Datganiad blynyddol 2026: Cwestiynau cyffredin
Atebion i gwestiynau cyffredin am gwblhau a chyflwyno eich datganiad blynyddol 2026, y gofyniad newydd i’w gyhoeddi ar eich gwefan eich hun, a’r broses casglu data unedig â Gofal Cymdeithasol Cymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gwbl hygyrch
1. Y datganiad blynyddol
1.1 Beth yw datganiad blynyddol?
Ffurflen ar-lein y mae’n ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau oedolion a phlant cofrestredig ei chwblhau yn ôl y gyfraith bob blwyddyn o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yw’r datganiad blynyddol. Mae’n cynnwys gwybodaeth am eich gwasanaeth, gan gynnwys staffio, nifer y lleoedd, a sut rydych yn darparu gofal. Diben datganiadau blynyddol yw rhoi gwybodaeth gynhwysfawr, gymaradwy a chadarn i’r cyhoedd am ansawdd gwasanaethau gofal a chymorth.
1.2 Pa wasanaethau y bydd angen iddynt gwblhau datganiad blynyddol?
Mae’n ofynnol i’r mathau canlynol o wasanaethau gyflwyno datganiad blynyddol:
- Gwasanaethau cartrefi gofal
- Gwasanaethau cymorth cartref
- Gwasanaethau llety diogel
- Gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd
- Gwasanaethau maethu rheoleiddiedig
- Gwasanaethau mabwysiadu rheoleiddiedig
- Gwasanaethau eirioli rheoleiddiedig
- Gwasanaethau lleoli oedolion
- Gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig
1.3 Pa gyfnod a gwmpesir gan y datganiad blynyddol?
Mae’r datganiad blynyddol yn cwmpasu’r flwyddyn ariannol flaenorol.
1.4 A oes angen i ddarparwyr newydd gofrestru gyflwyno datganiad blynyddol?
Oes. Os cafodd eich gwasanaeth ei gofrestru yn ystod y flwyddyn ariannol y mae’r datganiad blynyddol yn ymwneud â hi, mae’n ofynnol i chi gyflwyno datganiad blynyddol.
Os cafodd gwasanaeth ei gymeradwyo yn ystod y cyfnod adrodd ond nad oedd yn weithredol ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod hwnnw neu os oedd yn segur drwy gydol y cyfnod hwnnw, rhaid i chi ei gynnwys o hyd yn eich datganiad blynyddol.
1.5 A oes angen cyflwyno datganiad blynyddol ar gyfer gwasanaeth sydd wedi cael ei ddileu mewn cofrestriad rywbryd yn ystod y flwyddyn berthnasol?
Nac oes. Os yr gwasanaeth rheoleiddiedig wedi cael ei ddileu yn eich cofrestriad, nid oes angen i chi gynnwys gwybodaeth am y gwasanaeth hwnnw yn eith datganiad blynyddol.
1.6 Beth sy’n digwydd os bydd endid cyfreithiol y darparwr gwasanaeth wedi newid?
Os yw eich endid cyfreithiol wedi newid, dylech gysylltu â thîm cofrestru AGC ar unwaith i drafod eich amgylchiadau cyn cwblhau’ch datganiad. Ffoniwch ni ar 0300 7900 126 a dewiswch opsiwn 1.
Os yw darparwr newydd wedi prynu gwasanaeth ac wedi ei gofrestru o dan endid cyfreithiol newydd, dim ond y cyfnod o ddyddiad y cofrestriad newydd y dylai’r datganiad blynyddol ei gwmpasu.
1.7 Cefais fy nynodi’n Unigolyn Cyfrifol yn ddiweddar. A ddylwn gwblhau’r datganiad blynyddol o’r adeg y cefais fy nynodi’n Unigolyn Cyfrifol, neu ar gyfer y cyfnod adrodd cyfan?
Datganiad i ddarparwyr yw’r datganiad blynyddol, nid datganiad i unigolion. Rhaid iddo gwmpasu’r cyfnod adrodd llawn, ni waeth pryd y cawsoch eich dynodi’n Unigolyn Cyfrifol.
2. Beth sy’n newydd ar gyfer 2026
2.1 Beth sy’n wahanol am ddatganiad blynyddol 2026?
Mae dau newid sylweddol ar gyfer 2026 y mae angen i bob darparwr fod yn ymwybodol ohonynt:
- Mae’n ofynnol yn gyfreithiol bellach i chi gyhoeddi eich datganiad blynyddol ar eich gwefan eich hun erbyn 30 Mehefin 2026. Mae hyn yn ofyniad cyfreithiol newydd o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025. Ni fydd Arolygiaeth Gofal Cymru yn cyhoeddi datganiadau blynyddol ar ran darparwyr mwyach.
- Mae datganiad blynyddol 2026 yn cynnwys cwestiynau ychwanegol am y gweithlu fel rhan o broses casglu data unedig newydd â Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae hyn yn golygu y byddwch yn cwblhau un datganiad bob blwyddyn yn hytrach na dwy broses casglu data ar wahân.
2.2 Pam mae gofyniad newydd o ran cyhoeddi?
Mae Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 yn cyflwyno mwy o dryloywder ac atebolrwydd ar gyfer gwasanaethau gofal rheoleiddiedig yng Nghymru. Dwy gyhoeddi eich datganiad blynyddol ar eich gwefan eich hun, mae hyn yn sicrhau y gall y bobl sy’n defnyddio eich gwasanaeth, eu teuluoedd, a’r cyhoedd yn fwy cyffredinol gael gwybodaeth am eich gwasanaeth yn uniongyrchol.
2.3 A fydd ffurflen y datganiad blynyddol yn wahanol eleni?
Bydd strwythur y ffurflen yn debyg i flynyddoedd blaenorol, ond bydd yn hirach oherwydd y cwestiynau ychwanegol am y gweithlu sy’n cael eu casglu ar ran Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae rhai cwestiynau wedi cael eu symleiddio, ac mae rhai wedi cael eu dileu. Lle y rhoddwyd ymatebion naratif gennych yn y datganiad y llynedd, mae’r rhain wedi cael eu rhagboblogi i chi fwrw golwg drostynt a’u diweddaru yn ôl yr angen. Dylai hyn leihau’r amser sydd ei angen i gwblhau rhai adrannau.
2.4 Pam mae’r ffurflen yn hirach eleni?
Mae’n hirach am ein bod wedi cynnwys cwestiynau am y gweithlu roedd Gofal Cymdeithasol Cymru yn arfer casglu gwybodaeth ar wahân yn eu cylch drwy ei arolwg blynyddol ei hun o’r gweithlu. Mae cyfuno’r ddwy broses casglu gwybodaeth yn golygu y byddwch yn cwblhau un datganiad yn hytrach na dau, sy’n arbed amser yn gyffredinol.
Yn y dyfodol, bydd y wybodaeth a ddarparwch eleni yn cael ei rhagboblogi, sy’n gwneud y broses hyd yn oed yn gyflymach.
3. Dyddiadau allweddol
3.1 Pryd mae’r cyfnod i gyflwyno datganiadau blynyddol yn agor?
Bydd y cyfnod ar gyfer cyflwyno eich datganiad blynyddol yn agor ar 1 Ebrill 2026.
3.2 Beth yw’r terfyn amser ar gyfer cyflwyno fy natganiad blynyddol?
Rhaid i chi gyflwyno eich datganiad blynyddol erbyn 23:59 ar 26 Mai 2026.
3.3 A gaf fi gyflwyno’r datganiad blynyddol ar ôl y terfyn amser?
Na chewch. Unwaith y bydd y terfyn amser wedi mynd heibio, bydd y system ar-lein yn cau ac ni fyddwch yn gallu cyflwyno eich datganiad blynyddol mwyach. Os nad ydych wedi ei gyflwyno erbyn y terfyn amser, cysylltwch ag AGC cyn gynted â phosibl ar 0300 7900 126 neu yn agc@llyw.cymru.
3.4 A gaf fi gwblhau fy natganiad blynyddol cyn 1 Ebrill 2026?
Na chewch. Bydd y cyfnod i ddychwelyd datganiadau blynyddol yn agor ar 1 Ebrill 2026. Ni allwch gael mynediad at eich datganiad blynyddol na’i gyflwyno cyn y dyddiad hwn.
4. Cael mynediad at eich datganiad blynyddol a’i gyflwyno
4.1 Sut y caf fynediad at y datganiad blynyddol?
Byddwch yn cael mynediad at y datganiad blynyddol drwy eich cyfrif AGC Ar-lein.
4.2 Beth os nad oes gennych gyfrif AGC Ar-lein?
Rhaid bod pob Unigolyn Cyfrifol wedi creu cyfrif AGC Ar-lein fel rhan o’r broses gwneud cais i ddod yn Unigolyn Cyfrifol ar ran gwasanaeth.
Os nad oes gennych gyfrif AGC Ar-lein a bod angen i chi gwblhau’r datganiad blynyddol:
- Os ydych yn Unigolyn Cyfrifol a bod angen i chi actifadu eich cyfrif ar-lein gallwch wneud hynny drwy nodi’r wybodaeth berthnasol ar AGC Ar-lein.
- Os ydych yn Gynorthwyydd Ar-lein neu’n Swyddog Sefydliadol ac nad oes gennych gyfrif AGC Ar-lein ar hyn o bryd, gallwch ofyn i Unigolyn Cyfrifol sy’n gysylltiedig â gwasanaeth yng ngrŵp y darparwr i’ch gwahodd i greu cyfrif AGC Ar-lein.
4.3 Pwy all lenwi’r datganiad blynyddol?
Gall Unigolion Cyfrifol, Swyddogion Sefydliadol a Chynorthwywyr Ar-lein lenwi’r datganiad blynyddol. Fodd bynnag, dim ond Unigolyn Cyfrifol a Swyddogion Sefydliadol sydd wedi actifadu eu cyfrif AGC Ar-lein a fydd yn gallu gwneud y datganiadau terfynol perthnasol a chyflwyno’r datganiad blynyddol ar ran y darparwr.
4.4 Pwy all gyflwyno’r datganiad blynyddol?
Yr Unigolyn/Unigolion Cyfrifol neu’r Swyddog/Swyddogion Sefydliadol sydd wedi actifadu ei gyfrif/eu cyfrif AGC Ar-lein sy’n gallu cyflwyno’r datganiad blynyddol.
4.5 Ai dim ond un person sy’n gallu cwblhau’r datganiad blynyddol, neu a all cydweithwyr helpu?
Gall mwy nag un person helpu. Gall unrhyw un sy’n gysylltiedig â’r darparwr helpu i gwblhau’r datganiad blynyddol, a gall unrhyw un sydd wedi actifadu cyfrif AGC Ar-lein fewngofnodi a gweld y datganiad drafft. Gall y datganiad gael ei gwblhau mewn unrhyw drefn a thros sawl sesiwn.
Rhaid i'r datganiadau terfynol gael eu cwblhau’n olaf gan yr Unigolyn Cyfrifol, unwaith y bydd yr holl wybodaeth arall wedi’i mewngofnodi.
4.6 A oes angen cwblhau’r datganiad blynyddol ar yr un pryd?
Nac oes. Nid oes angen cwblhau'r datganiad blynyddol ar yr un pryd a gall sawl un weithio arno dros nifer o sesiynau.
Gallwch gadw’r wybodaeth rydych wedi’i chwblhau hyd yma a dychwelyd at y ffurflen gymaint o weithiau ag sy’n angenrheidiol cyn ei gyflwyno.
4.7 A all Unigolyn Cyfrifol lofnodi’r datganiad terfynol ar ran gwasanaeth nad yw wedi’i ddynodi ar ei gyfer?
Na all. Dim ond yr Unigolyn Cyfrifol dynodedig a all lofnodi’r datganiad o wirionedd ar ran ei (g)wasanaeth. Pan fydd darparwr yn gweithredu mwy nag un gwasanaeth, ni chaniateir i Unigolion Cyfrifol eraill lofnodi datganiadau terfynol ar ran gwasanaethau nad ydynt wedi’u dynodi ar eu cyfer. Fodd bynnag, os nad oes Unigolyn Cyfrifol yn ei le, neu os disgwylir i’r Unigolyn Cyfrifol fod yn absennol am 28 diwrnod neu fwy, mae’r datganiad blynyddol yn darparu datganiad terfynol amgen y gall Unigolyn Cyfrifol arall neu Swyddog Sefydliadol yn sefydliad y darparwr ei gwblhau.
4.8 Mae gwall yn y wybodaeth sydd wedi’i rhagboblogi yn fy natganiad blynyddol. Beth y dylwn ei wneud?
Os byddwch yn gweld unrhyw wybodaeth am ei gofrestriad y mae angen ei chywiro, gallwch gyflwyno hysbysiad neu amrywiad drwy AGC Ar-lein. Rhaid i’r datganiad blynyddol adlewyrchu’r data cofrestru craidd a ddelir gan AGC ar 31 Mawrth 2026. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod gwybodaeth eich cofrestriad yn gyfredol ac yn gywir drwy gydol y flwyddyn.
4.9 Beth os caf anawsterau technegol wrth gael mynediad at y datganiad blynyddol?
Os cewch unrhyw anawsterau wrth gael mynediad at y datganiad blynyddol, cysylltwch ag AGC ar 0300 7900 126 neu e-bostiwch agc@llyw.cymru.
4.10 Mae’r datganiad blynyddol yn gofyn faint o bobl rydym wedi darparu cymorth iddynt. Sut rydym yn cyfrifo hyn?
Mae’r cwestiwn yn gofyn am gyfanswm nifer y bobl rydych wedi darparu gofal a chymorth iddynt yn ystod y flwyddyn, nid y nifer ar unrhyw adeg benodol. Er mwyn cyfrifo hyn ar gyfer gwasanaeth cartref gofal, dechreuwch â nifer y bobl yn eich gofal ar ddechrau’r flwyddyn ariannol ac ychwanegwch gyfanswm nifer y derbyniadau a wnaed yn ystod y flwyddyn honno.
Os ydych wedi darparu gofal a chymorth i unigolyn fwy nag unwaith yn ystod y flwyddyn, dylid cyfrif pob cyfnod gofal ar wahân.
4.11 A allaf ddarparu tystiolaeth ategol ar y cyd â’m datganiad blynyddol?
Nac allwch. Nid oes angen i chi ddarparu tystiolaeth i ategu’r wybodaeth yn eich datganiad blynyddol.
5. Y gofynion newydd o ran cyhoeddi
5.1 Beth sydd angen i mi ei wneud ar ôl cyflwyno fy natganiad blynyddol?
Pan fyddwch wedi cyflwyno eich datganiad blynyddol, bydd dwy ddogfen ar wahân yn dod ar gael yn eich cyfrif AGC Ar-lein. Mae'n bwysig deall y gwahaniaeth rhyngddynt.
Copi o'r trafodiad
Ar ôl cyflwyno eich datganiad blynyddol, bydd copi o'r trafodiad ar gael yn eich cyfrif AGC Ar-lein. Cofnod llawn o'r hyn y gwnaethoch ei gyflwyno ar gyfer eich cofnodion chi yn unig yw hwn. Mae wedi'i farcio'n glir nad yw i'w gyhoeddi, ac ni ddylid ei gyhoeddi ar eich gwefan.
Copi i'w gyhoeddi
O fewn 30 munud o gyflwyno*, bydd copi ar wahân i'w gyhoeddi ar gael i'w lawrlwytho o'ch cyfrif AGC Ar-lein. Hwn yw'r fersiwn y mae'n rhaid i chi ei gyhoeddi ar eich gwefan eich hun erbyn 30 Mehefin 2026. Mae ond yn cynnwys y wybodaeth sy'n rhaid i chi ei rhyddhau'n gyhoeddus.
*Noder (2026 yn unig): Ni fydd y swyddogaeth copi i'w gyhoeddi ar gael pan fydd y ffenestr datganiad blynyddol yn agor ar 1 Ebrill. Os byddwch yn ei gyflwyno cyn dechrau mis Mai, ni fydd eich copi i'w gyhoeddi yn cael ei gynhyrchu ar unwaith. Bydd yn cael ei greu yn awtomatig pan fydd y swyddogaeth yn barod. Bydd AGC yn rhoi gwybod i chi pan fydd y copi i'w gyhoeddi ar gael i'w lawrlwytho.
Bydd canllawiau ynglŷn â sut i lawrlwytho eich datganiad blynyddol ar gael yn Datganiad blynyddol | Arolygiaeth Gofal Cymru o ddechrau mis Mai.
5.2 A fyddaf yn cael copi o fy natganiad blynyddol ar unwaith ar ôl cyflwyno?
Ar ôl cyflwyno eich datganiad blynyddol, bydd copi o'r trafodiad yn cael ei gynhyrchu a bydd ar gael yn eich cyfrif AGC Ar-lein. Mae hwn yn gofnod llawn o bopeth y gwnaethoch ei gyflwyno i AGC, ac mae ond ar gyfer eich cofnodion chi yn unig. Mae wedi'i farcio'n glir i nodi nad yw'r fersiwn hwn i'w gyhoeddi. Ni ddylech gyhoeddi'r copi o'r trafodiad ar eich gwefan.
O fewn 30 munud o gyflwyno*, bydd copi ar wahân i'w gyhoeddi ar gael i'w lawrlwytho o'ch cyfrif AGC Ar-lein. Hwn yw'r fersiwn y mae'n rhaid i chi ei gyhoeddi ar eich gwefan erbyn 30 Mehefin 2026.
I gael manylion llawn am y ddwy ddogfen a beth i'w wneud ar ôl eu cyflwyno, gweler Cwestiwn 5.1.
*Noder (2026 yn unig): Ni fydd y swyddogaeth copi i'w gyhoeddi ar gael pan fydd y ffenestr datganiad blynyddol yn agor ar 1 Ebrill. Os byddwch yn ei gyflwyno cyn dechrau mis Mai, ni fydd eich copi i'w gyhoeddi yn cael ei gynhyrchu ar unwaith. Bydd yn cael ei greu yn awtomatig pan fydd y swyddogaeth yn barod. Bydd AGC yn rhoi gwybod i chi pan fydd y copi i'w gyhoeddi ar gael i'w lawrlwytho.
5.3 Sut y byddaf yn lawrlwytho’r datganiad blynyddol a gyflwynwyd gennych?
Ar ôl ei gyflwyno, gallwch gael mynediad at eich datganiad bllynyddol a’i lawrlwytho o brif dudalen y Datganiad Blynyddol yn eich cyfrif AGC Ar-lein. Cliciwch y botwm lawrlwytho ar gyfer y flwyddyn perthnasol a chaiff fersiwn o'ch datganiad blynyddol ei chreu i chi ei chadw a'i gyhoeddi. Bydd eich datganiad blynyddol ar gael i’w lawrlwytho mewn sawl fformat.
Bydd canllawiau ynglŷn â sut i lawrlwytho eich datganiad blynyddol ar gael yn Datganiad blynyddol | Arolygiaeth Gofal Cymru o ddechrau mis Mai.
5.4 Beth yw'r gwahaniaeth rhwng y 'copi o'r trafodiad' a'r 'copi i'w gyhoeddi' o fy natganiad blynyddol?
Pan fyddwch yn cyflwyno eich datganiad blynyddol, bydd dwy ddogfen ar wahân yn dod ar gael yn eich cyfrif AGC Ar-lein.
Copi o'r trafodiad
Ar ôl cyflwyno, caiff copi o'r trafodiad ei gynhyrchu. Mae hwn yn gofnod llawn o bopeth y gwnaethoch ei gyflwyno i AGC, ac mae ond ar gyfer eich cofnodion chi yn unig. Mae wedi'i farcio'n glir i nodi nad yw'r fersiwn hwn i'w gyhoeddi. Ni ddylech gyhoeddi'r copi o'r trafodiad ar eich gwefan.
Copi i'w gyhoeddi
O fewn 30 munud o gyflwyno*, caiff copi ar wahân i'w gyhoeddi hefyd ei gynhyrchu. Mae ond yn cynnwys y wybodaeth sy'n rhaid i chi ei rhyddhau'n gyhoeddus yn unig. Yn y datganiad blynyddol, mae pob cwestiwn wedi'i labelu'n glir i ddangos a fydd yn cael ei gynnwys yn y fersiwn hwn. Hwn yw'r fersiwn y mae'n rhaid i chi ei gyhoeddi ar eich gwefan erbyn 30 Mehefin 2026.
*Noder (2026 yn unig): Ni fydd y swyddogaeth copi i'w gyhoeddi ar gael pan fydd y ffenestr datganiad blynyddol yn agor ar 1 Ebrill. Os byddwch yn ei gyflwyno cyn dechrau mis Mai, ni fydd eich copi i'w gyhoeddi yn cael ei gynhyrchu ar unwaith. Bydd yn cael ei greu yn awtomatig pan fydd y swyddogaeth yn barod. Bydd AGC yn rhoi gwybod i chi pan fydd y copi i'w gyhoeddi ar gael i'w lawrlwytho.
5.5 A allaf hefyd lawrlwytho copi o’m datganiad blynyddol cyn ei gyflwyno?
Gallwch. Unwaith y byddwch wedi mewngofnodi'r holl wybodaeth ofynnol ewch i'r dudalen 'Datgan a Chyflwyno' lle bydd opsiwn i chi lawrlwytho copi cyn ei gyflwyno. Gall hyn fod yn ddefnyddiol os bydd angen i chi rannu drafft â chydweithwyr i'r gymeradwyo'n fewnol cyn cyflwyno.
5.6 Ble ar fy ngwefan y bydd angen i mi gyhoeddi fy natganiad blynyddol?
Nid oes gofyniad penodol ynglŷn â ble ar eich gwefan y dylech gyhoeddi eich datganiad blynyddol.Gallwch ddewis ei gyhoeddi ar eich hafan, ar dudalen benodol, neu unrhyw le arall ar eich gwefan.Yr hyn sy’n bwysig yw ei fod ar gael i’r cyhoedd ac wedi cael ei gyhoeddi erbyn 30 Mehefin 2026.
5.7 A oes angen i’m datganiad blynyddol fod yn ffeil y gellir ei lawrlwytho’n uniongyrchol, neu a allaf ei fewnblannu ar y dudalen?
Bydd eich datganiad blynyddol ar gael i’w lawrlwytho o’ch cyfrif AGC Ar-lein mewn sawl fformat, gan gynnwys PDF a HTMI. Gallwch ei gyhoeddi ar eich gwefan ar ffurf ffeil y gellir ei lawrlwytho, tudalen we, neu’r ddwy.
5.8 Am faint o amser y bydd angen i mi gadw copi cyhoeddedig o’m datganiad blynyddol ar fy ngwefan?
Diben datganiadau blynyddol yw rhoi gwybodaeth dryloyw a cymaradwy i’r cyhoedd am wasanaethau cofrestredig. Er nad yw’r rheoliadau yn pennu cyfnod am gadw datganiad blynyddol ar eich gwefan, byddem yn disgwyl i ddarparwyr gadw copi cyhoeddedig ar eu gwefan am flwyddyn, hyd nes y bydd y datganiad blynyddol canlyniadol a mwyaf cyfredol wedi cael ei gyhoeddi. Credwn fod yr arfer hon yn gyson â’r bwriad sylfaenol ac yn sicrhau tryloywder o hyd i’r cyhoedd.
5.9 A fydd angen i mi dynnu datganiadau blynyddol blynyddoedd blaenorol o’m gwefan, neu a ddylwn gadw copi cyhoeddedig o bob un?
Darparwyr sy’n cael penderfynu a ydynt am gadw datganiadau blynyddol y flwyddyn flaenorol ar eu gwefan.
5.10 Beth os nad oes gennyf wefan?
Bydd angen i chi greu gwefan cyn 30 Mehefin 2026 i fodloni’r gofynion cyfreithiol newydd o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025. Ni fydd AGC yn gallu cyhoeddi eich datganiad blynyddol ar eich rhan.
5.11 A allaf gyhoeddi’r datganiad blynyddol ar dudalen fy nghyfryngau cymdeithasol yn hytrach na gwefan?
Mae Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 yn nodi "Rhaid i ddarparwyr gwasanaeth ar ôl ddiwedd pob blwyddyn ariannol y mae'r darparwr wedi ei gofrestru ynddi-
(a) cyflwyno datganiad blynyddol i Weinidogion Cymru;
(b) cyhoeddi’r datganiad hwnnw ar ei wefan.”
Rhaid i chi gyhoeddi eich datganiad blynyddol ar eich gwefan eich hun. Nid yw tudalen ar gyfryngau cymdeithasol yn bodloni’r gofyniad hwn.
5.12 Ble ar fy ngwefan y dylwn gyhoeddi fy natganiad blynyddol?
Nid oes gofyniad penodol ynglŷn â ble ar eich gwefan y dylech gyhoeddi eich datganiad blynyddol. Eich penderfyniad chi fydd p’un a ydych yn ei gyhoeddi ar eich hafan, ar dudalen benodol, neu mewn man arall. Y peth pwysig yw ei fod yn cael ei gyhoeddi a’i fod ar gael i’r cyhoedd erbyn 30 Mehefin 2026.
5.13 Rwy’n rhedeg sawl gwasanaeth.A oes angen i mi gyhoeddi datganiad blynyddol ar gyfer pob un?
Mae’r datganiad blynyddol yn seiliedig ar y darparwr, sy’n golygu ei fod yn cwmpasu’ch holl wasanaethau mewn un datganiad a gyflwynir. Bydd angen i chi gyhoeddi’r datganiad blynyddol a gyflwynwyd gennych, sy’n cwmpasu’r holl wasanaethau ar eich gwefan erbyn 30 Mehefin 2026.
Fodd bynnag, os bydd eich gwasanaethau yn gweithredu o dan endidau cyfreithiol gwahanol a’u bod wedi’u cofrestru ag AGC ar wahân, rhaid i bob endid cyfreithiol gwblhau a chyhoeddi ei ddatganiad blynyddol ei hun.
5.14 Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn cyhoeddi fy natganiad blynyddol ar fy ngwefan erbyn 30 Mehefin 2026?
Mae methiant i gyhoeddi eich datganiad blynyddol ar eich gwefan erbyn y terfyn amser yn drosedd o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025. Gall hyn arwain at gamau gorfodi fel y tybiau AGC yn briodol.
Rydym yn annog pob darparwr yn gryf i weithredu ar gam cynnar a chysylltu â ni yn agc@llyw.cymru os ydych yn cael anawsterau.
5.15 A fydd AGC yn parhau i gyhoeddi datganiadau blynyddol ar ei gwefan ei hun?
O 2026, ni fydd Arolygiaeth Gofal Cymru yn cyhoeddi datganiadau blynyddol ar ran darparwyr mwyach. Caiff datganiadau blynyddol a gyhoeddwyd ar wefan AGC yn flaenorol eu dileu 90 diwrnod ar ôl i’r cyfnod i ddychwelyd datganiadau blynyddol eleni gau. Dylai aelodau o’r cyhoedd sydd am weld datganiad blynyddol darparwr fynd i wefan y darparwr ei hun.
6. Uno prosesau casglu data gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
6.1 Beth yw’r broses casglu data unedig?
O 2026, bydd Arolygiaeth Gofal Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru yn cyfuno eu prosesau casglu data. Mae datganiad blynyddol AGC ac arolwg blynyddol Gofal Cymdeithasol Cymru o’r gweithlu yn cael eu huno’n un datganiad. Mae hyn yn golygu y byddwch yn cwblhau un datganiad yn lle dwy broses casglu data ar wahân bob blwyddyn.
6.2 Pam mae AGC a Gofal Cymdeithasol Cymru yn cyfuno eu prosesau casglu data?
Y nod yw symleiddio’r broses, cysoni data rhwng y ddau sefydliad, ac arbed amser i chi. Yn hytrach na chwblhau datganiadau ar wahân i ddau sefydliad gwahanol bob blwyddyn, byddwch yn darparu’r holl wybodaeth unwaith a chaiff ei rhannu rhyngom ni.
6.3 Beth fydd yn digwydd gyda fy nata?
Drwy gwblhau eich datganiad blynyddol ar gyfer 2026, bydd data eich gweithlu yn cael eu rhannu’n awtomatig ag AGC a Gofal Cymdeithasol Cymru fel rhan o’r broses casglu data unedig.
6.4 A fydd unrhyw ddata personol am staff neu ddefnyddwyr gwasanaethau yn cael eu cynnwys yn y datganiad blynyddol cyhoeddedig?
NI ddylid cynnwys unrhyw ddata personol am unigolion yn eich datganiad blynyddol.
Mae gwybodaeth bersonol adnabyddadwy yn cynnwys rhagenwau sy’n dangos rhywedd ynghyd â manylion adnabod pellach megis cyflyrau iechyd, manylion gofal ac anghenion cymorth, dyddiadau derbyn, blaenlythrennau, neu leoliad yn y gwasanaeth. Cofiwch y gall mwy nag un darn o wybodaeth gyda’i gilydd fod yn ddigon i adnabod rhywun.
Dylid hefyd gymryd gofal wrth ddefnyddio dyfyniadau uniongyrchol gan aelodau o’r teulu, gan y gall y rhain adnabod unigolion ar ddamwain. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau nad yw eich datganiad blynyddol yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy cyn i chi ei gyflwyno a’i gyhoeddi.
6.5 Sut mae’r cwestiynau am y gweithlu yn wahanol i weddill y datganiad blynyddol?
Nid yw’r cwestiynau am y gweithlu wedi’u hymgorffori yn ffurflen y datganiad blynyddol yn yr un ffordd â chwestiynau eraill. Yn hytrach, byddwn yn gofyn i chi lawrlwytho taenlen ar wahân o fewn eich datganiad blynyddol. Bydd angen i chi gwblhau’r daenlen hon drwy lenwi gwybodaeth am eich gweithlu ac yna’i lanlwytho i’ch datganiad blynyddol cyn i chi ei gyflwyno.
6.6 Sawl taenlen gweithlu sydd angen i mi ei chwblhau?
Mae'r nifer o daenlenni y mae angen i chi eu cwblhau yn dibynnu ar y math o ddarparwr yr ydych.
Rhaid i bob darparwr gwblhau un daenlen gweithlu ar gyfer pob gwasanaeth y mae'n ei weithredu. Er enghraifft, os ydych yn gweithredu tri gwasanaeth, bydd angen i chi gwblhau tair taenlen ar wahân. Rhaid i bob darparwr hefyd gwblhau un daenlen yn cwmpasu'r staff a gyflogir ar lefel darparwr.
Os ydych yn ddarparwr awdurdod lleol, bydd hefyd angen i chi gwblhau taenlen ar wahân ar gyfer pob math o dîm gwasanaeth cyhoeddus rydych yn ei weithredu.
Noder bod y templedi taenlen gweithlu ond ar gael i'w lawrlwytho o'ch datganiad blynyddol yn eich cyfrif AGC Ar-lein yn unig.
6.7 Pwy all gwblhau’r daenlen am y gweithlu?
Gall y daenlen am y gweithlu gael ei chwblhau all-lein a gan sawl un bynnag a ddymunwch yn eich sefydliad. Gall y daenlen gael ei chwblhau mewn sawl sesiwn a gan fwy nag un person cyn iddi gael ei lanlwytho yn ôl i’ch datganiad blynyddol.
Nid oes angen i chi fod yn Unigolyn Cyfrifol nac yn Swyddog Sefydliadol i lenwi’r daenlen ei hun, sy’n golygu eich bod yn gallu ei rhannu â chydweithwyr sy’n dal y wybodaeth berthnasol, megis staff adnoddau dynol neu reolwyr.
6.8 Pwy sydd angen lanlwytho’r daenlen wedi’i chwblhau am y gweithlu?
Unwaith y bydd y daenlen wedi’i chwblhau, rhaid iddi gael ei lanlwytho’n ôl i’r datganiad blynyddol gan Unigolyn Cyfrifol neu Swyddog Sefydliadol sydd â chyfrif AGC Ar-lein gweithredol. Dim ond Unigolyn Cyfrifol neu Swyddog Sefydliadol a all gwblhau’r cam hwn.
6.9 Pryd y bydd angen i mi lanlwythu’r daenlen am y gweithlu?
Rhaid i’r daenlen wedi’i chwblhau gael ei lanlwytho i’ch datganiad blynyddol cyn i chi ei chyflwyno. Ni allwch gyflwyno eich datganiad blynyddol heb gwblhau’r cam hwn.
6.10 Beth fydd yn digwydd os bydd gwall yn fy nhaenlen gweithlu?
Pan fyddwch yn lanlwytho eich taenlen wedi'i chwblhau, bydd y system yn gwirio'r data yn awtomatig. Os bydd yn nodi unrhyw wallau, byddwch yn cael neges yn dweud wrthych yn union pa adrannau sydd angen eu cywiro. Ni fyddwch yn gallu cyflwyno eich datganiad blynyddol nes y bydd unrhyw wallau wedi cael eu datrys a'r daenlen wedi'i lanlwytho'n llwyddiannus.
6.11 A allaf gadw’r hyn a lenwyd gennych a dychwelyd at y daenlen am y gweithlu yn ddiweddarach?
Bydd. Fel gyda gweddill y datganiad blynyddol, gallwch gadw’r hyn a lenwyd gennych a dychwelyd ato dros sawl sesiwn cyn ei lanlwytho’n ôl i’r datganiad blynyddol.
7. Iaith
7.1 Ym mha iaith y dylwn gwblhau’r datganiad blynyddol?
Gall darparwyr gwasanaethau annibynnol ddewis cwblhau a chyhoeddi eu datganiad blynyddol yn Gymraeg yn unig, yn Saesneg yn unig, neu yn y ddwy iaith. Os byddwch yn dewis cyhoeddi yn y ddwy iaith, bydd y system yn cynhyrchu’r cwestiynau y mae angen eu cwblhau yn y ddwy iaith yn awtomatig a bydd yn cynhyrchu fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg o’ch datganiad blynyddol ar adeg cyhoeddi.
Bydd angen i chi roi ymatebion yn y ddwy iaith ar gyfer unrhyw gwestiynau dwyieithog.
O dan Safonau’r Gymraeg mae’n ofynnol i bob awdurdod lleol ddarparu gwybodaeth i’r cyhoedd yn Gymraeg ac yn Saesneg.
8. Ar ôl cyflwyno eich datganiad blynyddol
8.1 Unwaith y bydd y datganiad blynyddol wedi’i gyflwyno, a oes modd ei newid?
Mae AGC yn disgwyl i ddarparwyr wirio cynnwys eu datganiad blynyddol a chytuno arno cyn ei gyflwyno. Unwaith y bydd y datganiad blynyddol wedi'i gyflwyno, nid oes modd ei newid. Os credwch fod y datganiad blynyddol a gyflwynwyd gennych yn cynnwys camgymeriad, cysylltwch ag AGC mor fuan â phosibl ar 0300 7900 126.
8.2 Beth mae AGC yn ei wneud gyda’r wybodaeth a ddarparaf yn fy natganiad blynyddol?
Prif ddiben y datganiadau blynyddol yn rhoi gwybodaeth gynhwysfawr, gymaradwy a chadarn i'r cyhoedd am ansawdd gwasanaethau gofal a chymorth. Mae'r wybodaeth a ddarparwch hefyn yn galluogi AGC i goladu a chyhoeddi data a gwybodaeth ar lefel section y gellir eu defnyddio i gael dealltwriaeth a llywio gwaith cynllunio lleol a chenedlaethol. O 2026, bydd data hefyn yn cael ei rhannu â Gofal Cymdeithasol Cymru fel rhan o'r broses casglu data unedig.
8.3 A fydd y wybodaeth a ddarparaf yn cael ei storio at y dyfodol?
Bydd. Bydd y wybodaeth a ddarparwch yn y datganiad blynyddol eleni yn cael ei storio yn systemau AGC. Mae hyn yn golygu y bydd rhai darnau o wybodaeth yn cael eu rhagboblogi mewn datganiadau blynyddol a hysbysiadau eraill yn y dyfodol, sy’n lleihau faint o ddata y bydd angen i chi eu mewngofnodi dros amser.
8.4 Sut y bydd AGC yn cadarnhau fy mod wedi cyhoeddi fy natganiad blynyddol?
Mae AGC yn bwriadu samplu gwefannau darparwyr ar hap. Bydd datganiadau blynyddol hefyd yn cael eu cadarnhau fel rhan o’n gwaith cynllunio a dadansoddi cyn arolygiad.
9. Help a chymorth
9.1 Ble y gallaf gael canllawiau ar gwblhau a chyhoeddi fy natganiad blynyddol?
Mae rhagor o wybodaeth a chanllawiau ar gwblhau eich datganiad blynyddol ar gael ar wefan AGC yn Datganiad blynyddol | Arolygiaeth Gofal Cymru.
9.2 Gyda phwy y gallaf gysylltu os bydd gennyf gwestiynau?
Cysylltwch ag AGC drwy e-bost yn agc@llyw.cymru neu drwy ffonio 0300 7900 126.