Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
Dogfen HTML

Lleoli plant: gorchmynion amddifadu o ryddid

Canllawiau i'r darparwyr, y gweithwyr cymdeithasol a'r comisiynwyr lleoli ar leoli plant, yn amodol ar orchymyn amddifadu o ryddid (DoL), mewn lleoliadau heb eu cofrestru.

Cyhoeddwyd: 14 Awst 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:
Argraffu

Gorchmynion Amddifadu o Ryddid (DoL)

Mae gorchymyn Amddifadu o Ryddid yn ei gwneud hi'n gyfreithlon i blentyn gael ei amddifadu o'i ryddid. Mae'r llys yn awdurdodi'r gorchymyn ac mae unrhyw gyfyngiadau wedi'u nodi'n glir yn y gorchymyn.

Yn gyffredinol, mae angen lefelau uchel o ofal a goruchwyliaeth ar blant o unrhyw oedran, sy'n destun amddifadu o ryddid. Mae hyn yn golygu ei bod yn debygol y bydd plentyn sy’n destun amddifadu o ryddid yn cael ei leoli mewn cartref plant neu wasanaeth cartref gofal.

Mae llywodraeth y DU wedi rhoi rheoliadau ar waith sy’n gwahardd awdurdodau lleol yn Lloegr rhag lleoli plant o dan 16 oed mewn lleoliadau lle nad ydynt yn derbyn ‘gofal’.

Lleoliad yn Lloegr sy’n darparu gofal a llety, ‘yn gyfan gwbl neu’n bennaf’ i blant yw cartref plant.

Lleoliad yng Nghymru sy’n darparu gofal a llety i blentyn am ei fod yn agored i niwed neu mewn angen yw gwasanaeth cartref gofal.

Rhaid i gartrefi plant fod wedi eu cofrestru ag Ofsted a rhaid i wasanaeth cartref gofal fod wedi ei gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).

Effaith y Gorchymyn Amddifadu o Ryddid

Mae gorchymyn Amddifadu o Ryddid yn ei gwneud hi'n gyfreithlon i blentyn gael ei amddifadu o'i ryddid. Mae'r llys yn awdurdodi'r gorchymyn ac mae unrhyw gyfyngiadau wedi'u nodi'n glir yn y gorchymyn.

Mae’r gorchymyn yn caniatáu’r cyfyngiadau hyn fel uchafswm – nid yw’n golygu bod yn rhaid i chi, fel darparwr, gymhwyso’r holl gyfyngiadau bob amser (er enghraifft, os yw’r angen am y cyfyngiadau wedi lleihau a bod gweithiwr cymdeithasol y plentyn wedi cytuno ar hyn).

Dim ond gwneud y cyfyngiadau/amddifadu o ryddid yn gyfreithlon y mae'r gorchymyn – nid yw’n golygu nad oes angen i’r darparwr gofrestru ag Ofsted/AGC os yw’n rhedeg cartref plant neu wasanaeth cartref gofal.

Gall y llys wrthod awdurdodi gorchymyn amddifadu o ryddid os na fydd darparwr y lleoliad yn gwneud cais i gofrestru.

Cofrestru

Os ydych yn awdurdod lleol sy'n lleoli plentyn, dylech wirio a yw'r lleoliad wedi'i gofrestru ag Ofsted yn Lloegr neu AGC yng Nghymru.

Mae’n ofyniad cyfreithiol bod:

  • cartref plant yn Lloegr yn cofrestru ag Ofsted.
  • gwasanaeth cartref gofal yng Nghymru yn cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru.

Mae’n drosedd gweithredu neu reoli lleoliad cartref plant neu wasanaeth gofal cartref os nad ydych wedi cofrestru.

Os ydych yn ddarparwr heb eich cofrestru sy'n darparu lleoliad i blentyn â gorchymyn amddifadu o ryddid rhaid i chi wneud y canlynol:

  • cofrestru ag Ofsted neu AGC ar unwaith – mae’n drosedd gweithredu heb gofrestru

Rhaid i ddarparwyr preifat:

  • hysbysu’r awdurdod lleol sydd wedi lleoli’r plentyn am y camau a gymerwyd i gofrestru
  • hysbysu’r awdurdod lleol bob amser am hynt y cais cofrestru – gall y llys ddefnyddio’r statws cofrestru wrth wneud penderfyniadau ar barhau â’r gorchymyn amddifadu o ryddid.

Gallwch wneud cais drwy broses ‘cais â blaenoriaeth’ Ofsted (Dolen allanol) neu drwy broses ymgeisio ar-lein AGC.

Os ydych yn awdurdod lleol sydd wedi lleoli plentyn mewn lleoliad heb ei gofrestru, byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw gais perthnasol i gofrestru a gawn. Yn Lloegr gallwch hefyd gysylltu â'ch SHMI lleol neu'ch rheolwr arolygu rheoleiddio i ofyn am ddiweddariad. Yng Nghymru gallwch gysylltu â thîm cofrestru AGC i gael cyngor a chymorth.