Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Defnyddio’r ardal allanol i wella medrau plant

Mae gan y tîm ddisgwyliadau uchel ohonynt eu hunain ac maent yn cydweithio’n effeithiol i sicrhau gwelliannau i’r amgylchedd.

Coats and bags hung up on pegs in a primary school

Gwybodaeth am y lleoliad

Lleoliad cyfrwng Cymraeg yw Cylch Meithrin Pontrhydfendigaid wedi’i leoli mewn neuadd gymunedol. Cynigir gofal dydd llawn ar gyfer plant rhwng dwy a phedair oed am bum niwrnod yr wythnos yn ystod tymhorau’r ysgol.

Mae’r lleoliad wedi’i gofrestru i dderbyn 16 o blant, ac roedd 10 o blant yn derbyn addysg y blynyddoedd cynnar wedi’i hariannu ar adeg yr arolwg. Mae’r mwyafrif o blant yn dod o gartrefi lle nad yw’r rhieni yn siarad Cymraeg.

Mae’r lleoliad yn ganolbwynt i’r gymuned glos ac unigryw hon. Mae’r brif ystafell yn fach ond maent wedi cydweithio gyda’r gymuned i ddatblygu’r ardal allanol ymhellach. Mae’r ardal allanol ar gael i’r plant drwy gydol y sesiwn. Mae’r arweinydd yn ei swydd ers Hydref 2020.
 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Un o gryfderau’r lleoliad yw’r berthynas ryngweithiol sydd ganddynt gyda’r gymuned. Trwy gydweithio gyda phwyllgor y neuadd, pwyllgor y tîm pêl droed a rhieni’r plant, aeth y gymuned ati i ymestyn amgylchedd allanol y lleoliad. Trwy waith cydwybodol arweinwyr a’r tim cyfan, datblygwyd yr ardal allanol i greu amgylchedd o safon sy’n hyrwyddo medrau penodol ac ennyn chwilfrydedd plant. Mae gan y tîm ddisgwyliadau uchel ohonynt eu hunain ac maent yn cydweithio’n effeithiol i sicrhau gwelliannau i’r amgylchedd. Defnyddiwyd y gyllideb a grantiau yn effeithlon, gan greu adnoddau ysgogol i hyrwyddo profiadau cyffrous, uchelgeisiol a pherthnasol ar gyfer y plant. Mae rôl y gymuned yn allweddol wrth greu ardal allanol o safon uchel sy’n cael effaith gadarnhaol ar brofiadau dysgu’r plant. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Wrth gynllunio’r ardal allanol, mae’r ymarferwyr wedi llwyddo i gyfuno diddordebau plant ynghyd ag ymestyn medrau ac annibyniaeth. O ganlyniad, mae’r plant yn datblygu hyder i wneud penderfyniadau aeddfed am eu chwarae a'u dysgu. Maent yn archwilio’r ystod eang o ardaloedd sydd ar gael yn hyderus ac yn addasu’r adnoddau yn ôl eu diddordebau. Er enghraifft, wrth addasu’r car mawr i fod yn fan waith ar gyfer adeiladwyr. Mae’r plant yn gwneud penderfyniadau i ychwanegu adnoddau neu offer technolegol at y ddarpariaeth yn gwbl annibynnol.  Maent wrth eu boddau’n defnyddio apiau i dracio awyrennau sy’n hedfan uwchben y lleoliad tra’n eistedd mewn awyren bren yn yr ardal allanol. Yna, maent yn archwilio’r glôb gan esgus hedfan i wledydd eraill. Datblygwyd rhai o’r adnoddau trwy gyd-weithio gyda busnesau lleol ac mae’r adnoddau yn hyrwyddo annibyniaeth a medrau’r plant yn llwyddiannus. 

Mae’r lleoliad wedi sicrhau bod yr adnoddau yn y ddarpariaeth allanol yn cynnig lefel dda o her i ymestyn medrau’r plant. O ganlyniad, mae’r plant yn gwneud penderfyniadau’n annibynnol ar sut yr hoffent ddefnyddio’r offer a pha lefel o sialens a her sydd yn fwyaf addas iddynt. Er enghraifft, mae’r plant yn dewis sut maent am ddefnyddio’r offer dringo.

Mae’r arweinydd yn sicrhau ei bod yn manteisio ar arbenigedd y staff a phobl yn y gymuned wrth wella medrau plant. Mae’r ymarferwyr yn greadigol wrth ddefnyddio adnoddau wedi’u hailgylchu i greu adnoddau dychmygus sydd o ddiddordeb i’r plant. Er enghraifft maent yn creu cobiau Cymreig allan o ddarnau pren dros ben ac yn creu pwmp tanwydd neu drydan ar gyfer ceir chwarae rôl. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r datblygiadau yn yr amgylchedd allanol wedi cael effaith cadarnhaol ar ymddygiad a lles y plant. Maent yn gartrefol, eiddgar a hollol hyderus wrth ddefnyddio’r ystod eang o adnoddau yn yr amgylchedd. Mae’r adnoddau penagored yn cynnig cyfleoedd amrywiol iddynt chwarae ac mae’r cyfleoedd yn newid yn ôl diddordebau a creadigrwydd y plant. Wrth wneud dewisiadau drostynt eu hunain mae’r plant yn fwy awyddus i gyfathrebu ac mae cyffro digymell i siarad gydag eraill. Mae’r adnoddau hefyd wedi cynnig cyfleodd i ymestyn y siaradwyr hyderus gan greu sefyllfaoedd i gyfoethogi a dyfnhau dealltwriaeth iaith. Er enghraifft, maent yn trafod cyflwr y silwair neu wrth adnabod adar ysglyfaethus yr ardal.
 
Mae cyfleoedd i wneud ystod o benderfyniadau ynglŷn â’u dysgu yn yr ardal allanol wedi cael effaith ar fedrau dyfalbarhad y plant wrth iddynt ganolbwyntio am gyfnodau estynedig. Gall yr ymarferwyr rhyngweithio gyda’r plant yn gelfydd wrth eu hannog i ymestyn eu syniadau ac wrth hyrwyddo annibyniaeth y plant i wneud penderfyniadau. Er enghraifft, mae’r plant yn deall bod rhaid cael sment er mwyn adeiladu wal, felly maent yn nôl yr ewyn eillio i ddynwared y sment wrth adeiladu’r wal yn annibynnol. Mae’r plant wedi perchnogi’r ardaloedd ac yn gwbl hyderus wrth ystyried bod yr holl adnoddau ar gael iddynt drwy’r sesiwn.  Os nad oes rhywbeth ar gael iddynt,  maent yn gwybod bod posib ei greu.

Sut ydych wedi rhannu eich arfer dda?

Rhennir arfer dda gyda’r sector nas cynhelir ac ysgolion o fewn yr awdurdod lleol, mewn hyfforddiant sirol ar fodiwlau dysgu sylfaen. Defnyddir profiadau’r lleoliad i enghreifftio egwyddorion ymarferol o ddilyn trywydd diddordebau’r plant, a’r modd y mae hyn yn cael effaith uniongyrchol ar fywydau’r plant, ar eu hyder, eu medrau a’u lles.