Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
Dogfen HTML

Cwestiynau cyffredin i ddarparwyr

Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Dirymu a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2026.

Cyhoeddwyd: 5 Hydref 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Beth sy'n newid?

Mae Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 yn cael ei ddisodli gan Orchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Dirymu a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2026.  Gwnaed y Gorchymyn newydd ar 25 Mawrth 2026 a daw i rym ar 1 Ebrill 2027.  Mae'n nodi'r amgylchiadau diweddaraf lle nad oes angen i ddarparwyr gofal plant, chwarae a gweithgareddau gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). 

Pryd mae'r newidiadau'n dod i rym? 

Daw Gorchymyn 2026 i rym ar 1 Ebrill 2027. Yna mae cyfnod pontio o flwyddyn, lle gall darparwyr y mae angen iddynt gofrestru am y tro cyntaf wneud cais. Daw'r Gorchymyn yn gwbl orfodadwy ar 1 Ebrill 2028.  Tan 1 Ebrill 2027, dylai darparwyr barhau i weithredu yn unol â'r eithriadau a nodir yng Ngorchymyn 2010. 

A oes angen i mi wneud unrhyw beth ar hyn o bryd? 

Ddim ar unwaith. Dylech ddechrau ymgyfarwyddo â'r eithriadau newydd ac ystyried a ydynt yn effeithio ar eich darpariaeth. Os ydych yn meddwl y gallai fod angen i chi gofrestru pan ddaw'r Gorchymyn newydd i rym, gallwch ddechrau paratoi, ond bydd angen i chi gyflwyno ceisiadau i AGC erbyn 31 Mawrth 2028 er mwyn elwa ar y trefniadau trosiannol. 

Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn cofrestru erbyn y dyddiad cau? 

Os yw'n ofynnol i chi gofrestru ac nad ydych wedi gwneud hynny erbyn 31 Mawrth 2028, gallech gael eich trin fel rhywun sydd wedi torri Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 a gallech fod yn destun camau gorfodi o dan Bolisi AGC ar Sicrhau Gwelliant a Gorfodi. 

Sut mae gwybod a yw eithriad yn berthnasol i mi? 

Edrychwch ar bob rhan o'ch darpariaeth ar wahân. Nodwch yr eithriad sy'n ymddangos yn fwyaf perthnasol a gwiriwch a ydych yn bodloni ei holl amodau ar lefel ymarferol. Os nad ydych yn bodloni amodau'r eithriad hwnnw, ystyriwch a yw eithriad gwahanol yn berthnasol, neu a oes angen i chi gofrestru. Dim ond un eithriad perthnasol sydd angen bod yn gymwys er mwyn i'r rhan honno o'ch darpariaeth gael ei heithrio, ond rhaid bodloni holl amodau'r eithriad hwnnw'n llawn. Nid yw gweithredu ar sail wirfoddol neu nid-er-elw ynddo'i hun yn eich eithrio rhag gorfod cofrestru. 

Rwy'n gweithredu o dan eithriad yng Ngorchymyn 2010 ar hyn o bryd. A fyddaf yn cael fy eithrio'n awtomatig o dan Orchymyn 2026? 

Ddim o reidrwydd. Mae Gorchymyn 2026 yn dirymu ac yn disodli Gorchymyn 2010 yn llawn, ac mae rhai eithriadau wedi newid. Efallai y byddwch yn colli eithriad rydych yn dibynnu arno ar hyn o bryd, neu efallai y bydd un newydd yn berthnasol i chi.  Bydd angen i chi wirio eich darpariaeth yn erbyn Eithriadau 2026 yn benodol, yn hytrach na chymryd yn ganiataol y bydd eich sefyllfa o 2010 yn parhau.  

Beth os ydw i'n gweithredu yng Nghymru a Lloegr? 

Dylai darparwyr sy'n gweithredu ar draws ffin Cymru/Lloegr fod yn ymwybodol mai Ofsted sy'n rheoleiddio gofal plant yn Lloegr a hynny o dan fframwaith gwahanol. Bydd angen i chi edrych ar y gofynion sy'n berthnasol ym mhob gwlad ar wahân. 

Beth os ydw i'n dal yn ansicr a oes angen i mi gofrestru? 

Cysylltwch ag Arolygiaeth Gofal Cymru yn uniongyrchol.  Mae p'un a yw eithriad yn berthnasol yn dibynnu ar amgylchiadau penodol eich darpariaeth, a gall AGC eich helpu i nodi hyn.