Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 11 Rhagfyr 2025
  • Newyddion

Graddau ar gyfer cartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref - saith mis yn ddiweddarach

Darlun cryf o ofal o ansawdd ledled Cymru wrth i'r system graddau ymsefydlu.

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi cyhoeddi adolygiad o'r saith mis cyntaf o'i system graddau ar gyfer cartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref, sy'n dangos gofal o safon gyson uchel ledled Cymru.

Mae'r system graddau, a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2025 yn dilyn Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Graddau Arolygu) (Cymru) 2025, yn darparu asesiadau clir a thryloyw o ansawdd gofal o dan bedair thema allweddol: llesiant, gofal a chymorth, yr amgylchedd, ac arweinyddiaeth a rheolaeth.

Yr hyn y mae'r data yn ei ddangos

O blith y 2,115 o raddau a ddyfarnwyd o dan y pedair thema allweddol, roedd 1,958 (92.5%) yn rhagorol neu'n dda, gan roi darlun cadarnhaol o wasanaethau ledled Cymru. Dim ond nifer bach o wasanaethau y bu'n rhaid iddynt wella'n sylweddol. Lle roedd angen gwelliannau, roedd yn ymwneud ag arweinyddiaeth a rheolaeth y gwasanaeth gan amlaf.

Adborth gan y darparwyr

Roedd yr adborth gan y darparwyr yn galonogol. Dywedodd un darparwr: "Roedd y broses arolygu'n drylwyr, yn canolbwyntio ar agweddau pwysicaf y pedair thema, ac wedi'i chynnal mewn modd tryloyw, chwilfrydig, heb fod yn rhy farnol. Roedd hefyd wedi dangos bod AGC yn dymuno'n fawr i'n cartref lwyddo."

Beth sydd nesaf?

Bydd AGC yn parhau i gefnogi darparwyr gwasanaethau oedolion a phlant wrth i'r broses o gyflwyno graddau barhau. Pan fydd y graddau wedi'u hymgorffori a bod yr holl wasanaethau perthnasol wedi cael eu graddau (erbyn hydref 2026), bydd adolygiad annibynnol yn cael ei gynnal i ddeall yn well sut mae'r graddau yn gweithio'n ymarferol a pha gymorth ychwanegol sydd ei angen. 

Mae AGC yn ymrwymedig o hyd i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael gofal a chymorth diogel o ansawdd uchel, ac ni fydd yn petruso cyn cymryd camau lle nad yw gwasanaethau yn cyrraedd y safonau disgwyliedig.