Graddau ar gyfer cartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref - saith mis yn ddiweddarach
Mae'r adroddiad hwn yn adolygu saith mis cyntaf system graddau Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ar gyfer cartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref.
Mae'r system graddau, a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2025 yn dilyn Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Graddau Arolygu) (Cymru) 2025, yn darparu asesiadau clir a thryloyw o ansawdd gofal o dan bedair thema allweddol: llesiant, gofal a chymorth, yr amgylchedd, ac arweinyddiaeth a rheolaeth.
Mae'r canfyddiadau yn dangos gofal o safon gyson uchel ledled Cymru, gyda 92.5% o'r graddau a ddyfarnwyd yn rhai ‘rhagorol’ neu ‘da’.
Darllenwch yr adroddiad llawn isod.
Dogfennau
-
Graddau – saith mis yn ddiweddarach , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 4 MBPDF, Maint y ffeil:4 MB