Cofrestrwch i ddarparu gwasanaeth
I ddarparu gofal personol neu ofal plant yng Nghymru, efallai y bydd yn rhaid i chi gofrestru gyda ni.
Mae ein rôl fel rheoleiddiwr annibynnol yn golygu mai ni sy'n penderfynu pwy sy'n gallu darparu gwasanaeth gofal. I ddarparu gwasanaeth yng Nghymru, rhaid i chi wneud cais a chwblhau'n llwyddiannus ein proses gofrestru ar-lein.
Pwy sydd angen cofrestru?
Mae'n rhaid i unrhyw un sydd am ddarparu'r gwasanaethau canlynol yng Nghymru gofrestru gyda ni. Gallwch gofrestru naill ai fel unigolyn neu fel sefydliad.
- Gwasanaeth cartrefi gofal – gan gynnwys y rheini sy'n darparu gwasanaethau cartrefi gofal i blant neu oedolion
- Gwasanaeth cymorth cartref – gwasanaeth a all ddarparu gofal yn eich cartref eich hun, yn ogystal â chymorth cyffredinol
- Gwasanaeth llety diogel
- Gwasanaeth lleoli oedolion
- Asiantaeth faethu annibynnol
- Asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol
- Gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd
- Gwasanaethau mabwysiadu
- Gwasanaethau eirioli
- Gwarchodwyr plant
- Gofal dydd plant
- Gofal dydd llawn
- Gofal dydd sesiynol
- Meithrinfa
- Gofal y tu allan i'r ysgol
- Darpariaeth chwarae mynediad agored
Rydym hefyd yn arolygu ysgolion preswyl, ysgolion arbennig preswyl, a cholegau addysg bellach sy'n rhoi llety i fyfyrwyr sy'n iau na 18 oed, ond nid ydym yn eu cofrestru.
Sut i gofrestru
Os ydych yn darparu neu'n bwriadu darparu gwasanaeth gwarchod plant neu wasanaeth gofal dydd a chwarae, edrychwch ar y dudalen isod am ragor o ganllawiau ar gofrestru.
Os ydych yn darparu neu'n bwriadu darparu unrhyw rai o'r canlynol:
- Gwasanaethau cartrefi gofal
- Gwasanaethau llety diogel
- Gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd
- Gwasanaethau cymorth cartref
- Gwasanaethau mabwysiadu
- Gwasanaethau maethu
- Gwasanaethau lleoli oedolion
- Gwasanaethau eirioli
Mae angen i chi wneud cais i gofrestru o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2018. Edrychwch ar y dudalen isod am ragor o ganllawiau ar gofrestru:
Cyn i chi wneud cais
Mae'n rhaid i chi:
- Ymgyfarwyddo â deddfwriaeth, canllawiau a Safonau Gofynnol Cenedlaethol perthnasol
- Darllen ein canllawiau cofrestru
- Paratoi eich datganiad o ddiben
- Sicrhau bod gennych bolisïau a gweithdrefnau perthnasol
- Sicrhau bod gennych gymwysterau perthnasol
Amserlenni ar gyfer prosesu ceisiadau wedi'u cwblhau
- Ceisiadau cychwynnol – yn gyffredinol gall gymryd hyd at 14 o wythnosau (gall gymryd mwy o amser os bydd angen gwybodaeth ychwanegol neu os na fydd gwybodaeth ychwanegol sydd ei hangen yn cael ei dychwelyd yn brydlon)
- Cais Unigolyn Cyfrifol neu Berson Cofrestredig - 6 wythnos
- Cais i amrywio amodau cofrestriad presennol - 6 wythnos
Byddwn ond yn cymeradwyo ceisiadau pan fyddwn yn fodlon bod pob mater yn y cais yn bodloni rhannau perthnasol Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, neu Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 ac unrhyw is-ddeddfwriaeth gysylltiedig.
Ni ddylai ymgeiswyr ddechrau darparu gwasanaeth cyn i'r cofrestriad gael ei gymeradwyo drwy Hysbysiad o Benderfyniad a gyhoeddir gan AGC.
Os oes gennych gŵyn
Os ydych yn teimlo y bu oedi afresymol o ran prosesu eich cais, neu'n teimlo nad ydym wedi dilyn ein proses gofrestru, gallwch godi'r mater hwn gyda ni drwy ein proses gwyno.