Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir

Mae meithrinfa Wriggles and Giggles wedi creu enw ardderchog i'w hun dros y blynyddoedd diolch i ymrwymiad a phroffesiynoldeb y staff.

Woman and child playing game

Gwybodaeth am y lleoliad

Agorodd Wriggles and Giggles yn 2011. Sefydlwyd y feithrinfa ym 1986 ar safle hen gyfnewidfa ffôn ar un llawr. Mae’r feithrinfa wedi meithrin enw da rhagorol dros y blynyddoedd o ran ymroddiad a phroffesiynoldeb ei staff.

Mae’r lleoliad wedi’i gofrestru ar gyfer 42 o leoedd amser llawn i blant o’u geni hyd wyth oed ac mae ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 7.30am a 5.30pm. Mae’n cynnig gwasanaeth cofleidiol sy’n cludo plant yn ôl ac ymlaen o ysgolion cynradd lleol. Adeg yr arolygiad, roedd 16 o blant ar y gofrestr yn yr ystafell cyn‑ysgol.

Cyd-destun a Chefndir yr ymarfer

Mynychodd ymarferwyr hyfforddiant y Gwasanaeth Cyflawniad Addysg (GCA) ar gyflwyno’r pedwar diben a buont yn datblygu eu harfer yn barhaus dros y pum mlynedd diwethaf. Roedd hyn yn cynnwys datblygu eu hamgylchedd dysgu trwy gynnwys adnoddau go iawn, datblygu’r ardal awyr agored a chyflwyno darnau rhydd mewn ardaloedd â llawer o gyfleoedd chwarae penagored.

Yn ystod y cyfnod hwn, parhaodd ymarferwyr i ddatblygu eu cynllunio, arsylwadau a’u hymagwedd tuag at ddysgu i roi pwyslais ar ddysgu trwy chwarae.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu'r gweithgarwch a nodwyd fel ymarfer effeithiol neu arloesol

Ym mis Ionawr 2022, dechreuodd y lleoliad roi ‘Cwricwlwm i leoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir’ ar waith. Fel rhan o leoliad nas cynhelir, mynychodd ymarferwyr hyfforddiant a ddarparwyd gan y consortiwm rhanbarthol. Mynychodd yr holl aelodau staff hyfforddiant ‘ar-lein’ a chafodd staff gopïau o’r cwricwlwm newydd i’w ddarllen ac ymgyfarwyddo ag ef. Ar ôl cyfarfodydd ag arweinwyr pob ystafell, trafodont sut byddant yn mynd ati i gyflwyno’r cwricwlwm ym mhob ystafell.

Edrychodd ymarferwyr ar y derminoleg wahanol a sut olwg fyddai ar y cwricwlwm i’r lleoliad. Y newid cyntaf fyddai eu harsylwadau. Addaswyd eu taflenni arsylwi wrth i arfer ddatblygu, gan gynnwys tystiolaeth o sgemâu. Gwnaethant barhau â’r arsylwadau hyn ac ychwanegu’r llwybrau datblygu, eiliadau ‘waw’ a sylwadau ‘ble i fynd nesaf’. Yn ystod y cyfnod hwn, sylwont fod arsylwadau staff yn datblygu ac yn dod yn fwy pwrpasol. Canfuont hefyd nad oedd ganddynt dystiolaeth ffotograffig. Yna, tynnwyd yr adran ‘ble i fynd nesaf’, gan y byddai’n daith ddysgu barhaus. Parhaont i arsylwi yn y ffordd hon tan dymor yr hydref 2022.

Yn ystod y broses hon, roedd ymarferwyr wedi dechrau newid y ffordd roeddent yn cynllunio, gan symud o ffordd strwythuredig o gynllunio â mwy o weithgareddau wedi’u pennu gan yr oedolyn i un a oedd â mwy o fewnbwn gan y plant. Newidiodd y cynllunio i fap meddwl o bosibiliadau o’u harsylwadau a diddordebau’r plant.

Pa effaith y mae'r gwaith hwn wedi'i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau a llesiant y plant?

Trwy ddefnyddio arsylwadau a dilyn diddordebau’r plant, mae’r lleoliad yn cynllunio adnoddau cychwynnol mewn ardaloedd o’r ddarpariaeth ac yna’n datblygu ac yn addasu profiadau dysgu er mwyn ymateb i ddiddordebau ac anghenion y plant. Gall y plant ychwanegu a dewis adnoddau i gyfoethogi eu chwarae eu hunain. Mae oedolion yn addasu’r ardaloedd wrth i chwarae’r plant ddatblygu ac yn defnyddio arsylwadau i gyfoethogi ac ymestyn profiadau chwarae. Mae’r plant yn hyderus yn eu hamgylchedd ac yn fodlon archwilio ac arbrofi. Mae ganddynt fwy o ymreolaeth trwy wneud dewisiadau a chwarae’n bwrpasol, gan ddatblygu eu medrau a’u hyder.