Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
Dogfen HTML

Cathwasiaeth fodern & gwiriadau recriwtio

Canllawiau atodedig ar gaethwasiaeth fodern a’r gwiriadau y mae AGC yn disgwyl i ddarparwyr eu gwneud ar gyfer gweithwyr asiantaeth.

Cyhoeddwyd: 21 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:
Argraffu

Arwyddion rhybudd o gaethwasiaeth fodern

Caiff arwyddion o gaethwasiaeth fodern a chamfanteisio eu cuddio yn aml. Gall dioddefwyr fod o unrhyw oedran, rhywedd, ethnigrwydd neu genedligrwydd. Dyma rai arwyddion cyffredin:

  • Gallai dogfennau cyfreithiol (pasbort, dogfennau adnabod, gwiriadau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) fod mewn meddiant rhywun arall. Gallai dioddefwyr fod yn cael eu gorfodi i ddefnyddio dogfennau adnabod ffug neu rai sydd wedi'u ffugio.
  • Gallai'r unigolyn edrych fel pe bai'n dioddef o ddiffyg maeth, yn flêr, neu fel pe bai wedi mynd i’w gragen neu'n flinedig. Efallai nad yw wedi gwisgo'n briodol ar gyfer y gwaith.
  • Efallai fod yr unigolyn wedi mynd i’w gragen, yn methu ag ateb cwestiynau amdano'i hun, neu’n rhoi atebion anghyson.

Mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru wedi llunio briff saith munud o hyd ar arwyddion o gaethwasiaeth fodern a beth i'w wneud os ydych chi'n amau bod rhywun yn dioddef o'r drosedd ofnadwy hon (Dolen allanol).

Rydym yn eich annog i'w rannu â’ch rheolwyr a’ch staff fel y gallant ymgyfarwyddo â’r arwyddion o gaethwasiaeth fodern. Gallwch ddatgan eich pryderon drwy ffonio Llinell Gymorth Caethwasiaeth Fodern a Chamfanteisio ar 0800 0121 700. Dylech ffonio 999 mewn argyfwng. Gallwch hefyd hysbysu’r Awdurdod Meistri Gangiau (Dolen allanol) a Chamdrin Gweithwyr am achos tybiedig o gam-drin a chamfanteisio ar weithwyr. Mae’r Awdurdod Meistri Gangiau a Cham-drin Gweithwyr yn annog pobl i adrodd pob amheuaeth.  

Gwiriadau rydym yn disgwyl i ddarparwyr eu gwneud ar gyfer gweithwyr asiantaeth

Mae'n ofynnol fod gan ddarparwyr gwasanaethau systemau dethol a fetio trwyadl ar waith ar gyfer eu holl staff a'u gwirfoddolwyr. Mae hyn yn cynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 1 i’r rheoliadau (Dolen allanol).

Mae'r canllawiau statudol (Dolen allanol) yn egluro bod staff asiantaeth yn ddarostyngedig i'r un gwiriadau â staff a gyflogir yn barhaol. Maent yn nodi y dylai fod gan ddarparwyr dystiolaeth i ddangos bod y gwiriadau wedi cael eu gwneud. Gall y dystiolaeth hon gynnwys cadarnhad a rhestrau gwirio a ddarperir gan asiantaeth staffio. Gallai hyn gynnwys:

  • rhestr wirio neu dystiolaeth gan yr asiantaeth yn cadarnhau bod y gwiriadau gofynnol ar gyfer yr unigolyn penodol wedi'u cwblhau a'u bod yn foddhaol, neu
  • bortffolio o'r dogfennau gofynnol a ddarparwyd gan y gweithiwr asiantaeth.

Dylai'r darparwr gwasanaeth sicrhau bod yr asiantaeth yn ddibynadwy ac yn gadarn wrth gynnal y gwiriadau. Yn gyffredinol, ceir y sicrwydd hwn pan fydd darparwyr gwasanaethau yn gallu profi dros amser bod yr asiantaeth yn cynnal y gwiriadau mewn modd cadarn a dibynadwy. Dylai fod gan y darparwr gwasanaeth broses er mwyn gallu profi hyn. Pan fydd darparwyr yn gweithio gydag asiantaethau newydd, mae'n hynod o bwysig eu bod yn sicr fod yr asiantaeth yn ddibynadwy ac yn gadarn.

Fisâu myfyrwyr

Mae'n bosib y bydd rhai pobl sydd yn y DU ar fisa myfyriwr yn gallu gweithio. Mae faint y caniateir iddynt weithio yn dibynnu ar yr hyn y maent yn ei astudio ac a ydynt yn gweithio yn ystod y tymor ai peidio. Caniateir i unigolion sy'n astudio ar lefel gradd ar fisa myfyriwr weithio uchafswm o 20 awr yr wythnos yn ystod y tymor (a ddiffinnir fel cyfnod o saith diwrnod, gan ddechrau ar ddydd Llun). Mae hyn yn cynnwys gwaith â thâl a gwaith di-dâl.

Gall y rhai sydd â fisa myfyriwr brofi eu hawl i weithio trwy wasanaeth 'gweld a phrofi' ar-lein Llywodraeth y DU (Dolen allanol) (bydd y gwasanaeth hwn hefyd yn nodi pa waith y caniateir i'r unigolyn ei wneud yn unol â'i fisa).

Gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth i wirio manylion hawl ymgeisydd i weithio (Dolen allanol) yn y DU, gan gynnwys y mathau o waith y caniateir iddo ei wneud ac am ba mor hir y gall weithio yn y DU.

Bydd angen dyddiad geni'r ymgeisydd a chod rhannu 'yr hawl i weithio'.