Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 1 Chwefror 2024
  • Newyddion

Gofynion hysbysu'r trefniadau Amddifadu o Ryddid ar gyfer cartrefi gofal plant

Rydym wedi llunio canllawiau i ddarparwyr ar Awdurdodaeth Gynhenid Gorchmynion Amddifadu o Ryddid yr Uchel Lys ar gyfer Plant.

Rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y plant sy'n destun gorchmynion Amddifadu o Ryddid sy'n byw mewn gwasanaethau cartrefi gofal yng Nghymru.

Felly, rydym wedi datblygu canllawiau i ddarparwyr cartrefi gofal i blant. Rydym wedi ysgrifennu’n uniongyrchol at y gwasanaethau hyn yr wythnos hon ynglŷn â hyn.

Mae'r canllawiau hyn yn amlinellu'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer y gorchmynion hyn, a chyfrifoldebau darparwyr gwasanaethau o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 wrth ddarparu gofal a chymorth i blentyn dan 18 oed y mae gorchymyn Amddifadu o Ryddid ar waith ar ei gyfer.

Yr hyn sydd angen i wasanaethau ei wneud

Os bydd plentyn sy'n destun gorchymyn Amddifadu o Ryddid yn dod i fyw mewn gwasanaeth cartref gofal i blant, mae'n rhaid i ddarparwyr gwasanaethau wneud y canlynol:

  • diweddaru Datganiad o Ddiben eu gwasanaeth a'i anfon atom drwy AGC Ar-lein;
  • cyflwyno'r hysbysiad “Gorchymyn Amddifadu o Ryddid gan yr Uchel Lys i Blant” – sydd ar gael o dan y categori hysbysiadau ‘Llesiant’ ar AGC Ar-lein

Cwestiynau?

Anfonwch e-bost i agc@llyw.cymru.