Heritage Healthcare
Mae staff sy'n cael eu cefnogi . . . o fudd i bawb

Beth mae'n ei wneud yn wahanol?
Roedd Heritage Healthcare Abertawe yn sylweddoli bod llesiant staff yn ganolog i ofal o ansawdd uchel. Cyflwynodd galwadau llesiant misol strwythuredig ar gyfer pob aelod o staff, dan arweiniad y Rheolwr Cofrestredig a'r Unigolyn Cyfrifol. Mae'r galwadau hyn yn mynd y tu hwnt i sgyrsiau achlysurol: maent yn rhoi cyfle i staff rannu sut maent yn teimlo, mynegi heriau'n gynnar, dathlu llwyddiannau. Maent hefyd yn caniatáu i reolwyr nodi arwyddion cynnar o straen, archwilio anghenion hyfforddi, a chynnig cymorth emosiynol neu broffesiynol.
Mae pob sgwrs yn cael ei chofnodi a'i dilyn gan gamau gweithredu clir, fel bod y staff yn gwybod bod eu lleisiau'n bwysig.
Mae'r fenter hon yn rhan o ddiwylliant ehangach o gymorth, sy'n cynnwys llwybrau gyrfa clir a chynlluniau cydnabyddiaeth. Gyda'i gilydd, mae'r mesurau hyn yn creu amgylchedd lle mae'r staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi, a'u bod yn hyderus i leisio eu barn.
Effaith ...
- Mae morâl y staff a'r sefyllfa o ran cadw staff wedi gwella, wrth i'r staff deimlo’n fwy cysylltiedig a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi
- Mae'r gofal yn fwy cyson a dibynadwy
- Mae'r staff yn teimlo'n hyderus yn mynegi pryderon ac yn awgrymu gwelliannau
- Mae parhad a chydberthnasau cryfach rhwng y gofalwyr a'r bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth wedi gwella llesiant emosiynol
- Mae pobl yn disgrifio'r gofalwyr fel rhai “cyson, gofalgar, a bob amser yn llawen”
Dyfyniad
“Pan fydd aelodau ein tîm yn teimlo eu bod yn cael gofal da, y canlyniad yw bod y bobl rydym yn eu cefnogi yn derbyn y gofal gorau posibl.”
Dogfennau
-
Heritage Healthcare practice worth sharing , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 730 KBPDF, Maint y ffeil:730 KB