Creu diwylliant o berthyn
Gweledigaeth Little Explorers yw creu lleoliad cynhwysol lle mae pawb yn teimlo bod croeso.
Gwybodaeth am y lleoliad
Mae Little Explorers wedi bod ar agor ers Medi 2022. Mae’n lleoliad Addysg y Blynyddoedd Cynnar Nas Cynhelir i blant 2-4 oed ac mae’n cynnig darpariaeth Dechrau’n Deg. Mae dau aelod staff amser llawn. Mae wedi cofrestru ar gyfer 19 o blant ond nid oes mwy nag 11 o blant yn bresennol ar unrhyw ddiwrnod penodol, gyda llawer o blant yn mynychu o leiaf 4 diwrnod yr wythnos.
Saesneg yw iaith gyntaf yr holl blant. Adeg yr arolygiad, roedd gan oddeutu 30% o’r plant sy’n mynychu’r feithrinfa anghenion dysgu ychwanegol. Mae’r ddau arweinydd wedi gweithio gyda’i gilydd mewn darpariaeth y blynyddoedd cynnar ers 15 mlynedd.
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol
Gweledigaeth y feithrinfa yw creu lleoliad cynhwysol lle mae pawb yn teimlo bod croeso iddynt a lle mae’r holl blant yn gallu ffynnu, teimlo’n fodlon ac yn hapus. Mae am i bob plentyn gael y profiadau sydd eu hangen arnynt i gyrraedd eu potensial llawn fel dinasyddion annibynnol Cymru trwy gynnig amgylchedd lle mae lles yn ganolog i bopeth mae’r lleoliad yn ei wneud.
Mae gweledigaeth y feithrinfa yn edau aur trwy ei holl arfer. Mae tystiolaeth o hyn yn y berthynas rhwng oedolion, plant, teuluoedd a’r gymuned gyfan. Mae wedi’i phlethu trwy rythm a threfn y dydd ac ym mhob rhan o’r amgylchedd dysgu. Mae’r plant yn ganolog i arfer. Maen nhw’n bobl ifanc sy’n cael eu caru a’u gwerthfawrogi. Mae ymarferwyr yn gwerthfawrogi eu profiadau bywyd nhw, eu diddordebau a’u chwarae sgematig. Maen nhw am i’r lleoliad a’u perthnasoedd ddatblygu chwilfrydedd naturiol y plant a’u cefnogi i fod yn ddysgwyr annibynnol, ymreolaethol.
Mae plant yn ganolog i’r Cwricwlwm ar gyfer Lleoliadau Meithrin Nas Cynhelir, gyda ffocws cadarnhaol ar yr hyn y mae plant yn gallu ei wneud, nid beth na allant ei gyflawni eto. Mae hyn yn cyd-fynd â weledigaeth y lleoliad a chred ymarferwyr eu bod yn hwyluswyr dysgu’r plant, gan ddarparu profiadau chwareus a dilys mewn ymateb i arsylwi’r plant.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd
Perthnasoedd rhwng oedolion, plant, teuluoedd a’r gymuned gyfan
Mae perthnasoedd yn bwysig ac mae cael oedolion gwybodus, meithringar yn ganolog i addysgeg ac arfer y lleoliad. Mae datblygu’r defnydd o arsylwadau a rôl ymarferwyr fel oedolion gwybodus, meithringar, yn bwysig iawn ac mae wedi bod yn flaenoriaeth barhaus wrth ddatblygu arfer. Mae ymarferwyr yn dysgu llawer am fywyd a phrofiadau’r plant trwy eu harsylwi’n chwarae. Mae arsylwadau’n helpu i ddeall eu cyfeillgarwch, eu chwarae sgematig, eu diddordebau, eu syniadau a’u teimladau.
Trwy arsylwadau, mae ymarferwyr yn adnabod pwysigrwydd rhyngweithiadau gofalus oedolion, gan ganiatáu lle i blant archwilio, arbrofi a chymryd risgiau yn eu dysgu. Maent yn dysgu datrys problemau, dyfalbarhau a chymhwyso gwybodaeth newydd i wahanol gyd-destunau. Mae ymarferwyr wedi mynd ar gwrs ar Froebel, sef damcaniaethwr addysgol y blynyddoedd cynnar, i ddysgu am ei egwyddorion. Datblygodd hyn eu dealltwriaeth o werth bod gan blant ‘ryddid rhag arweiniad’ a rôl bwysig yr oedolyn wrth ryngweithio’n fedrus â’r plentyn heb ymyrryd yn ei ddysgu. Mae’r lleoliad o’r farn ei bod hi’n hanfodol i ymarferwyr gofio hyn yn eu rôl fel oedolion sy’n galluogi dysgu.
Mae maint bach y grŵp a’r dull hamddenol yn sicrhau bod y plant yn adnabod yr oedolion yn dda ac yn teimlo’n ddiogel ac yn fodlon. Mae gan blant lais rhagorol o fewn y feithrinfa. Maent yn gwybod y rhoddir pwys ar eu meddyliau, eu syniadau a’u barn, a bod pobl yn gwrando arnynt. Mae plant yn pleidleisio dros rigwm neu lyfr yr wythnos ac yn dysgu mai’r llyfr sydd â’r nifer fwyaf o bleidleisiau sy’n cael ei ddewis. Trwy hyn, mae’r plant yn datblygu dealltwriaeth o degwch, dewis a gwrando ar farn pobl eraill. Gyda chymorth staff, mae plant yn ateb holiaduron am eu teimladau am y feithrinfa, beth maen nhw’n ei hoffi a phwy maen nhw’n chwarae gyda nhw. Gwrandewir ar y ceisiadau hyn a datblygir yr amgylchedd a phrofiadau mewn ymateb.
Dywed rhieni fod y feithrinfa fel ail gartref i’w plant a’i bod yn teimlo’n gartrefol, yn glud ac yn groesawgar. Mae’r staff a’r rhieni wedi datblygu perthnasoedd agos a chefnogol, lle mae’r naill a’r llall yn gallu rhyngweithio mewn ffyrdd amrywiol. Er enghraifft, mae staff yn rhannu fideos a chlipiau llais o iaith arwyddion a’r Gymraeg. Mae rhieni’n hapus i rannu eu newyddion a’u dathliadau teuluol yn y grŵp preifat ar y cyfryngau cymdeithasol a dywed llawer o rieni eu bod yn ystyried bod y feithrinfa yn rhan estynedig o’u teulu. Caiff rhieni ddiweddariadau wythnosol ar ffurf collages ffotograffig, sy’n amlinellu profiadau dysgu, dathliadau a dysgu trwy chwarae. Caiff diweddariadau unigol eu rhannu gyda rhieni am lwyddiannau a chyflawniadau unigol plentyn.
Yr amgylchedd dysgu
Mae ymarferwyr wedi mynd i ddigwyddiadau rhannu arfer rhanbarthol, sy’n rhoi cyfle i weld amgylcheddau dysgu a darpariaeth arall, yn arddangos profiadau ac adnoddau go iawn. Fe wnaeth hyn eu cymell i wneud y lleoliad yn estyniad o’r cartref, lle byddai’r holl blant yn teimlo ymdeimlad o berthyn mewn amgylchedd cyfarwydd a chysurus. Mae’r amgylchedd a grëwyd yn glud, gyda dodrefn go iawn, adnoddau cegin, tecstilau meddal a golau amgylchynol. Mae’r holl blant yn gweld eu bod yn cael eu cynrychioli yn y feithrinfa gyda ffotograffau teuluol mewn ffrâm ar y silff ben tân yn yr ardal chwarae rôl. Mae doliau, tecstilau, offer a llyfrau yn helpu pob plentyn i weld cynrychiolaeth o’u cartref a’u teulu eu hunain. Mae chwarae rôl yn bwysig iawn i’r plant, felly mae ardal chwarae rôl y lleoliad yn helaeth ac mae’n cynnwys ystafell gwisgo i fyny, cegin, ystafell fyw a siop. Mae’r platiau a’r powlenni go iawn yn yr ardal chwarae rôl yn gopïau o’r llestri y mae plant yn eu defnyddio amser byrbryd er mwyn darparu profiadau dysgu go iawn. Mae’r plant yn ymweld â’r siopau, y llyfrgell a’r swyddfa bost yn yr ardal leol i roi profiadau dysgu go iawn iddynt. Mae cyfleoedd i ailgydio yn y profiadau hyn yn cael eu hail-greu yn y lleoliad trwy chwarae rôl yn y siop. Mae hyn yn cynnwys adnoddau go iawn i gefnogi datblygiad mathemateg, llythrennedd a digidol plant, gan gynnwys cyfrifianellau a chloriannau digidol.
Rhythm a threfn y dydd
Mae’r drefn ddyddiol yn cynnig amser hamddenol a di-dor i chwarae a chaiff ei hystyried yn ofalus er mwyn cydbwyso’r angen am drefn a’r rhyddid i chwarae. Mae’r drefn yn sicrhau bod gan blant amser a lle i gymryd rhan ddwys yn eu chwarae a chael perchnogaeth arno. Mae’r drefn yn caniatáu i blant atgyfnerthu eu syniadau a’u diddordebau, ailgydio ynddynt ac ymdrochi ynddynt. Mae’r drefn yn hyblyg ac yn ymateb i anghenion y plant. Mae’r dull hwn yn rhoi ymdeimlad o sicrwydd i’r plant, ac mae’n sicrhau hefyd fod eu dewisiadau’n cael eu nodi a’u gwerthfawrogi. Ar ôl cyfnodau parhaus o chwarae di-dor, mae ymarferwyr yn defnyddio cân, arwyddion a gwrthrychau cyfeirio er mwyn galluogi pontio cadarnhaol. O fewn y lleoliad, mae gan blant eu lle eu hunain ar gyfer eu pethau. Maen nhw’n cofrestru eu hunain gan ddefnyddio symbol emosiwn. Mae’r oedolion yn cynnig croeso cynnes ac yn trafod sut mae’r plant yn teimlo gyda nhw.
Arweinyddiaeth a hunanwerthuso ar gyfer gwella
Mae ymarferwyr wedi cymryd rhan mewn cymuned arfer i ddod o hyd i ddulliau arloesol ar gyfer y broses hunanwerthuso. Eu nod yw gwneud hunanwerthuso yn fwy defnyddiol a hwylus, a chynnwys syniadau’r plant. Mae’r broses hunanwerthuso newydd yn helpu i gofnodi sut mae ymarferwyr yn datblygu eu harfer trwy destun, ffotograffau a dyfyniadau gan y plant. Caiff eu dull ei rannu gyda rhieni a rhanddeiliaid, sydd wedi rhoi sylwadau cadarnhaol am y fformat newydd. Bellach, mae ymarferwyr yn gweld bod y broses yn ddefnyddiol ar gyfer sicrhau bod blaenoriaethau ar gyfer gwella yn gyson â gweledigaeth y lleoliad.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau’r plant?
Mae ymarferwyr yn gwybod bod plant yn teimlo ymdeimlad cryf o berthyn. Maen nhw’n hapus ac yn cyrraedd yn llawn miri a brwdfrydedd. Mae’r plant yn gyfarwydd â’r drefn ddyddiol. Maen nhw’n gwerthfawrogi cysondeb yn rhythm a threfn y dydd a’r profiadau sy’n cael eu cynnig. Mae’r plant wedi gwneud ffrindiau arbennig o dda gyda’i gilydd ac maen nhw’n cyd-chwarae’n dda. Maent yn aeddfed iawn ac maent yn dangos gofal mawr tuag at ei gilydd. Mae’r plant yn adnabod eu cryfderau ei gilydd ac yn eu cefnogi ei gilydd.
Mae staff yn arsylwi plant sy’n awyddus i ddathlu eu cyflawniadau eu hunain a llwyddiannau eu ffrindiau. Maent yn ystyried bod plant yn bobl alluog ac annibynnol. Rôl y lleoliad yw hwyluso, gan ryngweithio’n ofalus i sicrhau bod gan y plant lefelau uchel o ddiddordeb ac annibyniaeth yn eu chwarae a’u dysgu. O ganlyniad, mae’r plant yn ffynnu’n wybyddol, yn ddeallusol, yn emosiynol, yn gymdeithasol ac yn gorfforol. Caiff strategaethau eu rhannu gyda rhieni ar y ffordd orau o gefnogi dysgu eu plant. Mae’r dull hwn yn cryfhau’r bartneriaeth ac yn meithrin cysondeb a ffydd. Mae rhieni yn hynod gefnogol o dîm y feithrinfa ac mae ethos o ‘fod ynddi gyda’n gilydd’.
Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?
Mae ymarferwyr yn mynd i gyfarfodydd rhwydwaith lleoliadau nas cynhelir EAS a’r ALl i rannu a thrafod arfer dda ac addysgeg. Yn ddiweddar, fe wnaethant rannu eu proses arsylwi, asesu a chynllunio, y mae arfer sy’n canolbwyntio ar y plentyn yn ganolog iddi.
Mae’r lleoliad wedi cynnal digwyddiadau dysgu proffesiynol i’r awdurdod lleol, gan gynnig cyfle i ymarferwyr eraill weld ei amgylchedd dysgu, dan do a’r tu allan. Yn dilyn hyn, mae mwy o leoliadau wedi bod i ymweld yn unigol.