich sefydliad yn gwrando arnoch. Os ydych wedi codi eich pryder yn fewnol ac na aethpwyd i'r afael ag ef, neu os byddwch yn teimlo na allwch godi eich pryder ar unrhyw lefel yn eich sefydliad, gallwch siarad â ni.
Y Gyfraith ac Arolygiaeth Gofal Cymru
Mae chwythu'r chwiban yn wahanol i wneud cwyn. ‘Chwythwr chwiban’ yw rhywun sy'n gwneud ‘datgeliad cymwys’ am bryder yn y gwaith. Mae gan AGC rôl benodol i bobl sy'n ystyried “chwythu'r chwiban” am bryderon sy'n ganddynt am ddrygioni ym maes gofal cymdeithasol neu ofal plant yng Nghymru.
Mae AGC yn “gorff rhagnodedig” o dan gyfreithiau chwythu'r chwiban, felly gall cyflogeion, cyn-gyflogeion, staff asiantaeth dros dro neu gontractwyr sy'n codi pryderon (sef ‘datgeliad cymwys’) â ni am weithgareddau eu cyflogwr gael rhywfaint o ddiogelwch dros eu hawliau cyflogaeth o dan Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996, a gafodd ei diwygio gan Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd (PIDA) 1998.
Mae PIDA yn diogelu budd y cyhoedd drwy gynnig camau unioni i unigolion sy'n wynebu cosb yn y gweithle am godi pryder gwirioneddol, boed hynny'n bryder am ddiogelwch cleifion, diogelu, camarfer ariannol, perygl, anghyfreithlondeb neu unrhyw ddrygioni arall.
Os ydych yn datgelu gwybodaeth i ni, caiff eich datgeliad ei ddiogelu os ydych wedi'i wneud yn onest, rydych yn credu ei fod yn wir, a bod gennych reswm dilys dros gredu ei fod yn ymwneud â darpariaeth gofal cymdeithasol neu ofal plant yng Nghymru.
Rhaid i chi gredu bod y wybodaeth yn tueddu i ddangos bod un neu fwy o'r canlynol wedi digwydd, yn digwydd, neu'n debygol o ddigwydd:
- Trosedd, camweinyddiad cyfiawnder neu achos o dorri rhwymedigaeth gyfreithiol
- Perygl i iechyd neu ddiogelwch unrhyw unigolyn
- Niwed i'r amgylchedd
- Cuddio drygioni yn y categorïau uchod yn fwriadol
Rôl AGC ydyw i glywed datgeliadau a fyddai'n cael eu hystyried eu bod o fudd i'r cyhoedd, lle nad ydych yn teimlo y gallwch ddatgelu'n uniongyrchol i'ch cyflogwr, neu eich bod wedi gwneud hynny ond nad ydych yn credu eich bod wedi cael eich cymryd o ddifrif.
Ni allwn ymwneud â chwynion personol rhwng gweithwyr a chyflogwyr.
A allaf roi gwybodaeth yn ddienw?
Fel arfer, y ffordd orau o godi cwyn yw gwneud hynny'n agored. Mae gonestrwydd yn ei gwneud yn haws i ni ddeall y materion a chael rhagor o wybodaeth.
Wrth gwrs, rydym yn cydnabod y gallai fod amgylchiadau lle yr hoffech i ni gadw eich manylion adnabod yn gyfrinachol. Ni fyddwn yn datgelu eich manylion adnabod heb eich cydsyniad oni bai bod cyfyngiadau neu rwymedigaethau cyfreithiol sy'n ei gwneud yn ofynnol i ni wneud hynny (er enghraifft, lle mae eich tystiolaeth yn awgrymu bod plentyn neu oedolyn agored i niwed yn wynebu risg neu fod trosedd ddifrifol wedi'i chyflawni) neu os bydd yn ofynnol i ni wneud hynny gan lys. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os bydd angen i ni wneud hyn, ac y bydd corff arall yn eich adnabod.
Cofiwch, er ein bod yn diogelu eich manylion adnabod, gall eraill ddyfalu pwy sydd wedi cysylltu â ni drwy natur y wybodaeth rydych wedi'i darparu.
Gallwch godi pryder yn ddienw os na fyddwch am roi eich enw o gwbl. Os bydd hyn yn digwydd, ni allwn gysylltu â chi i drafod eich pryder, i gael rhagor o wybodaeth nac i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar unrhyw gamau rydym yn eu cymryd.
Beth fydd AGC yn ei wneud â'r wybodaeth y byddaf yn ei rhoi?
Caiff eich pryder ei rhannu gydag arolygydd y gwasanaeth rydych yn gweithio iddo, neu wedi gweithio iddo.
Byddwn yn ystyried a oes gennym y pwerau i ymateb i'r hyn rydych wedi'i ddweud wrthym ac a fyddai'n cael ei gynnwys o dan ein polisi chwythu'r chwiban. Mae'n bosibl y bydd angen mwy o wybodaeth arnom i bennu hyn. Byddwn yn gofyn a ydych am i ni ystyried bod yr hyn rydych yn ei ddweud wrthym yn ddatgeliad gwarchodedig.
Gallwn benderfynu siarad yn uniongyrchol ag uwch-reolwyr yn y gwasanaeth cofrestredig neu wasanaeth cymdeithasol yr awdurdod lleol rydych yn codi pryderon amdano. Mewn rhai achosion, gall fod yn fwy priodol i ni drosglwyddo'r wybodaeth i'r heddlu neu asiantaeth/rheoleiddiwr arall neu gymryd math arall o gamau gweithredu.
Os bydd y wybodaeth rydych yn ei rhoi i ni yn awgrymu risg diogelu uniongyrchol, byddwn yn trosglwyddo hyn i'r awdurdod lleol perthnasol ar unwaith.
Gallwn gofnodi eich pryderon fel rhan o'n darlun dealltwriaeth cyffredinol o'ch gweithle fel y gallant gael eu hystyried yn ystod ein hymweliad nesaf.
Byddwn yn dewis un o'r dulliau sydd ar gael i ni er mwyn mynd ar drywydd y wybodaeth.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi am yr hyn rydym am ei wneud ac unrhyw adborth am y camau y byddwn yn eu cymryd (oni bai na fyddwn yn gwybod pwy ydych gan eich bod wedi dod atom yn ddienw).
Gallwch gysylltu ag AGC drwy ffonio 0300 7900 126 neu drwy gwblhau ein ffurflen darparu adborth neu godi pryder ar-lein.
Pwy arall all helpu?
Rydym yn deall y gall fod yn benderfyniad anodd iawn i wneud datgeliad. Efallai yr hoffech gysylltu ag ACAS (Dolen allanol) sy'n cynnig llinell gymorth (rhif ffôn 0300 1231100) lle gallwch drafod problem yn y gweithle a'r opsiynau sydd ar gael i chi.
Ni all AGC roi cyngor cyfreithiol i chi. Os oes gennych unrhyw bryderon am wneud datgeliad i AGC, dylech siarad â chyfreithiwr, eich undeb llafur neu sefydliad, fel Protect UK ('Public Concern at Work' gynt) (Dolen allanol) i gael cymorth ar 020 3117 2520.