Cyhoeddi canllawiau newydd ar eithriadau cofrestru gofal plant
Mae canllawiau Llywodraeth Cymru bellach ar gael i helpu darparwyr gofal plant, chwarae a gweithgareddau i ddeall Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Dirymu a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2026.
Mae Gorchymyn 2026 yn disodli Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010. Mae'n nodi'r amgylchiadau lle nad oes angen i unigolyn neu ddarparwr gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), yn seiliedig ar ffactorau megis y math o ddarpariaeth, oriau agor, perthynas y gofalwr â'r plentyn, lle mae'r gofal yn cael ei ddarparu, ac oedran y plant dan sylw.
Daw'r Gorchymyn i rym ar 1 Ebrill 2027. Yna bydd cyfnod pontio o flwyddyn, lle gall unrhyw un y mae angen iddo gofrestru o dan y rheolau newydd wneud cais a pharatoi ei darpariaeth i fodloni'r gofynion rheoleiddio.
Rhaid i AGC gael y ceisiadau erbyn 31 Mawrth 2028. O 1 Ebrill 2028, bydd yr eithriadau newydd yn gwbl orfodadwy.
Pwy ddylai ddarllen y canllawiau
Mae'r canllawiau'n berthnasol i ystod eang o ddarparwyr, gan gynnwys gwarchodwyr plant, meithrinfeydd, clybiau y tu allan i oriau ysgol, clybiau gwyliau, hyfforddwyr chwaraeon, tiwtoriaid, grwpiau ffydd, sefydliadau ieuenctid, a'r rhai sy'n cynnig gofal drwy drefniadau nani, au pair neu warchod plant.
Efallai y bydd rhai darparwyr sydd wedi'u heithrio rhag cofrestru ar hyn o bryd yn canfod bod eu hamgylchiadau wedi newid o dan y Gorchymyn newydd. Gall eraill gael eu heithrio o’r newydd. Mae'r canllawiau'n nodi pob eithriad yn ei dro, gydag esboniadau mewn iaith glir ac enghreifftiau ymarferol er mwyn helpu darparwyr i benderfynu a yw'n berthnasol iddynt.
Yr hyn y dylai darparwyr ei wneud
Caiff darparwyr eu hannog i ddarllen y canllawiau ac ystyried beth y gallent ei olygu i'w gwasanaeth, yn enwedig os ydynt ar hyn o bryd yn dibynnu ar eithriad o dan Orchymyn 2010.
Dylai unrhyw un sy'n ansicr a oes angen cofrestru gwasanaeth penodol gysylltu â ni.