Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
Dogfen HTML

Cofnodion Cyfarfod Bwrdd Ymgynghorol Cenedlaethol – 5 Chwefror 2025

Cofnodion o Gyfarfod y Bwrdd Ymgynghorol Cenedlaethol – 5 Chwefror 2025

Cyhoeddwyd: 5 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:
Argraffu

Croeso ac ymddiheuriadau

Croesawodd y Cadeirydd, Dr Ruth Hussey, yr aelodau i'r cyfarfod.

Y sawl a oedd yn bresennol

  • Dr Ruth Hussey (Cadeirydd),
  • Gillian Baranski (Prif Arolygydd, Arolygiaeth Gofal Cymru),
  • Kevin Barker (Dirprwy Brif Arolygydd, Arolygiaeth Gofal Cymru),
  • Órlaith Brennan (Darparwr – Gwasanaethau Cymorth Cartref),
  • Kate Cubbage (Ymddiriedolaeth y Gofalwyr),
  • Stuart Davies (Darparwr – Gwasanaethau Cymorth Cartref),
  • Sarah Jayne Evans (Pennaeth Cofrestru a Gorfodi, Arolygiaeth Gofal Cymru),
  • Natalie Fletcher (Darparwr – Cartref Gofal Plant),
  • Cerys Gage (Ysgrifenyddiaeth, Arolygiaeth Gofal Cymru),
  • Rachel Harris (Darparwr – Gofal Dydd Llawn),
  • Annette Hennessey (Ysgrifenyddiaeth, Arolygiaeth Gofal Cymru),
  • Julie Heal (Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Phlant),
  • Ceri Herbert (Pennaeth Gwasanaethau Gofal Plant a Chwarae, Arolygiaeth Gofal Cymru),
  • Peter Max (Darparwr – Gofal Preswyl),
  • Melanie Minty (Fforwm Gofal Cymru),
  • Vicky Poole (Cymorth Strategol, Arolygiaeth Gofal Cymru),
  • Claire Protheroe (CWLWM),
  • Margaret Rooney (Dirprwy Brif Arolygydd, Arolygiaeth Gofal Cymru),
  • Alyson Thomas (Llais),
  • Sharon Williams (rheolwr cartref gofal),
  • Elizabeth Wallwork (Cynrychiolydd staff, Arolygiaeth Gofal Cymru),
  • Jenny Williams (Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru). 

Ymddiheuriadau 

  • Lou Bushell-Bauers (Pennaeth Awdurdodau Lleol, Arolygiaeth Gofal Cymru),
  • Valerie Billingham (swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru),
  • Melanie Davies (Gofalwr, Gwasanaethau Oedolion),
  • Carole Jones (Gofalwr a Defnyddiwr Gwasanaethau),
  • Bethan Louise Kay (Swyddog Blynyddoedd Cynnar yr Awdurdod Lleol a defnyddiwr gwasanaethau gofal plant),
  • Rachel Thomas (swyddfa Comisiynydd Plant Cymru).

Camau gweithredu o'r Cofnodion blaenorol – 6 Mehefin 2024

  • Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod diwethaf.
  • Nododd aelodau bod dau gam gweithredu ar waith o hyd.

1 Diweddariadau a blaenoriaethau

  • Trafododd Gillian Baranski y blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn newydd, gan gynnwys cyhoeddi graddau ar gyfer gwasanaethau oedolion a phlant a fydd yn dechrau ar 1 Ebrill 2025.
  • Nodwyd bod ffocws sylweddol ar y cynllun strategol hefyd. 

2 Adolygu'r Cylch Gorchwyl ar gyfer y Bwrdd

  • Cytunodd y Bwrdd ar rai mân ddiwygiadau a diweddariadau i'r Cylch Gorchwyl
  • Gofynnodd y Bwrdd i'r pwyntiau canlynol gael eu hychwanegu:
    • Dylid adolygu achosion o wrthdaro buddiannau bob blwyddyn.
    • Dylid diwygio PACEY i Cwlwm. 

3 Lleisiau'r aelodau

3.1 Graddau a goblygiadau newyddion diweddar am arolygiaethau yn Lloegr

  • Cafwyd trafodaeth am y sylw diweddar a gafodd Ofsted yn y newyddion a'i waith ar raddau a pherfformiad y Comisiwn Ansawdd Gofal.
  • Pwysleisiodd Kevin Barker y dylai graddau fod yn rhan o amrywiaeth o waith i roi sicrwydd am ansawdd a diogelwch gwasanaethau.
  • Cafwyd trafodaeth am y pwysau ariannol y mae'r sector gofal yn ei wynebu, gan gynnwys effaith cyfraniadau Yswiriant Gwladol a'r argyfwng costau byw. Soniodd Melanie Minty a Claire Protheroe am yr heriau y mae gwasanaethau gofal cymdeithasol a'r sector gofal plant yn eu hwynebu.

3.2 Effaith cyfraniadau Yswiriant Gwladol

  • Cafwyd trafodaeth am y pwysau ariannol y mae'r sector gofal yn ei wynebu, gan gynnwys effaith cyfraniadau Yswiriant Gwladol a'r argyfwng costau byw. Soniodd Melanie Minty a Claire Protheroe am yr heriau y mae gwasanaethau gofal cymdeithasol a'r sector gofal plant yn eu hwynebu.

4 Gweithredu'r cynllun graddau

Rhoddodd Vicky Poole ddiweddariad ar y broses o weithredu graddau ar gyfer gwasanaethau oedolion a phlant, y disgwylir iddynt gael eu cyhoeddi o 1 Ebrill. Pwysleisiwyd pwysigrwydd cyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid mewn modd clir.

  • Cafodd graddau mud eu defnyddio dros y 18 mis diwethaf, ac ar ôl gwerthusiad annibynnol, mae paratoadau ar waith i weithredu graddau cyhoeddedig o 1 Ebrill 2025.
  • Cynnwys Rhanddeiliaid: Sefydlwyd grŵp cyfeirio rhanddeiliaid sy'n cynnwys dros 132 o aelodau, gan gynnwys comisiynwyr, darparwyr a sefydliadau sy'n cynrychioli defnyddwyr gwasanaethau. Ffurfiwyd tri grŵp gorchwyl a gorffen i ganolbwyntio ar ddyfarnu a disgrifio graddau, cyfathrebu ac ymgysylltu, a dysgu a datblygu.
  • Heriau wrth Ymgysylltu: Un o'r prif heriau oedd cael adborth gan y cyhoedd a defnyddwyr gwasanaethau ar raddau ac adroddiadau arolygu. Gwnaed ymdrechion i ymgysylltu â gofalwyr (gan gynnwys gweision sifil) er mwyn casglu eu barn.
  • Ymdrechion i gyfathrebu: Cafodd diweddariadau rheolaidd eu cynnwys fel rhan o fwletinau i ddarparwyr a chynhaliwyd digwyddiadau i ddarparwyr a chomisiynwyr. Mae tudalen brosiect wedi cael ei hychwanegu at y wefan er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i randdeiliaid.
  • Manteision graddau: Ystyrir bod graddau o fudd i'r cyhoedd gan eu bod yn rhoi eglurder ac yn eu helpu i ddewis gwasanaethau yn hyderus. O ran darparwyr, gall graddau dynnu sylw at lwyddiannau a chefnogi gwelliant parhaus.
  • Disgrifyddion graddau: Diwygiwyd termau'r graddau i "Rhagorol," "Da," "Rhaid Gwella" a "Rhaid Gwella'n Sylweddol" er mwyn adlewyrchu'r capasiti ar gyfer gwella yn well.
  • Fframwaith arolygu: Diwygiwyd y fframwaith arolygu gan ganolbwyntio ar lesiant a disgrifyddion manwl ar gyfer pob llinell ymholi. Caiff crynodebau adroddiadau arolygu eu gwella i ddarparu mwy o gyd-destun am y gwasanaeth.
  • Ni chaiff unrhyw arolygiadau nad ydynt yn rhai brys eu cynnal yn ystod mis Mawrth er mwyn i'r timau arolygu gwasanaethau Oedolion a Phlant ganolbwyntio ar y newid pwysig hwn.

5 Data perfformiad

Cyflwynodd Margaret y data perfformiad, sy'n tynnu sylw at nifer yr arolygiadau, pryderon a hysbysiadau. Trafodwyd heriau o ran staffio a'r effaith ar amserlenni arolygiadau.

  • Cam Gweithredu: AGC i barhau i ymdrechu i lenwi swyddi gwag a rheoli amserlenni arolygiadau yn effeithiol. 

6 Cynllun strategol

  • Rhannodd Vicky Poole y cynllun strategol drafft ar gyfer 2025 a thu hwnt sy'n canolbwyntio ar dri uchelgais allweddol: Rhoi Sicrwydd, Gwella, a Dylanwadu. Tynnwyd sylw at bwysigrwydd mesur effeithiau a'r heriau cysylltiedig. Mae'r cynllun yn cynnwys camau gweithredu ar gyfer y ddwy flynedd nesaf a'i nod yw cynyddu gwelededd a dylanwad.

7 Sylwadau gan y Bwrdd

 7.1 Rhannu data a Deallusrwydd Artiffisial:

  • Trafodaeth: Trafodwyd potensial defnyddio deallusrwydd artiffisial i wella effeithlonrwydd a phrosesau rhannu data. Tynnwyd sylw at bwysigrwydd sicrhau bod ymdrechion i ddigideiddio yn flaengar ac yn fuddiol.
  • Roedd pwysigrwydd diogelu a sicrhau canlyniadau cadarnhaol i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau yn cael ei ategu drwy'r cynllun strategol.
  • Cam Gweithredu: AGC i archwilio defnydd pellach o ddeallusrwydd artiffisial ac adnoddau digidol i symleiddio prosesau a gwella prosesau rhannu data. 

8 Unrhyw fater arall

  • Caiff y cynllun strategol ei lansio gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ar 30 Ebrill yn yr Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd, a bydd partneriaid allweddol yn bresennol.
  • Cam gweithredu: AGC i anfon gwahoddiadau at holl aelodau'r Bwrdd Cynghori Cenedlaethol a chadarnhau'r trefniadau ar gyfer y digwyddiad lansio. 

Eitemau i weithredu arnynt

  • Gwaith dilynol ar y broses bryderon: Adolygu ac ystyried y broses gyfathrebu â darparwyr ar ddiwedd y broses bryderon er mwyn sicrhau eglurder a chyflawnrwydd.
  • Penaethiaid Tîm newydd AGC – cyflwyniad: Llunio a dosbarthu dogfen sy'n cynnwys lluniau a hanes byr am aelodau newydd o'r tîm i'r rhanddeiliaid.
  • Adborth ar y cynllun strategol: Gweithredu ar adborth ar y cynllun strategol, gan sicrhau yn benodol bod diogelu yn llinyn allweddol drwy'r ddogfen.
  • Strategaeth ddigidol: Ehangu'r disgrifiad o ddigideiddio yn y cynllun strategol i gynnwys y broses o archwilio a defnyddio deallusrwydd artiffisial.
  • Cais mewn perthynas â chyhoeddi graddau: Anfon copi o'r llythyr i Lywodraeth Cymru yn gofyn i'r cynllun ar gyfer cyhoeddi graddau gael ei ohirio am 12 mis arall – Mel Minty
  • Adolygiad blynyddol o achosion o wrthdaro buddiannau: Rhoi proses adolygu flynyddol ar waith ar gyfer pob aelod o ran achosion o wrthdaro buddiannau.
  • Rhannu canlyniadau arolygon: Rhannu canlyniadau'r arolwg i Aelodau o safbwynt Cymru ag AGC. Claire Protheroe