Datganiad blynyddol 2026: Canllawiau i ddarparwyr
Canllawiau i ddarparwyr gwasanaethau ar gwblhau, cyflwyno a chyhoeddi datganiad blynyddol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gwbl hygyrch
1. Cyflwyniad
1.1 Mae'r ddogfen hon yn rhoi canllawiau i ddarparwyr gwasanaethau ar gwblhau, cyflwyno a chyhoeddi datganiad blynyddol fel sy'n ofynnol o dan adran 10 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”) (fel y'i diwygiwyd gan adran 14 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025).
1.2 Mae'r canllawiau hyn ar gyfer darparwyr gwasanaethau sy'n gweithredu gwasanaethau a reoleiddir o dan Ddeddf 2016. Mae'r rhain yn cynnwys:
- gwasanaethau cartrefi gofal
- gwasanaethau llety diogel
- gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd
- gwasanaethau cymorth cartref
- gwasanaethau mabwysiadu rheoleiddiedig
- gwasanaethau maethu rheoleiddiedig
- gwasanaethau lleoli oedolion
- gwasanaethau eirioli rheoleiddiedig
- gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig
2. Beth sy'n newydd ar gyfer 2026
2.1 Mae dau newid pwysig i'r datganiad blynyddol eleni.
2.2 Rhaid i chi bellach gyhoeddi eich datganiad blynyddol ar eich gwefan eich hun. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol newydd. Rhaid i chi wneud hyn erbyn 30 Mehefin 2026. Gweler Cyhoeddi eich datganiad blynyddol (paragraff 6.10 - 6.15) i gael y manylion llawn.
2.3 Mae'r datganiad blynyddol yn cynnwys cwestiynau newydd am y gweithlu. O 2026, mae AGC a Gofal Cymdeithasol Cymru yn cyfuno eu prosesau casglu data. Er bod y ffurflen ychydig yn hirach eleni gan fod cwestiynau am y gweithlu wedi'u hychwanegu, rydym wedi gweithio'n galed i symleiddio'r broses a lleihau'r baich ar ddarparwyr ble bynnag y bo'n bosibl. Gweler paragraff 5.4 i gael y manylion llawn.
3. Cyd-destun cyfreithiol
3.1 Mae Deddf 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau cofrestredig gyflwyno datganiad blynyddol ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol. Rhaid i'r datganiad blynyddol gynnwys y wybodaeth a nodir yn adran 10 o Ddeddf 2016.
3.2 Rhaid i'r datganiad blynyddol hefyd gynnwys y wybodaeth a nodir yn Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) Cymru 2017 (“y Rheoliadau”), fel y'u diwygiwyd.
3.3 O 1 Ebrill 2026, mae Deddf 2025 yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau cofrestredig gyhoeddi'r datganiad blynyddol ar eu gwefan eu hunain ac i sicrhau bod copïau o'r datganiad blynyddol ar gael ar gais.
3.4 Mae'r Rheoliadau hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r datganiad blynyddol fod ar ffurf datganiad ar-lein a chael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru o fewn 56 diwrnod i ddiwedd y flwyddyn ariannol y mae’n ymwneud â hi (h.y. 26 Mai).
4. Methiant i gyhoeddi datganiad blynyddol
4.1 O dan adran 48(a) o Ddeddf 2016, mae'n drosedd i ddarparwr gwasanaeth fethu â chyflwyno datganiad blynyddol o fewn y terfynau amser a bennir gan y Rheoliadau. Os bydd darparwr gwasanaeth yn methu â chyflwyno datganiad blynyddol o fewn y terfynau amser gofynnol, gallai fod yn destun hysbysiad cosb neu gamau gorfodi eraill fel yr ystyrir yn briodol gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).
4.2 O dan adran 14(3) o Ddeddf 2025 mae'n drosedd i beidio â chyhoeddi datganiad blynyddol o fewn y terfyn amser a bennir.
4.3 O dan adran 52 o Ddeddf 2016, caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad cosb os byddant yn fodlon bod y darparwr gwasanaeth wedi cyflawni trosedd ragnodedig. Mae hyn yn cynnwys methiant i gyflwyno neu gyhoeddi datganiad blynyddol.
4.4 Noda Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2019 (fel y'u diwygiwyd) fod y gosb i’w thalu yn swm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol (sef £2,500).
5. Y datganiad blynyddol
5.1 Bydd y datganiad blynyddol yn cynnwys cwestiynau am y darparwr gwasanaeth. Hefyd, bydd cwestiynau am bob un o'r gwasanaethau rheoleiddiedig a weithredir gan y darparwr gwasanaeth.
5.2 Bydd y cwestiynau yn cynnwys pedwar math o wybodaeth:
- Gwybodaeth sy'n ofynnol gan y darparwr gwasanaeth (a'r gwasanaethau rheoleiddiedig y mae'n eu gweithredu) fel y'i diffinnir gan Ddeddf 2016 a'r Rheoliadau.
- Gwybodaeth sydd ei hangen ar AGC i lywio ei swyddogaethau rheoleiddio, er enghraifft mewn perthynas â hylendid bwyd, ac ati.
- Gwybodaeth am gofrestriad y darparwr gwasanaeth. Bydd hyn yn galluogi AGC i fwrw golwg ar ddata cofrestru'r darparwr bob blwyddyn er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gywir.
- Gwybodaeth Gofal Cymdeithasol Cymru am y gweithlu i fapio maint, strwythur a nodweddion y sector.
5.3 O 2026, bydd y datganiad blynyddol yn cynnwys proses casglu data unedig newydd, a gynhelir ar y cyd â Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae'r dull diwygiedig hwn yn symleiddio'r broses adrodd ar gyfer sefydliadau, y gallant bellach gwblhau un datganiad blynyddol yn hytrach na chyflwyno dau gasgliad o ddata ar wahân fel oedd yn digwydd yn y gorffennol.
5.4 Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn casglu data am y gweithlu i fapio maint, strwythur a nodweddion y sector. Mae'r wybodaeth hon yn llywio prosesau cynllunio strategol, yn gwella ansawdd gwasanaethau, ac yn helpu i ddatblygu polisïau sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Mae data'r gweithlu hefyd yn golygu y gellir nodi tueddiadau recriwtio a chadw staff, yn helpu i ddeall anghenion y gweithlu, ac yn sicrhau canlyniadau gwell i unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth.
5.5 Dylai'r datganiad blynyddol adlewyrchu sefyllfa'r darparwr gwasanaeth a'r gwasanaethau rheoleiddiedig y mae'n eu gweithredu ar 31 Mawrth y flwyddyn ariannol honno. (Lle y bo modd) bydd y datganiad blynyddol eisoes yn cynnwys y wybodaeth a ddelir gan AGC am y darparwr gwasanaeth a'r gwasanaethau y mae'n eu gweithredu. Bydd yn ofynnol i'r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y wybodaeth yn gyfredol a nodi hynny'n briodol. Os bydd angen newid y wybodaeth, gofynnir i'r darparwr gwasanaeth ddiweddaru'r proffil ar-lein perthnasol, neu gyflwyno'r hysbysiad neu'r amrywiad perthnasol. Cyfrifoldeb darparwr y gwasanaeth yw sicrhau bod y wybodaeth a ddelir gan AGC ar y gofrestr leol yn gywir ac yn gyfredol.
5.6 Mae'r datganiad blynyddol ar-lein wedi'i ddylunio mewn ffordd sy'n sicrhau mai dim ond yr adrannau sy'n berthnasol iddynt y bydd y rhai sy'n ei agor yn gallu eu gweld. Mae testun rhagarweiniol a thestun cymorth hefyd wedi'i ddarparu er mwyn helpu i egluro'r hyn sydd ei angen ym mhob adran.
5.7 Bydd y mwyafrif o'r datganiad blynyddol yn gofyn am fewnbynnu cofnodion data rhifyddol, h.y. nifer y staff llawn amser ac ati. Fodd bynnag, bydd angen mewnbynnu testun rhydd mewn rhai rhannau. Bydd pwy bynnag sy'n cwblhau'r datganiad blynyddol ar-lein yn gallu cadw'r wybodaeth a fewnbynnir yn rheolaidd.
5.8 Cyn cwblhau'r datganiad blynyddol, bydd o gymorth i ddarparwyr sicrhau bod y wybodaeth ganlynol wrth law ar gyfer pob gwasanaeth:
- Copi o'r adroddiad diweddaraf ar yr Adolygiad o Ansawdd y Gofal
- Copïau o unrhyw adroddiadau ar ymweliadau'r Unigolyn Cyfrifol
- Y Datganiad o Ddiben diweddaraf ar gyfer pob gwasanaeth
5.9 Mae AGC a Gofal Cymdeithasol Cymru yn cyfuno eu prosesau casglu data. Drwy gwblhau a chyflwyno eich datganiad blynyddol, bydd eich data yn cael eu rhannu â'r ddau sefydliad.
Adran darparwr y datganiad blynyddol
5.10 Bydd rhan helaeth o adran darparwr gwasanaeth y datganiad blynyddol eisoes yn cynnwys gwybodaeth a ddelir gan AGC. Bydd angen i'r darparwr gwasanaeth adolygu'r wybodaeth hon a nodi os yw'n anghywir.
5.11 Bydd hefyd angen i'r darparwr gwasanaeth ateb dau gwestiwn am y trefniadau sydd ar waith yn ystod y cyfnod adrodd perthnasol ar gyfer nodi, cynllunio a diwallu anghenion hyfforddi staff a gyflogir a'r trefniadau ar gyfer recriwtio a chadw staff.
Adran gwasanaeth y datganiad blynyddol
5.12 Bydd angen i'r darparwr gwasanaeth ddarparu gwybodaeth am bob un o'r gwasanaethau y mae wedi'i gofrestru i'w darparu ar hyn o bryd.
5.13 Bydd rhywfaint o adran gwasanaeth y datganiad blynyddol eisoes yn cynnwys gwybodaeth a ddelir gan AGC. Bydd angen i'r darparwr gwasanaeth adolygu'r wybodaeth hon a nodi os yw'n anghywir.
5.14 Bydd angen i gyfran o'r wybodaeth ar lefel gwasanaeth sydd ei hangen ar gyfer y datganiad blynyddol gael ei mewnbynnu gan y darparwr gwasanaeth.
5.15 Mae'r datganiad blynyddol yn cynnwys datganiad cydymffurfio ar gyfer pob gwasanaeth a weithredir gan y darparwr gwasanaeth. Mae hyn yn nodi sut mae gwasanaeth yn bodloni'r gofynion o ran y safonau gofal a chymorth a nodir yn y rheoliadau gwasanaeth perthnasol.
5.16 Mae'n ofynnol i'r Unigolyn Cyfrifol sicrhau bod y rhan o'r datganiad blynyddol sy'n ymwneud â'r gwasanaeth y'i dynodwyd ar ei gyfer wedi'i chwblhau. Bydd angen i'r Unigolyn Cyfrifol ddarparu datganiad sy'n cadarnhau ei fod wedi darllen y wybodaeth yn y datganiad blynyddol sy'n ymwneud â'i wasanaeth, a'i fod yn cytuno â hi.
5.17 Os na fydd Unigolyn Cyfrifol dynodedig ar gael neu y disgwylir i'r Unigolyn Cyfrifol fod yn absennol am fwy na 28 diwrnod, rhaid i'r darparwr gwasanaeth nodi'r rheswm pam na all yr Unigolyn Cyfrifol lofnodi'r datganiad. Bydd y system ar-lein yn darparu cyfleuster ar gyfer hyn.
5.18 Os bydd darparwr gwasanaeth yn gweithredu mwy nag un gwasanaeth (ac wedi dynodi mwy nag un Unigolyn Cyfrifol ar gyfer y gwasanaethau hynny), cyfrifoldeb cyfreithiol Unigolyn Cyfrifol dynodedig y gwasanaeth dan sylw yw llofnodi'r datganiad o wirionedd ar gyfer y gwasanaeth hwnnw. Ni all Unigolyn Cyfrifol lofnodi datganiad gwasanaeth arall nad yw wedi'i ddynodi ar ei gyfer.
6. Cael gafael ar y datganiad blynyddol, ei gyflwyno a'i gyhoeddi
Cael gafael ar y datganiad blynyddol
6.1 Bydd darparwyr gwasanaethau yn cael gafael ar eu datganiad blynyddol ar-lein ac yn ei gyflwyno drwy eu cyfrif AGC Ar-lein. Bydd system AGC Ar-lein yn rhoi canllawiau clir o ran y cyfnod adrodd y mae angen cyflwyno Datganiad Blynyddol ar ei gyfer. Bydd y system ar-lein hefyd yn nodi yn y datganiad blynyddol (ar gyfer y cyfnod adrodd dan sylw) y gwasanaethau a weithredir gan y darparwr y mae angen gwybodaeth ar eu cyfer.
6.2 Bydd modd cael gafael ar y datganiad blynyddol o 01 Ebrill, bob blwyddyn.
6.3 Bydd Unigolion Cyfrifol a/neu swyddog/swyddogion sefydliad sy'n gysylltiedig â'r darparwr sydd wedi actifadu ei gyfrif/eu cyfrif AGC Ar-lein yn gallu cael gafael ar y datganiad blynyddol, ei gwblhau a'i gyflwyno.
6.4 Gall unrhyw gynorthwywyr ar-lein (o fewn gwasanaeth rheoleiddiedig) gael gafael ar y wybodaeth sydd ei hangen yn y datganiad blynyddol ar gyfer y gwasanaeth y maent wedi'u penodi ar ei gyfer, a chwblhau'r wybodaeth honno. Fodd bynnag, ni all cynorthwywyr ar-lein gyflwyno'r datganiad blynyddol.
6.5 Dylai darparwyr gwasanaethau, Unigolion Cyfrifol ac unrhyw gynorthwywyr ar-lein penodedig (o fewn gwasanaeth rheoleiddiedig) sicrhau eu bod yn gallu mewngofnodi i'w cyfrif ar-lein cyn i'r datganiad blynyddol fod ar gael ar 1 Ebrill. Bydd hyn yn helpu i osgoi unrhyw oedi posibl wrth gwblhau a chyflwyno'r datganiad blynyddol.
Cyflwyno'r datganiad blynyddol
6.6 Rhaid i'r darparwr gwasanaeth sicrhau bod yr holl wybodaeth yn y datganiad blynyddol ar gyfer y cyfnod adrodd perthnasol gofynnol wedi'i chwblhau. Bydd y system ar-lein yn atal darparwr gwasanaeth rhag cyflwyno datganiad blynyddol anghyflawn.
6.7 O dan reoliad 7 o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017, cyfrifoldeb y darparwr gwasanaeth yw cyflwyno'r datganiad blynyddol. Cyn y gellir cyflwyno datganiad blynyddol, rhaid iddo gynnwys datganiad wedi'i lofnodi gan y darparwr gwasanaeth. Mae'r datganiad yn cadarnhau ei fod wedi darllen y wybodaeth a geir yn y datganiad blynyddol, a'i fod yn cytuno â hi.
6.8 Byddem yn disgwyl i'r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau ar waith i gytuno ar gynnwys y datganiad blynyddol, megis drwy gyfarfod, cyn ei gyflwyno. Efallai y byddwn yn gofyn am gofnodion cyfarfod o'r fath (neu fath arall o drywydd archwilio) i ddangos bod y darparwr gwasanaeth wedi trafod y datganiad blynyddol, a chytuno arno.
6.9 Bydd gan y darparwr gwasanaeth hyd at 23:59:59 ar 26 Mai, bob blwyddyn, i gyflwyno ei ddatganiad blynyddol. Os bydd y darparwr gwasanaeth yn cael unrhyw anawsterau wrth gyflwyno ei ddatganiad blynyddol erbyn y terfyn amser, dylai roi gwybod i ni amdanynt cyn gynted â phosibl. Pan fydd y terfyn amser wedi mynd heibio, bydd y system datganiad blynyddol ar-lein yn cau ac ni fydd modd i ddarparwyr gwasanaethau gyflwyno datganiad mwyach.
Cyhoeddi'r datganiad blynyddol
6.10 Ni fydd AGC yn cyhoeddi'r datganiad blynyddol mwyach gan mai cyfrifoldeb cyfreithiol y darparwr gwasanaeth yw cyhoeddi'r datganiad blynyddol.
6.11 Dim ond y wybodaeth sy'n ofynnol gan y darparwr gwasanaeth (a'r gwasanaethau rheoleiddiedig y mae'n eu gweithredu) fel y'i nodir yn Neddf 2016 a'r Rheoliadau a gaiff ei chynnwys yn y datganiad blynyddol a gyhoeddir.
6.12 Rhaid i ddarparwyr gwasanaethau sicrhau nad yw eu datganiad blynyddol wedi'i gwblhau yn cynnwys unrhyw wybodaeth y mae modd adnabod unigolion ohoni nac iaith ymfflamychol, cyn ei gyflwyno. Dylai darparwyr gwasanaethau ystyried eu cyfrifoldebau cyfreithiol eu hunain o ran deddfwriaeth diogelu data a “phrosesu” data personol.
6.13 Ar ôl cyflwyno'r datganiad blynyddol, bydd dwy ddogfen ar wahân ar gael yng nghyfrif AGC Ar-lein y darparwr gwasanaeth.
6.14 Copi trafodiad o'r datganiad blynyddol fydd y ddogfen gyntaf, a gynhyrchir yn syth ar ôl cyflwyno'r datganiad. Bydd yn cynnwys cofnod cyflawn o'r holl wybodaeth a gyflwynwyd i AGC, dim ond i'r darparwr gwasanaeth ei gadw fel rhan o'i gofnodion. Ni ddylid cyhoeddi'r copi trafodiad ar wefan y darparwr. Mae wedi'i farcio'n glir i nodi nad yw'r fersiwn hwn i'w gyhoeddi.
6.15 Copi i'w gyhoeddi yw'r ail ddogfen, a gynhyrchir o fewn 30 munud o gyflwyno'r datganiad (gweler y nodyn ym mharagraff 41). Dogfen ar wahân yw'r ddogfen hon, sydd ond yn cynnwys y wybodaeth y mae'n ofynnol iddi fod ar gael i'r cyhoedd. Yn y datganiad blynyddol, mae pob cwestiwn wedi'i labelu'n glir i ddangos a fydd yn cael ei gynnwys yn y copi i'w gyhoeddi. Rhaid i ddarparwyr gwasanaethau lawrlwytho'r copi i'w gyhoeddi o'u cyfrif AGC Ar-lein a'i gyhoeddi ar eu gwefan eu hunain erbyn 30 Mehefin ar ôl diwedd y cyfnod adrodd.
Noder (2026 yn unig): Ni fydd y swyddogaeth copi i'w gyhoeddi ar gael pan fydd y ffenestr datganiad blynyddol yn agor ar 1 Ebrill 2026. Dylai darparwyr gwasanaethau sy'n cyflwyno eu datganiad blynyddol cyn dechrau mis Mai 2026 fod yn ymwybodol na fydd eu copi i'w gyhoeddi yn cael ei gynhyrchu ar unwaith. Bydd copïau i'w cyhoeddi yn cael eu creu yn awtomatig pan fydd y swyddogaeth ar gael. Bydd AGC yn cysylltu â'r holl ddarparwyr gwasanaethau perthnasol i gadarnhau bod eu copi i'w gyhoeddi yn barod i'w lawrlwytho.
Gwasanaethau nad ydynt yn weithredol
6.16 Rhaid i bob gwasanaeth cofrestredig gwblhau, cyflwyno a chyhoeddi datganiad blynyddol, gan gynnwys gwasanaethau segur a gwasanaethau nad ydynt yn weithredol.
7. Rhagor o gyngor ac arweiniad
7.1 Mae cwestiynau cyffredin ar gael ar wefan AGC.: Annual return 2026: Frequently asked questions (HTML document) | Care Inspectorate Wales
7.2 Os bydd unrhyw ymholiadau am gwblhau neu gyflwyno'r datganiad blynyddol, gall y darparwr gwasanaeth gysylltu ag AGC drwy ffonio 0300 7900 126 a dewis opsiwn 4, neu e-bostio: AGC@llyw.cymru. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.