Gwersi o Ymarfer Gwerth ei Rannu: Gofal Plant a Chwarae
Mae'r adroddiad hwn yn tynnu sylw at rai o'r enghreifftiau mwyaf effeithiol ac ysbrydoledig o ymarfer yr ydym wedi'u gweld mewn lleoliadau gofal plant a chwarae yng Nghymru.
Ym mis Tachwedd 2024, gwnaethom ddechrau casglu enghreifftiau o ymarfer arbennig o effeithiol sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar blant sy'n defnyddio gwasanaethau gofal plant a chwarae yng Nghymru. Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi'r gwaith hwn ac yn ystyried pedair thema:
- Ymarfer sy'n canolbwyntio ar y plentyn ac sy'n ystyriol o emosiynau
- Cynhwysiant ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol
- Defnydd arloesol o'r amgylchedd
- Ymarfer myfyriol
Rydym yn gobeithio y bydd yn helpu darparwyr ym mhob rhan o'r sector i fyfyrio ar y gofal a'r cymorth y maent yn eu cynnig i blant a theuluoedd a'u gwella ymhellach.
Dogfennau
-
Gwersi o ymarfer gwerth ei rannu - Gofal plant a Chwarae , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 6 MBPDF, Maint y ffeil:6 MB