Gwersi o Ymarfer Gwerth ei Rannu: Adroddiad newydd yn dathlu ymarfer rhagorol mewn gofal plant a chwarae ledled Cymru
Rydym wedi cyhoeddi adroddiad newydd sy'n tynnu sylw at rai o'r enghreifftiau mwyaf effeithiol ac ysbrydoledig o ymarfer yr ydym wedi'u gweld mewn lleoliadau gofal plant a chwarae yng Nghymru.
Pan fyddwn yn nodi enghreifftiau o ymarfer arbennig o effeithiol sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar blant, byddwn yn gofyn i ddarparwyr roi mwy o wybodaeth i ni am yr hyn y maent yn ei wneud a sut mae'r plant yn eu gofal wedi cael budd o hynny.
Mae'r adroddiad hwn yn dod â'r themâu cyffredin ynghyd y tu ôl i'r enghreifftiau cadarnhaol hynny, ac rydym yn gobeithio y bydd yn helpu'r rhai hynny sy'n gweithio yn y sector i ystyried sut y gallent wneud gwelliannau pellach i'r gofal a'r cymorth y maent yn eu darparu i blant a theuluoedd.
Yn y lleoliadau yr ydym wedi ymweld â nhw, rydym wedi gweld darparwyr yn gwneud gwahaniaeth go iawn mewn sawl maes allweddol:
- Cefnogi llesiant emosiynol y plant a'u hymdeimlad o berthyn
- Croesawu cynhwysiant ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol
- Defnyddio amgylcheddau awyr agored a chymunedol mewn modd arloesol
- Ymgorffori dulliau myfyriol o wella'n barhaus.
Rydym am sicrhau bod gwasanaethau gofal plant a chwarae sy'n parhau i wella a ffynnu ar gael i blant yng Nghymru. Mae cydnabod ymarfer rhagorol yn rhan hollbwysig o gyflawni hynny.
Darllenwch yr adroddiad llawn.