Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
Dogfen HTML

Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol Gofal Plant yn y Cartref (Cymru) 2021 -Canllawiau Cymeradwyo

Sut bydd nanis yn cael eu cymeradwyo o dan y cynllun newydd.

Cyhoeddwyd: 26 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:
Argraffu

Cyflwyniad

Diben cymeradwyo  

Cynllun gwirfoddol yw hwn ond bydd yn galluogi nanis cymeradwyo i brofi i ddarpar gyflogwyr eu bod wedi bodloni meini prawf y Cynllun Cymeradwyo a bydd yn galluogi cyflogwyr i gael cymorth ariannol os byddant yn gymwys, sy'n golygu y dylai nanis cymeradwy fod yn fwy cyflogadwy.    

Dim ond yng Nghymru y mae'r Cynllun Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant yn y Cartref  (Cymru) 2021 yn gymwys, er y gall nani wneud cais i fod yn ddarparwr gofal plant yn y cartref cymeradwy os yw'n byw yn Lloegr neu'r Alban a'i bod yn gofalu am blant yng Nghymru.      

Rhestr termau

Rydym wedi defnyddio'r derminoleg ganlynol yn aml yn y canllawiau hyn:  

Y Cynllun Cymeradwyo  

Cynllun Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant yn y Cartref (Cymru) 2021  

Y corff cymeradwyo  

Mae'n cyfeirio at Arolygiaeth Gofal Cymru a benodwyd gan Weinidogion Cymru i weinyddu'r cynllun     

Nani/darparwr gofal plant yn y cartref  

Mae'n golygu unigolyn sy'n darparu, neu sy'n bwriadu darparu, gofal plant cymwys, h.y. unigolyn a gyflogir: 

  • i ofalu am blentyn neu grŵp o chwiorydd ar ran rhieni (y rhieni cyntaf), neu
  • i ofalu am ail blentyn neu ail grŵp o chwiorydd ar ran rhieni (yr ail rieni) yn ogystal â'r plant y mae'n gofalu amdanynt ar ran y rhieni cyntaf, ac sy'n gofalu am y plant dan sylw yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng nghartref neu gartrefi'r rhieni cyntaf neu'r ail rieni eu hunain.

Os bydd mwy na dau deulu yn defnyddio'r gofal ar yr un pryd, yna mae'r gofal yn perthyn i'r categori “gwarchod plant” ac mae angen i warchodwyr plant fod wedi'u cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru.  

Gall nani / darparwr gofal plant sydd yn gweithio adref weithredu ar sylfaen cyflogedig neu hunan-gyflogedig 

Rhiant  

Mae'n cynnwys unrhyw un:   

  1. sydd â chyfrifoldeb rhiant am blentyn, o fewn yr ystyr a roddir yn adran 3 o  Ddeddf Plant 1989  
  2. sydd wedi'i gymeradwyo fel rhiant maeth, o fewn yr ystyr a roddir yn rheoliad 2 o Reoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019.  
  3. ym maethu plentyn yn breifat, o fewn yr ystyr ag a roddir yn adran 66 o Ddeddf Plant 1989  
Plentyn   

Mae'n golygu unigolyn o dan 16 oed, ond mae unigolyn sy'n cyrraedd 16 oed yn dal i fod yn blentyn o'r dyddiad y cyrhaeddodd yr oedran hwnnw tan yn union cyn 1 Medi sy'n dilyn y dyddiad hwnnw.   

Tystysgrif cymorth cyntaf berthnasol

Mae'n golygu tystysgrif mewn perthynas â chwrs o hyfforddiant cymorth cyntaf:

  1. sy'n addas i ofalu am fabanod a phlant  
  2. sy'n cynnwys hyfforddiant yn y meysydd canlynol:
    1. ymdrin ag argyfyngau  
    2. dadebru  
    3. tagu  
    4. sioc  
    5. sioc anaffylactig    
  3. a gwblhawyd gan yr ymgeisydd o fewn tair blynedd i'r dyddiad y gwneir y cais am gymeradwyaeth.  

Meini prawf cymeradwyo

Mae'r meini prawf a nodir yn neddfwriaeth Cynllun Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant yn y Cartref (Cymru) 2021 yn ei gwneud yn ofynnol i'r ymgeisydd:  

  • od dros 18 oed  
  • meddu ar dystysgrif cymorth cyntaf bediatrig gyfredol  
  • meddu ar yswiriant atebolrwydd cyhoeddus sy'n cwmpasu marwolaeth, anaf, difrod neu golled arall  
  • bod wedi cael gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)  
  • bod â chymhwyster sydd ar Restr Gofal Cymdeithasol Cymru o Gymwysterau Gofynnol (Dolen allanol) gweithio yn Sector y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant  
  • peidio â bod wedi'i wahardd rhag gweithgaredd rheoleiddiedig sy’n ymwneud â phlant na chael ei ystyried fel arall yn anaddas i weithio gyda phlant neu fod yn eu cwmni heb oruchwyliaeth.  

Er mwyn i AGC gymeradwyo eich cais, bydd yn rhaid i chi fodloni pob un o'r meini prawf. Os na fyddwch wedi cyflwyno pob un o'r uchod, byddwn yn cysylltu â chi i drafod yr eitemau sydd heb eu cyflwyno.  

Gwneud cais

Rhaid i bob cais am gymeradwyaeth gael ei gyflwyno i Arolygiaeth Gofal Cymru.

Mae Ffurflen gais Cynllun Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant yn y Cartref (Cymru) 2021 ar gael o wefan AGC.

Rhaid e-bostio eich cais wedi'i gwblhau i agc@llyw.cymru

Neu ei gyflwyno drwy'r post i un o'r cyfeiriadau canlynol:

Arolygiaeth Gofal Cymru 
Swyddfa Llywodraeth Cymru 
Sarn Mynach 
Cyffordd Llandudno 
LL31 9RZ

Arolygiaeth Gofal Cymru 
Swyddfa Llywodraeth Cymru 
Heol Picton 
Caerfyrddin 
SA31 3BT

Os cyflwynir cais drwy e-bost, rhaid i chi atodi lluniau wedi'u sganio o dystysgrifau cymwysterau iddo.

Os cyflwynir cais drwy'r post, rhaid cynnwys tystysgrifau cymwysterau er mwyn i AGC allu asesu a ydych yn gymwys

Ffurflen Gais

Mae chwe adran i'r ffurflen gais (A-F):

Adran A – Eich manylion personol

Mae hyn yn cynnwys eich enw, eich dyddiad geni, eich manylion cyswllt, eich Rhif Yswiriant Gwladol a'ch dewis iaith cyfathrebu.

Adran B – Cymwysterau Gofal Plant a Hyfforddiant Cymorth Cyntaf

Mae'n ofynnol i'r ymgeisydd:

  • eddu ar gymhwyster sydd ar Restr Gofal Cymdeithasol Cymru o Gymwysterau Gofynnol (Dolen allanol) gweithio fel Darparwr Gofal Plant yn y Cartref
  • meddu ar dystysgrif cymorth cyntaf bediatrig gyfredol a gafwyd gan yr ymgeisydd o fewn tair blynedd i'r dyddiad y gwneir y cais am gymeradwyaeth. Mae'n rhaid iddi fod yn addas ar gyfer gofalu am fabanod a phlant a chynnwys, o leiaf, y meysydd canlynol: ymdrin ag argyfyngau, dadebru, tagu, sioc a sioc anaffylatig mewn babanod a phlant.

Ceir gwybodaeth am gyfleoedd hyfforddi ac unrhyw gymorth ariannol lleol a all fod ar gael i gwblhau cymwysterau gan y sefydliadau hyn:

Adran C – Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Dylai fod gan yr ymgeisydd wiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) a gynhaliwyd yn erbyn rhestr wahardd plant.

Mae gwiriad DBS yn ddogfen sy'n cynnwys gwybodaeth a ddelir gan yr heddlu ac adrannau'r llywodraeth a gall gael ei ddefnyddio gan gyflogwyr a sefydliadau gwirfoddol i wneud penderfyniadau recriwtio mwy diogel. Darperir gwiriadau gan y DBS, sy'n un o asiantaethau gweithredol y Swyddfa Gartref.

Mae angen gwiriad y DBS ar gyfer y rhai sy'n gofalu am blant neu oedolion sy'n agored i niwed, sy'n eu hyfforddi neu'n eu goruchwylio neu sy'n gyfrifol amdanynt ar eu pen eu hunain, a hynny'n rheolaidd, ac mae'n cynnwys manylion pob euogfarn sydd wedi'i chofnodi, gan gynnwys euogfarnau wedi'u disbyddu, ynghyd â manylion unrhyw rybuddiad ceryddon neu rybuddion. Mae hefyd yn cynnwys lefel ychwanegol o wirio yn erbyn cofnodion yr heddlu lleol, yn ogystal â gwiriadau yn erbyn rhestrau Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu (PNC) ac adrannau'r Llywodraeth o'r rhai sydd wedi'u gwahardd yn gyfreithiol rhag gweithio gyda phlant.

Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974

Dywed Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1975 (fel y'i diwygiwyd), at y rhan fwyaf o ddibenion, ac ar ôl cyfnod penodedig o amser, nad oes angen i bobl ddatgan eu heuogfarnau mwyach.

Fodd bynnag, dylech nodi nad yw'r cais hwn yn cynnwys gofyniad i ddatgelu troseddau. Bydd gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn sicrhau y caiff pob trosedd berthnasol ei chynnwys yn y dystysgrif a roddir gan y DBS.  Ceir rhagor o wybodaeth am hidlo hen droseddau a mân droseddau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.  

Adran D – Diogelu Data  

Mae AGC yn prosesu unrhyw wybodaeth bersonol a/neu sensitif a ddelir am ymgeiswyr yn deg ac yn gyfreithlon, ac rydym ond yn gofyn am wybodaeth o'r fath pan fo ei hangen er mwyn i ni gyflawni ei rôl.   I gael rhagor o wybodaeth am y ffordd y mae AGC yn prosesu data personol ymgeisydd, a hawliau ymgeisydd mewn perthynas â hyn, gweler ein Hysbysiad Preifatrwydd.

Adran E – Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus

Mae angen i AGC weld tystysgrif yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ymgeisydd cyn y gellir cymeradwyo ei gais.  

Gallwch naill ai gynnwys copi ohoni fel rhan o gais neu ei chyflwyno i AGC cyn i'ch cais gael ei gymeradwyo. Bydd AGC yn rhoi gwybod i chi pryd y bydd angen i chi wneud hyn.  

Adran F – Dilysu gwybodaeth  

Os na fydd gan yr ymgeisydd Dystysgrif Gwiriad Manylach gyfredol gan y DBS, bydd AGC yn cysylltu â'r ymgeisydd i drefnu sefydlu cyfrif drwy Vibrant Nation, sef darparwr ar-lein AGC, er mwyn iddi gael y dystysgrif hon. Fel rhan o'r broses hon, bydd angen gwirio dogfennau adnabod yr ymgeisydd.   

Gwasanaeth Diweddaru'r DBS  

Os bydd yr ymgeisydd wedi'i gofrestru â'r gwasanaeth hwn, bydd angen iddo ddangos ei dystysgrif gwiriad manylach wreiddiol gan y DBS i AGC a rhoi caniatâd i AGC gynnal gwiriad statws ar ei dystysgrif drwy'r Gwasanaeth Diweddaru.  

Bydd angen i'r ymgeisydd gwblhau datganiad bod yr holl wybodaeth a roddir yn wir a'i fod yn deall y gall unrhyw wybodaeth anwir neu gamarweiniol arwain at wrthod ei gais am gymeradwyaeth.  

Pan fydd yr ymgeisydd wedi cwblhau ei gais a'i fod wedi'i wirio er mwyn cadarnhau bod yr holl feini prawf gofynnol wedi'u bodloni, bydd AGC yn cymryd taliad.  

Bydd aelod o'r tîm cofrestru yn cysylltu â'r ymgeisydd i gymryd taliad drwy Gerdyn Credyd neu Ddebyd.

Asesu cais

Pan fydd y cais wedi cael ei dderbyn, byddwn yn cynnal asesiad o ansawdd.

Ffactorau i'w hystyried wrth wneud penderfyniad ynghylch cais

Wrth wneud penderfyniad ynghylch cais, byddwn yn ystyried y canlynol:

  • A yw'r ffurflen gais yn cynnwys yr holl wybodaeth ofynnol?
  • A ydym yn fodlon bod yr ymgeisydd wedi bodloni'r gofynion i'w gymeradwyo?
A yw'r cais yn cynnwys yr holl wybodaeth ofynnol?

Bydd ein gwiriad cyflawnrwydd cychwynnol yn sicrhau bod y ffurflen gais yn cynnwys yr holl wybodaeth ofynnol. Os byddwn yn weld nad yw'r gwybodaeth neu'r dogfennau a ddarparwyd yn cynnwys digon o fanylion, byddwn yn gofyn am wybodaeth ychwanegol.

A ydym yn fodlon bod yr ymgeisydd wedi bodloni'r gofynion i'w gymeradwyo?

Wrth wneud unrhyw benderfyniad ynghylch cymeradwyo nani, rhaid i ni fod yn fodlon ei fod yn bodloni'r gofynion i'w gymeradwyo.

Mae Rhan 2, 6 (1,) (2)(a)-(f) a (7)(a)-(f) o Gynllun Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant yn y Cartref (Cymru) 2021 yn nodi'r system gymeradwyo a'r meini prawf cymeradwyo, gan gynnwys materion mewn perthynas â'r ymgeisydd a allai arwain at wrthod cais.

Wrth ystyried unrhyw wybodaeth a gawn drwy gysylltu ag awdurdodau neu rheoleiddwyr eraill, byddwn yn ystyried materion fel:

  1. natur a ddifrifoldeb unrhyw drosedd(au)
  2. niwed a achoswyd i unrhyw blentyn/person, neu unrhyw dystiolaeth o fwriad i achosi niwed  dyddiad pryd y digwyddodd y drosedd
  3. unrhyw gamau a gymerwyd gan yr unigolyn i unioni'r mater

Bydd AGC yn ystyried a oes angen cymryd unrhyw gamau pellach. Gall hyn gynnwys gofyn am ragor o fanylion yn ysgrifenedig neu gynnal cyfweliad er mwyn canfod a yw'r datgeliad yn debygol o effeithio ar addasrwydd yr ymgeisydd i'w gymeradwyo.

Cymeradwyo cais

Wrth ddod i'n penderfyniad ar gais, bydd AGC yn rhesymol ac yn gymesur o ran y wybodaeth y byddwn yn gofyn amdani, a dim ond pan fydd angen i ni wneud hynny er mwyn ein helpu i ddod i benderfyniad y byddwn yn gofyn am dystiolaeth ychwanegol.

Byddwn yn ceisio penderfynu ar geisiadau am gymeradwyaeth mor amserol â phosibl. Os bydd angen gwybodaeth ychwanegol arnom neu os bydd materion penodol sydd angen eu datrys, efallai y bydd yn cymryd mwy o amser i ni brosesu'r cais.   

Os bydd AGC yn fodlon bod yr ymgeisydd wedi bodloni holl ofynion y Cynllun Cymeradwyo, bydd yn dod yn nani gymeradwy. Caiff pob darparwr gofal plant yn y cartref cymeradwy Lythyr Cymeradwyo gyda'i enw, y cyfnod dilysrwydd a rhif adnabod unigryw. Gellir defnyddio'r Llythyr cymeradwyo hwn fel tystiolaeth i ddangos i gyflogwyr eich bod wedi'ch cymeradwyo.   

Mae cymeradwyaeth fel darparwr gofal plant yn para am 12 mis.   

Adnewyddu cais

Mae AGC yn gofyn i ddarparwyr gofal plant yn y cartref gyflwyno cais newydd am gymeradwyaeth o leiaf 42 diwrnod cyn i'w cymeradwyaeth ddod i ben.  Er mwyn i rieni barhau i gadw'r hawl i gael credydau treth / Budd-dal Cynhwysol / talebau gofal plant cyflogwyr, bydd angen i'w nani barhau i fod yn gymeradwy. Bydd y rhai sy'n cyflwyno cais newydd o fewn y terfyn amser hwn yn fwy tebygol o gael proses adnewyddu ddidrafferth yn dechrau o’r dyddiad y daw eu hen gymeradwyaeth i ben.      

Bydd angen i nanis wneud cais am gymeradwyaeth bob blwyddyn a bydd yn rhaid iddynt:   

  • ddarparu tystysgrif cymorth cyntaf berthnasol i'r corff cymeradwyo  
  • bod wedi ennill un o'r cymwysterau a nodir mewn rhestr a gynhelir gan y corff cymeradwyo  
  • darparu tystysgrif cofnodion troseddol manylach neu gais am y dystysgrif honno i'r corff cymeradwyo  
  • meddu ar yswiriant atebolrwydd cyhoeddus sy'n cwmpasu marwolaeth, anaf, difrod neu golled arall  
  • peidio â chael eu gwahardd rhag gweithgaredd rheoleiddiedig sy’n ymwneud â phlant na chael eu hystyried fel arall yn anaddas i weithio gyda phlant neu fod yn eu cwmni heb oruchwyliaeth.  
  • talu'r ffi yr eir iddi wrth brosesu'r cais i'r corff cymeradwyo    

Os bydd gan yr ymgeisydd dystysgrif gwiriad manylach gan y DBS ar gyfer yr ardal weithlu (Dolen allanol) gywir a'i fod eisoes wedi tanysgrifio i'r Gwasanaeth Diweddaru, ni fydd angen cael gwiriad newydd gan y DBS bob tair blynedd hefyd.  

Gwrthod cais

Os bydd AGC yn bwriadu gwrthod cais am gymeradwyaeth neu gais i adnewyddu cymeradwyaeth, neu dynnu cymeradwyaeth a roddwyd o dan y Cynllun Cymeradwyo yn ôl, bydd yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig o'i bwriad i'r ymgeisydd neu'r darparwr gofal plant yn y cartref cymeradwy.  

Bydd yr hysbysiad yn cynnwys y rhesymau pam mae'n bwriadu gwrthod cais am gymeradwyaeth neu dynnu cymeradwyaeth yn ôl, a gwybodaeth am y ffordd y gellir cyflwyno sylwadau.  

Gall yr ymgeisydd gyflwyno sylwadau ar lafar neu'n ysgrifenedig mewn perthynas â bwriad AGC o fewn 28 diwrnod i'r hysbysiad ysgrifenedig gael ei gyflwyno.    

Ni fydd AGC yn penderfynu ar unrhyw fwriad sydd ganddi nes y bydd:  

  1. unrhyw sylwadau wedi'u cyflwyno gan yr ymgeisydd  
  2. yr ymgeisydd wedi hysbysu AGC nad yw'n bwriadu cyflwyno unrhyw sylwadau   
  3.  y cyfnod y gellir cyflwyno sylwadau wedi dod i ben  

Caiff AGC atal cymeradwyaeth ar unwaith, os ystyrir bod hynny'n angenrheidiol ac yn briodol, hyd nes y gwneir penderfyniad ynghylch ei bwriad gwreiddiol.  

Y broses sylwadau 

Caiff penderfynwr ei benodi o'r tu mewn i AGC. Ni fydd yr unigolyn hwn wedi bod yn ymwneud â'r cais yn flaenorol.

Bydd y penderfynwr yn hysbysu'r ymgeisydd o ganlyniad y broses sylwadau, a'r rhesymau drosti, yn ysgrifenedig o fewn 28 diwrnod i dderbyn y sylwadau.  

Rôl y penderfynwr   

Wrth ddod i benderfyniad ynghylch bwriad AGC, caiff y penderfynwr wneud y canlynol:  

  • cadarnhau bwriad y corff cymeradwyo i wrthod cais am gymeradwyaeth, neu dynnu cymeradwyaeth yn ôl, fel  darparwr gofal plant yn y cartref drwy gyflwyno Hysbysiad o Benderfyniad  
  • cadarnhau'r sylwadau a rhoi neu adnewyddu cymeradwyaeth fel darparwr gofal plant yn y cartref o dan y Cynllun hwn  
  • cadarnhau'r sylwadau gan ganiatáu i AGC barhau â'i bwriad gwreiddiol.

Rhaid i unrhyw apêl mewn ymateb i benderfyniad y penderfynwr i gadarnhau bwriad y corff cymeradwyo i wrthod cais am gymeradwyaeth, neu dynnu cymeradwyaeth yn ôl, fel darparwr gofal plant yn y cartref, gael ei chyflwyno'n uniongyrchol i'r Tribiwnlys erbyn y terfyn amser a nodir yn yr Hysbysiad o Benderfyniad. Yna, bydd y Tribiwnlys yn pennu amserlen ar gyfer yr achos.    

Gall y Tribiwnlys gadarnhau'r penderfyniad i wrthod y cais, gwrthdroi'r penderfyniad, gorchymyn y dylid cymeradwyo'r cais, neu wneud unrhyw orchymyn arall fel y gwêl yn briodol.   

Darparu gwybodaeth i'r corff cymeradwyo

Os caiff unigolyn sydd wedi'i gymeradwyo fel darparwr gofal plant yn y cartref o dan y Cynllun Cymeradwyo, ei ddyfarnu'n euog o drosedd, yng Nghymru neu mewn gwlad arall, mae'n ofynnol iddo hysbysu'r corff cymeradwyo cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol. Byddai AGC yn disgwyl cael ei hysbysu am y manylion canlynol, o fewn 14 o'r digwyddiad os yw'n bosibl:    

  1. dyddiad a lleoliad yr euogfarn  
  2. y drosedd y mae'r unigolyn wedi'i ddyfarnu'n euog o'i chyflawni  
  3. y gosb a roddwyd i'r unigolyn mewn perthynas â'r drosedd  

Os bydd unigolyn sydd wedi'i gymeradwyo fel darparwr gofal plant yn y cartref o dan y Cynllun Cymeradwyo wedi cael rhybuddiad, yng Nghymru neu mewn gwlad arall, mae'n ofynnol iddo hysbysu'r corff cymeradwyo yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol gan roi manylion am y canlynol:   

  1. y drosedd y mae'r unigolyn wedi cael rhybuddiad mewn perthynas â hi  
  2. dyddiad y rhybuddiad   
  3. unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth y rhybuddiad   

Gallai unrhyw fethiant i hysbysu’r corff cymeradwyo arwain at dynnu cymeradwyaeth yn ôl. 

Sut mae AGC yn ymdrin â hysbysiad bod darparwr gofal plant yn y cartref cymeradwy wedi niweidio plentyn

Os caiff AGC ei hysbysu bod darparwr gofal plant yn y cartref cymeradwy wedi niweidio plentyn, bydd yn dweud wrth y sawl sy'n ffonio am hysbysu'r Awdurdod priodol.

Bydd AGC yn nodi manylion y darparwr gofal plant yn y cartref cymeradwy a'i gyfeiriad ac yn trosglwyddo'r wybodaeth i'r Gwasanaethau Cymdeithasol lleol.

Pan gaiff ei hysbysu bod awdurdod priodol yn ymchwilio i honiadau, caiff AGC dynnu cymeradwyaeth yn ôl ar unrhyw adeg yn ystod yr ymchwiliad. Os bydd yr ymchwiliad yn canfod nad yw wedi gwneud unrhyw beth o'i le, gall y darparwr gofal plant yn y cartref gyflwyno cais newydd i gael ei gymeradwyo.

Sut mae AGC yn ymdrin â'ch gwybodaeth

Caiff y wybodaeth bersonol a roddwch i AGC ei phrosesu fel hyn:

  • er mwyn asesu eich sgiliau, eich addasrwydd a'ch cymhwysedd i gael eich Cymeradwyo
  • (fel gwybodaeth ddienw) ar ddibenion gwerthuso'r cynllun hwn a gwaith ymchwil.

Nodir isod y cyfnodau cadw sy'n gymwys i'r wybodaeth a ddarperir gennych:

  • Cedwir dogfennau'r cais am 3 blynedd ar ôl y cais
  • Cedwir gwybodaeth am y cais am 6 blynedd ar ôl i'r gymeradwyaeth ddod i ben
  • Cedwir gwybodaeth ymchwil ddienw yn unol â pholisi corfforaethol Llywodraeth Cymru.

Mae'r rhaid i AGC rannu â Chomisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) y cyfryw wybodaeth ag y gall fod ei hangen arnynt i gyflawni unrhyw rai o swyddogaethau CThEM sy'n ymwneud â chredydau treth, gofal plant di-dreth a'r cynllun talebau gofal plant ac sy'n wybodaeth sy'n ymwneud â chymeradwyo unigolion o dan y Cynllun Cymeradwyo neu wrthod eu cymeradwyo neu dynnu eu cymeradwyaeth yn ôl.

Mae'r rhaid i AGC hefyd roi i'r Ysgrifennydd Gwladol y cyfryw wybodaeth ag y gall fod ei hangen ar yr Ysgrifennydd Gwladol i gyflawni swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol sy'n ymwneud â chredyd cynhwysol ac sy'n wybodaeth sy'n ymwneud â chymeradwyo unigolion o dan y Cynllun Cymeradwyo neu wrthod eu cymeradwyo neu dynnu eu cymeradwyaeth yn ôl.

Caiff y wybodaeth hon am ddarparwyr gofal plant yn y cartref sydd wedi'u cymeradwyo, y rhai nad ydynt wedi'u cymeradwyo mwyach a newidiadau i enwau a chyfeiriadau darparwr gofal plant yn y cartref cymeradwy ei diweddaru bob mis.

Dim ond os byddwch yn rhoi caniatâd i AGC wneud hynny yn y ffurflen gais y caiff eich gwybodaeth ei rhannu â Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd lleol. Fe'i rhennir er mwyn i rieni allu cael gwybodaeth am y darparwyr gofal plant yn y cartref cymeradwy sydd ar gael yn eu hardal. Caiff y manylion hyn eu diweddaru bob mis hefyd.