Cofnodion Cyfarfod Bwrdd Cynghori Cenedlaethol – 11 Chwefror 2026
Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol 11 Chwefror 2026
Efallai na fydd y ffeil hon yn gwbl hygyrch
Presenoldeb
Yn bresennol
- Ruth Hussey (Cadeirydd)
- Stuart Davies (Darparwr Gwasanaeth Cymorth Cartref)
- Tomos Davies (Swyddfa'r Comisiynydd Plant)
- Natalie Fletcher (Darparwr)
- Rachel Harris (Darparwr Gofal Dydd Llawn)
- Cari Jones (Gofalwr)
- Bethan Kay (Swyddog Blynyddoedd Cynnar yr Awdurdod Lleol a defnyddiwr gwasanaethau gofal plant)
- Peter Max (Darparwr Gofal Preswyl)
- Melanie Minty (Fforwm Gofal Cymru)
- Gillian Baranski (Prif Arolygydd)
- Kevin Barker (AGC)
- Annette Hennessey (AGC)
- Sarita Marshall (AGC)
- Vicky Poole (AGC)
- Margaret Rooney (AGC)
- Elizabeth Wallwork (AGC)
Ymddiheuriadau
- Valerie Billingham (Swyddfa'r Comisiynydd Pobl Hŷn)
- Orlaith Brennan (Darparwr Gwasanaeth Cymorth Cartref)
- Kate Cubbage (Ymddiriedolaeth Gofalwyr)
- Alyson Thomas (Llais)
- Jenny Williams (ADSS Cymru)
- Claire Protheroe (CWLWM)
1. Croeso, ymddiheuriadau a chyflwyniadau
Agorodd y Cadeirydd y cyfarfod a nododd yr ymddiheuriadau.
Cyflwynodd yr aelodau a oedd yn bresennol eu hunain. Croesawyd aelodau newydd a'r unigolion a oedd yn bresennol am y tro cyntaf.
2. Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol yn gofnod cywir.
3. Y wybodaeth ddiweddaraf gan y Prif Arolygydd
Mae'r datblygiadau allweddol ers y cyfarfod diwethaf yn cynnwys:
- Cyhoeddi Modiwl 2 o Ymchwiliad COVID-19; cyflwynodd AGC ddatganiad ac mae'n aros am Fodiwl 6 (gwasanaethau gofal).
- Recriwtio 27 o arolygwyr newydd ledled Cymru, gan gynnwys gwella'r capasiti Cymraeg, yn enwedig yng Ngogledd Cymru.
- Cwblhau'r adroddiad “Graddau: 7 mis yn ddiweddarach”, gyda thros 90% o raddau da neu ragorol yn cael eu dyfarnu i gartrefi gofal a chymorth cartref.
- Mae capasiti uwch bellach yn galluogi AGC i ailddechrau ar y gwaith a gafodd ei oedi oherwydd pwysau staff.
- Ymddangos gerbron Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd, gan gynnwys craffu ar adroddiad blynyddol AGC.
- Myfyrio ar fethiannau diogelu yn genedlaethol, gyda phwyslais ar systemau, dysgu a “llais y plentyn / unigolyn wrth wraidd gofal”.
- Cydnabod na all AGC atal pob achos o niwed, ond y gall atgyfnerthu sicrwydd, systemau a threfniadau gweithio mewn partneriaeth.
- Trafodaeth ar aelodaeth y bwrdd a'r angen i wella cynrychiolaeth ac amrywiaeth ar y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol.
Themâu allweddol
- Pwysigrwydd dangos tystiolaeth o “lais y bobl” mewn arolygiadau ac adroddiadau.
- Yr angen i ddangos effaith dros amser, nid gweithgaredd yn unig.
- Gwerth gweithio mewn partneriaeth â darparwyr.
4. Y wybodaeth ddiweddaraf am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
Rhannodd Margaret Rooney y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yn erbyn Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant AGC, gan gynnwys:
- Ymgorffori cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn fframweithiau arolygu a phrosesau sefydliadol.
- Gwaith a phartneriaethau gwrth-hiliaeth.
- Newidiadau i ddogfennaeth gofrestru er mwyn atgyfnerthu'r ffocws ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant o'r dechrau.
- Defnyddio Ymarfer Gwerth ei Rannu i nodi ymarfer cynhwysol.
- Sefydlu grŵp cyfeirio arbenigwyr ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar y cyd â Gofal Cymdeithasol Cymru.
- Gwella hygyrchedd adroddiadau a chynnwys digidol (gan gynnwys fersiynau Hawdd eu Deall).
- Darparu sesiynau pwrpasol ar ymwybyddiaeth o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant i arolygwyr.
Heriau a nodwyd
- Diffyg amrywiaeth yn y gweithlu (yn enwedig amrywiaeth ethnig a chynrychiolaeth o anableddau).
- Data recriwtio a gweithlu anghyflawn.
- Yr angen i wella cynrychiolaeth ac amrywiaeth ar y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol.
Cyfraniadau aelodau
Roedd yr awgrymiadau yn cynnwys:
- Dysgu o ddull Gofal Cymdeithasol Cymru i sicrhau amrywiaeth.
- Taliadau neu ad-daliadau i bobl â phrofiad bywyd sy'n cyfrannu at waith cynghori.
- Prosesau recriwtio allgymorth drwy rwydweithiau cymunedol.
- Cynnwys gweithwyr gofal a phobl sy'n cael gwasanaethau drwy ddulliau ymgysylltu hyblyg neu ddulliau sy'n benodol i faterion yn hytrach na rolau bwrdd ffurfiol.
- Ystyried gwelededd anableddau na ellir eu gweld wrth gasglu data.
Camau gweithredu
AGC i adolygu amrywiaeth ymhlith aelodaeth y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol, nodi bylchau o ran cynrychiolaeth ac archwilio opsiynau recriwtio ac adrodd yn ôl gyda chynigion mewn cyfarfod yn y dyfodol.
5. Lleisiau'r aelodau
5.1 Gofalwyr di-dâl a thaliadau uniongyrchol
Codwyd pryderon ynghylch y canlynol:
- Ni roddir gwybod am hawliau i ofalwyr di-dâl.
- Anghysondeb rhwng awdurdodau lleol (“loteri cod post”).
- Oedi wrth ryddhau cleifion yn gysylltiedig â chymorth cymunedol.
Camau gweithredu
AGC i barhau i godi materion drwy arolygiadau awdurdodau lleol ac ymgysylltu ag uwch-arweinwyr a rhannu gwybodaeth â Llywodraeth Cymru.
5.2 Arferion comisiynu ac awdurdodau lleol
Codwyd pryderon ynghylch y canlynol:
- Cyfraddau ffioedd anghyson ledled Cymru.
- Tensiwn cynyddol rhwng darparwyr a chomisiynwyr.
- Anghydbwysedd canfyddedig o graffu rhwng darparwyr preifat/gwirfoddol a chyrff statudol.
Cadarnhaodd AGC ei phwerau a'i fframweithiau arolygu, gan gynnwys triniaeth gyfartal o ddarpariaeth breifat a darpariaeth awdurdodau lleol lle caiff gwasanaethau eu rheoleiddio.
Camau gweithredu
CIW to use future relevant thematic reviews to gather provider experience.
Consider methods to better capture provider and stakeholder feedback during local authority inspections.
6. Cynllun Strategol – Thema “Rhoi sicrwydd”
Rhoddodd Margaret Rooney drosolwg o'r gweithgarwch rhoi sicrwydd presennol:
- Cofrestriad, arolygu a graddau.
- Gwaith arolygu awdurdodau lleol.
- Ymdrin â phryderon.
- Prosesau gorfodi.
- Adolygiadau thematig.
- Prosesau sicrhau ansawdd a llywodraethu mewnol.
Trafodaeth ar sut y gallai AGC atgyfnerthu sicrwydd, gan gynnwys y canlynol:
- Defnyddio gwybodaeth a data rhagfynegi yn well.
- Amlder arolygu yn seiliedig ar risg.
- Mwy o dryloywder ynghylch camau gorfodi.
- Ffocws cryfach ar arweinyddiaeth, llywodraethu a diwylliant.
- Cyfathrebu'n well am yr hyn y gall sicrwydd ei wneud a'r hyn na all ei wneud.
Adborth
- Hyder cyffredinol yn rôl sicrhau ansawdd AGC.
- Cydnabod na ellir rhoi sicrwydd pendant bob amser.
- Pwysigrwydd rheoli disgwyliadau'r cyhoedd.
Camau gweithredu
AGC i barhau i ddatblygu cynigion ar atgyfnerthu sicrwydd (gan gynnwys dulliau a gaiff eu harwain gan wybodaeth) er mwyn i'r Tîm Arwain Gweithredol eu hystyried gan roi sylw i adborth y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol.
7. Strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu
Cyflwyno copi drafft o'r Strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu.
Pedair thema allweddol:
- Datblygu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth.
- Galluogi prosesau ymgysylltu ystyrlon.
- Atgyfnerthu prosesau cyfathrebu digidol a hygyrch.
- Datblygu partneriaethau strategol a galluedd mewnol.
Adborth a nodwyd:
- Pwysigrwydd codi ymwybyddiaeth cyn cyfnodau o argyfwng.
- Yr angen am ganlyniadau mesuradwy a blaenoriaethu.
- Gwerth llwyddiannau cyflym er mwyn cynnal momentwm.
- Pwysigrwydd ymddiriedaeth, eglurder a herio camwybodaeth.
Camau gweithredu
AGC i nodi camau gweithredu â blaenoriaeth a dangosyddion mesuradwy a llunio'r strategaeth derfynol gan gynnwys adborth y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol.
8. Proses pryderon – llythyrau a gohebiaeth wedi'u diweddaru
Rhannodd Vicky Poole gopïau drafft diwygiedig o lythyrau ar gyfer ymateb i bryderon.
Ystyriwyd dau opsiwn:
- Opsiwn 1: Esbonio'r holl gamau gweithredu posibl a'r penderfyniad a wnaed.
- Opsiwn 2: Nodi'r camau gweithredu y mae AGC yn bwriadu eu cymryd yn unig.
Roedd yr aelodau'n ffafrio Opsiwn 2, ac awgrymwyd y gellir gwneud y canlynol:
- Gwella dilysrwydd emosiynol ac empathi.
- Ystyried oedran darllen ac iaith syml.
- Cynnwys cyfeiriad at gymorth lle y bo'n briodol.
- Sicrhau bod arolygwyr yn cael eu hannog i bersonoli ymatebion.
Camau gweithredu
AGC i fireinio llythyrau ymateb i bryderon, gan ddefnyddio Opsiwn 2 fel y prif dempled, ac ystyried adborth y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol.
9. Unrhyw fater arall a dyddiad y cyfarfod nesaf
Croesawodd aelodau y fideo o adborth cadarnhaol a ddangoswyd ar ddiwedd y cyfarfod.
Cadarnhawyd dyddiad y cyfarfod nesaf: 10 Mehefin 2026
Cofnod Camau Gweithredu
| Cyfeirnod | Cam gweithredu | Perchennog | Amserlen / Diweddariad nesaf |
|---|---|---|---|
| A1 | AGC i adolygu amrywiaeth ymhlith aelodaeth y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol, nodi bylchau o ran cynrychiolaeth ac archwilio opsiynau recriwtio ac adrodd yn ôl gyda chynigion mewn cyfarfod yn y dyfodol. | AGC (Gillian / Tîm Arwain Gweithredol) | Parhaus |
| A2 | AGC i barhau i godi materion drwy arolygiadau awdurdodau lleol ac ymgysylltu ag uwch-arweinwyr a rhannu gwybodaeth â Llywodraeth Cymru. | AGC | Cyfarfod y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol ym mis Mehefin |
| A3 | AGC i ddefnyddio adolygiadau thematig perthnasol a gynhelir yn y dyfodol i nodi profiad darparwyr. | AGC | Cyfarfod y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol ym mis Mehefin |
| A4 | Ystyried dulliau er mwyn casglu adborth gan ddarparwyr a rhanddeiliaid yn well yn ystod arolygiadau awdurdodau lleol. | AGC | Cyfarfod y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol ym mis Mehefin |
| A5 | AGC i barhau i ddatblygu cynigion ar atgyfnerthu sicrwydd (gan gynnwys dulliau a gaiff eu harwain gan wybodaeth) er mwyn i'r Tîm Arwain Gweithredol eu hystyried gan roi sylw i adborth y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol. | AGC | Parhaus |
| A6 | AGC i nodi camau gweithredu â blaenoriaeth a dangosyddion mesuradwy a llunio'r strategaeth derfynol gan gynnwys adborth y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol. | AGC | Parhaus. Bwriedir cyhoeddi'r strategaeth yn dilyn y cyfnod cyn yr etholiad. |
| A7 | AGC i fireinio llythyrau ymateb i bryderon, gan ddefnyddio Opsiwn 2 fel y prif dempled, ac ystyried adborth y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol. | AGC | Parhaus |