Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
Dogfen HTML

Cofnodion Cyfarfod Bwrdd Cynghori Cenedlaethol – 4 Mehefin 2025

Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol 4 Mehefin 2025

Cyhoeddwyd: 5 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:
Argraffu

Croeso ac ymddiheuriadau

Yn bresennol

  • Valerie Billingham (Swyddfa'r Comisiynydd Pobl Hŷn)
  • Orlaith Brennan (Darparwr Gwasanaeth Cymorth Cartref)
  • Natalie Fletcher (Darparwr)
  • Rachel Harris (Darparwr Gofal Dydd Llawn)
  • Ruth Hussey (Cadeirydd)
  • Peter Max (Darparwr Gofal Preswyl)
  • Melanie Minty (Fforwm Gofal Cymru)
  • Claire Protheroe (PACEY)
  • Alyson Thomas (Llais)
  • Jenny Williams (ADSS Cymru)
  • Gillian Baranski (Prif Arolygydd)
  • Julie Heal (AGC)
  • Annette Hennessey (AGC)
  • Richard Payne (AGC)
  • Laura Pritchard (AGC)
  • Margaret Rooney (AGC)
  • Nev Thomas (AGC)
  • Elizabeth Wallwork (AGC)
  • Meg Williams (AGC)

Ymddiheuriadau

  • Kate Cubbage (Ymddiriedolaeth Gofalwyr)
  • Stuart Davies (Darparwr Gwasanaeth Cymorth Cartref)

Cymeradwyo'r cofnodion blaenorol

Penderfyniad: Cymeradwyodd aelodau'r Bwrdd gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Chwefror 2025. 

Camau gweithredu o'r cofnodion blaenorol 

Adolygodd yr aelodau y cofnod camau gweithredu: 

Eitemau i weithredu arnynt:

Gwaith dilynol ar y broses bryderon: 

Adolygu ac ystyried y broses gyfathrebu â darparwyr ar ddiwedd y broses bryderon er mwyn sicrhau eglurder a chyflawnrwydd.

  • Diweddariad: Byddwn yn bwrw ati gyda darn penodol o waith ar bryderon yn yr ail chwarter gan gynnwys adolygu ein hymateb i bryderon, sut y caiff hyn ei gofnodi, a'n gohebiaeth ddilynol â'r rhai sy'n codi pryderon. 

Penaethiaid Tîm newydd AGC – cyflwyniad: Llunio a dosbarthu dogfen sy'n cynnwys lluniau a hanes byr am aelodau newydd o'r tîm i'r rhanddeiliaid. 

  • Diweddariad: Rydym wedi diweddaru ein holl bortreadau a byddwn yn rhannu'r rhain cyn y cyfarfod nesaf. 

Adborth ar y cynllun strategol: Ymgorffori adborth ar y cynllun strategol, gan sicrhau'n benodol bod diogelu yn llinyn allweddol drwy'r ddogfen. Ehangu'r disgrifiad o ddigideiddio yn y cynllun strategol i gynnwys y broses o archwilio a defnyddio deallusrwydd artiffisial. 

  • Diweddariad: Aethpwyd ar drywydd holl argymhellion y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol a chawsant eu hychwanegu at y cynllun strategol. 

Cais mewn perthynas â chyhoeddi graddau: Anfon copi o'r llythyr i Lywodraeth Cymru yn gofyn i'r cynllun ar gyfer cyhoeddi graddau gael ei ohirio am 12 mis arall – Mel Minty

  • Diweddariad: Mae'r cam gweithredu hwn wedi'i gwblhau – byddwn yn rhoi diweddariad ar raddau hyd yma yn y cyfarfod hwn lle y bydd cyfle i ofyn cwestiynau a rhannu meddyliau. 

Adolygiad blynyddol o achosion o wrthdaro buddiannau: Rhoi proses adolygu flynyddol ar waith ar gyfer pob aelod o ran achosion o wrthdaro buddiannau.

  • Diweddariad: Rydym wrthi'n datblygu'r ffurflenni a byddwn yn eu rhannu pan fyddant wedi'u cwblhau. 

Rhannu canlyniadau arolygon: Rhannu canlyniadau'r arolwg i Aelodau o safbwynt Cymru ag AGC. 

  • Diweddariad: Mae'r rhain wedi'u rhannu a byddant yn cael eu hatodi i agenda'r cyfarfod nesaf. 

1. Crynodeb AGC

Rhoddodd Gillian Baranski y diweddariadau canlynol gan AGC: 

1.1 Ymgyrch recriwtio arolygwyr

Cynhaliodd AGC ymgyrch recriwtio arolygwyr lwyddiannus, gan ddenu 292 o geisiadau ar gyfer swyddi hanfodol a dymunol yng Nghymru. Disgwylir i'r arolygwyr newydd fod yn weithredol erbyn yr hydref, pan fydd yr holl wiriadau CRB a gwiriadau perthnasol eraill wedi'u cynnal. 

1.2 Ymarfer gwerth ei rannu

Nododd Gillian fenter 'Ymarfer Gwerth ei Rannu', sy'n casglu enghreifftiau o ymarfer o ansawdd uchel a welwyd yn ystod arolygiadau o wasanaethau gofal plant a chware.  Y bwriad yw ehangu hyn i wasanaethau oedolion a phlant. Anogwyd y bwrdd i adolygu'r astudiaethau achos hyn ar wefan AGC

1.3 Diweddariadau ar berfformiad

Gofynnodd Gillian i'r bwrdd a ddylid rhoi diweddariadau ar berfformiad AGC ym mhob cyfarfod, dwywaith y flwyddyn, neu'n flynyddol. Cytunodd aelodau'r bwrdd y byddai'n ddefnyddiol cael diweddariadau ar berfformiad ddwywaith y flwyddyn, gyda'r opsiwn i gynnwys eithriadau pan fo angen. 

2 Graddau RISCA diweddariad ers rhoi'r broses ar waith

Rhoddodd Nev Thomas (rheolwr tîm – tîm arolygu gwasanaethau oedolion a phlant AGC) ac Annette Hennessey (rheolwr tîm cyfathrebu AGC) ddiweddariad ar y broses o roi graddau ar waith ar gyfer gwasanaethau oedolion a phlant. Dyma ddolen i'r cyflwyniad (Saesneg yn unig).

2.1 Y canllawiau sydd ar gael ar ein gwefan

Cyfeiriodd Annette yr aelodau ar yr amrywiaeth o ganllawiau ar raddau sydd ar gael ar wefan AGC

2.2 Graddau hyd yma 

Rhwng 1 Ebrill a 19 Mai 2025, arolygodd AGC 139 o wasanaethau gan ddefnyddio'r fframwaith newydd, a chyhoeddwyd 35 o adroddiadau. Dangosodd y canlyniadau cychwynnol ddeilliannau cryf: Rhoddwyd graddau 'Rhagorol' i 19 o wasanaethau am lesiant a 18 o wasanaethau am arweinyddiaeth a rheolaeth. Dim ond yn achos un gwasanaeth y nodwyd bod angen gwelliant sylweddol. 

2.3 Adborth cadarnhaol

Rhoddwyd y gorau i arolygiadau nad ydynt yn rhai brys ym mis Mawrth 2025 er mwyn i arolygwyr gwblhau eu hyfforddiant. Bu hyn yn llwyddiannus iawn. 

  • Dywedodd 87% o'r arolygwyr fod yr hyfforddiant yn rhagorol neu'n dda
  • Roedd 96% o'r arolygwyr yn teimlo eu bod wedi cael digon o gymorth i roi'r fframwaith ar waith. 

Cafodd yr adborth cadarnhaol hwn ei efelychu gan ddarparwyr hefyd: 

Cymerodd 784 o ddarparwyr ran yn y sesiynau ar-lein ar raddau, a dywedodd 97% ohonynt fod y sesiynau hyn yn rhagorol neu'n dda. 

2.4 Sylw yn y cyfryngau

Rhoddwyd cryn sylw i'r lansiad yn y cyfryngau, gan gynnwys y BBC ac ITV News. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddatganiad i'r wasg ar y cyd ag AGC, ac ymwelodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol â chartref nyrsio er mwyn rhoi cyhoeddusrwydd i'r system newydd. 

3 Lleisiau'r aelodau

3.1 Arolygiadau lle rhoddwyd rhybudd

Cododd Peter Max gwestiwn ynglŷn â chydbwyso arolygiadau dirybudd ac arolygiadau lle rhoddwyd rhybudd. 

Ailbwysleisiodd AGC ei hymrwymiad i gynnal ymweliadau dirybudd fel y ffordd orau o asesu ansawdd gwasanaeth o ddydd i ddydd. Roedd cytundeb cryf fod ymweliadau dirybudd yn rhoi ciplun mwy cywir. 

Roedd yr aelodau o blaid archwilio ffyrdd gwell o gasglu adborth gan ddefnyddwyr gwasanaethau cyn ac yn ystod arolygiadau. 

3.2 Ymarfer gwerth ei rannu

Trafododd y bwrdd astudiaethau achos 'Ymarfer Gwerth ei Rannu' sydd bellach yn cael eu cyhoeddi ar wefan AGC ar gyfer gwasanaethau gofal plant a chwarae. Mynegodd yr aelodau awydd i ehangu hyn i wasanaethau oedolion a phlant. 

3.3 Datganiadau blynyddol 

Trafodwyd hefyd ddatganiadau blynyddol. Roedd sawl darparwr yn teimlo'n rhwystredig am gymhlethdod y system. Cadarnhaodd Margaret Rooney fod AGC yn gweithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru i symleiddio'r broses a chyfuno dulliau casglu data o 2026. 

3.4 Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Rhannodd Valerie Billingham strategaeth a chynllun gwaith newydd y Comisiynydd. Mae ffocws ar gyfer y dyfodol yn cynnwys ymchwil i brofiadau bywyd pobl hŷn o ofal cymdeithasol yng Nghymru. 

Strategaeth y Comisiynydd 2025-28 – Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

4 Golwg cynnar ar batrymau a thueddiadau ar gyfer 2024-25

Rhoddodd Margaret Rooney drosolwg o'r patrymau a'r tueddiadau yn y sector yn 2024-2025. 

4.1 Pedwar ffactor allweddol sy'n rhoi pwysau ar y sector: 

  • recriwtio a chadw
  • cynaliadwyedd ariannol
  • galw cynyddol ar draws gwasanaethau
  • cynnal arweinyddiaeth a rheolaeth dda

4.2 Tueddiadau a phryderon

  • Mae gweithwyr o dramor yn gynyddol bwysig i wasanaethau gofal yn enwedig mewn ardaloedd trefol, er bod pryderon am gamfanteisio a pholisi mewnfudo yn bodoli o hyd.
  • Mae'r sector gofal plant yn symud tuag at ofal dydd llawn, gyda llai o warchodwyr plant.
  • Mae gorgyflenwad o wasanaethau cymorth cartref mewn ardaloedd trefol a bylchau mewn ardaloedd gwledig, sy'n codi cwestiynau am y farchnad a chomisiynu. Mae ceisiadau cofrestru o ansawdd gwael yn gyffredin.
  • O fis Ebrill 2026, ni ellir cofrestru darparwyr er-elw newydd ar gyfer cartrefi gofal i blant. 

4.3 Nodweddion cadarnhaol:

  • Mae'r rhan fwyaf o ofal yn dda neu'n rhagorol
  • Cymorth gan y llywodraeth ar gyfer y gweithlu a sefydlogrwydd
  • Twf mewn gwasanaethau a arweinir gan yr awdurdod lleol
  • Arweinyddiaeth gref yn ysgogi effaith
  • Fframwaith newydd i gefnogi diwylliannau cadarnhaol

5 Cynllun Strategol 2025–2030 – y camau nesaf

Rhoddodd Annette Hennessey gyflwyniad ar elfen ‘dylanwadu’ y Cynllun Strategol. Gallwch weld y sleidiau yma (Saesneg yn unig).

5.1 Cyfathrebu ac ymgysylltu

Un o dair thema cynllun strategol AGC ar gyfer 2025 i 2030 yw: 

Dylanwad: Bod yn adnabyddus a dibynadwy, gan rannu ein dealltwriaeth a'n harbenigedd unigryw er mwyn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol.

Er mwyn ymateb i hyn, mae AGC wrthi'n datblygu strategaeth gyfathrebu ac ymgysylltu newydd. 

Gofynnwyd i aelodau'r Bwrdd Cynghori Cenedlaethol am eu hadborth ynglŷn â sut y dylid mynd ar drywydd y gwaith hwn a beth y dylai ein blaenoriaethau fod.

Arweiniodd Annette Hennessey sesiwn ar sut y gallai AGC wella ei phroffil cyhoeddus a'i gweithgarwch ymgysylltu. Ymhlith yr awgrymiadau roedd targedu cynulleidfaoedd iau drwy'r cyfryngau cymdeithasol (TikTok ac Instagram), gwella hygyrchedd, a defnyddio technegau adrodd straeon i ddathlu arferion da. Roedd yr aelodau o blaid datblygu strategaeth gyfathrebu a gwnaethant gynnig helpu i hyrwyddo gwaith AGC. 

5.2 Polau 

Hwyluswyd polau rhyngweithiol ar gyfathrebu ac ymgysylltu yn ystod y cyfarfod ac roedd y canlyniadau fel a ganlyn: 

Pa air sy'n dod i'r meddwl wrth ystyried proffil cyhoeddus presennol AGC? 

  • Cymysg, corfforaethol, gwan, ffurfiol, cyfyngedig, isel (x3), gofalgar, proffil isel

A ydych yn dilyn AGC ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol?

  • Na: 2
  • Ydw: 10

Pan un o'n sianeli cyfryngau cymdeithasol rydych yn ei dilyn?

  • LinkedIn: 2
  • Facebook: 1
  • Facebook a LinkedIn: 5
  • Facebook, LinkedIn a X: 1

A ydych wedi tanysgrifio i fwletin AGC? 

  • Ydw: 7

6. Camau Gweithredu

  • Rhannu sleidiau a dolenni gwe a rannwyd yn ystod y cyfarfod. Parhau i rannu astudiaethau achos ar ymarfer cadarnhaol.
  • Ystyried sut i wella adborth gan ddefnyddwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid yn ystod arolygiadau.
  • Ymgysylltu â rhanddeiliaid i symleiddio'r broses ar gyfer datganiadau blynyddol.
  • Olrhain goblygiadau gofynion cyhoeddi ar wefan i ddarparwyr bach. 

7. Cyfarfod nesaf

Dydd Mawrth 23 Medi 2025, 9.30am - 12.30pm