Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Dysgu a datblygu trwy chwarae

Mae’r staff yn cydweithio’n dda â’i gilydd i sicrhau y caiff gweithgareddau ac adnoddau eu cynllunio gan ddefnyddio diddordebau’r plant a sgemâu fel man cychwyn.

nursery children sitting and singing

Gwybodaeth am y lleoliad

Mae Camrose and Roch Playgroup yn gylch chwarae cyfrwng Saesneg ym mhentref Pelcomb. Mae’n croesawu plant rhwng dwy a phedair oed, bum bore’r wythnos yn ystod tymor yr ysgol yn unig. Ar hyn o bryd, mae gan y lleoliad blant ag ieithoedd ychwanegol ac mae hyn wedi cyfoethogi’r cyfleoedd i bawb ddysgu ieithoedd.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Yn Camrose and Roch Playgroup, y nod yw cynnig amgylchedd gofalgar, cynnes a diogel lle gall plant dyfu, dysgu a datblygu trwy chwarae. Mae’r lleoliad yn gwerthfawrogi syniadau a chyfareddau’r plant ac yn gwrando ar yr hyn sydd ganddynt i’w ddweud. Mae’r staff yn cydweithio’n dda â’i gilydd i sicrhau y caiff gweithgareddau ac adnoddau eu cynllunio gan ddefnyddio diddordebau’r plant a sgemâu fel man cychwyn. Mae’r lleoliad yn cynnig profiadau gwerthfawr dros ben i’r plant dan do ac yn yr ardaloedd awyr agored. Mae’r plant yn ffodus bod ganddynt eu coetir eu hunain sy’n cael ei ddefnyddio’n helaeth. Mae’r plant yn cael digon o gyfleoedd i adolygu eu medrau yn yr amgylchedd dysgu. Gwna’r staff gynnydd da iawn o ran cefnogi’r plant i ddatblygu’r Gymraeg.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae’r lleoliad yn anelu’n gyson i wella medrau iaith a chyfathrebu’r plant trwy ganeuon, rhigymau ac amser stori dyddiol. Defnyddiodd y lleoliad ‘Wythnos Rhigymau’r Byd’ fel ffocws a rhoddwyd cynlluniau hyblyg ar waith i rannu amrywiaeth o rigymau traddodiadol. Canolbwyntiodd staff a’r plant ar eu hoff rigymau yn y Gymraeg a rhai rhigymau newydd i’r plant eu dysgu hefyd. Sefydlwyd ‘sbardunau’ yn yr amgylchedd i’r plant eu harchwilio ac roeddent yn gallu dychwelyd i’r profiadau hyn yn rhwydd. Ychwanegwyd chwilfrydedd, rhyfeddod a syndod a llifodd y cyfleoedd iaith pan fu raid i’r plant chwilio am y llygoden fach o ‘Adeiladu Tŷ Bach’, a oedd wedi diflannu o’i thŷ. Datblygodd sgyrsiau mathemategol cyfoethog yn naturiol wrth i’r plant sgwrsio â’r staff am sawl cacen o feintiau gwahanol roeddent wedi’u gwneud. Defnyddiont glorian â’r diben o weld pwy oedd â mwy o does gan gysylltu â’r rhigwm ‘Pat-a-cake, Pat-a-cake’. Roedd ‘Hickory Dickory Dock’ yn annog cyfrif a medrau adnabod rhifau, wrth i’r plant wneud eu cloc eu hunain gan ddefnyddio adnoddau naturiol fel cerrig mân a broc môr. Darparodd ‘Incy Wincy Spider’ gyfleoedd i ragfynegi a datrys problemau wrth i’r plant archwilio sut i symud pryfed cop/corynnod ar hyd y beipen law. Roedd yr ardal flociau yn galluogi’r plant i greu eu tŷ eu hunain i lygoden fach. Cafodd y plant gyfleoedd i chwarae rôl â chelfi o ‘Sing a Song of Sixpence’, gan ddynwared y Brenin yn cyfrif ei arian neu’r forwyn yn rhoi’r dillad ar y lein. Heriodd yr oedolion sy’n galluogi anghenion amrywiol y plant ac ychwanegu at eu profiadau.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi ei gael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Yn y lleoliad, mae’r plant yn dewis eu gweithgareddau’n annibynnol ar eu cyflymder eu hunain. Trwy gynnig cyfleoedd dysgu sy’n gysylltiedig â rhigymau cyfarwydd, mae’r plant yn llawn cymhelliant ac yn ymgysylltu’n dda gan fod y dysgu’n ystyrlon iddynt, gan adeiladu ar eu hyder a’i hunan-barch. Caiff y rhigymau â ffocws eu hatgyfnerthu yn ystod amser canu dyddiol. O ganlyniad, mae’r plant yn datblygu cariad tuag at rigymau a chanu.  

Mae staff yn arsylwi sut mae plant yn defnyddio adnoddau a gweithgareddau ac yn dilyn eu harweiniad wrth symud ymlaen i rywbeth newydd neu sylwi sut y gellid datblygu dysgu ymhellach. Mae’r staff yn adnabod y plant yn dda ac, o ganlyniad, gallant gynnig heriau priodol ar gyfer y camau nesaf yn eu dysgu. Mae plant yn mynd at ôl at weithgareddau’n annibynnol, gan arwain at ymgysylltiad dyfnach a chaniatáu amser i ddatblygu eu chwarae a’u dysgu.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae ymarferwyr yn bwriadu rhannu eu harfer dda â rhwydwaith lleoliadau dysgu sylfaen y lleoliad yn ei gyfarfod nesaf. Byddant hefyd yn rhannu eu cynlluniau ac yn cael cyfle i drafod eu hastudiaeth achos ag arweinwyr eraill. Mae’r lleoliad yn rhannu profiadau dyddiol y plant â rhieni a gofalwyr trwy ap ar-lein.