Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
Dogfen HTML

Graddau ar gyfer cartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref – saith mis yn ddiweddarach

TBC

Cyhoeddwyd: 4 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:
Argraffu

Rheoliadau newydd 

Cyflwynodd adran 35 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (RISCA) reoliadau sy'n caniatáu dyfarnu graddau yn dilyn arolygiad. 

Yn dilyn cam peilot a oedd yn cynnwys graddau mud a chyfnod o ymgynghori, cafodd y rheoliadau hyn eu rhoi ar waith drwy Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Graddau Arolygu) (Cymru) 2025. 

O 1 Ebrill 2025, dechreuodd CIW gyhoeddi graddau ar gyfer cartrefi gofal (i blant ac oedolion) a gwasanaethau cymorth cartref. 

Mae'r adroddiad hwn yn rhoi sylw i'r saith mis cyntaf o raddau a'r modd y maent wedi cael eu gweithredu. 

Manteision graddau

  • Mae graddau'n rhoi asesiadau clir, cyson a thryloyw o ansawdd gofal, gan helpu pobl, teuluoedd, a gweithwyr proffesiynol i wneud penderfyniadau gwybodus am wasanaethau gofal cymdeithasol.
  • Maent yn cynnig trosolwg hygyrch o ansawdd gwasanaethau, ac yn cefnogi dewisiadau hyderus a thrafodaethau gwybodus â darparwyr.
  • I ddarparwyr, mae graddau'n amlygu cryfderau, yn cymell gwelliant parhaus, ac yn tynnu sylw at ofal o ansawdd uchel, gan roi hwb i ysbryd staff a sicrhau cysondeb â safonau rheoleiddiol.
  • Mae graddau'n annog gwasanaethau i ganolbwyntio ar ganlyniadau i bobl, gan gefnogi gwelliant parhaus ac annog rhagoriaeth. 

Beth y mae'r data'n ei ddweud wrthym hyd yma? 

Rhwng 1 Ebrill a 31 Hydref rydym wedi arolygu 578 o wasanaethau: 

  • 310 - cartrefi gofal i oedolion
  • 117 - cartrefi gofal i blant
  • 151 - gwasanaethau cymorth cartref 

Yn dilyn y 578 o arolygiadau, rydym wedi cyhoeddi graddau ar gyfer 566 o wasanaethau: 

 RhagorolDaRhaid gwellaRhaid gwella'n sylweddol
Llesiant2153211812
Arweinyddiaeth a rheolaeth1493564516
Gofal a chymorth1713503312
Amgylchedd74322165
CYFANSYMIAU609134911245

Nid yw gwasanaethau cymorth cartref yn cael gradd ar gyfer 'Amgylchedd'

Mae'r data'n dangos, o blith y  2,115 o raddau a ddyfarnwyd, roedd 1,958 (92.5%) yn rhagorol neu'n dda, gan roi darlun cadarnhaol o wasanaethau ledled Cymru. Mae hyn yn awgrymu bod yna safon gyson uchel o ofal ledled y sector, ac mae tystiolaeth gref o arfer da a rhagorol. 

Dim ond nifer bach o wasanaethau y mae'n rhaid iddynt wella'n sylweddol. Lle y mae angen gwelliant, mae'n ymwneud ag arweinyddiaeth a rheolaeth y gwasanaeth gan amlaf. 

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb yng Nghymru'n cael gofal a chymorth diogel, o ansawdd uchel. Nid oedwn rhag gweithredu pan fydd gwasanaethau'n cwympo islaw'r safonau disgwyliedig. 

Adborth gan ddarparwyr

Rydym wedi ein calonogi gan yr adborth rydym wedi'i gael gan ddarparwyr. 

  • “Roedd y broses arolygu'n drylwyr, yn canolbwyntio ar agweddau pwysicaf y pedair thema, ac wedi'i chynnal mewn modd tryloyw, chwilfrydig, heb fod yn rhy farnol. Roedd hefyd wedi dangos bod AGC yn dymuno'n fawr i'n cartref lwyddo”.
  • “Roedd gan yr arolygydd agwedd barchus, wrthrychol a chytbwys drwy gydol y broses arolygu. Roeddem yn teimlo ein bod wedi cael y cyfle i gael ein clywed ac nad oeddem byth yn cael ein brysio. Mae cael arolygydd sy'n hawdd mynd ato ac sy'n dangos parch yn helpu i feithrin ymddiriedaeth”. 

Beth y mae AGC yn rhoi sylw iddo yn ystod arolygiadau? 

Gan weithio gydag ystod o ddarparwyr cartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref, adolygodd AGC ei fframwaith arolygu i gynnwys disgrifiadau clir o raddau cysylltiedig ag ansawdd. 

Mae ein harolygiadau'n canolbwyntio ar brofiadau pobl o ofal. Rydym yn asesu ansawdd a diogelwch gwasanaethau a'r canlyniadau i'r bobl sy'n defnyddio gwasanaethau. Rydym yn ystyried pedair thema yn ystod arolygiadau: 

  • Rydym yn asesu pa mor dda y mae'r bobl sy'n cael gofal a chymorth yn ei wneud, gan ganolbwyntio ar a ydynt yn cyflawni canlyniadau cadarnhaol yn eu bywydau.
  • Rydym yn archwilio ansawdd y gofal a'r cymorth a ddarperir, ac yn gwirio bod pobl yn cael gwasanaeth o ansawdd uchel a ddarperir gan staff gwybodus a medrus, a bod y gofal yn helpu pobl i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl.
  • Rydym yn rhoi sylw i'r lleoliad corfforol lle y darperir gofal a chymorth, ac yn sicrhau bod pobl yn byw mewn cartref diogel, glân, cyfforddus a chroesawgar, sy'n cael ei gynnal a'i gadw'n dda, ac sy'n cynnwys cyfarpar a dodrefn addas.
  • Rydym yn gwerthuso'r modd y caiff y gwasanaeth ei drefnu a'i reoli, ac yn ystyried a yw'r trefniadau sydd ar waith yn sicrhau bod gofal o ansawdd uchel yn cael ei ddarparu gan staff llawn cymhelliant mewn gwasanaeth a arweinir ac a reolir yn dda. 

Disgrifyddion graddau

O dan bob un o'r pedair thema arolygu , rydym wedi datblygu llinellau ymholi. Rydym wedi datblygu disgrifiadau o dan y rhain ar gyfer pob gradd bosibl i lywio darparwyr gwasanaethau ac arolygwyr. 

Rydym yn dyfarnu gradd i bob thema arolygu. Nid ydym yn dyfarnu un radd gyffredinol i'r gwasanaeth cyfan. 

Rhagorol 

Mae gradd "rhagorol" yn golygu bod y gwasanaeth, gydag eithriadau prin, yn neilltuol. Gallai hyn fod ar gyfer arweinyddiaeth eithriadol, ar gyfer gofal a chymorth sy'n rhoi pobl wrth wraidd popeth a wnânt, neu ar gyfer gwneud gwahaniaeth cadarnhaol sylweddol i lesiant pobl. 

“Mae'r cydberthnasau rhwng y plant a'r staff yn amlwg yn gadarnhaol ac yn llawn ymddiriedaeth. Mae ymdeimlad gwirioneddol o hwyl, chwerthin, a gofal ym mhob rhan o'r cartref. Mae'r tîm yn gweithio mewn modd sy'n ystyriol o drawma, ac yn cyfuno dull gweithredu caredig, gofalgar â ffiniau ac arweiniad clir. Mae hyn yn helpu'r plant i deimlo'n ddiogel”. 

“Nid yw'r staff yn osgoi sgyrsiau anodd. Maent bob amser yn cymryd yr amser i egluro'r hyn sy'n digwydd a'r hyn a ddisgwylir, gan wneud y cartref yn lle rhagweladwy a chysurlon i'r plant”. 

Da

Mae gradd 'da' yn golygu bod y gwasanaeth yn dda ac yn ofalgar yn gyson, a'i fod yn diwallu anghenion pobl drwy arferion dibynadwy ac iddynt ganlyniadau cadarnhaol. 

“Mae'r preswylwyr yn profi ymdeimlad cryf o lesiant drwy ddull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n rhoi gwerth ar urddas a dewis. Gwelodd yr arolygwyr ryngweithiadau cadarnhaol rhwng y preswylwyr a'r staff, ac roedd pawb yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ystyrlon megis nofio, ymweliadau ag amgueddfeydd, a theithiau cymunedol”. 

“Mae'r cartref yn gyfforddus ac wedi'i addasu i anghenion a chwaeth y preswylwyr, gydag ystafelloedd gwely wedi'u personoli ac ardaloedd cymunedol croesawgar sy'n meithrin annibyniaeth ac yn darparu digon o le ar gyfer gweithgareddau ac i ymlacio”. 

Rhaid gwella 

Mae'r radd hon yn golygu nad yw'r gwasanaeth yn bodloni'r safonau disgwyliedig weithiau, a bod yna arferion anghyson a meysydd y mae angen eu cryfhau i sicrhau diogelwch a llesiant pobl. 

“Nid yw'r asesiadau risg yn ddigon trylwyr ac nid ydynt yn dangos yn glir y risgiau i blant na'r modd y bydd y risgiau hynny'n cael eu rheoli”. 

“Nid oedd rhai o'r cynlluniau a welsom yn cynnwys digon o fanylder ac nid oeddent yn adlewyrchu anghenion pobl yn llawn nac yn amlinellu mesurau clir i reoli'r risgiau a nodwyd. Er bod y cynlluniau personol yn cael eu hadolygu'n fisol, dim ond peth tystiolaeth a welwyd bod y bobl neu eu cynrychiolwyr yn cymryd rhan yn y broses adolygu”. 

Rhaid gwella'n sylweddol

Mae'r radd hon yn golygu mai anaml y mae'r gwasanaeth yn effeithiol, bod ganddo arweinyddiaeth wan neu annigonol a bylchau sylweddol yn y gofal sy'n peryglu diogelwch a llesiant pobl. Mae'n golygu bod yn rhaid i ddarparwr y gwasanaeth gymryd camau ar unwaith i wneud gwelliannau. 

“Mae'r cofnodion dyddiol yn dangos nad yw gofal yn cael ei ddarparu'n unol â gofynion asesedig, gan danseilio llesiant corfforol ac emosiynol. Mae rhai aelodau o'r staff yn gweithio gydag unigolion heb ymwybyddiaeth lawn o'u hanghenion arbenigol, sy'n cynyddu'r risg o ddarparu gofal amhriodol”. 

“Nid yw'r darparwr wedi sefydlu goruchwyliaeth ddigonol i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei weithredu'n hwylus neu y darperir gofal o ansawdd uchel. Mae'r trefniadau llywodraethu a rheoli perfformiad yn dal i fod yn wan ac yn annibynadwy, gan arwain at systemau annigonol sydd wedi methu â nodi a rheoli risgiau sylweddol”. 

Beth sydd nesaf?

Byddwn yn parhau i gefnogi ein darparwyr gwasanaethau oedolion a phlant drwy ddefnyddio graddau. Pan fydd y graddau wedi'u hymgorffori a'r holl wasanaethau perthnasol wedi cael eu graddau (erbyn tymor yr hydref 2026) byddwn yn cynnal adolygiad annibynnol. Bydd yr adolygiad hwn yn ein caniatáu i ddeall yn well y modd y mae'r graddau'n gweithio'n ymarferol, pa dueddiadau sy'n dod i'r amlwg ledled y sector, a pha gymorth ychwanegol y mae ei angen. 

Enghreifftiau o 'Rhagorol'

Cartref Gofal Tŷ Llandaff: Taith at ragoriaeth

Yr her

Ym mis Hydref 2022, roedd y cartref gofal sydd 70 â o welyau'n wynebu rhwystrau sylweddol. Roedd dibyniaeth uchel ar staff asiantaeth yn tanseilio cysondeb a pharhad gofal. 

Roedd rhanddeiliaid allanol wedi mynegi pryderon am y safonau gofal, ac roedd niferoedd isel yn golygu bod rhannau sylweddol o'r cartref wadi bod ar gau am nifer o flynyddoedd. Roedd angen i'r gwasanaeth gael arweinyddiaeth gryfach, sefydlogrwydd gwell yn y gweithlu a ffocws o'r newydd ar ganlyniadau ansawdd. 

Y dull gweithredu

Dechreuodd y cartref ar daith gyson, gynaliadwy i'w drawsnewid ei hun: 

  • Adeiladu tîm parhaol
  • Buddsoddi mewn datblygiad staff
  • Cryfhau perthnasoedd allanol
  • Ymgorffori gwelliant parhaus
  • Blaenoriaethu gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn 
Yr effaith

Darparodd y gweddnewidiad hwn welliannau mesuradwy ledled pob agwedd ar ofal: 

  • Llai o dderbyniadau i'r ysbyty – Ni chafodd un preswylydd a chanddo gyflwr cymhleth hirdymor unrhyw dderbyniadau heb eu cynllunio i'r ysbyty am dros chwe mis yn sgil darparu trosolwg clinigol cryfach
  • Gwell symudedd ac annibyniaeth – Datblygodd preswylydd o orfod cael cymorth gan ddau unigolyn i symud yn ddiogel gydag un gofalwr yn sgil cynllun ymarfer corff wedi'i bersonoli
  • Llesiant emosiynol gwell – Mae preswylydd a oedd wedi mynd i'w gragen yn gymdeithasol bellach yn cymryd rhan mewn gweithgareddau dyddiol ac yn dweud ei fod yn "teimlo'n rhan o bethau eto"
  • Gofal diwedd oes gydag urddas – Mae teuluoedd yn canmol gofal lliniarol y cartref yn gyson, a disgrifiodd un perthynas wythnosau olaf ei anwylyd fel a ganlyn: "heddychlon, urddasol, a heb unrhyw ofid" 
Y canlyniad

I gydnabod gwelliannau dyfal o ran ansawdd, diogelwch a chanlyniadau, dyfarnodd AGC radd 'Rhagorol' i Tŷ Llandaff ar draws pob un o'r pedair thema. Mae'r cartref yn gweithredu hyd eithaf ei allu erbyn hyn ac mae ganddo dîm sefydlog o tua 120 o staff parhaol, hyder cryf gan ei randdeiliaid, a phreswylwyr sy'n ffynnu'n gorfforol, yn emosiynol ac yn gymdeithasol. 

Gwersi allweddol
  • Dechrau gyda'r arweinyddiaeth – Mae gweledigaeth glir, trosolwg cyson a chymorth gweladwy yn ysgogi newid diwylliannol
  • Buddsoddi yn eich gweithle – Mae datblygiad proffesiynol, cydnabyddiaeth ac amgylchedd cefnogol yn creu timau ymgysylltiol, llawn cymhelliant
  • Meithrin partneriaethau – Mae cydweithredu â rheoleiddwyr, comisiynwyr a gwasanaethau cymunedol yn cyflymu cynnydd
  • Cadw preswylwyr wrth galon popeth – Eu cynnwys wrth gynllunio gofal, cyfathrebu'n agored a gweithredu ar adborth
  • Bod yn amyneddgar ac yn gyson – Mae trawsnewid cynaliadwy yn cymryd amser, ond mae dathlu cerrig milltir a chanolbwyntio ar ganlyniadau hirdymor yn cyflawni canlyniadau hirhoedlog 
Yn hyn y dywedodd teuluoedd wrthym 
  • "Mae'r staff a'r cartref yn hollol wych ac yn werth y byd"
  • "Mae Tŷ Llandaff drwy'r to, mewn ffordd dda"

O botensial i ragoriaeth: Y modd y gwnaeth Cartref Plant Blaen y Waun drawsnewid gofal

Yr her

Pan ddechreuodd Unigolyn Cyfrifol Priority Childcare oruchwylio Blaen y Waun yn 2021, roedd gan y cartref plant sydd â dau wely staff gofalgar ond roedd yn brin o strwythur a chysondeb. Roedd y gwaith o gynllunio gofal yn anghyson, roedd yr asesiadau risg yn annigonol, ac, y pwynt hollbwysig yw, nid oedd lleisiau'r plant yn cael eu clywed mewn penderfyniadau am eu bywydau eu hunain. 

Y trobwynt

Roedd penodi rheolwr dynodedig ar gyfer y cartref wedi ysgogi newid. Gan weithio gyda rheolwyr rhanbarthol a rheolwyr sicrhau ansawdd, adeiladodd dîm hyderus ac ymgorfforodd systemau clir ac iddynt atebolrwydd cryf. Roedd y misoedd cyntaf yn canolbwyntio ar sefydlogi'r cartref a sefydlu gweledigaeth a rennir, sy'n canolbwyntio ar y plant, a hynny drwy hyfforddiant a goruchwyliaeth fyfyriol. 

Yr effaith

Cyn pen 18 mis, daeth Blaen y Waun yn amgylchedd diogel, magwrus lle y gall plant ffynnu. Mae'r gweddnewidiad yn amlwg yn y canlynol: 

  • Llesiant gwell: Mae arferion disgwyliadwy ac ymarfer ystyriol o drawma wedi gwella iechyd emosiynol, ymddygiad, ymgysylltiad addysgol ac annibyniaeth y plant
  • Plant wedi'u grymuso: Mae'r bobl ifanc yn cyd-greu eu gofal, gan lywio arferion, gweithgareddau a phenderfyniadau
  • Tîm hyderus: Datblygodd y staff o ymarfer anghyson i ddarparu gofal o ansawdd uchel â balchder
  • Rhagoriaeth reoliadol: Mae holl reoliadau AGC yn cael eu bodloni'n llawn erbyn hyn, ac mae systemau cadarn a chlir ar waith 
Y gwersi allweddol

Roedd gweddnewidiad go iawn yn gofyn am fwy na systemau - roedd yn mynnu arweinyddiaeth gref a bod y tîm yn cael ei ddatblygu ac y gwrandawir o ddifri ar blant. Dysgodd y gwasanaeth nad yw rhagoriaeth yn gyrchfan ond yn daith barhaus o fyfyrio, addasu ac esblygu. 

Fel y mae rheolwr y cartref yn egluro: daw rhagoriaeth o beidio byth â bodloni ar "ddigon da" a gofyn yn barhaus beth yn rhagor y gellir ei wneud i helpu plant i ffynnu.