Dileu elw o ofal plant
Wrth i Gymru symud i ddileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal, rydym yma i gefnogi darparwyr gofal a chynnig arweiniad.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 a fydd yn dileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru. Bydd hyn yn effeithio ar y ffordd y caiff rhai gwasanaethau gofal eu darparu yn y dyfodol.
Gallwch ddod o hyd i'r manylion llawn am y ddeddfwriaeth a'r broses o ailsefydlu fel model nid-er-elw ar wefan Newid i fodelau gofal nid-er-elw ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru Llywodraeth Cymru [dolen allanol].
Sut bydd y newidiadau yn cael eu rhoi ar waith?
Bydd y ddeddfwriaeth yn cael ei rhoi ar waith fesul cam:
O 1 Ebrill 2026
Ni chaniateir unrhyw ddarparwyr newydd er elw. Bydd y cyfyngiadau canlynol yn dod i rym:
- Ni fydd unrhyw ddarparwyr newydd er elw sy’n darparu gwasanaethau plant o dan gyfyngiad (gwasanaethau cartrefi gofal i bant, gwasanaethau llety diogel a gwasanaethau maethu) yn gallu cofrestru gydag AGC
- Ni fydd unrhyw ddarparwyr preifat sy'n bodoli eisoes sy'n darparu gwasanaethau plant o dan gyfyngiad yn gallu amrywio eu cofrestriad i ychwanegu gwasanaeth plant o dan gyfyngiad arall
- Rhaid i unrhyw un sy'n dymuno cofrestru gwasanaeth plant cyfyngedig fod wedi'i gofrestru fel un o'r pedwar model busnes hyn, wedi'u cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru:
- Cwmni elusennol cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannau
- Sefydliad corfforedig elusennol
- Cymdeithas gofrestredig elusennol
- Cwmni buddiant cymunedol cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannau
O 1 Ebrill 2027
Ni chaiff y ddarpariaeth bresennol er elw ei hehangu. Bydd y cyfyngiadau canlynol yn dod i rym:
- Ni fydd darparwyr er elw presennol sy’n darparu gwasanaethau cartrefi plant, gwasanaethau llety diogel a gwasanaethau maethu yn gallu ychwanegu unrhyw welyau na gofalwyr maeth ychwanegol
- Ni fydd gwasanaethau maethu bellach yn gallu cymeradwyo gofalwyr maeth newydd
O 1 Ebrill 2030
Cyfyngiadau ar leoliadau o fewn darpariaeth bresennol er elw. Bydd y cyfyngiadau canlynol yn dod i rym:
- Ni all awdurdod lleol yn Lloegr leoli plant dan ofal sefydliad er elw yng Nghymru ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol (i'w hamlinellu yn y rheoliadau)
- Dim ond â cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru y bydd awdurdodau lleol yng Nghymru yn gallu lleoli plant sy'n derbyn gofal mewn gwasanaeth er elw presennol yng Nghymru drwy’r broses lleoliadau atodol a nodir yn Neddf 2025
- Rhaid i awdurdodau lleol Cymru gael cymeradwyaeth y Gweinidog drwy’r broses lleoliadau atodol a nodir yn Neddf 2025 cyn gwneud unrhyw leoliadau newydd mewn gwasanaethau cartrefi plant, gwasanaethau llety diogel neu gwasanaethau maethu yn Lloegr, oni bai bod y lleoliad o fewn darpariaeth sy'n cael ei rhedeg gan yr awdurdod lleol.
Sut y byddwn yn cefnogi darparwyr gofal
Byddwn yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi'r broses o roi'r ddeddfwriaeth hon ar waith. Rydym yma i'ch helpu i ddeall yr hyn y mae'r newidiadau yn ei olygu i'ch gwasanaeth.
Byddwn yn:
- darparu cyngor ac arweiniad i wasanaethau RISCA presennol ar sut y bydd y ddeddfwriaeth yn berthnasol iddynt.
- cyflwyno proses gofrestru symlach i ddarparwyr sydd wedi'u cofrestru ar hyn o bryd ac sy'n dymuno ail-gofrestru fel gweithrediadau nid-er-elw.
- cynnal cymorthfeydd cynghori yn nes ymlaen eleni, gan gynnig cymorth uniongyrchol ac ateb eich cwestiynau am y broses drosglwyddo.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am sut y gall y newidiadau effeithio ar eich gwasanaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy ein blwch post AGC – Dileu Elw.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i gofrestru neu ychwanegu gwasanaeth neu le gwasanaethau: 9 Ionawr 2026
Rydym yn bwriadu gwneud darpariaethau (y cyfeirir atynt fel darpariaethau trosiannol neu arbedion) er mwyn galluogi darparwyr i gael eu trin fel petai'r ddeddfwriaeth flaenorol yn gymwys iddynt os caiff eu cais i gofrestru neu amrywio eu cofrestriad i ychwanegu gwasanaeth neu le ei gyflwyno i AGC erbyn 9 Ionawr 2026.
Mae risg y caiff ceisiadau gan ymgeiswyr a fydd yn cyflwyno eu cais ar ôl y dyddiad hwn eu gwrthod yn sgil y gofynion adran 6A newydd a fydd yn dod i rym (sy'n ei gwneud yn ofynnol i unigolyn nad yw'n awdurdod lleol fod yn endid nid-er-elw er mwyn gallu cofrestru mewn perthynas â chartref gofal i blant, gwasanaeth maethu neu wasanaeth llety diogel) o 1 Ebrill pan gaiff eu cais ei ystyried.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau neu os bydd angen rhagor o gymorth arnoch, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy ein blwch post AGC – Dileu Elw.
Ymgynghoriad: Dileu elw o ofal plant
Daeth ymgynghoriad canlynol Llywodraeth Cymru i ben ar 8 Hydref 2025:
- Dileu elw o ofal plant [dolen allanol]
- Newidiadau arfaethedig i ddatganiadau blynyddol darparwyr a cheisiadau i ganslo cofrestriadau [dolen allanol]
- Rheoliadau arfaethedig ar gyfer taliadau uniongyrchol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol [dolen allanol]
Mae ymatebion i'r ymgynghoriadau hyn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniadau yn cael eu cyhoeddi maes o law.
Adnoddau a chefnogaeth
Cyflwyniad o Fforwm Darparwyr AGC – Medi 2025
Yn ddiweddar, cynhaliodd Arolygiaeth Gofal Cymru fforwm i ddarparwyr ar y newidiadau sydd ar ddod. Gallwch lawrlwytho’r cyflwyniad a ddefnyddiwyd yn ystod y digwyddiad isod:
Cyflwyniad Fforwm Darparwyr AGC ar ddileu elw o ofal plant
Cwmpas
Os ydych yn ystyried trosglwyddo i fodel busnes nid-er-elw, rydym yn argymell cysylltu â Cwmpas am gymorth.
Dogfennau
-
Dileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal: Cwestiynau cyffredin , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 778 KBPDF, Maint y ffeil:778 KB