Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd 2026

Mae'r dudalen hon yn egluro pryd nad oes angen i ddarparwyr gofal plant, chwarae a gweithgareddau i blant gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), a'r hyn sy'n newid o dan Orchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Dirymu a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2026.

Mae AGC yn cofrestru ac yn arolygu darparwyr gwasanaethau gwarchod plant a gofal dydd yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys gwarchodwyr plant, gofal dydd llawn, gofal dydd sesiynol, gofal plant y tu allan i oriau ysgol, crèches a darpariaeth chwarae mynediad agored. 

Fodd bynnag, nid oes angen i bawb sy'n cynnig gofal plant, chwarae neu weithgareddau i blant gofrestru gyda AGC.  Mae set o eithriadau yn nodi amgylchiadau lle nad oes angen cofrestru, yn seiliedig ar ffactorau megis y math o ddarpariaeth, oriau agor, perthynas y gofalwr â'r plentyn, lle mae'r gofal yn cael ei ddarparu, ac oedran y plant dan sylw.  

Ar hyn o bryd mae'r eithriadau wedi'u nodi yng Ngorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010, ond mae hwn yn cael ei ddisodli gan Orchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Dirymu a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2026 (Gorchymyn 2026). Gwnaed Gorchymyn 2026 ar 25 Mawrth 2026 a bydd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2027.  

Bydd cyfnod pontio o flwyddyn yn dechrau ar 1 Ebrill 2027. Yn ystod y cyfnod hwn, rhaid i unrhyw un y bydd angen iddo gofrestru o dan y rheolau newydd wneud cais i AGC a pharatoi ei ddarpariaeth er mwyn bodloni'r gofynion rheoleiddio.  Rhaid i AGC gael y ceisiadau erbyn 31 Mawrth 2028.

Daw'r eithriadau newydd yn gwbl orfodadwy o 1 Ebrill 2028.  O hynny ymlaen, gallai unrhyw un y nodwyd bod angen iddo gofrestru ond nad yw wedi cymryd camau i wneud hynny wynebu camau gorfodi.  

Tan 1 Ebrill 2027, dylai darparwyr anghofrestredig barhau i weithredu yn unol â'r eithriadau a nodir yng Ngorchymyn 2010.  

Os ydych yn ansicr a yw eithriad yn berthnasol i chi, cysylltwch ag Arolygiaeth Gofal Cymru. Mae unrhyw gais i gofrestru a gyflwynir gan rywun nad oes gofyn iddo gofrestru yn annhebygol o gael ei gymeradwyo. 

Pwy y gallai hyn effeithio arnynt

Mae'r eithriadau'n cwmpasu ystod eang o leoliadau a phobl, gan gynnwys: 

  • gwarchodwyr plant, perthnasau, gofalwyr maeth, nanis, au pairs, gweithwyr gofal plant a chynorthwywyr gwarchod plant 
  • darparwyr gofal dydd, gan gynnwys meithrinfeydd, clybiau y tu allan i oriau ysgol, crèches a darpariaeth chwarae mynediad agored  
  • hyfforddwyr a chlybiau chwaraeon 
  • darparwyr hyfforddiant y celfyddydau, drama, dawns a cherddoriaeth
  • ffydd a diwylliannol 
  • sefydliadau ieuenctid a grwpiau mewn iwnifform 
  • tiwtoriaid, gan gynnwys y rhai sy'n cefnogi plant sy'n cael eu haddysg yn y cartref
  • ysgolion
  • cymorth cartref a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol

Os yw eich sefydliad yn cynnal unrhyw weithgaredd sy'n cynnwys plant, mae angen i chi wirio eich sefyllfa yn erbyn y canllawiau isod.