Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
Dogfen HTML

Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol – 4 Medi 2024

Cofnodion o Cyfarfod y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol – 4 Medi 2024

Cyhoeddwyd: 8 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:
Argraffu

Croeso ac ymddiheuriadau

Croesawodd y Cadeirydd, Dr Ruth Hussey, yr aelodau i'r cyfarfod.

Y sawl a oedd yn bresennol

  • Dr Ruth Hussey (Cadeirydd),
  • Gillian Baranski (Prif Arolygydd, Arolygiaeth Gofal Cymru),
  • Kevin Barker (Pennaeth Gofal Plant a Chwarae, Arolygiaeth Gofal Cymru),
  • Valerie Billingham (swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru),
  • Órlaith Brennan (Darparwr – Gwasanaeth Cymorth Cartref),
  • Kate Cubbage (Ymddiriedolaeth y Gofalwyr),
  • Stuart Davies (Darparwr – Gwasanaethau Cymorth Cartref),
  • Rachel Harris (Darparwr – Gofal Dydd Llawn),
  • Carole Jones (Gofalwr a Defnyddiwr Gwasanaethau),
  • Emma Mackintosh (Ysgrifenyddiaeth, Arolygiaeth Gofal Cymru),
  • Peter Max (Darparwr – Gofal Preswyl),
  • Melanie Minty (Fforwm Gofal Cymru),
  • Richard Payne (Ysgrifenyddiaeth, Arolygiaeth Gofal Cymru),
  • Vicky Poole (Dirprwy Brif Arolygydd, Arolygiaeth Gofal Cymru),
  • Claire Protheroe (PACEY),
  • Margaret Rooney (Dirprwy Brif Arolygydd, Arolygiaeth Gofal Cymru),
  • Rachel Thomas (swyddfa Comisiynydd Plant Cymru),
  • Sharon Williams (rheolwr cartref gofal),
  • Jenny Williams (Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol).

Ymddiheuriadau

  • Natalie Fletcher (Darparwr – Cartref Gofal Plant),
  • Bethan Louise Kay (Swyddog Blynyddoedd Cynnar yr Awdurdod Lleol a defnyddiwr gwasanaethau gofal plant),
  • Julia Nawell (perthynas defnyddiwr gwasanaethau oedolion),
  • Melanie Davies (Gofalwr, Gwasanaethau Oedolion).     

Camau gweithredu o'r Cofnodion blaenorol – 6 Mehefin 2024

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod diwethaf.

1 Sgwrs agoriadol a Chwestiynau ac Atebion

  • Diolchodd Dr Ruth Hussey i Julia Nawell am ei chyfraniad wrth iddi gyhoeddi ei bod yn ymddeol.

2 Y wybodaeth ddiweddaraf gan Gillian Baranski

  • Trosolwg cryno o'r strwythur gwleidyddol newydd a'i oblygiadau i AGC.
  • Y wybodaeth ddiweddaraf am yr heriau recriwtio presennol yn AGC.
  • Ystyried cyllideb arfaethedig Whitehall a'i goblygiadau i Lywodraeth Cymru.
  • Gwersi a ddysgwyd o adroddiadau'r Comisiwn Ansawdd Gofal ac Ofsted er mwyn gwella arferion AGC.

3 Lleisiau'r aelodau

  • Trafodaeth am asesiadau gofalwyr anabl a'r heriau y mae gofalwyr yn eu hwynebu.
  • Pwyslais ar bwysigrwydd atal a rhoi cymorth i deuluoedd cyn i'w sefyllfaoedd droi'n argyfwng. 

4 Pennod myfyrdodau ar gyfer adroddiad y Prif Arolygydd

  • Pwysigrwydd arweinyddiaeth ar bob lefel a gwelliant parhaus.
  • Trafodaeth am werth rhannu arferion da.
  • Pwyslais ar bwysigrwydd atal a'r angen i sicrhau ei fod yn rhan amlwg o waith AGC.

5 Trafodaeth am flaenoriaethau strategol AGC ar gyfer 2025 a thu hwnt

  • Arolygiadau sy'n seiliedig ar themâu a'u manteision posibl.
  • Pwysigrwydd cynnwys pobl yng ngwaith AGC a sicrhau bod graddau yn adlewyrchu canlyniadau i bobl. 

Camau gweithredu

  • Darparu data perfformiad yn ystod cyfarfod mis Chwefror 2025. Dylai'r data hyn ganolbwyntio ar wasanaethau nad ydynt wedi cael eu harolygu o fewn yr amserlenni arferol.
  • Rhannu gwybodaeth ag arolygwyr am raglen arweinyddiaeth Cyngor Celfyddydau Cymru.
  • Sicrhau bod mwy o bwyslais ar bwysigrwydd atal ym mhennod myfyrdodau'r Prif Arolygydd.
  • Anfon adroddiad y Prif Arolygydd dan embargo at aelodau'r Bwrdd Cynghori Cenedlaethol ar 12 Tachwedd, 48 awr cyn iddo gael ei gyhoeddi.
  • Ychwanegu ‘blaenoriaethau a rennir’ rhwng sefydliadau yn y bennod myfyrdodau.