Rydym yn archwilio dull newydd o gefnogi lleoliadau gofal plant a chwarae i wella ein methodoleg arolygu bresennol.
Bydd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar sut y gallwn wneud mwy i gefnogi lleoliadau i ysgogi gwelliant a bydd yn ystyried trefniadau newydd ar gyfer gweithgarwch sicrwydd interim rhwng arolygiadau, yn seiliedig ar ansawdd y ddarpariaeth ym mhob lleoliad unigol.
Ein Nodau
- gwneud mwy i hyrwyddo gwelliannau yn y sector a darparu sicrwydd ynghylch ansawdd a diogelwch lleoliadau.
- annog arloesedd drwy hyrwyddo a rhannu enghreifftiau o ddarpariaeth gofal plant a chwarae o ansawdd rhagorol.
Beth rydym yn ei wneud
Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gydag amrywiaeth o randdeiliaid i ddatblygu math newydd o gyfarfod â darparwyr rhwng eu harolygiadau, sef Cyfarfodydd Gwella.
Nod y cyfarfodydd hyn yw rhoi'r cyfle i ddarparwyr roi gwybod i ni am unrhyw welliannau y maent wedi'u gwneud ers yr arolygiad diwethaf, gan gynnwys sut maent wedi ymateb i unrhyw achosion o ddiffyg cydymffurfio neu argymhellion; unrhyw welliannau eraill y maent wedi'u nodi fel rhan o'u hunanwerthusiad; a'r hyn y maent wedi'i wneud i roi'r gwelliannau hyn ar waith.
Hoffem hefyd glywed am unrhyw welliannau sydd wedi'u cynllunio ar gyfer y dyfodol, a byddwn yn cyfeirio darparwyr at ffynonellau eraill i gael cyngor a chymorth a fydd, o bosibl, o help iddynt.
Y camau nesaf
Cawsom ymateb ardderchog i'n cais am wirfoddolwyr i gymryd rhan yn ein cynllun peilot ar gyfer cyfarfodydd gwella. Gwnaethom gynnal ein cynllun peilot gyda thua 60 o leoliadau gofal plant a chwarae yn ystod mis Ebrill, Mai a Mehefin 2023. Dros yr haf, rydym yn bwriadu cynnal gwerthusiad o'r cynllun peilot a byddwn yn defnyddio'r canfyddiadau i benderfynu ar y camau nesaf.
Byddwn yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi wrth i'r prosiect ddatblygu.