Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Datblygu annibyniaeth plant drwy gefnogi eu lles

Mae ymarferwyr o’r farn bod gallu plant i fod yn annibynnol yn ategu eu lles, gan fod hyn yn rhoi ymdeimlad o reolaeth iddynt ac yn datblygu eu hunan-barch a’u hyder.

Preschool kindergarten classroom

Gwybodaeth am y lleoliad

Mae Cylch Chwarae Sychdyn wedi’i gofrestru i ofalu am 19 o blant 2 ¼ mis i 4 mlwydd oed. Mae sesiynau cylch chwarae yn cael eu cynnal bum niwrnod yr wythnos o 9.00 yb-11.30 yp, ac mae’n cynnig gofal cofleidiol i blant oed meithrin rhwng 11.30 yb a 3:00 yp. Roedd Cylch Chwarae Sychdyn wedi’i leoli yn Neuadd Goffa Pentref Sychdyn am flynyddoedd lawer hyd at Fedi 2023, pan symudodd i adeilad newydd ar dir Ysgol Gynradd Sychdyn.  

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r lleoliad yn cydnabod pwysigrwydd lles plant i’w gallu i ddysgu ac mae’n canolbwyntio ar gefnogi hyn yn ein lleoliad. Mae ymarferwyr am i’r holl blant allu cyflawni eu potensial dysgu ac maent wedi gweithio’n galed i greu amgylchedd diogel, cynnes a chroesawgar mewn cylch chwarae lle y gall plant wneud ffrindiau a dysgu’n llwyddiannus trwy chwarae. Mae ymarferwyr yn gyson o ran eu dull, gan barchu plant ac ymdrechu i feithrin perthynas gryf â nhw. Eu nod yw bodloni eu hanghenion emosiynol mewn ffordd ddigynnwrf, garedig a chefnogol, gan annog plant i ddatblygu medrau hunanreoleiddio trwy eu harwain yn sensitif i ddelio â’u hemosiynau. Mae ymarferwyr o’r farn bod gallu plant i fod yn annibynnol yn ategu eu lles, gan fod hyn yn rhoi ymdeimlad o reolaeth iddynt ac yn datblygu eu hunan-barch a’u hyder.  

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Yr amgylchedd: 

Mae ymarferwyr yn darparu amgylchedd sy’n cefnogi gallu plant i fod yn annibynnol. Caiff yr holl adnoddau eu storio ar lefel plant ac mae’n bosibl cael atynt yn hawdd. Mae adnoddau wedi’u labelu a’u trefnu’n dda ac maent yn briodol yn ddatblygiadol. Am y rhan fwyaf o’r sesiwn, caiff plant eu hannog i ddewis o blith ystod eang o ardaloedd darpariaeth a gallant symud yn rhydd rhwng yr ardaloedd dan do ac awyr agored. Mae plant yn adnabod y gwahanol fathau o chwarae y gallant gymryd rhan ynddynt ac maent yn defnyddio’r ardaloedd yn bwrpasol. 

Mae plant:

  • yn cael eu hannog i ddatblygu eu hannibyniaeth eu hunain wrth dynnu eu côt a’u rhoi ar eu pegiau eu hunain, sy’n hawdd eu hadnabod  
  • yn dod â’u byrbryd eu hunain o gartref ac yn dewis pryd i’w fwyta yn ystod ffenestr y ‘cyfnod byrbryd’  
  • yn arllwys eu diodydd eu hunain ac yn tacluso ar ôl eu hunain, gan gynnwys rhoi sbwriel yn y bin ailgylchu  
  • yn dewis beth i’w osod allan a chwarae gydag ef mewn ardal ddarpariaeth; er enghraifft, mae byrddau, gofod llawr, hambyrddau tywod a dŵr yn glir, gydag adnoddau’n cael eu storio gerllaw  
  • yn defnyddio amrywiaeth eang o adnoddau pen agored a darnau rhydd yn hyderus ac yn llawn dychymyg, mewn ffyrdd sy’n ystyrlon iddyn nhw 
  • yn hunan-gofrestru pan fyddant yn cyrraedd  
  • yn sychu eu trwyn eu hunain gan ddefnyddio’r ‘Orsaf Hancesi Papur’  
  • yn defnyddio cyfleusterau golchi dwylo yn annibynnol o fewn yr ystafell  
  • yn defnyddio’r ‘orsaf welis’ awyr agored yn annibynnol, lle cânt eu hannog i dynnu eu hesgidiau a gwisgo welintons  

Oedolion:  

Mae ymarferwyr yn deall ei bod hi’n bwysig annog meddylwyr a dysgwyr annibynnol ac maent yn defnyddio amrywiaeth o strategaethau i gyflawni hyn.  

Maent: 

  • yn disgwyl y bydd plant yn tacluso wrth fynd yn eu blaen ac yn atgoffa ac yn cynorthwyo yn gyson i alluogi plant i ddysgu gwneud hyn yn annibynnol  
  • yn deall pryd i ymyrryd a phryd i gamu’n ôl er mwyn rhoi amser i blant wneud eu dewisiadau a’u penderfyniadau annibynnol eu hunain  
  • yn cefnogi eu medrau llafaredd trwy fodelu iaith ac ymestyn geirfa  
  • yn defnyddio cwestiynau ‘Tybed’ yn effeithiol wrth ryngweithio â phlant er mwyn meithrin chwilfrydedd a symbylu eu harchwilio annibynnol  
  • yn cynllunio profiadau o fewn y gymuned leol, fel ymweld â siop, sy’n cynnwys plant mewn gwneud penderfyniadau a derbyn cyfrifoldeb unigol am elfennau o’r profiad  
  • cefnogi gallu plant i ddysgu asesu risg yn annibynnol, er enghraifft ystyried p’un ai i nesáu at iâr benodol yn ystod ymweliad â gardd natur yr ysgol  

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth ac ar safonau plant?

Yn y lleoliad, mae bron pob un o’r plant yn datblygu annibyniaeth ymhell y tu hwnt i ddisgwyliadau ac maent yn rhyngweithio â’i gilydd ac ymarferwyr yn eithriadol o dda. Mae cefnogi gallu plant i fod yn ddysgwyr ac yn feddylwyr annibynnol wedi cael effaith gadarnhaol ar draws pob maes datblygu. Mae gan y plant lefelau lles uchel. Mae meithrin eu hannibyniaeth wedi gwella’u hunan-barch a’u hyder, ac mae hyn yn ei dro yn eu helpu i ddatblygu gwydnwch a dyfalbarhad i ddod yn ddysgwyr gydol oes. 

Sut rydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae staff o leoliadau eraill wedi ymweld â’r cylch chwarae. 

Bydd arfer dda’r lleoliad yn cael ei rhannu trwy gyfarfod grŵp clwstwr gyda lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir eraill yn yr awdurdod lleol.