Diwallu anghenion pob un o’r plant, yn enwedig y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol
Mae pob un o’r staff yn angerddol am sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed, a bod rhwystrau rhag cael mynediad a chynhwysiant yn cael eu dileu, gan roi cyfle cyfartal i bob un o’r plant yn eu gofal.
Gwybodaeth am y lleoliad
Mae Rachael’s Playhouse yn Aberdâr yn wasanaeth gofal dydd llawn sy’n cynnig gofal ac addysg i blant rhwng 18 mis a 5 mlwydd oed. Mae’r lleoliad yn ddwyieithog. Mae’n lleoliad cofrestredig Dechrau’n Deg ac yn ddarparwr addysg nas cynhelir. Mae’r lleoliad yn canolbwyntio ar y plentyn ac yn cynnig llif rhydd parhaus sy’n galluogi plant i gael mynediad bob amser at yr amgylchedd dysgu y maen nhw’n ei ffafrio. Mae Rachael’s Playhouse yn rhoi lle plant a staff yn ganolog i’w arferion.
Dechreuodd Hannah a Rachael, sef yr unigolion cyfrifol, eu menter gofal plant yn warchodwyr plant yn gweithio o dŷ Rachael. Wedyn, aeth y ddwy ohonynt ymlaen i gwblhau gradd mewn Gofal Plant ac Addysg Gynnar. Maent wedi pwysleisio’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth a gawsant o’r cymhwyster a sut mae hyn wedi dylanwadu ar eu harfer. Ar ôl iddynt gwblhau’r radd, cododd cyfle i ehangu’r busnes. Agorodd Hannah a Rachael eu meithrinfa gyntaf yn Aberdâr ym mis Mehefin 2018. Roedd yr arweinwyr yn rhannu angerdd i blant dderbyn gofal ac addysg o’r safon orau, i sicrhau bod sylfeini cryf yn cael eu gosod, sy’n ysbrydoli dysgu a datblygiad parhaus yn y dyfodol. Cyn hir, sefydlwyd gweledigaeth glir ar y cyd, un sy’n hyblyg ac yn parhau i ddatblygu er mwyn ymateb i ymchwil ac addysg ddiweddar.
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol
Mae Rachael’s Playhouse yn angerddol am sicrhau bod anghenion unigol pob un o’r plant yn cael eu diwallu yn ystod pob sesiwn. Mae ganddo ddealltwriaeth gref fod pob plentyn yn wahanol, a bod pob un ohonynt yn dysgu a datblygu mewn gwahanol ffyrdd ar eu cyflymdra eu hunain. Mae wedi creu amgylchedd sy’n hamddenol ac yn sicrhau bod pob plentyn yn cael ei gynorthwyo a’i feithrin yn ei gam datblygiadol presennol. Mae’r arweinwyr wedi meithrin dealltwriaeth ymhlith staff fod pob plentyn yn unigryw, a bod meithrin perthnasoedd cryf rhwng plant ac addysgwyr yn hanfodol wrth gynorthwyo pob un o’r plant yn eu gofal. Maent yn rhoi pwyslais cryf ar weithio mewn partneriaeth, lle caiff rhieni a gofalwyr eu hannog i ymgysylltu a chyfrannu at gyfleoedd a phrofiadau dysgu eu plentyn.
Yn y blynyddoedd diwethaf, bu cynnydd yn nifer y plant sy’n mynychu’r ddarpariaeth yn Rachael’s Playhouse sydd ag anghenion sy’n dod i’r amlwg neu anghenion posibl sy’n dod i’r amlwg. Mae hyn wedi ysbrydoli arweinwyr yn y lleoliad i sicrhau bod pob un o’r staff wedi cael hyfforddiant arbennig o dda, yn addysgedig ac wedi’u cymell i sicrhau bod pob un o’r plant yn cael y cymorth cywir i gyrraedd eu llawn botensial a ffynnu. Mae pob un o’r staff yn angerddol am sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed, a bod rhwystrau rhag cael mynediad a chynhwysiant yn cael eu dileu, gan roi cyfle cyfartal i bob un o’r plant yn eu gofal.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch
Mae’r lleoliad yn sicrhau bod pob un o’r plant yn ei ofal yn derbyn cymorth i ddiwallu eu hanghenion unigol. Mae gan y plant lais cryf lle mae staff yn gwrando’n astud ac yn deall beth sydd ei angen a’i eisiau ar bob plentyn. Mae staff yn ymestyn eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth yn barhaus i gynorthwyo pob plentyn. Mae staff wedi elwa ar ystod eang a gwerthfawr o hyfforddiant yn gysylltiedig â datblygiad, lles ac ymddygiad plant. Erbyn hyn, mae’r lleoliad yn defnyddio ymagwedd gyffredinol at sicrhau bod pob un o’r staff yn fedrus a hyderus yn cynorthwyo plant. Caiff staff eu lleoli mewn ardaloedd o’r lleoliad, a phan fydd plentyn yn mynd i’r ardal, mae staff yn deall sut i gyfathrebu’n effeithiol i hyrwyddo datblygiad pob plentyn. Ar laniardiau staff, mae targedau personol ar gyfer plant sydd angen cymorth ychwanegol, sydd fel arfer yn cynnwys strategaethau o’u cynlluniau chwarae neu’u cynlluniau datblygu unigol. Mae’r broses hon yn sicrhau bod strategaethau i hyrwyddo datblygiad yn cael eu defnyddio’n barhaus trwy gydol y sesiwn. Mae pob un o’r staff yn ymwybodol o’r plant y mae angen eu herio, ac fe gaiff gweithgareddau neu ysgogiadau eu cynllunio i gefnogi datblygiad cyfannol pob plentyn yn briodol. Caiff perthnasoedd cryf eu meithrin rhwng plant a staff. Mae hyn yn ffactor arwyddocaol i sicrhau bod addysgwyr wedi’u harfogi i gynorthwyo pob plentyn yn effeithiol gan fod pob un o’r staff yn adnabod pob un o’r plant yn eithriadol o dda.
Mae ystafell bontio yn y lleoliad, a phrofwyd bod yr ystafell yn hanfodol wrth sicrhau bod lles pob un o’r plant yn cael ei ystyried. Nid yw’r ystafell bontio yn rhan o’r amgylchedd llif rhydd, ac felly ni chaiff ei defnyddio fel ystafell gofal dydd.
Defnyddir yr ystafell ar gyfer plant sy’n pontio. Gall rhieni ddod i mewn a chymryd rhan mewn sesiynau chwarae yn yr ystafell gyda gweithiwr allweddol eu plentyn. Mae’r ystafell yn hynod fuddiol ar gyfer plant sy’n cael trafferth yn yr amgylchedd llif rhydd, oherwydd gall hyn fod yn llethol i rai ohonynt. Mae plant yn dechrau eu cyfnod yn yr ystafell bontio ac wedyn yn cael eu cyflwyno’n raddol i’r amgylchedd llif rhydd. Mae staff yn y lleoliad wedi sylwi bod hyn yn cynorthwyo’r plentyn i gael cyfnod pontio pwyllog ac esmwyth i’r lleoliad, tra’n cadw’r lefelau sŵn i lawr yn yr amgylchedd llif rhydd hefyd fel nad yw plant yn mynd yn ofidus. Mae rhai plant yn defnyddio’r ystafell bontio yn ystod y sesiwn pan fyddant yn chwilio am ardal dawel a phwyllog. Mae arweinwyr yn y lleoliad yn rhagweithiol iawn o ran sicrhau bod yr amgylchedd yn diwallu anghenion pob un o’r plant. Er enghraifft, yn ddiweddar, maent wedi troi eu hystafell staff yn ystafell ymlacio ar gyfer plant ac yn ystafell les ar gyfer staff. Defnyddir yr ystafell pan fydd plant yn ddigalon neu’n gofidio ac i helpu’r plant â hunanreoli. Mae dogfennau “popeth amdanaf i” effeithiol ar waith ar gyfer pob plentyn, a gwahoddir rhieni ac amrywiaeth o asiantaethau i gyfrannu, fel y bo’n briodol.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau plant?
Mae lles pob un o’r plant wedi gwella ers addasu yn unol â gweithdrefnau newydd ar ôl rhoi’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol ar waith. Mae oedolion yn gwrando ar farn pob un o’r plant ac yn ystyried eu barn, eu diddordebau a’u lleisiau’n llawn. Erbyn hyn, mae staff wedi’u harfogi’n fwy i adnabod a dilysu teimladau’r plant a’u helpu i ddod o hyd i ffyrdd o fynegi’u hunain, a dechrau rheoli eu hemosiynau. Mae ymarferwyr yn fwy abl i gefnogi ac ymateb yn sensitif i gyfathrebu geiriol a dieiriau ac yn defnyddio ystod o strategaethau i gefnogi dealltwriaeth o iaith. Gall y lleoliad gynnal amgylchedd anogol tawel tra’n cynorthwyo nifer o blant ag anghenion sy’n dod i’r amlwg, hefyd. Mae adborth gan rieni wedi awgrymu eu bod yn teimlo y cânt eu cynnwys yn nhaith ddysgu eu plentyn. Mae lles staff wedi gwella, ac mae pob un o’r staff yn teimlo’u bod yn gweithio mewn amgylchedd hapus a diogel.
Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?
Rhannwyd yr arfer trwy gyflwyniadau i leoliadau eraill yn Rhondda Cynon Taf.