Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Cysylltiadau cymunedol cryf a’u heffaith ar brofiadau, cynnydd a lles disgyblion

Mae gan arweinwyr yn y lleoliad weledigaeth gref ac unedig. Maent yn gweithio’n eithriadol o dda gyda’i gilydd ac mae ganddyn nhw ddisgwyliadau uchel o ran nhw eu hunain ac eraill.

Gwybodaeth am y lleoliad

Mae Cylch Meithrin Y Drenewydd yn lleoliad a reolir yn wirfoddol sy’n darparu addysg y blynyddoedd cynnar a gofal plant. Mae’r lleoliad, sydd wedi’i leoli yn nhref Y Drenewydd ar safle Ysgol Dafydd Llwyd, wedi’i gofrestru ar gyfer hyd at 56 o blant rhwng 2 a 5 oed.  

Mae’r lleoliad yn darparu ar gyfer ystod o blant o gefndiroedd amrywiol. Mae mwyafrif y plant sy’n mynychu yn dod o deuluoedd sy’n siarad Saesneg. Mae gweledigaeth y darparwr yn canolbwyntio ar y canlynol: “Dychmygu, Chwarae, Creu / Imagine, Create, Play.” 

Mae’r staff, yr unigolyn cyfrifol a’r pwyllgor yn dod â chyfoeth o brofiad ac ymroddiad i’r lleoliad.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Gwelir elfen gref o lwyddiant y lleoliad yn ei bartneriaethau rhagorol. Mae ymarferwyr yn gwerthfawrogi’r gymuned ac yn cynllunio profiadau cyfoethog ac ystyrlon i’r plant ddysgu am eu hardal leol a’i chyd-destun cymdeithasol. 

Mae’r lleoliad yn trefnu ymweliadau rheolaidd â siopau cyfagos a pharc lleol, yn ogystal â thripiau i ysgolion lleol i gefnogi ymgyfarwyddo a’r broses bontio. Un o’r uchafbwyntiau arbennig yw’r ymweliadau rheolaidd â chartref gofal lleol i’r henoed, lle mae plant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau pontio’r cenedlaethau fel canu, adrodd storïau a chwarae gemau. Mae’r cyfleoedd hyn yn cefnogi datblygiad cymdeithasol, emosiynol a moesol plant. 

Mae gan arweinwyr yn y lleoliad weledigaeth gref ac unedig. Maent yn gweithio’n eithriadol o dda gyda’i gilydd ac mae ganddyn nhw ddisgwyliadau uchel o ran nhw eu hunain ac eraill. Maent hefyd yn mynd ati i ymgysylltu â rhieni trwy gylchlythyrau a mentrau rheolaidd fel sied y Cwb Cylch, lle gall teuluoedd fenthyca adnoddau fel llyfrau, gemau neu ddillad. 

Mae arweinwyr hefyd yn gweithio’n agos gyda’r ysgolion lleol, gan sicrhau bod system bontio gref ar waith, ac yn cydweithio â swyddogion datblygu’r awdurdod lleol a sefydliadau ymbarél i gefnogi ac ymestyn y ddarpariaeth. 

Disgrifiad o’r strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae’r lleoliad yn meithrin cysylltiadau cryf a rhagweithiol â’r gymuned, gan sicrhau bod plant yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn ymweliadau ystyrlon â’r ardal leol. Mae’r profiadau hyn yn ymestyn eu hymwybyddiaeth o’u hamgylchoedd ac yn meithrin ymdeimlad cryf o berthyn. Mae partneriaethau effeithiol â’r awdurdod lleol a swyddog Mudiad Meithrin yn cefnogi datblygiad parhaus. Mae’r partneriaethau hyn wedi galluogi’r lleoliad i esblygu, myfyrio ar ei arferion, a mabwysiadu dulliau newydd ar gyfer gwelliant parhaus. Mae’r strategaeth i ymgorffori ymglymiad cymunedol fel elfen greiddiol o ddysgu wedi bod yn nodwedd ddiffiniol yn narpariaeth y lleoliad. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau plant?

Mae plant yn teimlo’n hapus ac yn gwbl ddiogel yn y lleoliad, gan wybod eu bod yn cael eu parchu a’u gwerthfawrogi gan bob un o’r staff. Maent yn datblygu ymdeimlad cryf o berthyn, a rhoddir llais ystyrlon iddynt o ran sut mae’r amgylchedd yn cefnogi eu dysgu. Mae hyn yn cyfrannu at fagu eu hyder a’u parodrwydd wrth iddynt agosáu at y cam nesaf yn eu haddysg. Mae staff yn gweithio’n effeithiol fel tîm, gan hyrwyddo lles, gwydnwch a datblygiad cadarnhaol ym mhob un o’r plant. Mae ymglymiad rheolaidd â’r gymuned leol yn helpu plant i feithrin medrau cymdeithasol gwerthfawr ac ymwybyddiaeth emosiynol, gan hefyd feithrin cysylltiadau cryf â’u hamgylchoedd. Mae’r profiadau hyn yn gwella’u lles cyffredinol yn sylweddol, ac yn cyfrannu at eu twf fel dysgwyr ifanc hyderus ac egwyddorol. 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r awdurdod lleol wedi rhannu elfennau o waith y lleoliad ar gyfryngau cymdeithasol, gan helpu amlygu gwerth ei ymagwedd sy’n canolbwyntio ar y gymuned. Yn ychwanegol, mae staff yn mynychu cyfarfodydd “Rhwydweithio a Chlebran” (“Network and Natter”) yr awdurdod lleol a chyfarfodydd Mudiad Meithrin yn rheolaidd, lle maent yn trafod ac yn rhannu arfer effeithiol gyda lleoliadau eraill y blynyddoedd cynnar. 

Mae ffotograffau ac enghreifftiau o waith o’r lleoliad hefyd wedi cael eu cynnwys yn neunyddiau hyfforddiant yr awdurdod lleol, gan gefnogi datblygiad proffesiynol ar draws y sector.