Mae ein hofferyn data diwygiedig ar gyfer gofal plant a chwarae bellach ar gael
Mae'r offeryn hunanadrodd data ar gyfer gofal plant a chwarae yn darparu amrywiaeth o wybodaeth ddefnyddiol gan 2654 o ddarparwyr cofrestredig ledled Cymru.
Yn gynharach eleni, gwnaethom ofyn am amrywiaeth o wybodaeth a data gan bob darparwr gofal plant a chwarae cofrestredig yng Nghymru drwy broses y Datganiadau Hunanasesu Gwasanaeth. Mae'r wybodaeth hon, yn ogystal â data o flynyddoedd blaenorol, wedi ein galluogi i greu'r offeryn gweladwy hwn.
Mae'r offeryn data yn darparu amrywiaeth o wybodaeth ddefnyddiol, o hyfforddiant a chymwysterau staff i'r fframweithiau ansawdd a ddefnyddir. Mae'r offeryn hefyd yn amlinellu nifer y bobl sy'n gweithio yn y sector gofal plant a chwarae a nifer y swyddi gwag.
Dywedodd Ceri Herbert, Pennaeth y tîm gofal plant a chwarae yn AGC:
"Hoffwn ddiolch i bob un o'r [insert number] o ddarparwyr a roddodd o'u hamser i rannu'r wybodaeth hanfodol hon â ni. Mae'r data rydym yn eu casglu bob blwyddyn yn rhoi trosolwg cynhwysfawr i ni o'r sector gofal plant a chwarae ledled Cymru, gan ein helpu i nodi bylchau posibl a thueddiadau sy'n dod i'r amlwg y mae angen ymchwilio iddynt ymhellach. Rydym yn ymrwymedig o hyd i weithio ochr yn ochr â'r sector a'n sefydliadau partner i sicrhau ein bod yn darparu'r cymorth gorau posibl er mwyn i'r sector gofal plant a chwarae yng Nghymru ffynnu."
Gallwch ddod o hyd i'r offeryn data ar ddiwedd: